Cynllun busnes 2026-27
Cyflwyniad
Mae Cymru’n dechrau cyfnod hollbwysig lle mae ymateb i argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd yn gofyn am arweinyddiaeth gryfach, blaenoriaethau cliriach, a chamau gweithredu cenedlaethol cydlynol. Mae asesiadau diweddar, gan gynnwys Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 ac Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2025, yn dangos cynnydd ond yn tynnu sylw at y ffaith nad yw newid yn digwydd yn ddigon cyflym. Ni fydd gwelliannau fesul cam yn ymateb i faint yr her.
Eleni gwelir diwygiadau mawr ar draws polisi amgylcheddol: deddfwriaeth newydd i amddiffyn a rheoli 30% o dir, dŵr croyw a’r môr yn effeithiol erbyn 2030; cyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy; a newidiadau sylweddol i reoleiddio dŵr a gwastraff. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) hefyd yn cefnogi prosiectau seilwaith mawr, gan gynnwys cynigion niwclear newydd, ac yn parhau i arwain ymateb Cymru i berygl llifogydd.
Ein rôl ni yw arwain pan fydd cyfrifoldebau o fewn ein cwmpas, a galluogi eraill – cyrff cyhoeddus, rheolwyr tir, diwydiant a chymunedau – i gymryd camau cydlynol. Mae ein cynllun corfforaethol, Byd Natur a Phobl yn Ffynnu gyda’n Gilydd, yn nodi sut y byddwn yn defnyddio ein pwerau, ein tystiolaeth a'n dull sy'n canolbwyntio ar le i gefnogi deilliannau cenedlaethol.
Mae cyflawni'r weledigaeth hon yn gofyn am sefydliad sy'n hyderus ac wedi'i gysylltu a'i gyfarparu i ymateb i bwysau cynyddol. Byddwn yn parhau i gryfhau'r sylfeini sy'n galluogi cydweithwyr i weithio gydag eglurder, hyder a phwrpas er mwyn cael mwy o effaith. Bydd gwella ein heffeithiolrwydd a'n heffeithlonrwydd hefyd o fudd i'r rhai rydym yn gweithio gyda nhw o ran eu galluogi i weithredu'n gyflymach ac yn fwy sicr. Bydd cryfhau sut rydym yn cynllunio, mesur a chyflawni yn ein helpu i fodloni disgwyliadau cynyddol ac yn cefnogi Cymru i gymryd camau gweithredu hyderus.
Sefydliad sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau
Un o brif flaenoriaethau eleni yw ymgorffori dull sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau sy’n cryfhau integreiddio cynllunio o ran busnes, cyllid, strategaeth a’r gweithlu â chynllunio gwasanaethau a lleoedd. Rydym am fod yn gliriach ynglŷn â'r newidiadau hirdymor yr ydym yn eu ceisio ar gyfer byd natur, yr hinsawdd a llygredd erbyn 2030, a sicrhau bod ein gweithgareddau a'n hadnoddau blynyddol yn cyd-fynd â'r deilliannau hynny.
Bydd cynllun aml-flwyddyn newydd yn bont rhwng ein cynllun corfforaethol a'n cynlluniau busnes blynyddol. Bydd yn nodi'r deilliannau yr ydym yn anelu at eu cyflawni erbyn 2030, yn cynnwys cyfres newydd o fetrigau deilliannau blaenllaw, ac yn ein helpu i ddyrannu adnoddau'n fwy strategol yn dilyn cyhoeddiadau cyllideb bob hydref.
Bydd hyn yn caniatáu inni ddangos nid yn unig yr hyn a gyflawnwyd gennym, ond effaith y gwaith hwnnw.
Mae cynllun eleni yn cryfhau ein llinell welediad rhwng deilliannau a chyflawniad. Mae'n nodi ein cynnydd tuag at fodel mwy cydlynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn parhau i aeddfedu yn 2027–28.
Strwythur y cynllun busnes hwn
Mae'r cynllun busnes hwn wedi'i strwythuro o amgylch ein pedwar amcan llesiant, gan ddarparu fframwaith clir a chyson sy'n cysylltu ein camau gweithredu blynyddol â'r deilliannau hirdymor yn ein cynllun Byd Natur a Phobl yn Ffynnu gyda’n Gilydd.
Drwy gydol 2026-27, byddwn yn parhau i esblygu tuag at ddull sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau. Er bod ein cyfres lawn o fetrigau sy'n arwain deilliannau yn dal i gael eu datblygu, bydd ymrwymiadau blynyddol a metrigau tueddiadau eleni yn dechrau dangos sut mae ein gwaith yn cyfrannu at y deilliannau yr ydym yn anelu at eu cyflawni erbyn 2030. Mae'r metrigau tueddiadau yn ein galluogi i ddeall a oes angen i ni gyflwyno newidiadau yn ystod y flwyddyn neu, yn y blynyddoedd i ddod, gyflwyno ymrwymiadau blynyddol penodol i wella effeithlonrwydd neu effeithiolrwydd y ddarpariaeth.
Mae pob adran yn nodi:
- Deilliannau yr ydym am eu cyflawni erbyn 2030, yn unol â Byd Natur a Phobl yn Ffynnu gyda’n Gilydd.
- Yr hyn y byddwn yn ei gyflawni, lle bydd CNC mewn sefyllfa unigryw i arwain a chael yr effaith fwyaf.
- Sut y byddwn yn galluogi eraill, trwy dystiolaeth, cynllunio statudol, cyngor a chyfarwyddyd rheoleiddiol, a gweithio mewn partneriaeth.
- Sut y byddwn yn mesur cynnydd – gan ddefnyddio ymrwymiadau blynyddol penodol gyda cherrig milltir, byddwn yn olrhain cynnydd i sicrhau bod mentrau ar y trywydd iawn. Mae'n debyg y bydd y rhain yn newid bob blwyddyn.
Mae Atodiad 1 yn cynnwys y gyfres o fetrigau tueddiadau y byddwn yn adrodd arnynt yn chwarterol ac yn eu holrhain yn gyson dros amser.
Ein blaenoriaethau 2026-27
Amcan llesiant: Mae natur yn gwella
Y deilliant yr ydym am ei gyflawni erbyn 2030
Erbyn 2030, bydd byd natur yn iachach, yn fwy cysylltiedig, ac yn cael ei werthfawrogi'n fwy ledled Cymru. Bydd penderfyniadau ar draws sectorau yn ystyried byd natur o'r cychwyn cyntaf, bydd lleoedd gwarchodedig yn cael eu cryfhau, a bydd adfer ar raddfa fawr yn helpu bywyd gwyllt a chynefinoedd i adfer a ffynnu. Bydd pobl a chymunedau’n teimlo’n agosach at fyd natur drwy well mynediad a chyfleoedd tecach, a bydd CNC yn arwain drwy esiampl - gan ddangos drwy ein tir, ein hasedau a’n penderfyniadau sut olwg sydd ar sefydliad sy’n wirioneddol natur-bositif.
Byddwn yn gwybod ein bod yn llwyddo pan fydd dulliau natur-bositif o ran byd natur yn glir ac wedi'u hymgorffori mewn cynlluniau a phenderfyniadau, pan fydd ardaloedd gwarchodedig ac wedi'u hadfer yn ehangu ac yn gwella'n weladwy, pan fydd profiadau bob dydd o fyd natur yn tyfu, a phan fydd ein harweinyddiaeth yn helpu eraill i fabwysiadu'r un dull natur-bositif.
Yr hyn y byddwn yn ei gyflwyno eleni
Yn 2026-27, byddwn yn blaenoriaethu camau gweithredu sy'n sbarduno gwelliannau mesuradwy wrth ddiogelu ac adfer byd natur ledled Cymru. Ein hymrwymiadau eleni fydd:
- Cyflymu camau gweithredu tuag at uchelgais genedlaethol 30x30 drwy gryfhau'r dystiolaeth, y cynllunio a'r offer rheoleiddio sydd eu hangen i amddiffyn a rheoli cynefinoedd pwysicaf Cymru yn effeithiol ar draws tir, dŵr croyw a’r môr.
- Moderneiddio a symleiddio prosesau diogelu byd natur, gan gynnwys hysbysu SoDdGAau, cynllunio’r gwaith o reoli safleoedd, a gwaith diogelu gofodol, fel bod gan Gymru system gliriach a mwy effeithlon ar gyfer diogelu cynefinoedd blaenoriaeth ar raddfa fawr.
- Cyflwyno ymyriadau adfer byd natur integredig ar lawr gwlad, megis cynlluniau rheoli safleoedd dynodedig, rhaglenni adfer rhywogaethau, ac asesiadau cyflwr morol.
- Darparu'r cyngor amgylcheddol arbenigol sydd ei angen ar gyfer diwygiadau cenedlaethol mawr, gan gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gwaith yn ymwneud â Pharc Cenedlaethol Glyndŵr, gan sicrhau bod polisïau newydd yn arwain at enillion mesuradwy i fyd natur ac yn cyd-fynd â deilliannau cenedlaethol ehangach.
Gyda'i gilydd, bydd y camau gweithredu hyn yn cryfhau rhwydwaith ardaloedd gwarchodedig Cymru ac yn cyflymu cynnydd tuag at yr uchelgais genedlaethol i reoli 30% o dir, dŵr croyw a’r môr yn effeithiol erbyn 2030.
Sut y byddwn yn galluogi eraill ledled Cymru
Ni all CNC gyflawni adferiad byd natur ar ei ben ei hun. Yn 2026-27, byddwn yn helpu eraill i gymryd camau hyderus, cydlynol ac amserol dros fyd natur drwy wneud y canlynol:
- Helpu cyrff cyhoeddus ac awdurdodau cynllunio i integreiddio adferiad byd natur yn gynharach ac yn fwy cyson mewn penderfyniadau drwy dystiolaeth hygyrch ar gyfer rhwydweithiau ecolegol, cyngor cynllunio a thrwyddedu symlach, a chanllawiau rheoleiddio cryfach.
- Galluogi ffermwyr a rheolwyr tir i gyfrannu’n hyderus at adfer byd natur drwy ddarparu cyngor clir ac ymarferol sy’n cefnogi cyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’i ofynion o ran rheoli tir yn gydweithredol.
- Cefnogi tirweddau dynodedig, cymunedau a phartneriaid i gymryd camau cydlynol sy'n seiliedig ar le ac sy'n cryfhau rhwydweithiau ecolegol ac yn alinio penderfyniadau lleol ag uchelgais genedlaethol 30x30, er enghraifft, rhaglen Teifi Fyw.
- Dylanwadu ar gadwyni cyflenwi, datblygwyr a rhanddeiliaid ehangach drwy ymgorffori disgwyliadau natur-bositif mewn canllawiau a chyfarwyddyd, gan ehangu gallu Cymru i adfer byd natur y tu hwnt i weithrediadau uniongyrchol CNC.
Mae'r camau galluogi hyn yn sicrhau bod penderfyniadau a wneir ledled Cymru yn wybodus ac amserol ac yn cyd-fynd â deilliannau adfer byd natur hirdymor, wrth hefyd gefnogi gweithredu ar yr hinsawdd a lleihau llygredd trwy gynllunio a rheoli amgylcheddol integredig ac amlswyddogaethol.
Sut y byddwn yn mesur cynnydd
Tabl 1: Ymrwymiadau blynyddol - Mae byd natur yn gwella
| Disgrifiad | Pam mae hyn yn bwysig? |
|---|---|
|
Gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ein rôl cynllunio defnydd tir: yn gyson â'n strategaeth gynllunio drwy ddatblygu a dechrau gweithredu cynllun gwella wedi'i flaenoriaethu. |
Mae cyngor amserol a chyson yn sicrhau bod datblygiadau’n cefnogi adferiad byd natur wrth alluogi twf economaidd cynaliadwy a lleoedd wedi'u cynllunio'n dda sy'n gwella llesiant cymunedol. |
|
Rhwydweithiau ecolegol gwydn: Mae prosiectau wedi'u sefydlu ac ar y gweill ledled Cymru. |
Mae cryfhau rhwydweithiau ecolegol yn gwella cyflwr a chysylltedd cynefinoedd, gan helpu bywyd gwyllt i ffynnu a chefnogi adferiad byd natur yn yr hirdymor. |
|
Diogelu gofodol ar gyfer cyflawni er byd natur: rhaglen wedi'i sefydlu a gweithrediad wedi dechrau. |
Mae amddiffyniad cryf a modern ar gyfer cynefinoedd blaenoriaeth yn diogelu bioamrywiaeth, yn cefnogi ecosystemau gwydn, ac yn cefnogi buddion cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd hirdymor i Gymru. |
|
Cyngor ar Barc Cenedlaethol Glyndŵr: Rhoi cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru, cymryd rhan mewn ymchwiliad cyhoeddus lleol posibl, a/neu gefnogi camau gweithredu perthnasol eraill mewn perthynas â gorchymyn dynodi Parc Cenedlaethol Glyndŵr. |
Mae cyngor cadarn yn sicrhau bod unrhyw ddynodiad yn darparu buddion amgylcheddol parhaol wrth gefnogi cymunedau lleol, defnydd tir cynaliadwy, a chyfleoedd economaidd rhanbarthol. |
|
Cyngor ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Rhoi cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu'r camau gweithredu dewisol a chydweithredol yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan gynnwys adnewyddu'r cynllun rheoli coedwigoedd a chwmpasu gwasanaeth gwirio cynlluniau rheoli coetiroedd newydd. |
Mae cyngor clir ac ymarferol yn helpu ffermwyr i gyflawni rheolaeth tir gadarnhaol o ran byd natur sy'n cefnogi cynhyrchu bwyd, yn cryfhau economïau gwledig, ac yn gwella llesiant cymunedol. |
|
Sefydlu mentrau adfer rhywogaethau: sef (i) Fframwaith Adfer Rhywogaethau, (ii) rhaglen waith afancod Llywodraeth Cymru / CNC. |
Mae canolbwyntio gweithredu ar rywogaethau blaenoriaeth yn cryfhau gwydnwch ecosystemau ac yn cefnogi'r buddion amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd ehangach y mae byd natur yn eu darparu. |
|
Asesiadau cyflwr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig morol: Symud ymlaen â datblygiad asesiadau cyflwr ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig morol trawsffiniol a phecynnau cyngor cadwraeth i lywio’r gwaith o reoli safleoedd yn effeithiol. |
Mae tystiolaeth gref ynghylch cyflwr Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn sail i adferiad ecosystemau morol a rennir, ac yn cefnogi cymunedau arfordirol, defnydd cynaliadwy o'n hadnoddau morol, a llesiant ehangach. |
Amcan llesiant: Mae cymunedau’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
Y deilliant yr ydym am ei gyflawni erbyn 2030
Erbyn 2030, bydd Cymru wedi'i diogelu'n well, yn fwy gwydn, ac yn gadarn ar y llwybr tuag at sero net. Bydd atebion ar sail natur yn chwarae rhan fwy wrth storio carbon a lleihau risgiau hinsawdd wrth ddarparu buddion ehangach i adfer byd natur a lleihau llygredd, bydd cymunedau wedi'u paratoi'n well ar gyfer effeithiau llifogydd, sychder a thanau gwyllt, a bydd dewisiadau carbon isel yn llunio sut mae Cymru'n cynllunio, yn tyfu ac yn buddsoddi. Bydd pobl, busnesau a phartneriaid yn cymryd camau gweithredu hinsawdd parhaus, wedi'u cefnogi gan dystiolaeth glir, partneriaethau cryf, ac arweinyddiaeth CNC fel sefydliad sector cyhoeddus sero net.
Byddwn yn gwybod ein bod yn llwyddo pan fydd risgiau hinsawdd yn cael eu hystyried yn gynnar, pan fydd prosiectau sy'n seiliedig ar fyd natur yn tyfu ac yn ehangu, pan fydd opsiynau carbon isel yn dod yn norm, a phan fydd ein hesiampl yn helpu i sbarduno gweithredu hirdymor ar y cyd.
Yr hyn y byddwn yn ei gyflwyno eleni
Yn 2026-27, byddwn yn canolbwyntio ar y camau gweithredu sy'n cryfhau gallu Cymru i ragweld, gwrthsefyll ac adfer ar ôl effeithiau hinsawdd. Ein hymrwymiadau eleni fydd:
- Cynyddu gwydnwch hinsawdd a gweithredu sy'n seiliedig ar fyd natur drwy adfer mawndiroedd, bwrw ymlaen ag adfer morwellt a morfeydd heli, a chyflawni rhaglenni cynllunio dalgylchoedd a pherygl llifogydd â blaenoriaeth sy'n cryfhau gwydnwch hirdymor Cymru.
- Arwain ymateb Cymru i risg hinsawdd a llifogydd, gan wella'r dystiolaeth a'r systemau sy'n sail i’r gwaith o ddarogan llifogydd, rheoli asedau, a gwneud paratoadau fel bod cymunedau wedi'u diogelu'n well rhag pwysau hinsawdd cynyddol.
- Cyflymu datgarboneiddio sefydliadol drwy ehangu capasiti gwefru cerbydau trydan, cynyddu cyfran y cerbydau fflyd trydan, a lleihau allyriadau gweithredol a chaffael.
- Cryfhau'r dystiolaeth a'r canllawiau sydd eu hangen ar gyfer twf carbon isel, gan gynnwys ynni adnewyddadwy morol, seilwaith niwclear, datgarboneiddio diwydiannol, ac adeiladu carbon isel sy'n defnyddio pren, gan sicrhau bod datblygiadau newydd yn lleihau allyriadau wrth amddiffyn byd natur.
- Dylanwadu ar gadwyni cyflenwi a chaffael ledled Cymru drwy ymgorffori gofynion lleihau carbon, ymgysylltu â chyflenwyr yn well, a hyrwyddo deunyddiau carbon isel, gan ymestyn effaith CNC y tu hwnt i'w weithrediadau uniongyrchol.
Gyda'i gilydd, bydd y camau gweithredu hyn yn cryfhau gwydnwch Cymru i ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd ac yn amddiffyn unigolion, cymunedau a'r amgylchedd naturiol.
Sut y byddwn yn galluogi eraill ledled Cymru
Ni all CNC gyflawni gwydnwch hinsawdd ar ei ben ei hun. Yn 2026–27, byddwn yn helpu eraill i gymryd camau hyderus a chydlynol i wneud y canlynol:
- Cefnogi diwydiant sero net Cymru a chlystyrau diwydiant cysylltiedig, gan ddarparu cyngor cynnar ar gynllunio a thrwyddedu ar gyfer cynigion datgarboneiddio, rheoli'r broses o gynhyrchu mwy o gynigion datgarboneiddio, a sicrhau bod prosiectau sy'n dod i'r amlwg yn lleihau'r niwed i fyd natur ac iechyd pobl wrth gefnogi swyddi a thwf carbon isel.
- Galluogi datblygiad ynni adnewyddadwy cynaliadwy ar y tir ac ar y môr, gan gynnwys cynlluniau ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, drwy ymgysylltu’n gynnar a chynnig cyngor ar ddewis safleoedd, dylunio cynlluniau, a gweithrediad y cynlluniau hynny. Byddwn yn parhau i fuddsoddi i wella'r broses trwyddedu morol o'r dechrau i'r diwedd.
- Cyfrannu at weithredu datblygiadau niwclear newydd drwy ddarparu prosesau gwneud penderfyniadau amserol, cymesur a rhagweladwy sy'n gysylltiedig â'n rolau cyngor statudol a thrwyddedu, gan sicrhau bod seilwaith niwclear yn cefnogi datgarboneiddio cenedlaethol a diogelwch ynni wrth leihau niwed i bobl a byd natur.
- Gweithio gyda phartneriaid ar draws dalgylchoedd a chymunedau – gan gynnwys partneriaethau bargeinion twf, awdurdodau lleol ac asiantaethau – i hyrwyddo gweithredu cydlynol ar yr hinsawdd, lleihau allyriadau trafnidiaeth, a chryfhau cydnerthedd ar y raddfa briodol.
Mae'r camau galluogi hyn yn cefnogi’r broses o bontio i systemau ynni a diwydiannol glanach mewn ffordd gydlynol, lleoedd gwydn, a thwf carbon isel wrth sicrhau bod byd natur a chymunedau yn parhau i gael eu diogelu.
Sut y byddwn yn mesur cynnydd
Tabl 2: Ymrwymiadau blynyddol - Mae cymunedau'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
| Disgrifiad | Pam mae hyn yn bwysig? |
|---|---|
|
Cynllunio a rheoli dalgylchoedd integredig: Sefydlu dull sefydliadol a blaenraglen wedi'i blaenoriaethu ar gyfer cynllunio a rheoli dalgylchoedd integredig. |
Mae dull cydlynol o gynllunio dalgylchoedd yn cryfhau sut rydym yn targedu camau gweithredu, gan wella deilliannau i fyd natur, yr hinsawdd a chymunedau. |
|
Adolygiad Cyfnodol o Brisiau Cwmnïau Dŵr 2029: Sefydlu dull PR29 ar gyfer atebion ar sail natur ac atebion i ddalgylchoedd. |
Mae dull clir o lywio adolygiad cyfnodol cwmnïau dŵr 2029 yn galluogi buddsoddiad wedi'i dargedu mewn ymyriadau sy'n seiliedig ar natur ac ymyriadau ar raddfa dalgylch sy'n darparu buddion amgylcheddol hirdymor. |
|
Gwella Asesu Perygl Llifogydd Cymru: datblygu'r cynllun cyflawni ar gyfer y genhedlaeth nesaf o Asesu Perygl Llifogydd Cymru, er mwyn moderneiddio data ynghylch llifogydd fel y gall pob rhanddeiliad eu defnyddio. |
Mae data llifogydd sy’n hygyrch yn gwella sut mae Cymru'n deall ac yn rheoli’r perygl o lifogydd, gan helpu i amddiffyn cymunedau. |
|
Cynllun dalgylch llifogydd Taf: datblygu piblinell waith wedi'i blaenoriaethu, a sefydlu partneriaeth dalgylch. |
Mae gweithredu cydlynol ar draws dalgylch cyfan yn darparu mwy o wydnwch amgylcheddol a chymunedol. |
|
Canllawiau Diwydiant Carbon Isel: Datblygu cyngor, canllawiau ac offer ynghylch technolegau a seilwaith carbon isel, gan gynnwys niwclear, dal carbon, sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS), a disgwyliadau gwell ar gyfer y System Rheoli Amgylcheddol. |
Mae disgwyliadau cliriach yn cefnogi ceisiadau am drwyddedau gwell ac yn helpu diwydiant i leihau llygredd ac allyriadau carbon. |
|
Tystiolaeth a chanllawiau ynghylch ynni adnewyddadwy morol: cyflwyno rhaglenni tystiolaeth a chanllawiau i gefnogi cyngor a chanllawiau cyson a hygyrch ar gyfer dylunio prosiectau a rhaglenni cynaliadwy. |
Mae cyngor o ansawdd uchel yn galluogi datblygu ynni carbon isel wrth amddiffyn yr amgylchedd morol. |
|
Gwerthiannau pren: Cefnogi'r gadwyn gyflenwi ar gyfer pren o Gymru sy'n cloi carbon ar gyfer cartrefi yng Nghymru trwy werthiannau pren o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. |
Mae cryfhau cadwyni cyflenwi pren carbon isel yn cefnogi adeiladu cynaliadwy ac yn lleihau allyriadau. |
|
Cynllun Addasu CNC: Datblygu ail Gynllun Addasu i'r Hinsawdd CNC. |
Mae cynllun addasu clir yn ein helpu i reoli risgiau hinsawdd a chryfhau gwydnwch sefydliadol. |
|
Gweithredu fel hwylusydd ar gyfer partneriaeth Bargen Twf Canolbarth Cymru: er mwyn cefnogi cyfleoedd datgarboneiddio ar gyfer y sector cludo pren crwn, fel rhan o gyfraniad CNC at fenter Llywodraeth Cymru, Cynllun Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio drwy Ymchwil Busnesau i’r System Gyfan. |
Mae cefnogi datrysiadau trafnidiaeth carbon isel yn lleihau allyriadau sector ac yn cryfhau economïau gwledig cynaliadwy. |
|
Seilwaith gwefru cerbydau trydan: Cynyddu capasiti seilwaith gwefru cerbydau trydan o 61 o wefrwyr ar draws 16 safle i gyflymu’r gwaith o ddatgarboneiddio’r fflyd yn 2027/28. |
Mae ehangu'r capasiti gwefru yn galluogi newid cyflymach i fflyd carbon isel ac yn lleihau allyriadau a chostau gweithredol. |
Amcan llesiant: Llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf
Y deilliant yr ydym am ei gyflawni erbyn 2030
Erbyn 2030, bydd Cymru’n elwa o gyngor a rheoleiddio cliriach, llai o ddigwyddiadau llygredd difrifol, a defnydd mwy cynaliadwy o adnoddau. Bydd rheoleiddio cryf, sy'n seiliedig ar risg, yn atal niwed cyn iddo ddigwydd, bydd arwyddion rhybuddio cynnar yn cael eu hadnabod a gweithredir arnynt yn gyflym, a bydd symud tuag at ddefnyddio adnoddau'n effeithlon yn lleihau llygredd wrth y ffynhonnell. Bydd y sefydliadau rydym ni'n eu rheoleiddio yn bodloni safonau uchel yn gyson, a bydd CNC yn arwain trwy esiampl fel sefydliad dim llygredd a dim gwastraff.
Byddwn yn gwybod ein bod yn llwyddo pan fydd cydymffurfedd yn gwella, y nifer o ddigwyddiadau difrifol yn lleihau, ansawdd dŵr yn gwella, gwastraff yn cael ei leihau, ymddygiadau sy'n achosi llygredd yn gostwng ar draws y system, a’n hesiampl yn helpu i godi safonau ledled Cymru.
Yr hyn y byddwn yn ei gyflwyno eleni
Yn 2026-27, byddwn yn blaenoriaethu'r camau gweithredu sy'n lleihau llygredd, yn cryfhau cydymffurfedd, ac yn gwella canlyniadau amgylcheddol ledled Cymru. Ein hymrwymiadau eleni fydd:
- Cyflymu gwelliannau o ran ansawdd dŵr drwy gyflawni cynlluniau rheoli maethynnau integredig, wedi'u blaenoriaethu ar raddfa dalgylch, a chwblhau asesiadau wedi'u diweddaru o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr i arwain camau gweithredu wedi'u targedu.
- Gwella cydymffurfedd a lleihau llygredd wrth y ffynhonnell drwy gwblhau archwiliadau wedi'u targedu o ffurflenni hunanfonitro gweithredwyr, blaenoriaethu cwmnïau dŵr a sectorau risg uchel, a chryfhau cydymffurfedd fel y gall timau ganolbwyntio ar atal niwed.
- Ymgorffori ein dull diwygiedig o reoli digwyddiadau amgylcheddol drwy gryfhau ein canllawiau, ein hoffer a'n hyfforddiant, gan alluogi timau i ganolbwyntio ar ddigwyddiadau niweidiol a rhyddhau capasiti ar gyfer gwaith cydymffurfio sy'n canolbwyntio ar atal. Bydd y newid hwn yn cefnogi gweithredu mwy cyson a chydlynol i leihau llygredd wrth y ffynhonnell.
Gyda'i gilydd, bydd y camau hyn yn cryfhau gallu Cymru i leihau llygredd, ymateb yn gyflym pan fydd digwyddiadau, a sicrhau bod sefydliadau rheoleiddiedig yn chwarae eu rhan lawn wrth ddiogelu'r amgylchedd.
Sut y byddwn yn galluogi eraill ledled Cymru
Mae mynd i'r afael â llygredd yn gofyn am gamau cydlynol ar draws cyrff cyhoeddus, rheoleiddwyr, diwydiant a chymunedau. Yn 2026-27, byddwn yn helpu eraill i gymryd camau hyderus a chydlynol i leihau llygredd drwy wneud y canlynol:
- Cefnogi ffermwyr, rheolwyr tir a phartneriaid i gryfhau cydymffurfedd â’r Rheoliadau Amaethyddol (Rheoli Llygredd Amaethyddol) drwy ddarparu canllawiau clir ac ymarferol sy'n meithrin dealltwriaeth o ofynion rheoleiddio.
- Cryfhau'r system reoleiddio ar gyfer dŵr drwy lunio deddfwriaeth a llywodraethiant y dyfodol gyda Llywodraeth Cymru, DEFRA, Asiantaeth yr Amgylchedd ac Ofwat.
- Cyflawni ein Rhaglen Mynd i’r Afael â Throseddau Gwastraff, gan amharu ar droseddu gwastraff cyfundrefnol drwy rannu gwybodaeth amlasiantaethol ac ymyrraeth wedi’i harwain gan wybodaeth sy’n targedu gweithredwyr risg uchel a rhwydweithiau troseddu cyfundrefnol.
- Gweithio gyda DEFRA i ddatblygu olrhain gwastraff digidol a rhannu data trawsffiniol er mwyn deall llif gwastraff a helpu i nodi gweithgarwch anghyfreithlon yn gynharach.
- Gweithio gydag awdurdodau lleol drwy Taclo Tipio Cymru i dargedu gweithgarwch ar y cyd mewn mannau problemus lle mae tipio anghyfreithlon yn broblem, gan gefnogi camau cynharach a chydlynol gennym ni a phartneriaid awdurdodau lleol.
Mae'r camau galluogi hyn yn helpu i leihau llygredd a gwastraff ar raddfa genedlaethol, gan sicrhau bod penderfyniadau ac ymddygiadau ledled Cymru yn cefnogi diogelu’r amgylchedd yn yr hirdymor ac ecosystemau glanach ac iachach.
Sut y byddwn yn mesur cynnydd
Tabl 3: Ymrwymiadau blynyddol - Llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf
| Disgrifiad | Pam mae hyn yn bwysig? |
|---|---|
|
Datblygu cynlluniau adfer maethynnau dalgylchoedd CNC: ar gyfer dalgylchoedd â blaenoriaeth i gefnogi cyflawni dull integredig o weithgarwch datblygu. |
Oherwydd bod lleihau llygredd maethynnau yn adfer afonydd iachach, yn cefnogi bioamrywiaeth, ac yn galluogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy. |
|
Gweithio gyda'r sector dŵr: ar fframweithiau cynllunio dŵr statudol a rhanddeiliaid ar ymgynghoriadau statudol Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. |
Mae cynllunio statudol cryf ac ymgynghoriadau ynghylch Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr sydd wedi’u cydlynu’n dda yn sicrhau bod y sector dŵr yn cymryd camau amserol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i wella ansawdd dŵr, amddiffyn yr amgylchedd, a chynnal cyflenwadau dŵr dibynadwy. |
|
Cwblhau archwiliadau wedi'u targedu o ganlyniadau hunanfonitro gweithredwyr: blaenoriaethu cwmnïau dŵr a sectorau risg uchel eraill i sbarduno gwell cydymffurfedd. |
Mae monitro dibynadwy yn helpu i atal niwed i fyd natur a phobl ac yn meithrin ymddiriedaeth mewn rheoleiddio amgylcheddol. |
|
Ymgorffori newidiadau i'r dull o reoli digwyddiadau a ffyrdd o weithio: i alluogi ymateb â blaenoriaeth i ddigwyddiadau, gan ganolbwyntio adnoddau ar y rhai sy'n achosi'r niwed mwyaf. |
Oherwydd bod blaenoriaethu'r digwyddiadau mwyaf niweidiol yn sicrhau ymatebion cyflymach a mwy effeithiol a gwell amddiffyniad i unigolion a'r amgylchedd. |
|
Llunio deddfwriaeth, llywodraethiant a rheoleiddio dŵr yn y dyfodol: drwy gydweithio â Llywodraeth Cymru, DEFRA, Asiantaeth yr Amgylchedd, Natural England, Ofwat a’r Arolygiaeth Dŵr Yfed. |
Mae rheoleiddio cryf a blaengar yn amddiffyn cymunedau, yn diogelu byd natur, yn amddiffyn cymunedau, ac yn sail i dwf economaidd hirdymor. |
|
Cyflawni'r Rhaglen Mynd i'r Afael â Throseddau Gwastraff: amharu ar droseddau gwastraff cyfundrefnol drwy ymyrraeth amlasiantaethol wedi’i harwain gan gudd-wybodaeth. |
Oherwydd bod atal troseddau gwastraff yn amddiffyn cymunedau, yn lleihau niwed amgylcheddol, ac yn sicrhau rheoli gwastraff teg a chydymffurfiol. |
|
Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a DEFRA: i ddatblygu olrhain gwastraff digidol a rhannu data trawsffiniol, er mwyn deall llif gwastraff a helpu i nodi gweithgarwch anghyfreithlon yn gynharach. |
Mae rheoleiddio gwastraff effeithiol yn sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n gyfrifol, gan leihau llygredd, gwella llesiant, a chefnogi economi gylchol fwy cynaliadwy. |
Amcan llesiant: Sut rydym yn gweithio
Y deilliant yr ydym am ei gyflawni erbyn 2030
Erbyn 2030, bydd CNC yn gweithio gyda mwy o eglurder, hyder a phwrpas. Bydd ein pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u grymuso, bydd ein gwasanaethau'n cael eu symleiddio ac yn haws eu defnyddio, bydd ein cwsmeriaid yn teimlo eu bod yn cael eu hymgysylltu â nhw, a bydd ein penderfyniadau'n amserol, yn seiliedig ar dystiolaeth dda, ac yn dryloyw. Bydd cyfathrebu a chydweithio yn cryfhau ein perthnasoedd a'n dylanwad, a bydd tystiolaeth yn llywio penderfyniadau y tu mewn a'r tu allan i'r sefydliad. Bydd arweinyddiaeth a diwylliant yn grymuso ein pobl i ddefnyddio eu harbenigedd i lunio deilliannau gwell ar draws meysydd adfer natur, gwydnwch hinsawdd a lleihau llygredd.
Yr hyn y byddwn yn ei gyflwyno eleni
Yn 2026-27, byddwn yn cryfhau'r sylfeini sefydliadol sy'n ein galluogi i gyflawni dros fyd natur, yr hinsawdd a llygredd. Blwyddyn drawsnewid yw hon pan fyddwn yn ymgorffori'r arferion, y systemau a'r arweinyddiaeth sydd eu hangen ar gyfer dull sy'n canolbwyntio'n llawn ar ddeilliannau. Bydd y camau gweithredu hyn yn ein helpu i ddysgu, gwella ein gwasanaethau, a chynyddu ein heffaith. Byddwn yn gwneud y canlynol:
- Cryfhau arweinyddiaeth a diwylliant a phrofiad cydweithwyr drwy ymgorffori Arwain Gyda'n Gilydd, gwella sefydlu rheoli pobl, cyflawni'r arolwg staff Ein Llais nesaf, a hyrwyddo ein hymrwymiadau i gydraddoldeb, diogelwch a llesiant.
- Moderneiddio ein gwasanaethau digidol, data a thechnoleg drwy sefydlogi systemau craidd, gwella dibynadwyedd a mynediad, a gwella platfformau cwsmeriaid, gan ddechrau gyda thrwyddedu morol.
- Ymgorffori dull sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau at gynllunio ac adnoddau drwy integreiddio cynllunio busnes, cyllid a’r gweithlu â chynllunio gwasanaethau a lleoedd, a sefydlu ein dull cyllid gwyrdd.
- Gwella ansawdd, argaeledd, a defnydd tystiolaeth drwy gynnal adolygiad monitro daearol o'r dechrau i'r diwedd, cryfhau gallu Arsylwi'r Ddaear, gwella mynediad at ddata trydydd parti, a chymhwyso mewnwelediadau Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 ar draws ein gwaith a'n heiriolaeth.
Gyda'i gilydd, bydd y camau gweithredu hyn yn cryfhau ein sylfeini, yn gwella ein heffeithiolrwydd, ac yn sicrhau y gallwn gyflawni gyda mwy o eglurder, hyder ac effaith yn y flwyddyn i ddod.
Sut y byddwn yn galluogi eraill ledled Cymru
Byddwn yn helpu eraill i weithredu gyda mwy o hyder drwy wella mynediad at dystiolaeth, moderneiddio ein gwasanaethau, a chryfhau sut rydym yn cyfathrebu ac yn gweithio gyda phartneriaid. Bydd y gwelliannau hyn yn cefnogi gweithredu mwy cydlynol a gwybodus ar natur, yr hinsawdd a llygredd ledled Cymru. Ein hymrwymiadau eleni fydd:
- Helpu partneriaid a rhanddeiliaid i wneud penderfyniadau mwy hyderus a gwybodus drwy ddarparu tystiolaeth gliriach, mynediad gwell at ddata trydydd parti, a mewnwelediadau cryfach o Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 i gefnogi gweithredu cydlynol ar natur, yr hinsawdd a llygredd.
- Gwella hyder cwsmeriaid a’u profiad o wasanaethau drwy foderneiddio platfformau digidol, gan ddechrau gyda thrwyddedu morol, a chymhwyso dysgu i wella hygyrchedd, amseroldeb ac eglurder gwasanaethau eraill CNC.
- Cryfhau cydweithio a dealltwriaeth a rennir ledled Cymru drwy gyfathrebu mwy cyson a thryloyw, ymgysylltu wedi'i dargedu, a gwelededd arweinyddiaeth gwell, gan helpu partneriaid i lywio heriau amgylcheddol cymhleth.
- Galluogi gwell penderfyniadau cynllunio a buddsoddi drwy ymgorffori fframwaith cynllunio a pherfformiad sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau ac sy'n alinio cynllunio busnes, cyllid, gweithlu, gwasanaeth a lle, a thrwy ddatblygu dulliau megis cyllid gwyrdd sy'n datgloi cyfleoedd newydd ar gyfer cyflawni.
Gyda'i gilydd, bydd y camau gweithredu hyn yn cryfhau cydweithio, yn gwella ansawdd y penderfyniadau a wneir ledled Cymru, ac yn helpu partneriaid i weithredu gyda mwy o hyder a chyflymder.
Sut y byddwn yn mesur cynnydd
Tabl 4: Ymrwymiadau blynyddol - Sut rydym yn gweithio
| Disgrifiad | Pam mae hyn yn bwysig? |
|---|---|
|
Cyflwyno arolwg staff Ein Llais nesaf: i gryfhau mewnwelediad i berfformiad a diwylliant. |
Oherwydd bod deall profiad cydweithwyr yn ein helpu i fod yn sefydliad gofalgar ac adeiladu gweithlu brwdfrydig ac ymgysylltiedig. |
|
Ymgorffori arweinyddiaeth gyson o ansawdd uchel: trwy Arwain Gyda'n Gilydd a gwella'r broses sefydlu ar gyfer Rheoli Pobl. |
Mae arweinyddiaeth gref yn galluogi timau i weithio'n hyderus ac yn adnoddol, gan alluogi timau i berfformio ar eu gorau. |
|
Cryfhau Gwasanaethau Pobl drwy:
|
Oherwydd bod gweithleoedd teg, diogel a chynhwysol yn dangos ein bod ni'n ofalgar ac yn sicrhau bod cydweithwyr yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi. |
|
Datblygu ein dull o adeiladu gweithlu ystwyth: cefnogi datblygu sgiliau, gyrfaoedd, a chynllunio ar gyfer olyniaeth. |
Mae gweithlu medrus a hyblyg yn ein helpu i fod yn feiddgar ac yn ddyfeisgar ac ymateb yn effeithiol i heriau'r dyfodol. |
|
Datblygu a gweithredu cynllun cyflawni tryloyw, wedi'i flaenoriaethu ar gyfer sefydlogi a thrawsnewid y Gwasanaeth Digidol, Data a Thechnoleg: er mwyn sbarduno gwelliannau yn effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ein gwasanaethau. |
Mae systemau digidol modern a hygyrch yn helpu cydweithwyr i weithio'n effeithlon a gwella profiad cwsmeriaid. |
|
Gwella’r platfform cwsmeriaid: ac ymestyn y dull Trwyddedu Morol i wasanaethau eraill CNC. |
Mae gwasanaethau cliriach a mwy hygyrch yn gwella amseroldeb y broses o wneud penderfyniadau, gan gryfhau ymddiriedaeth a'n helpu i aros mewn cysylltiad â chwsmeriaid a phartneriaid. |
|
Gwella prosesau trwyddedu rhywogaethau a thorri coed: drwy gynnal adolygiad o'r dechrau i'r diwedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. |
Oherwydd bod trwyddedu symlach yn gwella amseroldeb y broses i wneud penderfyniadau, yn cefnogi'r cwsmer, ac yn helpu i ddiogelu bioamrywiaeth. |
|
Ymgorffori'r Fframwaith Cynllunio a Pherfformiad sy'n Canolbwyntio ar Deilliannau: integreiddio cynllunio busnes, cyllid a strategol ar gyfer y gweithlu â'r cynllun aml-flwyddyn a chynllunio gwasanaethau a lleoedd. |
Mae cynllunio cydlynol yn cryfhau ein gallu i ddangos effaith, defnyddio adnoddau'n dda, a dangos gwerth am arian. |
|
Sefydlu ein dull ar gyfer cyllid gwyrdd: i nodi mecanweithiau ariannol sy'n barod i fuddsoddwyr a datgloi cyllid newydd. |
Oherwydd bod denu buddsoddiad newydd yn helpu i gyflymu graddfa a chyflymder cyflawni ar gyfer byd natur, yr hinsawdd a chymunedau. |
|
Gweithredu adolygiad gwasanaeth monitro daearol o'r dechrau i'r diwedd: i ddarparu tystiolaeth a mewnwelediadau ar gyflwr cynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig ac effeithiolrwydd rheoli safleoedd gwarchodedig. |
Mae tystiolaeth ddibynadwy yn ein helpu i ddeall newid, gwella’r broses o wneud penderfyniadau, a dangos cynnydd tuag at 30x30. |
|
Defnyddio tystiolaeth a mewnwelediadau Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025: i gryfhau ein heiriolaeth a'n hymgysylltiad â phartneriaid. |
Mae tystiolaeth glir, ddibynadwy yn helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau, cefnogi partneriaid, a gyrru camau gweithredu cydlynol ledled Cymru. |
Ein cyllid ar gyfer 2026-27
Mae ein cyllid yn ein galluogi i gyflawni ein cyfrifoldebau statudol a chefnogi uchelgeisiau amgylcheddol hirdymor Cymru. Yn 2026-27, bydd ein grant cymorth refeniw yn cynyddu £8.8 miliwn i £151.5 miliwn, ochr yn ochr â £7.3 miliwn mewn grantiau penodol ar gyfer adfer byd natur, gweithredu ar yr hinsawdd, diogelwch tomenni glo, diwygio gwastraff, ac ansawdd dŵr.
Byddwn yn parhau i ddefnyddio ffynonellau incwm amrywiol: £48.4 miliwn o grantiau Llywodraeth Cymru, £8.6 miliwn gan gyllidwyr allanol, £60.8 miliwn o weithgarwch masnachol (gan gynnwys £35.6 miliwn mewn pren), a £51.2 miliwn o daliadau a reoleiddir.
Er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl, bydd £3 miliwn o gyllid parhaol yn cefnogi bioamrywiaeth, ansawdd dŵr a deilliannau trawsbynciol. Mae gweinidogion hefyd wedi ymrwymo £2.7 miliwn mewn cyfalaf ar gyfer trawsnewid gwasanaethau digidol, data a thechnoleg, gan gynnwys gwelliannau i lwyfannau cwsmeriaid.
Mae pwysau o ran cyfalaf yn parhau i fod yn sylweddol. Eleni, mae £11.9 miliwn wedi'i ddyrannu i brosiectau adeiladau hanfodol a lesoedd newydd. Dim ond rhan o'r cyllid sydd ei angen fydd blaenoriaethau eraill, gan gynnwys uwchraddio gwasanaethau digidol, data a thechnoleg a phontio i fflyd drydan, yn ei chael, a byddwn yn parhau i archwilio opsiynau i lenwi’r bylchau hyn. Bydd rhaglenni llifogydd, yr argyfyngau natur a hinsawdd, cronfeydd dŵr, a thomenni glo yn parhau i gael eu hariannu yn ôl yr angen a aseswyd.
Atodiad 1: Olrhain ein cynnydd hyd at 2030
Tabl 1: Metrigau tueddiadau - Amcan llesiant natur
| Disgrifiad | Llwybr | Pam mae hyn yn bwysig? |
|---|---|---|
|
Mae'r broses cynllunio datblygu yn cynnal lefel gwasanaeth o 98% ar gyfer ymatebion amserol gan ymgynghoreion statudol. |
Sefydlog |
Oherwydd bod ymatebion amserol yn sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn ystyried natur o'r cychwyn cyntaf ac yn atal oedi i ddatblygu economaidd a chymdeithasol cynaliadwy. |
|
Nifer y SoDdGAau sy’n cael hysbysiad neu ail hysbysiad. |
Cynnydd |
Oherwydd bod ehangu a diweddaru ardaloedd gwarchodedig yn hanfodol i wella cyflwr a chydnerthedd cynefinoedd pwysicaf Cymru. |
|
Arwynebedd y tir yn ein gofal a gynigiwyd ar gyfer statws Naturfa (gwarchodaeth ofodol ar gyfer natur y tu allan i ddynodiadau ffurfiol). |
Cynnydd |
Mae cynyddu gwarchodaeth ofodol y tu allan i ddynodiadau ffurfiol yn cryfhau rhwydweithiau ecolegol ac yn cefnogi adferiad natur hirdymor. |
|
Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn darparu cynlluniau rheoli safleoedd gwarchodedig i wella eu cyflwr. |
Cynnydd |
Mae'r gwaith o reoli safleoedd wedi'i dargedu yn gwella cyflwr ardaloedd gwarchodedig ac yn cyflawni enillion bioamrywiaeth mesuradwy ar lawr gwlad. |
|
Cyflawni ymyriadau rheoli â blaenoriaeth ar draws 100 o safleoedd gwarchodedig ar y tir. |
Cynnydd |
Mae cyflawni ymyriadau â blaenoriaeth yn gwella cyflwr a gwydnwch safleoedd gwarchodedig, gan gefnogi adferiad byd natur hirdymor. |
|
Dealltwriaeth o effeithiolrwydd rheoli safleoedd gwarchodedig. |
Cynnydd |
Mae deall effeithiolrwydd rheoli yn helpu i dargedu camau gweithredu, gwella cyflwr safleoedd, a chryfhau deilliannau amgylcheddol hirdymor. |
|
Canran y cerrig milltir a gyflawnwyd i wella cyflwr y rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig. |
Cynnydd |
Mae cyflawni cerrig milltir y rhaglen yn sbarduno camau cydlynol i wella cyflwr a chysylltedd y rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig. |
|
Cynnydd o ran cyflawni camau adfer afonydd â blaenoriaeth. |
Cynnydd |
Mae adfer cynefinoedd afonydd â blaenoriaeth yn gwella ansawdd dŵr ac yn cryfhau cysylltedd cynefinoedd, gan gefnogi ecosystemau afonydd iachach a mwy gwydn. |
|
Nifer y safleoedd coetir a fydd yn dod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru. |
Cynnydd |
Oherwydd bod ehangu'r Goedwig Genedlaethol yn cryfhau rhwydweithiau coetiroedd, yn gwella ansawdd cynefinoedd, ac yn cynyddu buddion hirdymor i fyd natur, yr hinsawdd a chymunedau. |
|
Cyfran o gontractau a fframweithiau perthnasol CNC sy'n cynnwys gofynion penodol ar gyfer bioamrywiaeth neu adfer byd natur, gyda thystiolaeth o weithredu. |
Cynnydd |
Oherwydd bod dylanwadu ar gadwyni cyflenwi yn ymestyn ein heffaith y tu hwnt i'n gweithrediadau uniongyrchol ac yn ysgogi budd amgylcheddol a chymdeithasol ehangach. |
|
Hamdden ar y tir yn ein gofal: cyfran a nifer y caniatadau a roddwn ar gyfer gweithgareddau ar y tir yn ein gofal o fewn yr amserlenni targed, gyda thueddiadau yn y math o ganiatâd a roddir. |
Cynnydd |
Oherwydd bod ehangu mynediad teg a chynaliadwy yn helpu mwy o unigolion i brofi byd natur ac yn cefnogi buddion llesiant cymunedol ehangach. |
Tabl 2: Metrigau tueddiadau - Amcan llesiant hinsawdd
| Disgrifiad | Llwybr | Pam mae hyn yn bwysig? |
|---|---|---|
|
Hectarau o fawndir y gwnaed gweithgarwch adfer iddo erbyn diwedd 2026-27. |
Cynnydd |
Mae gwaith adfer mawndir yn storio carbon, yn gwella bioamrywiaeth, ac yn lleihau risgiau hinsawdd. |
|
Cyflawni camau gweithredu o fewn y cynlluniau adfer morwellt a morfa heli drwy ymgysylltu'n rhagweithiol â phartneriaethau perthnasol. |
Cynnydd |
Mae adfer cynefinoedd arfordirol yn cynyddu faint o garbon sy’n cael ei storio, yn cefnogi bywyd gwyllt, ac yn amddiffyn arfordiroedd. |
|
Dealltwriaeth o berygl llifogydd: eiddo sydd wedi'u cwmpasu gan fodelau llifogydd lleol o'u cymharu â modelau llifogydd cenedlaethol ar gyfer perygl llifogydd o afonydd a'r môr. |
Cynnydd |
Mae modelau lleol mwy manwl yn gwella dealltwriaeth o berygl llifogydd ac yn cryfhau cynllunio at argyfyngau. |
|
Asedau llifogydd CNC mewn systemau perygl llifogydd uchel yn y cyflwr gofynnol neu uwchlaw'r cyflwr hwnnw. |
Sefydlog |
Oherwydd bod asedau sydd wedi'u cynnal a'u cadw'n dda yn lleihau tebygolrwydd a difrifoldeb llifogydd. |
|
Parodrwydd ar gyfer llifogydd: eiddo a allai gofrestru i gael rhybudd am lifogydd (cwmpas). |
Cynnydd |
Oherwydd bod cwmpas ehangach yn cynyddu parodrwydd ac yn lleihau niwed pan fydd llifogydd yn digwydd. |
|
Parodrwydd ar gyfer llifogydd: eiddo sydd wedi'u cofrestru i gael rhybudd am lifogydd (nifer yr unigolion sy’n cofrestru am y gwasanaeth). |
Cynnydd |
Oherwydd bod mwy o unigolion yn cofrestru yn sicrhau bod mwy o gymunedau yn cael rhybuddion amserol ac yn gallu gweithredu. |
|
Amrywiaeth o rywogaethau coed a ddefnyddir yn ein rhaglenni ailstocio. |
Cynnydd |
Mae amrywio rhywogaethau coed yn cryfhau gwytnwch yn erbyn plâu, clefydau ac effeithiau hinsawdd yn ogystal â gwella bioamrywiaeth. |
|
Camau addasu a gyflawnwyd: Rheoli risgiau hinsawdd drwy gamau blaenoriaeth yng Nghynllun Addasu Newid Hinsawdd CNC. |
Cynnydd |
Mae cyflawni camau addasu yn cryfhau gwydnwch sefydliadol ac amgylcheddol i effeithiau hinsawdd. |
|
Cyfanswm y ganran allyriadau sefydliadol a chyfanswm y gostyngiad mewn allyriadau yn erbyn llinell sylfaen 2019-20. |
Gostyngiad |
Oherwydd bod lleihau allyriadau yn hanfodol ar gyfer cyrraedd targedau sero net Cymru a lleihau’r effaith amgylcheddol. |
|
Canran y gostyngiad mewn allyriadau gweithredol yn erbyn llinell sylfaen 2019-20. |
Gostyngiad |
Mae lleihau allyriadau gweithredol yn dangos arweinyddiaeth ac yn lleihau ôl troed carbon CNC. |
|
Ynni adnewyddadwy: Cynnydd o ran galluogi cynlluniau ynni adnewyddadwy ar y tir yn ein gofal. |
Cynnydd |
Mae cefnogi datblygiadau ynni adnewyddadwy yn helpu cymunedau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac yn cyflymu'r broses o bontio i ddefnydd isel o garbon. |
|
Cynaeafu pren yn gynaliadwy: pren a ddygir i'r farchnad. |
O fewn yr ystod a ddiffiniwyd yn y Strategaeth Twf a Gwerth |
Oherwydd bod cynhaeaf cynaliadwy yn cefnogi addasu i'r hinsawdd drwy wella gwydnwch a chyflwr ein coedwigoedd wrth gyfrannu at economi carbon isel Cymru a darparu buddion hirdymor i fyd natur a phobl. |
|
Cadwyn gyflenwi CNC: cyfran y contractau perthnasol sy'n cynnwys adrodd am garbon ac ymgysylltu'n weithredol â chyflenwyr, gyda gwelliant o flwyddyn i flwyddyn mewn allyriadau cadwyn gyflenwi yr adroddir amdanynt. |
Cynnydd |
Oherwydd bod dylanwadu ar gadwyni cyflenwi yn cefnogi gostyngiadau allyriadau ehangach y tu hwnt i weithrediadau uniongyrchol CNC. |
Tabl 3: Metrigau tuedd - Amcan llesiant llygredd
| Disgrifiad | Llwybr | Pam mae hyn yn bwysig? |
|---|---|---|
|
Penderfynu ar bob cais am drwydded a ddaeth i law o fewn yr amserlenni statudol neu'r lefelau o wasanaeth y cytunwyd arnynt. |
Cynnydd |
Mae penderfyniadau trwyddedu amserol yn cefnogi gweithgarwch economaidd cyfrifol wrth amddiffyn byd natur a chymunedau rhag niwed. |
|
Cynnal gweithgarwch cydymffurfio ar draws pob cyfundrefn reoleiddio yn unol â gofynion y Cynllun Gwasanaeth Rheoleiddio. |
Cynnydd |
Mae gwiriadau cydymffurfio rheolaidd yn helpu i atal llygredd, diogelu'r amgylchedd, a chynnal safonau teg i fusnesau. |
|
Cymryd camau gorfodi priodol mewn ymateb i weithgarwch anghyfreithlon, diffyg cydymffurfio â thrwyddedau a digwyddiadau yn unol â'n hopsiynau ymateb i droseddau. |
Cynnal |
Oherwydd bod gorfodi effeithiol yn atal ymddygiad niweidiol, yn amddiffyn ecosystemau, ac yn cynnal llesiant cymunedol. |
|
Monitro’r gwaith o gyflawni gwelliannau'r Cynllun Amgylchedd Cenedlaethol gan gwmnïau dŵr. |
Cynnydd |
Mae olrhain cynnydd yn sicrhau bod gwelliannau addawedig o fudd i afonydd, bywyd gwyllt, a'r unigolion sy'n dibynnu ar wasanaethau dŵr dibynadwy. |
|
Cyflwyno ymchwiliadau wedi'u diweddaru i wella ein dealltwriaeth o achosion methiant cyrff dŵr – Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. |
Cynnydd |
Mae asesiadau da yn darparu'r dystiolaeth ddibynadwy sydd ei hangen i adfer iechyd afonydd, amddiffyn bywyd gwyllt, a chefnogi'r cymunedau a'r busnesau sy'n dibynnu ar ddŵr glân a diogel. |
|
Rheoli digwyddiadau: Nifer y digwyddiadau categori ‘uchel’ cychwynnol fel cyfran o'r holl ddigwyddiadau yr adroddwyd amdanynt. |
Cynnal |
Oherwydd bod deall maint digwyddiadau difrifol yn ein helpu i dargedu camau gweithredu i leihau niwed i fyd natur a chymunedau. |
|
Rheoli digwyddiadau: Mae'r dosbarthiad digwyddiad cychwynnol wedi'i gadarnhau. |
Cynnal |
Oherwydd bod dosbarthu’n gywir yn sicrhau'r ymateb cywir, gan ddiogelu'r amgylchedd yn well a chynyddu hyder y cyhoedd. |
|
Rheoli digwyddiadau: Ymateb i bob digwyddiad categori ‘uchel’ o fewn pedair awr. |
Cynnal |
Mae ymateb cyflym yn lleihau difrod amgylcheddol ac yn helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd a llesiant lleol. |
|
Rheoli digwyddiadau: Digwyddiadau categori ‘uchel’ ailadroddus yn yr un lleoliad fel canran o’r digwyddiadau categori ‘uchel’ sydd wedi'u cadarnhau. |
Lleihau |
Oherwydd bod lleihau nifer y digwyddiadau ailadroddus yn dangos yr eir i’r afael â risg hirdymor a bod amgylcheddau lleol yn dod yn fwy diogel. |
|
Caffael: Cyfran o gontractau perthnasol CNC sy'n cynnwys gofynion i atal llygredd a lleihau gwastraff. |
Cynnydd |
Oherwydd bod dylanwadu ar ein cadwyn gyflenwi yn cryfhau mesurau diogelu'r amgylchedd ac yn cefnogi arferion economaidd mwy cynaliadwy. |
Tabl 4: Metrigau tueddiadau - Amcan llesiant sut rydym yn gweithio
| Disgrifiad | Llwybr | Pam mae hyn yn bwysig? |
|---|---|---|
|
Nifer y lleoliadau (prentisiaid, graddedigion/myfyrwyr). |
Cynnydd |
Oherwydd bod meithrin talent ar ddechrau gyrfa yn ein helpu i gryfhau gallu yn y dyfodol. |
|
Sgwrs: Mae cydweithwyr yn cael sgyrsiau ynghylch perfformiad a datblygiad gweithredol gan ddefnyddio Sgwrs. |
Cynnydd |
Mae sgyrsiau rheolaidd yn ein helpu i ddysgu, gwella sut rydym yn gweithio, a chynyddu ein heffaith sefydliadol. |
|
Ymddiriedaeth rhanddeiliaid: Arolygon pwls rhanddeiliaid chwarterol. |
Cynnydd |
Oherwydd bod deall barn rhanddeiliaid yn ein helpu i ddysgu ble i wella a darparu gwasanaethau sy'n meithrin ymddiriedaeth. |
|
Cyfathrebu: cyfran y sylw yn y wasg sy'n cynnwys straeon a negeseuon allweddol CNC. |
Cynnydd |
Mae olrhain ein negeseuon yn ein helpu i ddeall pa mor dda yr ydym yn cyrraedd unigolion ac yn caniatáu inni wella sut yr ydym yn egluro ein heffaith. |
|
Gwasanaeth cwsmeriaid: Canran y ceisiadau cwsmeriaid yr ymatebwyd iddynt o fewn safon gwasanaeth ddiffiniedig. |
Cynnydd |
Mae rheolaethau seiber cryfach yn ein helpu i amddiffyn ein data, cynnal gwasanaethau diogel a dibynadwy, a dysgu ble mae angen gwella gwydnwch. |
|
Seiberddiogelwch: Systemau digidol, data a thechnoleg diogel a gwydn. |
Cynnydd |
Stronger cyber controls help us protect our data, maintain safe and reliable services and learn where resilience needs to improve. |
|
Defnyddio’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol wrth wneud penderfyniadau allanol: nifer y cynlluniau, y polisïau neu’r achosion buddsoddi gan bartneriaid sy’n cyfeirio at dystiolaeth o’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol. |
Cynnydd |
Mae olrhain pwy sy'n defnyddio’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn ein helpu i ddeall ei gyrhaeddiad a sut mae'n llywio penderfyniadau ledled Cymru. |
|
Tystiolaeth forol: tystiolaeth a gasglwyd ynghylch rhywogaethau a chynefinoedd penodol drwy ymchwiliadau Rhwydweithiau Natur Forol. |
Cynnydd |
Oherwydd bod tystiolaeth well yn ein galluogi i wneud penderfyniadau a gweithredu yn fwy effeithiol i adfer ecosystemau morol ac amddiffyn rhywogaethau sy'n agored i niwed. |