Diben a rôl Ystâd Goetir
Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddasom adroddiad ar diben a rôl Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru (YGLlC) dros y 25 mlynedd nesaf.
Yr adroddiad
Mae'r adroddiad yn cynnwys:
- Rhagair gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd sy'n nodi pedair egwyddor uchelgeisiol ar gyfer yr Ystâd;
- Datganiad clir ynghylch pwrpas a rôl yr Ystâd;
- Rhestr o 10 blaenoriaeth allweddol ar gyfer rheoli'r Ystâd;
- Trosolwg o'r Ystâd a'r buddion y mae'n eu darparu;
- Trafodaeth am brif heriau a chyfleoedd i’r dyfodol, er enghraifft mewn perthynas â newid hinsoddol a phlâu a chlefydau;
- Esboniad ar sut y bydd y pwrpas a'r rôl yn cael eu cyflawni, mewn partneriaeth gydag eraill, a sut y caiff cynnydd ei fonitro dros amser
Caiff diben a rôl YGLlC eu llunio yng nghyd-destun:
- Safon Coedwigaeth y Deyrnas Unedig, sef y safon gyfeirio ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn y DU
- Strategaeth Coetiroedd i Gymru Llywodraeth Cymru, sy'n nodi gweledigaeth ar gyfer pob coetir yng Nghymru dros yr hanner can mlynedd nesaf
- Y fframwaith deddfwriaethol yng Nghymru, yn bennaf Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
Cefnogir yr adroddiad gan gyfres o astudiaethau achos sy'n dangos yr amryfal fuddion lles sy'n cael eu creu gan YGLlC, a sut mae'r rhain yn cyfrannu at ddarparu rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol (Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy).
Strategaeth Coetiroedd i Gymru
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei thrydydd argraffiad o’r strategaeth Coetiroedd i Gymru ym Mehefin 2018. Mae ein hadroddiad ar Ddiben a Rôl YGLlC yn esbonio sut y bydd gweithredoedd ar yr ystâd yn cefnogi cyflwyno'r strategaeth. Mae gennym rôl hollbwysig i'w chwarae wrth gyflawni'r strategaeth gan fod YGLlC yn cynrychioli tua 40% o Adnodd Coedwig Cymru, sy'n cwmpasu ardal o 126,000 hectar.
Y Camau Nesaf
Gan edrych ymlaen, rydym yn benderfynol o sicrhau bod YGLlC y gorau y gall fod. Gan ein bod ni'n rheoli YGLlC ar gyfer lles Cymru, byddwn hefyd yn edrych yn fwyfwy i weithio mewn cydweithrediad ag eraill er mwyn cyflawni hyn. Rydym eisoes yn gweithio gyda'r sector coedwigaeth, darparwyr ynni adnewyddadwy, busnesau lleol, cymunedau a sefydliadau elusennol, ond byddwn yn chwilio am gyfleoedd newydd i gyflenwi blaenoriaethau yn seiliedig ar le yn ogystal â blaenoriaethau cenedlaethol.
Mae YGLlC yn nodwedd werthfawr o dirwedd Cymru. Rydym yn eich annog i ddarllen yr adroddiad llawn a dod yn rhan o stori ei dyfodol.
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech gysylltu â Thîm Rheoli Coedwigoedd Cynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru, gallwch anfon eich ymholiad i sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk