Ynni gwynt
Y Rhaglen Ynni Gwynt
Nod Rhaglen Ynni Gwynt Cyfoeth Naturiol Cymru yw integreiddio datblygiad ffermydd gwynt yn ein gwaith o reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru’n gynaliadwy.
Mae'r Rhaglen Ynni Gwynt yn gweithio gyda Datblygwyr (Deiliaid Opsiynau) dethol i sicrhau cyfraniad sylweddol at darged Llywodraeth Cymru ar gyfer ynni gwynt ar y tir.
Prosiectau Ynni Gwynt
Mae'r adran ganlynol yn rhoi diweddariadau ar gynnydd pob un o'r Prosiectau Ynni Gwynt yn ôl y sefyllfa ym mis Medi 2022.
Coedwig Alwen (9 tyrbin / hyd at 33MW)
Datblygwr – RWE Renewables UK Ltd
Mae RWE yn gweithio gydag Ynni Cymunedol Cymru i ddatblygu prosiect ynni adnewyddadwy yng ngogledd Cymru ger Llyn Brenig a Chronfa Ddŵr Alwen o fewn ardal goedwigaeth weithredol a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Nod y prosiect yw darparu hyd at 33MW o ynni glân, ac fe allai gynnwys hyd at naw tyrbin gwynt.
Mwy o wybodaeth am Fferm Wynt Coedwig Alwen
Coedwig Clocaenog (27 tyrbin / 96MW)
Datblygwr – RWE Renewables UK Ltd
Ddydd Gwener 8 Gorffennaf 2022, agorwyd Fferm Wynt Coedwig Clocaenog yn swyddogol gan Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru. Cafodd y Gweinidog gwmni gwesteion pwysig, arweinwyr cymunedol a busnes a chynrychiolwyr o dimau datblygu, adeiladu a gweithrediadau CNC ac RWE, i ddathlu'r achlysur yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig.
Mae'r fferm wynt, sydd wedi'i lleoli ar yr ystad a reolir gan CNC ger Dinbych, yn brosiect cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr sy'n cynnwys 27 o dyrbinau, sy'n gallu darparu trydan adnewyddadwy cyfwerth ag anghenion tua 63,800 o gartrefi yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae CNC wedi gweithio'n agos ag RWE i hwyluso'r gwaith o gyflawni'r prosiect hwn drwy'r camau cynllunio, datblygu, a gweithredu. Mae hyn yn cynnwys Cronfa Ymddiriedolaeth Gymunedol gwerth £19.2 miliwn sydd hyd yma wedi helpu i gyflawni nifer o brosiectau cymunedol amrywiol, ac a fydd yn parhau i wneud hynny am oes y prosiect.
Mae yna hefyd Gynllun Rheoli Cynefinoedd sy'n cynnwys adfer 131 hectar o rostir, adfer 20 hectar o gorsydd a 17 hectar o gynefin sydd newydd ei greu ar gyfer pathewod.
Gorllewin Coedwig Brechfa (28 tyrbin / 57.4MW)
Datblygwr – RWE Renewables UK Ltd
Cafodd Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa ei hadeiladu dros ddwy flynedd a daeth yn llwyr weithredol yn 2018. Mae ganddo gapasiti gosodedig o 57.4MW, sy’n cynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i bweru 38,800 o gartrefi cyfartalog Cymru bob blwyddyn.
Yn 2018, lansiodd RWE y Gronfa Gymunedol gwerth £11m dros y cyfnod gweithredol o 25 mlynedd. Mae rhagor o wybodaeth ar dudalen Cronfa Gymunedol RWE, a gwefan y Gronfa Gymunedol.
O dan y Cynllun Rheoli Cynefinoedd, mae RWE wedi bod yn monitro niferoedd troellwyr mawr ers 2013. Trwy wneud y goedwig yn fwy agored a darparu mwy o gynefin ar gyfer rhywogaeth hon, mae'r niferoedd sy’n bridio wedi cynyddu'n raddol hyd at 24 o adar ifanc yn 2019, sef yr uchaf erioed. Mae RWE hefyd wedi gosod 10 blwch ar gyfer belaod, sy'n cael eu monitro'n flynyddol. Yn 2020, cadarnhawyd bod belaod yng Nghoedwig Brechfa am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd, diolch i gamerâu a osodwyd i fonitro gweithgarwch o amgylch y blychau. Mae gwaith arall mewn perthynas â'r Cynllun Rheoli Cynefinoedd yn cynnwys adfer cynefinoedd â blaenoriaeth (h.y. rhostir a glaswelltir), ailsefydlu Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol, monitro ystlumod a bryoffytau, a chael gwared ar rywogaethau goresgynnol.
Mae'r Cynllun Rheoli Mynediad Cyhoeddus yn gofyn i RWE ddarparu llwybr cerdded cylchol yng Ngorllewin Coedwig Brechfa, a'r disgwyl yw y bydd hynny wedi ei gwblhau erbyn Hydref 2022.
Pen y Cymoedd (76 tyrbin / 228MW)
Datblygwr – Vattenfall
Mae fferm wynt fwyaf Cymru ar y tir wedi bod yn weithredol ers 2017 ac mae ganddi brydles weithredu am 25 mlynedd. Mae Pen y Cymoedd yn cynhyrchu digon o bŵer yn flynyddol i ateb gofynion trydan dros 188,000 o gartrefi'r DU a bydd yn bodloni galw domestig yr awdurdodau lleol sy’n lletya’r safle, sef Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot. Dros oes y prosiect, disgwylir iddo arbed 6.4 miliwn tunnell o CO2.
Mae Vattenfall hefyd wedi adeiladu cynllun storio batri 22MW ar y safle - credir mai dyma'r prosiect mwyaf yn y DU lle ceir storfa fatri a fferm wynt ar yr un safle. Mae'r batri’n darparu gwasanaethau sefydlogi i'r Grid Cenedlaethol.
Sefydlwyd Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd yn 2017 ac mae'n darparu buddsoddiad i gefnogi swyddi a phrosiectau lleol yn rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon tan 2043.
Nod y Cynllun Rheoli Cynefinoedd - sy'n cael ei ariannu gan gwmni Vattenfall ac a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2018 - yw adfer 1,500ha o gynefinoedd brodorol ar draws ardal y fferm wynt. Y flaenoriaeth yw adfer hydrolegol, neu ailwlychu, mewn tua 800 hectar o orgors sydd wedi dirywio, gyda’r gweddill yn rhostir gwlyb a sych a choetir brodorol. Drwy ddychwelyd yr ardal i gyflwr mwy naturiol, y gobaith yw bydd y gors yn cloi mwy o garbon yn y tir gan ddod yn gyfoethocach mewn bywyd gwyllt. Gydag ymrwymiad o 25 mlynedd a chronfa o £3miliwn ar gael, rydym eisoes wedi gweld gwelliant mawr. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â PYCHMP@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
I gael mwy o wybodaeth am fferm wynt Pen y Cymoedd ewch i dudalen Vattenfall ar y prosiect.
Prosiect y Bryn (hyd at 21 tyrbin / hyd at 151.2MW)
Datblygwr – ESB a Coriolis Energy
Ar hyn o bryd mae ESB a Coriolis Energy mewn partneriaeth yn datblygu prosiect ynni adnewyddadwy o hyd at 21 o dyrbinau ar yr ystad a reolir gan CNC yn ne Cymru. Mae safle’r fferm wynt arfaethedig wedi'i leoli ar draws dau floc coedwig. Lleolir bloc Coedwig y Bryn i'r de o'r B4282, gyda bloc Coedwig Pen-hydd i'r gogledd o'r ffordd.
Mae disgwyl i gais cynllunio llawn gael ei gyflwyno i dîm Penderfyniadau Cynllunio a Amgylchedd Cymru yn 2023.
I gael mwy o wybodaeth am fferm wynt y Bryn ewch i Hafan (ybryn-windfarm.cymru)
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y Rhaglen Ynni Gwynt neu’r Prosiectau, anfonwch e-bost at: commdevteam@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk