Cynllun Adnoddau Coedwig Sir Benfro - Cymeradwywyd 28 Ebrill 2020
Lleoliad a safle
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Sir Benfro yn cwmpasu 518 hectar o goetiroedd mewn lleoliadau ar draws Sir Benfro. Y rhandir mwyaf gogleddol yw Farthings Hook (Felindre), gyfagos i gronfa ddŵr Llys y Frân. Ym mhen pellaf afon Cleddau Ddu mae pedwar rhandir Canaston, ac i’r gogledd orllewin mae Cas-wis. Mae coed Benton i’r gorllewin o brif afon Cleddau, gan edrych dros yr afon ar Lawrenni.
Mae mwyafrif y coetiroedd wedi’u dosbarthu’n Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol ac yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae’r coetiroedd yn adnodd sylweddol a ran hamdden ac ecoleg yn Sir Benfro ac maent â chyswllt agos â’r dirwedd ehangach.
Amcanion o ran Coedwigoedd Sir Benfro
- Sicrhau ei bod yn haws mynd i Goed Toch fel y gellir adfer Planhigfa ar Safle Coetir Hynafol a thynnu coed llarwydd sydd wedi’u heintio â Phytophthora ramorum.
- Parhau i wella statws coetiroedd y Rhestr Coetiroedd Hynafol (AWI) a rheoli rhywogaethau goresgynnol fel y goeden lawrgeirios a’r rhododendron wyllt, sy’n bygwth y coetir brodorol a geir yno.
- Sicrhau bod gweithrediadau coedwig yn cael eu cynnal ar adegau sy’n sensitif i’r rhywogaethau a geir yno, ynghyd ag amodau’r pridd a’r tywydd.
- Sicrhau bod poblogaethau ystlumod yn cael eu diogelu drwy sicrhau bod llwybrau hedfan yn cael eu cadw. Rhaid i goed ymyl ffordd yng Nghoed Toch (ac eithrio llarwydd) gael eu cadw.
- Parhau i gynnal ymyriadau teneuo er mwyn hwyluso'r gwaith o adfer Planhigfa ar Safle Coetir Hynafol a chynnal cyflenwad o bren i'r farchnad.
- Rheoli dirywiad y coed ynn sydd wedi'u heintio â Chalara fraxinea:
- Tynnu coed peryglus a manteisio ar y cyfle i gynaeafu pren cyn iddo ddirywio
- Dylid dewis a chadw sbesimenau a allai wrthsefyll yr haint
- Dylai pren marw sydd wrth gefn gael ei gadw mewn ardaloedd anhygyrch
- Parhau i gyfathrebu â rhanddeiliaid i roi gwybodaeth a sicrwydd ynghylch cael gwared ar rywogaethau llarwydd.
- Parhau i weithio mewn partneriaeth â grwpiau bywyd gwyllt lleol i fonitro'r rhywogaethau a geir yn y coetiroedd hyn sy'n gyfoethog o ran ecoleg.
- Parhau i hwyluso digwyddiadau yn y goedwig.
- Cynnal ffyrdd coedwig a llwybrau a hyrwyddir, gan gynnwys rheoli ymylon er mwyn cynnal mynediad ar gyfer gwaith rheoli coedwigoedd, y cyhoedd, a bioamrywiaeth.
Mapiau
Amcanion hirdymor
Systemau rheoli coedwigoedd
- Map systemau rheoli coedwigoedd 1
- Map systemau rheoli coedwigoedd 2
- Map systemau rheoli coedwigoedd 3
Dangosol o’r mathau o goedwigoedd
- Map dangosol o’r mathau o goedwigoedd 1
- Map dangosol o’r mathau o goedwigoedd 2
- Map dangosol o’r mathau o goedwigoedd 3
Amcanion rheoli 10 mlynedd
Gweithgardeddau cynaeafu 10 mlynedd
- Map gweithgardeddau cynaeafu 10 mlynedd 1
- Map gweithgardeddau cynaeafu 10 mlynedd 2
- Map gweithgardeddau cynaeafu 10 mlynedd 3
Sylwadau neu adborth
Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk