Pwyllgor Cynghori Rhanbarthol ar Goedwigaeth
Diben
O dan Ddeddf Coedwigaeth 1967, mae'n ofynnol i ni gynnal pwyllgor cynghori rhanbarthol.
Mae'r pwyllgor yn bodoli i'n cynghori ar y canlynol:
- defnyddio ein pwerau sy'n ymwneud â:
- gwrthod neu roi trwyddedau cwympo coed gydag amodau
- hysbysiadau ailstocio
- rhoi cyfarwyddiadau cwympo coed
- gorfodi amodau trwyddedau cwympo a chyfarwyddiadau cwympo yn unol â Safon Coedwigaeth y DU (UKFS)
- y ddyletswydd gyffredinol i hyrwyddo gwaith i sefydlu a chynnal coed sy'n tyfu
- swyddogaethau eraill y gallwn eu penderfynu o bryd i'w gilydd
Dim ond ni all alw ar y Pwyllgor Cynghori Rhanbarthol ar Goedwigaeth am gyngor. Nid yw rhanddeiliaid allanol yn gallu gofyn am gyngor ganddo.
Mae cynnal Pwyllgor Cynghori Rhanbarthol ar Goedwigaeth yn gyfle cadarnhaol i ni geisio cyngor arbenigol, proffesiynol i helpu i lywio ein penderfyniadau.
Aelodaeth
Mae wyth aelod o'r Pwyllgor Cynghori Rhanbarthol ar Goedwigaeth yn cynrychioli buddiannau perchnogion coetiroedd a masnachwyr pren, a sefydliadau sy'n ymwneud ag astudio a hyrwyddo coedwigaeth.
Mae'r pwyllgor yn is-grŵp o Fforwm Rheoli Tir Cymru.
Cyfarfodydd
Cynhaliwyd cyfarfodydd rhagarweiniol y Pwyllgor Cynghori Rhanbarthol ar Goedwigaeth ym mis Medi 2023 a mis Ionawr 2024 i egluro ei rôl a'i swyddogaeth i'r aelodau.
Cynhelir cyfarfodydd o leiaf unwaith y flwyddyn, ond fel arall byddant yn cael eu galw yn dibynnu ar ein hangen am gyngor.