Cyflwyniad i De-ddwyrain Cymru
Llun gan Fen Turner
Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.
Mae’r rhan fwyaf o’r meysydd parcio a’r llwybrau yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur yn agored.
Er mwyn cael y diweddaraf ynglŷn â beth sy’n agored, gweler ein tudalen ymweld â’n safleoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws
Mae ecosystemau yn dod yn llai gwydn ac yn methu addasu cystal i heriau fel y newid yn yr hinsawdd. Golyga hyn nad ydynt mor dda am ddarparu'r buddion sy'n cyfrannu at gynnal iechyd a llesiant. Rhaid rheoli'r amgylchedd naturiol yn gynaliadwy a'i gydnabod am y buddion y mae’n eu darparu yn wyneb trefoli cynyddol, pwysau datblygu, adnoddau cyhoeddus cyfyngedig, a demograffeg sy’n newid.
Mae rhwydwaith thematig Cysylltu ein Tirweddau wedi archwilio dau linyn gwaith sylweddol a rhyng-gysylltiedig, sef gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy ddatblygu rhwydweithiau ecolegol ac ystyried sut a ble gall ein hasedau naturiol gael eu defnyddio i gyflenwi atebion ataliol, cost-effeithiol a hirdymor sy'n seiliedig ar natur i rai o'n hanghenion mwyaf cymhleth o ran llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.
Trwy weithio mewn ffordd integredig i ddeall y ddau faes gwaith sylweddol hyn yn well a thrwy ymgysylltiad ystyrlon rhanddeiliaid ehangach, mae rhwydwaith thematig Cysylltu ein Tirweddau wedi nodi risgiau allweddol i wydnwch ecosystemau. Mae gwydnwch ecosystemau yn berthnasol i amrywiaeth, cyflwr, maint a chysylltedd, sydd oll yn cyfuno ac yn cyfrannu mewn ffyrdd amrywiol at iechyd a gallu i addasu cyffredinol unrhyw ecosystem benodol (ei gwydnwch). Nodwyd mai’r risgiau allweddol i iechyd ein hecosystemau yw’r newid yn yr hinsawdd, colli a diraddio cynefinoedd, maethynnau gormodol a mathau eraill o lygredd, rhywogaethau estron goresgynnol, gorddefnydd, a defnydd anghynaladwy.
Sut mae llwyddiant yn edrych | Y weledigaeth ar gyfer De-ddwyrain Cymru: |
---|---|
Nid yw adnoddau naturiol yn lleihau'n barhaus ac nid ydynt yn cael eu defnyddio'n gynt nag y gallant gael eu hailgyflenwi |
Mae ein dŵr yn lân, ein priddoedd yn iach, ein haer yn ffres, a'n tirweddau yn fyw. Caiff natur ei gwerthfawrogi ac mae gwelliannau i fioamrywiaeth wedi eu hymgorffori yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae cynefinoedd a'n rhywogaethau yn ffynnu, mae bioamrywiaeth wedi ei mwyafu, ac mae bywyd gwyllt un doreithiog |
Nid yw iechyd a gwydnwch ein hecosystemau ar draws pedwar priodoledd gwydnwch ecosystemau yn cael eu peryglu, a lle bo angen, maent yn cael eu gwella |
Mae ein hecosystemau yn wydn i newid a bygythiad. Mae partneriaid yn cydweithio i fynd i'r afael â phum sbardun colli bioamrywiaeth ar y raddfa ranbarthol (colli a diraddio cynefinoedd, y newid yn yr hinsawdd, maethynnau gormodol a mathau eraill o lygredd, rhywogaethau estron goresgynnol, a gorddefnydd a defnydd anghynaladwy) drwy nodi achosion sylfaenol problemau a defnyddio dulliau cydweithredol ac ataliol o leihau eu heffaith ar rywogaethau, cynefinoedd a phobl. Mae atebion sy'n seiliedig ar natur yn lleihau'r pwysau sydd ar ein hasedau a'n gwasanaethau mewn modd effeithiol ac effeithlon (e.e. seilwaith fel y rhwydwaith carthffosiaeth, asedau perygl llifogydd a gwasanaethau brys) |
Mae adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio mewn modd effeithlon ac mae’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau ecosystemau gwahanol yn canolbwyntio ar fwyhau llesiant |
Mae'r amgylchedd naturiol yn cynnig cyflogaeth sy'n cynnal cymunedau ar draws Gwent. Mae cyflogaeth yn y diwydiannau ffermio, coedwigaeth, pysgodfeydd, twristiaeth a hamdden yn ffynnu ac yn gynaliadwy. |
Mae'r buddiannau sy'n deillio o adnoddau naturiol yn cael eu dosbarthu mewn modd teg a chyfartal ac mae'r cyfraniad y maent yn ei wneud tuag at lesiant yn diwallu ein hanghenion sylfaenol ac nid yw'n lleihau ar hyn o bryd nac yn yr hirdymor |
Cymru gydnerth. Mae bywyd gwyllt, cynefinoedd, tirweddau a morluniau Gwent yn ffynhonnell ysbrydoliaeth a mwynhad ar gyfer pobl sy'n byw ac yn gweithio yma. Maent yn iach ac yn ffynnu, gan ddarparu buddion naturiol hanfodol i breswylwyr ac ymwelwyr â'r rhanbarth. |
Llun gan Rob Bacon
Camau gweithredu:
Camau gweithredu:
Camau gweithredu:
Ar gyfer y thema Cysylltu ein Tirweddau, gwnaethom ddechrau ystyried Gwent fel casgliad o dirweddau daearyddol nodweddiadol a rhyngysylltiol. Datblygwyd yr ymagwedd hon ar y cyd a rhanddeiliaid allweddol sydd â phrofiad sylweddol o edrych ar y rhanbarth yn y ffordd hon.
Ffurfiwyd paneli tirwedd gan arbenigwyr gofodol a thechnegol ym mhob ardal dirwedd a weithiodd ar y cyd i ystyried wyth ecosystem (cynefinoedd eang y DU), fel a ddiffiniwyd gan yr Asesiad Ecosystem Cenedlaethol a chaiff ei ddefnyddio yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol. Gwnaeth yr ymagwedd hon roi'r fframwaith i ni ar gyfer ystyried yr holl wybodaeth am adnoddau naturiol ar gyfer ecosystem neu gynefin eang ar y cyfan.
Gwnaeth yr ymagwedd panel tirwedd ddefnyddio arbenigedd technegol a gofodol partneriaethau presennol yn y De-ddwyrain, gan gynnwys; Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, Partneriaeth Gwent Fwyaf Gwydn (drwy'r Cynllun Gweithredu'r Sefyllfa Byd Natur ac Adfer Natur dros Gwent), y Bartneriaeth Lefelau Byw, Partneriaeth Uwchdiroedd Gwydn De-ddwyrain Cymru a Phartneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy.
Gwnaeth pob un o'r paneli weithio gyda'i gilydd i lunio set o broffiliau tirwedd, yr oedd eu diben i ystyried gwydnwch y cynefinoedd eang yn y De-ddwyrain a sut maent yn rhyngweithio ar raddfa dirwedd. Mae proffiliau o'r dirwedd yn "disgrifio'r adnoddau naturiol yn yr ardal" a dylid cyfeirio atynt a'u darllen ar y cyd a'r Datganiad Ardal hwn.
Roedd y proffiliau o'r dirwedd yn werthfawr wrth ffurfio'r sail am fwy o drafodaethau dan y thema Cysylltu ein Tirweddau, Gwent sy'n Barod am yr Hinsawdd ac Iach, Actif, Cysylltiedig, lle daethpwyd at gonsensws gweithredu ar y cyd.
Bydd y canlyniadau dan bob un o'r pedair thema strategol yn cyflawni gweledigaeth y Datganiad Ardal ar gyfer y De-ddwyrain. Er bod gan bob thema ei gweledigaeth ei hun ar gyfer y De-ddwyrain, mae pob rhan o'r un ymagwedd drosfwaol at gyflawni Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy ar waith.
Mae Datganiad Ardal y De-ddwyrain yn cynrychioli ffyrdd mwy cydweithredol, integredig a chynhwysol o weithio; mae'n cynrychioli'r gwaith rydym wedi'i wneud yn ardal Gwent dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gryfhau'r ffyrdd rydym yn gweithio gyda'n gilydd yn wahanol; yn ein sefydliadau ein hunain ac fel partneriaid.
Yn y De-ddwyrain, aethom ati i lunio Datganiad Ardal sy'n llywio cynllunio mewnol ac allanol ar y raddfa briodol ac sy'n helpu rhanddeiliaid i ystyried ffyrdd o weithio gyda'i gilydd wrth wneud hynny. Mae'r broses Datganiad Ardal yn addasol a bydd yn helpu i archwilio a llunio ffyrdd uchelgeisiol o weithio.
Bydd rhwydweithiau a thema'n parhau i ganolbwyntio ar weithio gyda'n gilydd yn wahanol i feithrin gwydnwch ecosystem. Bydd pob rhwydwaith yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu sail dystiolaeth gyffredin yn ogystal â hwyluso ymyriadau ataliol dros dymor hwy.
Cysylltwch gyda ni os hoffech gymryd rhan mewn cyflwyno'r camau gweithredu a restrwyd yma, os hoffech gyfrannu at ddatblygu rhwydwaith a thema, neu rannu eich delweddau a'ch straeon eich hunain o sut rydych wedi gallu creu lleoedd gwell ar gyfer natur.
Sylwch nad yw ein mapiau’n hygyrch i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol o fathau eraill. Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.
Cynefinoedd eang – De Ddwyrain Cymru (PDF)
Ardaloedd gwarchodedig – Gogledd Cymru (PDF)
Map yn dangos ardaloedd o Ddynodiadau Statudol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru: