Cynllun Adnoddau Coedwig Bwlchgwallter a Hafod - Cymeradwywyd 13 Mehefin 2017
Lleoliad ac ardal
Lleolir coedwigoedd Bwlchgwallter a Hafod yn nyffryn Ystwyth, i'r de-ddwyrain o Aberystwyth. Yn draddodiadol (mewn cynlluniau yn y gorffennol), mae'r coedwigoedd hyn wedi'u rhannu'n ddau gynllun gwahanol. Yn awr, rydym wedi'i chydnabod fel un ardal goedwigaeth o 593 o hectarau (gweler y map isod).
Mae'r coedwigoedd o fewn Awdurdod Cynllunio Cyngor Sir Ceredigion. Mae coedwig Hafod yn amlwg iawn ac mae llawer ohoni'n Barc a Gardd Hanesyddol dynodedig a chaiff ei rheoli mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Hafod. Mae llethrau is gogleddol coedwig Bwlchgwallter hefyd yn amlwg iawn ac yn ddynodedig, ond mae mwyafrif y goedwig yn llai amlwg.
Mae'r rhain yn goedwigoedd eithaf cynhyrchiol o ran pren; mae'r priddoedd a'r hinsawdd yn dda ar uchderau is ac yn salach ar uchderau uwch, ond maent yn bennaf yn addas ar gyfer tyfu ystod eang o rywogaethau coed. Sbriws a geir yn y goedwig yn bennaf, ond hefyd pinwydd, ffynidwydd, a llarwydd. Hyd yn hyn, nid yw Phytophthora ramorum wedi cael llawer o effaith ar larwydd yn yr ardal, ond cytunir y bydd angen gwaredu'r rhywogaeth hon yn y blynyddoedd sydd i ddod fel rhan o'r rhaglen gyfnewid llarwydd sy'n cael ei gweithredu ar hyn o bryd.
Dynodir bod tua 153 hectar o'r ardal gynllun yn goetir hynafol, mewn cyflwr ecolegol sy'n amrywio o goetir hynafol a lled-naturiol i ardaloedd sylweddol o blanhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol ac iddynt ychydig olion yn weddill. Mae AGA, ACA a SoDdGA Elenydd i'r de-ddwyrain o'r coedwigoedd. Mae'r safle ucheldirol mawr hwn hefyd yn cynnwys coedwig Bwlchgwallter, ac mae oddeutu 422 hectar o'r AGA a'r SoDdGA o fewn ffin y goedwig. I'r gogledd-orllewin o'r ardal gynllun, mae SoDdGA Cae'r Meirch a SoDdGA Gro Ystwyth.
Mae nifer o nodweddion archeolegol wedi cael eu dynodi'n Henebion Rhestredig, yn ogystal â strwythurau eraill naturiol ac artiffisial o bwys hanesyddol, mewn perthynas â'r llwybrau Johnesaidd, sy'n cyfrannu at nodweddion ‘darluniadwy’ Hafod a'r dirwedd o amgylch. Mae hefyd nifer o olion nodweddion amaethyddol a diwydiannol megis ffermydd, waliau a lefelau drwy'r goedwig i gyd.
Mae dalgylchoedd dŵr sy'n methu (statws canolig o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) sy'n cynnwys y coedwigoedd, yn arbennig oherwydd asideiddio. Mae hanes o wella glannau afonydd ac ymylon cronfeydd dŵr dros y 15 i 20 mlynedd diwethaf, o ran tynnu conwydd a gwella cynefinoedd, ond mae angen rhagor o waith o hyd.
Mae natur agored iawn rhannau uchaf coedwig Bwlchgwallter yn cynnig rhai heriau o ran rheolaeth. Mae cryn dipyn o'r goedwig yn ymylol o ran ei photensial ar gyfer rheolaeth Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith (LISS) oherwydd ei gwyntogrwydd a'i phriddoedd, er bod gan y rhan fwyaf o Hafod botensial da ar gyfer Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith. Bydd angen sylw cynnar ar nifer o gnydau a effeithiwyd gan y gwynt yn ddiweddar.
Gwneir defnydd hamdden canolig (i uchel yn y tymor brig) o Hafod ac uchderau is Bwlchgwallter – o gwmpas y groto, rhaeadrau Bwlchgwallter a Dologau. Mae nifer o hawliau tramwy sy'n cael eu hyrwyddo (trwy gyfrwng Cyngor Sir Ceredigion) yn rhedeg trwy'r goedwig, sy'n cysylltu'r goedwig â chymunedau cyfagos a llwybrau o bellteroedd hwy. Hefyd mae amrywiaeth o lwybrau ychwanegol caniataol sy'n cael eu hyrwyddo ac sydd wedi eu harwyddo gan Gyfoeth Naturiol Cymru y gellir eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau hamdden gan gynnwys cerdded, rhedeg, beicio a marchogaeth. Mae ychydig dan hanner yr holl ymwelwyr â'r goedwig yn dwristiaid. Caiff ardaloedd o amgylch Dologau a Phont Melyn eu hyrwyddo ar gyfer nofio gwyllt (llyfr Wild Swimming Wales)
Map o’r ardal
Crynodeb o'r amcanion
- Rheoli ar gyfer dŵr – parhau i wella cynefinoedd glannau afon, gan gynnwys lleihau'n raddol yr angen am weithrediadau cynaeafu coedwig yn llawer o'r tiriogaethau serth anodd sy'n gysylltiedig â'r cyrsiau dŵr hyn. Sefydlu fframwaith o gynefinoedd brodorol yn bennaf, cysylltu coetiroedd hynafol presennol, helpu i wella ansawdd dŵr, a lleihau'r risg y bydd gweithrediadau coedwigaeth yn effeithio ar waddodi dŵr.
- Parhau i gynhyrchu pren – mae rhannau o'r ardal gynllun yn goedwigoedd pren cynhyrchiol sy'n dwyn cnwd uchel. Mae potensial ar gyfer arallgyfeirio ledled yr ardal gynllun, a bydd cynnal y cynhyrchiant hwn yn parhau'n flaenoriaeth, ond gan sicrhau bod amrywiaeth strwythurol a rhywogaethol yn cael ei chyflwyno.
- Systemau rheoli – ar dir agored a serth sy'n cyfyngu ar gyfleoedd i reoli'r goedwig. Dylai’r systemau rheoli a ddewisir fod yn briodol i’r safle a dylent hyrwyddo arferion rheoli coedamaeth da.
- Mae llawer o goedwig Bwlchgwallter yn gnydau conwydd ail gylchdro, ac mae ardaloedd mawr sy'n agosáu at eu cyfnod ymyriad teneuo cyntaf, a fydd yn cefnogi datblygu Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith ac yn lleihau'r angen i lwyrgwympo ar raddfa fawr yn y dyfodol, ac a fydd yn helpu o ran datblygu amrywiaeth strwythurol yn y goedwig.
- Dylid amddiffyn a gwella cynefinoedd allweddol, fel ardaloedd agored, ardaloedd dwysedd is ger y SoDdGA a'r ACA ac ardaloedd y glannau.
- Dylai’r gwaith o reoli'r goedwig fod yn ystyriol o leoliad hanesyddol y goedwig a'r potensial cynyddol i gynnig mynediad i'r cyhoedd i'r goedwig, ac i'w defnyddio at ddibenion hamdden. Bydd hyn yn cysylltu ag amcanion eraill a allai gynnwys amrywio'r goedwig a phlaniadau brodorol ac amwynder, lle bo hynny'n briodol yng nghyd-destun coedamaeth.
Mapiau
Map systemau rheoli coedwigoedd
Map cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol
Map gweithgardeddau cynaeafu 10 mlynedd
Os oes gennych sylwadau neu adborth yn ymwneud â Chynllunio Adnoddau Coedwigoedd, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwigoedd ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk