Trosolwg o newid yn yr hinsawdd
Achosion newid yn yr hinsawdd
Mae newid yn yr hinsawdd yn cael ei achosi gan yr hyn a elwir yn 'nwyon tŷ gwydr' yn cronni yn atmosffer y ddaear. Mae'r rhain yn atal yr ynni sy'n cael ei dderbyn gan yr haul rhag cael ei adlewyrchu'n ôl i'r gofod. Mae tymheredd y ddaear yn codi ac mae hyn yn arwain at amrywiaeth eang o ganlyniadau llethol o ddinistriol.
Dylanwad pobl
Mae newid yn yr hinsawdd yn fater byd-eang. Y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yw'r panel rhyngwladol ar gyfer asesu'r dystiolaeth wyddonol mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. Yn ei bumed asesiad, sef yr un diweddaraf, roedd wedi nodi bod dylanwad pobl ar y system hinsoddol yn eglur a bod yr allyriadau gwneud diweddar o nwyon tŷ gwydr ar eu lefelau uchaf mewn hanes.
Newidiadau hir-barhaol
Bydd parhau i allyrru nwyon tŷ gwydr yn achosi mwy o newidiadau cynhesu a hir-barhaol yn yr hinsawdd. Er enghraifft, mae'n debygol iawn y bydd tonnau gwres yn digwydd yn fwy aml ac yn para'n hirach, ac y bydd glawiad yn fwy trwm mewn sawl rhanbarth. Bydd y cefnforoedd yn parhau i gynhesu ac i asideiddio a bydd lefelau'r moroedd yn codi.
Effeithiau difrifol ar bobl ac ar ecosystemau
Bydd effeithiau difrifol, di-droi'n-ôl ar bobl ac ecosystemau yn fwy tebygol. Yn fyd-eang, bydd yna fwy o brinder bwyd a diod, a mwy o lifogydd ar yr arfordiroedd. O ganlyniad, bydd yna fwy o dlodi a bydd mwy o bobl yn cael eu dadleoli o'r rhanbarthau a fydd yn dioddef fwyaf.
Lleihau allyriadau
Mae angen lleihau allyriadau yn sylweddol yn ystod y degawdau nesaf er mwyn lleihau'r peryglon i'r hinsawdd a gwella'r gobeithion am ymaddasu effeithiol.
Y Rhagolygon ar gyfer y Deyrnas Unedig a Chymru
Mae rhagolygon UKP09 yn rhoi trosolwg o'r sefyllfa mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd yn y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, gallwn ddisgwyl gweld mwy o law trwm, mwy o lifogydd mewn ardaloedd arfordirol isel, yn ogystal â hafau poethach a sychach.
Tueddiadau a newidiadau
Mae'r amodau sy'n cael eu disgrifio uchod yn ymwneud â thueddiadau cyffredinol.
Fodd bynnag, mae'r hinsawdd yn y DU yn gyfnewidiol, a daeth adroddiad diweddar gan y Swyddfa Dywydd i'r casgliad y dylen ni "hefyd gynllunio i ddygymod â hafau gwlyb a gaeafau oer trwy gydol y ganrif hon".
Y trothwyau ar gyfer cynnydd mewn tymereddau
Mae gwyddonwyr hinsawdd yn cytuno bod rhaid cadw'r cynnydd yn nhymheredd y byd o dan ddwy radd Celsius, o gymharu â lefelau cyn-ddiwydiannol, er mwyn sicrhau nad yw'r newid yn yr hinsawdd yn mynd allan o reolaeth.
Gweithredu'n llym i leihau allyriadau
Er mwyn cyflawni hyn, bydd rhaid i allyriadau gwneud byd-eang gael eu lleihau 40-70% erbyn 2050 – ac i lawr i sero erbyn 2100. Mae'r allyriadau hyn yn cynnwys carbon deuocsid, methan ac ocsid nitrus. Carbon deuocsid yw'r prif nwy tŷ gwydr ac mae'n cael ei ffurfio o ganlyniad i losgi tanwyddau ffosil.
Fframwaith ar gyfer y Deyrnas Unedig
Roedd Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 wedi sefydlu fframwaith fel y gallai'r Deyrnas Unedig leihau ei allyriadau nwyon tŷ gwydr ac ymaddasu i newid yn yr hinsawdd oddi mewn iddo.
Asesu peryglon ac effeithiau
Roedd y ddeddfwriaeth yn gosod targedau tymor canolig a hirdymor ar gyfer allyriadau carbon dros gyfnodau olynol o bum mlynedd, gan ddechrau gyda'r cyfnod 2008-2012. Cafodd corff cynghori annibynnol ei greu, sef y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, a rhoddwyd gweithdrefn ar gyfer asesu effeithiau posibl newid hinsawdd yn y Deyrnas Unedig ar waith. Gelwir hyn yn 'Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd'.
Y Rhaglen Ymaddasu Genedlaethol
Roedd yr Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd yn gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig baratoi Rhaglen Ymaddasu Genedlaethol ar gyfer y materion hynny y mae'n gyfrifol amdanyn nhw. Roedd yn rhoi 'Pwerau Adrodd ar Ymaddasu' i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd - pwerau i gyfarwyddo sefydliadau eraill, neu 'Awdurdodau Adrodd', i baratoi adroddiadau ar:
- Effeithiau newid yn yr hinsawdd ar bob sefydliad ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
- Cynigion yr awdurdodau priodol ar gyfer ymaddasu i newid yn yr hinsawdd
Datganoli a newid yn yr hinsawdd
Mae nifer o agweddau sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd yn faterion datganoledig. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd ym mis Hydref 2010. Mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth ar allyriadau nwyon tŷ gwydr ac mae wedi ymrwymo i'w lleihau 3% bob blwyddyn o 2011 ymlaen.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi paratoi Canllawiau Statudol ar ymaddasu i newid yn yr hinsawdd ar gyfer Awdurdodau Adrodd yng Nghymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn un o'r awdurdodau hynny.
Cynlluniau Ymaddasu Sectorol
Ar raddfa ehangach, mae Llywodraeth Cymru yn paratoi pum 'Cynllun Ymaddasu Sectorol' ar gyfer pum ardal allweddol: yr amgylchedd naturiol, seilwaith, cymunedau, iechyd, a busnes a thwristiaeth.
Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd
Yn 2007, cafodd Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru. Roedd hyn yn dod â'r prif bleidiau gwleidyddol, buddiannau sectorau amrywiol, cyrff cyflawni, academyddion ac arbenigwyr ar newid yn yr hinsawdd ynghyd er mwyn cefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei waith ar newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.
Mae gan y Comisiwn nifer o is-grwpiau, yn cynnwys un ar ymaddasu. Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n cadeirio'r is-grŵp hwn ar hyn o bryd.
Mae'r rhagolygon hefyd yn darogan mwy o ddiwrnodau poeth iawn, gaeafau mwynach a gwlypach, llai o eira a rhew, a lefelau dŵr daear is.