Natura 2000 image of a marsh fritillary butterfly

Cynllunio dyfodol disglair ar gyfer bywyd gwyllt rhyngwladol bwysig Cymru

Yng Nghymru ceir 20 o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig er budd adar bregus a 92 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig er lles rhywogaethau prin eraill a chynefinoedd naturiol dan fygythiad. Gyda’i gilydd, gelwir y rhain yn safleoedd Natura 2000. Law yn llaw ag ardaloedd ledled Ewrop, mae’r rhain yn ffurfio rhwydwaith cadwraeth heb ei ail o safleoedd rhyngwladol bwysig i fywyd gwyllt.Mae rhwydwaith Natura 2000 Cymru yn 700,000 hectar a mwy o faint (8.5% o dir Cymru a 35% o’i dyfroedd tiriogaethol).

Mae sefydliadau ledled Cymru (sy’n cynrychioli tirfeddianwyr, busnesau ffermio a physgota, defnyddwyr hamdden, cadwraethwyr, y sector cyhoeddus a rheolyddion) yn dod at ei gilydd er mwyn trafod y ffordd orau o reoli ac adfer yr ardaloedd bywyd gwyllt gwych hyn yn ystod y degawd nesaf.

Yr her yw pennu blaenoriaethau ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau dynodedig mewn safleoedd Natura 2000 yng Nghymru, ar y tir ac yn y môr. Bydd y rhaglen yn ceisio dod o hyd i broblemau ac yn cynllunio pa gamau y mae angen eu cymryd er mwyn gwella cyflwr y nodweddion hyn yn sylweddol, yn ogystal â’u diogelu ar gyfer y dyfodol. Gallai’r camau gynnwys newid polisïau, gwelliannau ymarferol ar raddfa fach neu brosiectau cadwraeth arloesol mawr.

Hefyd, bydd y rhaglen yn ceisio dod o hyd i gyllid, fel y gellir gwireddu’r camau gweithredu erbyn 2020.

Manteision y rhaglen

Bydd y Rhaglen yn gwneud y canlynol:

  • Dod â’r rhai sy’n gysylltiedig â safleoedd Natura 2000 ynghyd i ystyried ffyrdd arloesol o ymdrin â’r hyn sy’n bygwth y bywyd gwyllt, gan gytuno ar ffordd ymlaen
  • Ystyried anghenion rhwydwaith Natura 2000 yn strategol, gan bennu blaenoriaethau ar gyfer Cymru fel y gellir targedu’r holl ymdrechion yn y ffordd orau ac yn y mannau mwyaf priodol
  • Cyfrif y gost o achub yr asedau naturiol hollbwysig hyn, a chynorthwyo i wneud yn fawr o filiynau o bunnoedd o gyllid grantiau a chyllid o ffynonellau eraill er mwyn darparu’r buddsoddiad angenrheidiol (a rhoi hwb i’r economi leol)
  • Tynnu sylw at y manteision a ddaw i ran lles pobl yn sgil rhwydwaith Natura 2000; er enghraifft storio carbon, dŵr glanach, amddiffynfeydd môr naturiol, swyddi ‘gwyrdd’ a mentrau lleol
  • Cyflwyno tystiolaeth o werth rhwydwaith Natura 2000 gerbron y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r rhai sy’n dyfarnu grantiau

Erbyn 2015 bydd y canlynol gennym:

  • Trysorfa dystiolaeth gadarn yn dwyn ynghyd wybodaeth o bob cwr o Gymru ac Ewrop
  • Cynlluniau gweithredu ar gyfer pob ardal Natura 2000 yn nodi’r gweithgareddau hanfodol, gyda manylion am y costau, y cyllid a’r amserlenni gwaith ar gyfer y cyfnod 2014-2020
  • Gwelliannau sylweddol i’r gronfa ddata a ddefnyddir i storio, dadansoddi a chael gafael ar wybodaeth
  • Astudiaeth bwysig ar gyllid er mwyn pwyso a mesur gwerth y cyllid presennol a dod o hyd i ffynonellau newydd
  • Y rhaglen derfynol, yn cynnwys cynllun cyflawni

Gwerth rhwydwaith Natura 2000

Mae safleoedd Natura 2000 yn:

  • Cynnig hafan hollbwysig a lefel uchel o warchodaeth i 69 o rywogaethau a 55 o gynefinoedd sydd dan fygythiad rhyngwladol
  • Cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru trwy gyfrwng twristiaeth, gweithgareddau hamdden, ffermio, pysgota a choedwigaeth
  • Cynnig gwasanaethau ‘cynnal bywyd’ hanfodol i bob un ohonom, er enghraifft puro ein dŵr yfed a storio carbon
  • Dangos natur ar ei gorau, gan roi mwynhad i filiynau o ymwelwyr bob blwyddyn

Mae cynefinoedd dan warchodaeth yn cynnwys coetiroedd derw hynafol, rhostiroedd yr ucheldir, twyni tywod, afonydd a llynnoedd, cynefinoedd morol aberoedd, arfordiroedd creigiog a môr agored.

Caiff rhywogaethau enwog fel dyfrgwn, dolffiniaid trwyn potel a morloi llwyd eu gwarchod ochr yn ochr â phlanhigion mwy di-nod fel llysiau’r afu petalog a rhywogaethau llai amlwg fel malwod troellog. Cynhwysir amrywiaeth eang o adar, rhai sy’n byw yn y wlad hon a rhai ymfudol, er enghraifft brain coesgoch, bodaod tinwyn, gylfinirod a chudyllod bach.

Er bod rhai o rywogaethau a chynefinoedd Natura 2000 yn ffynnu, mewn 50% a mwy o achosion maen nhw’n dirywio ac mewn cyflwr gwael. Felly, mae gweithredu mewn modd pendant a chydlynol yn hanfodol.

Sut y caiff y rhaglen ei rhoi ar waith?

Caiff y Rhaglen ei rhedeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a’i chydariannu gan gynllun grant LIFE yr UE, tan fis Medi 2015. Mae weithwyr penodol yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru i gasglu gwybodaeth a datblygu’r rhaglen.

Cymryd rhan

Mae cael sefydliadau sydd â diddordeb mewn safleoedd Natura 2000 i gyfrannu yn hollbwysig i lwyddiant y rhaglen. Gall sefydliadau gyfrannu gwybodaeth, syniadau a barn, yn ogystal â chyfrannu at greu’r cynlluniau gweithredu trwy wneud y canlynol:

  • Cymryd rhan mewn gweithdai a gynhelir yng Nghymru yn rhwng 2012 a 2015
  • Rhoi eu henwau ar y rhestr bostio ar gyfer cael cylchlythyrau a gwybodaeth ddiweddaraf
  • Cyfarfod ag aelodau’r tîm

Rhagor o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag sitesactions@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Cefnogir gan LIFE, offeryn ariannol o eiddo'r Gymuned Ewropeaidd: N2K Cymru, LIFE 11 NAT/UK/385

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf