Hoffem glywed gennych


Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru'n barhaus, gan alluogi rhanddeiliaid i ennyn gwell dealltwriaeth o'r modd y mae Datganiadau Ardal yn berthnasol i'w meysydd gwaith penodol nhw.

Er mwyn cyflawni dull cynaliadwy o reoli dŵr, bydd angen i randdeiliaid dŵr gydweithio mewn ffordd gydweithredol ar y raddfa briodol. Cysylltwch â ni os ydych yn awyddus i archwilio cyfleoedd ar gyfer rheoli dalgylchoedd mewn modd integredig a gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill er mwyn mynd i'r afael â'r heriau yn yr amgylchedd dŵr.  

Anfonwch e-bost at y tîm Cynllunio Dŵr Integredig i:

WFDWales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Golwgfa o'r afon Conwy

Dalgylchoedd cyfle a Dataganiadau Ardal​


Fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru), mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn dull yn seiliedig ar le i reoli dalgylchoedd mewn modd integredig. 


Bydd ein gweithgareddau yn canolbwyntio ar ymgorffori egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy er mwyn cyflawni canlyniadau dalgylch. Golyga hyn fuddion ar gyfer ansawdd dŵr, swm y dŵr a chynefinoedd a rhywogaethau sy'n ddibynnol ar ddŵr sydd wedi'u halinio â buddion llesiant i bobl dros yr hirdymor. 


Gwaith cydweithredol 


Byddwn yn canolbwyntio ar gefnogi'r gwaith o gyflenwi buddion lluosog drwy waith partneriaeth. Caiff ein hamcanion eu hanelu at wella'r gwaith o reoli dalgylchoedd cyrff dŵr a chynyddu'r llesiant i bobl. Bydd hyn yn digwydd yn yr ardaloedd sy'n cynnig y cyfleoedd cadarn gorau ar gyfer rheoli dalgylchoedd mewn modd integredig. 


Dylai'r gwaith ganolbwyntio ar y raddfa fwyaf priodol er mwyn sicrhau’r buddion mwyaf posib i'r amgylchedd ac i’r bobl.  Ar gyfer y trydydd cylch o Gynllunio Basn Afon (2021-2027), mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi dalgylchoedd cyfle. Caiff y rhain eu hintegreiddio fel maes gwaith â blaenoriaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid allanol ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Bydd hyn yn helpu'r amgylchedd ac adnoddau dŵr naturiol i ddod yn fwy gwydn yn wyneb newid yn yr hinsawdd a phwysau eraill. 


Dalgylchoedd cyfle yng Nghymru 


Eleni byddwn yn cyhoeddi map o ddeg ardal Dalgylch Cyfleoedd yn yr ymgynghoriad ar Gynllun Rheoli Basn Afon drafft y trydydd cylch. Caiff cyrff dŵr morol ac aberol eu cynnwys yn y dalgylchoedd cyfle lle bo hynny'n briodol, ac mae hynny'n newid o gymharu â ‘chylch 2’ lle targedwyd cyrff dŵr croyw yn unig.


Roedd y 10 dalgylch cyfle a gafodd eu dethol yn cynnig yr amrediad gorau o gyfleoedd ar gyfer mynd i'r afael ag amcanion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a chanlyniadau llesiant ehangach rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Bydd y dalgylchoedd cyfle yn sicrhau bod ymdrechion staff yn cwmpasu holl swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn cefnogi partneriaid i ddarparu datrysiadau ar gyfer rheoli dalgylchoedd mewn modd integredig. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid mewn dalgylchoedd eraill nad ydynt wedi'u dethol fel dalgylchoedd cyfle, gan gynnwys mynd i'r afael ag addasiadau ffisegol, cynlluniau adfer pysgodfeydd ac adfer cloddfeydd metel.  


Ardaloedd dalgylchoedd cyfle yng Nghymru: 


• Afon Dyfrdwy 
• Afon Clwyd 
• Afon Conwy 
• Ynys Môn 
• Afon Teifi 
• Afon Taf/Elái 
• Afon Cleddau/Aberdaugleddau
• Bae Abertawe 
• Canolbarth Sir Fynwy 
• Afon Ithon 

Darganfod themâu Datganiadau Ardal 

Ceir disgrifiad llawn o'r cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg ar gyfer rheoli dalgylchoedd o bob lleoliad ar dudalennau'r Datganiadau Ardal ar gyfer y canlynol:

• Gogledd-orllewin Cymru  
• Gogledd-ddwyrain Cymru 
• Canolbarth Cymru  
• De-orllewin Cymru  
• Canol De Cymru 
• De-ddwyrain Cymru  
• Morol  


Cydweithredu â rhanddeiliaid 


Mae ein rhanddeiliaid dŵr wedi ymgysylltu â ni yn ein gweithdai a gweithgareddau Datganiad Ardal lleol a chenedlaethol, drwy Fforwm Rheoli Dŵr Cymru ac mewn ymateb i'r Ymgynghoriad Heriau a Dewisiadau y llynedd er mwyn amlygu blaenoriaethau, risgiau a chyfleoedd yn yr amgylchedd dŵr. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithio ag amrediad eang o randdeiliaid ar draws Cymru i ganolbwyntio ar ffordd fwy cydweithredol ac integredig o reoli dalgylchoedd, gan edrych ar achosion sylfaenol problemau a chydweithio er mwyn darganfod datrysiadau i'r hirdymor. 


Edrychwch ar y wybodaeth a ddarperir ymhob Datganiad Ardal a rhowch wybod i ni os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy ac eisiau bod yn rhan o gydweithio er mwyn mynd i'r afael â'r heriau yn ardaloedd y dalgylchoedd cyfle.  


Darganfyddwch sut rydym yn parhau i weithio gyda grwpiau cenedlaethol: 


Fforwm Rheoli Dŵr Cymru 


Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn dilyn dull cynaliadwy o reoli'r amgylchedd dŵr: 


Prosiect dalgylch Conwy Uchaf 


Cynlluniau Rheoli Basn Afon

 

Dyma gynlluniau strategol sy'n cynnig rhywfaint o sicrwydd i bawb sydd ynghlwm â gwaith Rhanbarthau Basn Afon yng Nghymru, ynglŷn â dyfodol rheoli dŵr yn y rhanbarth hwnnw. Ceir rhagor o wybodaeth isod: 

 

Cynlluniau Rheoli Basn Afon 2015-2021 


Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 

Mae hwn yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwarchod dyfroedd wyneb mewndirol, aberoedd, dyfroedd arfordirol a dŵr daear. Er mwyn darganfod mwy am statws presennol cyrff dŵr yng Nghymru, dilynwch y ddolen isod: 


Arsylwi Dyfroedd Cymru 

Ffurflen adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf