Polisi prynu pren
O 1 Ebrill 2014, yn unol ag arfer gorau a dull gweithredu Llywodraeth Prydain, mae gennym bolisi newydd ar gyrchu pren.
Beth yw ein polisi?
Mae ein polisi yn golygu mai dim ond o ffynonellau cyfreithlon a chynaliadwy sydd wedi’u dilysu’n annibynnol yr ydyn ni’n prynu pren a chynhyrchion sy’n deillio o bren. Mae’r ffynonellau hyn yn gallu cynnwys partneriaid trwyddedig y broses Forest Law Enforcement, Governance and Trade (FLEGT).
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob pren crai (pren meddal, pren caled tymherus a phren caled trofannol) sydd wedi’i brynu mewn cysylltiad â phrojectau gwaith, yn ogystal â dodrefn swyddfeydd a lloriau tu mewn. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bren solet a chynhyrchion bwrdd fel ei gilydd.
Mae coedlannau cylchdro byr, tanwydd coed, bambŵ, papur a defnyddiau swyddfa wedi’u heithrio o’r polisi hwn, yn ogystal â phren o goedwigoedd yn ein meddiant ni ac sy’n cael eu rheoli gennym.
Gellir prynu pren wedi’i ailgylchu yn hytrach na phren crai ac, yn nhermau hierarchaeth gwastraff, mae defnyddio pren wedi’i ailgylchu yn cael ei hybu.
I bwy y mae’r polisi’n berthnasol?
Mae’r polisi’n berthnasol i staff ar bob lefel sydd â chyfrifoldeb am brynu pren, pa un ai ydy hynny fel rhan o ymarfer tendro ffurfiol, trwy bryniant untro, uniongyrchol gan gyflenwr neu wrth brynu trwy gontractwr gwasanaethau sy’n gweithio ar ein rhan. Mae’r polisi hefyd yn berthnasol i grantiau ariannu pan fo Cyfoeth Naturiol Cymru yn brif gyfrannwr, os bydd hi’n ymarferol glynu wrth y polisi hwn.
Pam y mae angen y polisi hwn arnon ni?
Mae torri a thrin coed yn anghyfreithlon, ynghyd â rheoli coedwigoedd yn anghynaliadwy, bellach yn cael eu cydnabod fel problemau byd-eang. Mae’r arferion hyn yn:
- cyfrannu at ddatgoedwigo byd-eang a newid yn yr hinsawdd
- bygwth difodiant nifer o rywogaethau
- atal cymunedau sy’n dibynnu ar y coedwigoedd rhag cael adnoddau
- tanseilio gwaith cwmnïau pren cyfreithlon sy’n gweithredu mewn modd cyfrifol
- yn dargyfeirio incwm y mae mawr ei angen (trethi a refeniw) oddi wrth lywodraethau, yn arbennig yn y gwledydd datblygol sydd â llawer o goedwigoedd
Er bod hyn yn arbennig o gyffredin yn Ne America, Affrica, De-ddwyrain Asia a Ffederasiwn Rwsia, mae torri a thrin coed yn anghyfreithlon hefyd yn broblem mewn rhai gwledydd yn Ewrop, er enghraifft Gwlad Pwyl ac Estonia.
Pren anghyfreithlon ym Mhrydain
Mae astudiaethau gan yr WWF a Llywodraeth Prydain wedi dangos bod pren wedi’i dorri a’i drin yn anghyfreithlon yn cyrraedd marchnad Prydain.
O ystyried difrifoldeb y mater hwn a’r ffaith ein bod yn sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddefnyddio adnoddau’n gynaliadwy, mae’n bwysig bod gennym bolisi eglur ar y mater hwn.
Egwyddorion allweddol
Rhaid gallu darparu tystiolaeth ar gyfer pob darn o bren rydyn ni’n ei brynu er mwyn dangos ei fod yn dod o ffynhonnell gyfreithlon a chynaliadwy a bod yna gadwyn gyflawn o gystodaeth yn bodoli (sef y gallu i olrhain y pren o’r goedwig nes iddo ein cyrraedd ni).
Mae arweiniad a chyfarwyddiadau gweithredu wedi’u datblygu er mwyn helpu staff i gydymffurfio â’r polisi hwn, ac mae rhaglen hyfforddi wedi’i rhoi ar waith ledled y sefydliad.
Swyddogaethau a Chyfrifoldebau
Y Pennaeth Caffael, sy’n atebol i’r Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Cyllid a Materion Corfforaethol, sy’n gyfrifol am y cydymffurfio cyffredinol â’r polisi hwn.
O ddydd i ddydd, mae unrhyw aelod o staff sy’n gyfrifol am brynu pren (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) hefyd yn gyfrifol am gydymffurfio â’r polisi. Mae hyn yn cynnwys aelodau o staff sy’n gyfrifol am gynghori, cefnogi ac awdurdodi aelodau eraill o staff i brynu pren.
Gwybodaeth berthnasol arall
Mae gwybodaeth ychwanegol am y broses Forest Law Enforcement, Governance and Trade (FLEGT) ar gael gan y Central Point of Expertise on Timber (CPET).
Yn Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun, cysylltwch â procurement.enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk am fwy o wybodaeth.
Mae gwybodaeth ddefnyddiol a chyngor rhad ac am ddim ar gael trwy’r Central Point of Expertise on Timber, sef llinell gymorth sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Prydain:
Ffôn: 01305 236100
Ebost: cpet@efeca.com