Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Cynllun Corfforaethol hyd at 2030

Ein gwerthoedd

Mae’n fraint inni wasanaethu pobl Cymru drwy fyw ein gwerthoedd:

  • Perthyn: rydym ni’n gwerthfawrogi ein perthynas ddofn â’n cynefin, a thir a dŵr, a natur a chymunedau Cymru, ac rydym ni’n creu partneriaethau ystyrlon
  • Beiddgar: rydym ni’n hyderus o ran defnyddio ein llais, yn gweithredu i wneud gwahaniaeth, ac yn arwain drwy osod esiampl
  • Ystyriol: rydym ni’n gwrando er mwyn deall ac yn gofalu am ein gilydd, y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, a’r cynefinoedd sy’n ein cynnal
  • Dyfeisgar: rydym ni’n archwilio ffyrdd newydd o wneud pethau, yn arloesi i gyflymu newid, ac yn defnyddio ein hadnoddau'n effeithiol

Mae'r gwerthoedd hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol, yn ogystal â'n dyheadau ar gyfer y dyfodol. Maent yn hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth a’n cenhadaeth yn llwyddiannus.

Bydd y gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn i gyflawni'r cynllun corfforaethol; byddant yn rhan o’n brand, yn rhan o’r ffordd y byddwn yn adrodd straeon, yn rhan o’n dysgu a'n datblygu, ein harweinyddiaeth a'n rheolaeth. Bydd ein sgyrsiau a’n hymddygiadau gwaith yn seiliedig ar y gwerthoedd hyn.

Diweddarwyd ddiwethaf