Adroddiad blynyddol yr Iaith Gymraeg 2024–2025
Crynodeb gweithredol
Croeso i’n hadroddiad blynyddol ar y Gymraeg ar gyfer 2024-2025. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut rydym wedi gweithredu ein polisi safonau’r Gymraeg a’r gwaith rydym wedi’i wneud i wella ein gwasanaethau iaith Gymraeg yn ystod y flwyddyn adrodd.
Eleni mae’r sefydliad wedi mynd trwy raglen achos dros newid, gan sicrhau bod ein sefydliad mewn sefyllfa dda ac yn wydn i wynebu’r dyfodol. Roedd sgiliau iaith Gymraeg yn ystyriaeth ar gyfer rolau newydd a swyddi gwag a grëwyd o’r gwaith hwn, gydag asesiad effaith ar y Gymraeg wedi’i gwblhau i ddeall pa effaith y gallai’r rhaglen achos dros newid ei chael ar allu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ddarparu gwasanaethau’n ddwyieithog.
Rydym wedi gweld gostyngiad o 92 yn nifer ein staff, sydd wedi arwain at ostyngiad yn y niferoedd ar bob lefel o ran sgiliau Cymraeg. Er gwaethaf y gostyngiad yn y niferoedd, mae canran y siaradwyr Cymraeg rhugl ar lefelau 4 a 5 wedi parhau ar 24%.
Mae’r ganran uchaf o’n siaradwyr Cymraeg yn parhau i fod yn rhugl mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar ar Lefel 5 (15%). Mae’r rhan fwyaf o’n siaradwyr Cymraeg rhugl (307) yn ein Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau. At ei gilydd, gall 748 (32%) o’n cydweithwyr drafod materion yn y Gymraeg ar lefelau 3, 4 a 5, gyda 94% o’n cydweithwyr yn gallu dangos cwrteisi ieithyddol wrth gyfarfod ag eraill a’u cyfarch.
Cofrestrodd 143 o gydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith ar wahanol lefelau. Mae'r ffigur hwn i lawr 79 o’i gymharu â’r llynedd (cyfanswm o 222 o ddysgwyr yn 2023/24). Mae hyn yn ddealladwy oherwydd y rhaglen “achos dros newid”. Mae ein dysgwyr wedi’u lleoli ledled Cymru gyfan.
Yn ystod y flwyddyn hon, cawsom ein monitro gan Gomisiynydd y Gymraeg ar ein cydymffurfedd â’r safonau. Ym mis Mawrth 2025, cawsom gadarnhad bod y gweithgaredd hwn, ynghyd â’n hunanasesiad a’n tystiolaeth ategol, wedi rhoi sicrwydd i’r comisiynydd o gydymffurfedd uchel â’n safonau. Fe wnaethom fanteisio ar y cyfle hwn i graffu’n fanwl ar ein cydymffurfedd â phob un o’n safonau a llunio cynllun gweithredu dwy flynedd ar feysydd a nodwyd lle roedd angen gwaith i sicrhau cydymffurfedd llawn, neu feysydd yr oedd angen i ni eu hadolygu a’u monitro’n fanylach.
Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y gwaith rydym wedi’i wneud i wella ein gwasanaethau iaith Gymraeg i’r cyhoedd a’r gwaith sydd wedi digwydd i gynyddu cyfleoedd i gydweithwyr ddefnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg yn ein gweithle.
Lansiwyd ein hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ar ein system rheoli dysgu newydd. Bydd yr hyfforddiant hwn yn helpu cydweithwyr i gael gwell dealltwriaeth o rôl bwysig yr iaith yn ein gwaith o rannu negeseuon pwysig gyda’n cwsmeriaid, partneriaid a rhanddeiliaid wrth i ni fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur gyda’n gilydd. Mae hyn yn ein helpu i gyflawni ein diben o sicrhau bod natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd.
Nid yn unig mae defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol, ond mae hefyd yn fodd o hyrwyddo cynhwysiant a meithrin ymdeimlad o berthyn ymhlith cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg. Mae’n helpu i gadw a dathlu treftadaeth ieithyddol gyfoethog Cymru a gall wella cyfathrebu a chydweithrediad o fewn timau.
Cyflwyniad
Daeth Safonau’r Gymraeg i rym ar gyfer CNC ar 25 Ionawr 2017, o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac fe’u rheoleiddir gan Gomisiynydd y Gymraeg o dan Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016.
Dyma nod y safonau:
- Darparu gwasanaeth Cymraeg gwell a mwy cyson i siaradwyr Cymraeg
- Egluro’n glir i siaradwyr Cymraeg pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg
- Egluro’n glir i sefydliadau cyhoeddus beth yw eu dyletswyddau mewn perthynas â'r Gymraeg
- Sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg
Mae’r adroddiad hwn yn dangos sut rydym wedi gweithredu’r safonau a’r gwaith rydym wedi’i gynnal i wella ein gwasanaethau Cymraeg yn ystod blwyddyn adrodd 2024/25.
Safonau'r Gymraeg
Mae’r safonau sy’n ofynnol inni gydymffurfio â nhw mewn pedwar categori:
Safonau gwasanaeth – y gwasanaethau Cymraeg rydym yn eu darparu ar gyfer y cyhoedd.
Safonau polisi – sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o’r broses benderfynu trwy gynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb er mwyn sicrhau bod y penderfyniad yn cael effaith gadarnhaol yn hytrach nag effaith niweidiol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg neu ei fod yn cynyddu’r cyfleoedd i’w defnyddio.
Safonau gweithredol – hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg yn ein prosesau gweinyddol mewnol.
Safonau cadw cofnodion – cadw cofnodion ar gyfer cydymffurfio â gofynion y safonau mewn meysydd megis sgiliau iaith Gymraeg cydweithwyr, hyfforddiant, cwynion a recriwtio.
Mae’r safonau’n ei gwneud yn ofynnol i ni lunio adroddiad blynyddol mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol yn egluro pa gamau rydym wedi’u cymryd i gydymffurfio â’n safonau.
Trefniadau goruchwylio cydymffurfedd
Llywodraethu a monitro ein safonau
Caiff cydymffurfedd â’r safonau ei monitro gan y Cynghorydd Arbenigol: Polisi Iaith Gymraeg, a thynnir sylw’r Pennaeth Datblygu Pobl a Llesiant a Chyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol at unrhyw risgiau fel y gellir eu trafod gyda rheolwyr a’u hegluro yng nghyfarfodydd y Grŵp Pencampwyr.
Mae’r Grŵp Pencampwyr Iaith Gymraeg yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o’n cyfarwyddiaethau a fydd yn codi unrhyw faterion o ddiffyg cydymffurfio â’r Cynghorydd Arbenigol: Polisi Iaith Gymraeg yn eu cyfarfodydd chwarterol.
Mae bwrdd prosiect y Rhaglen Trawsnewid Pobl yn hyrwyddo ac yn cefnogi gweithrediad safonau’r Gymraeg, a’n nod fel sefydliad yw datblygu’n sefydliad dwyieithog drwy greu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar draws y sefydliad yn fewnol yn ogystal â chyda phartneriaid a chwsmeriaid.
Y Pennaeth Datblygu Pobl a Llesiant sydd â chyfrifoldeb cyffredinol ac mae’n goruchwylio gweithrediad y polisi ar draws y sefydliad.
Mae ein hadroddiad blynyddol ar y Gymraeg yn dilyn ein proses lywodraethu fewnol o gymeradwyaeth gan ein Tîm Gweithredol a chymeradwyaeth gan ein Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid cyn ei gyhoeddi.
Mae ein hadroddiadau blynyddol a sut rydym yn hyrwyddo, yn hwyluso ac yn goruchwylio cydymffurfedd â’n safonau wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan.
Cynllun Hyrwyddo Cydymffurfedd Comisiynydd y Gymraeg
Mae’r comisiynydd yn rhedeg cynllun monitro, asesu a gweithredu pedair blynedd, a 2024/25 yw blwyddyn olaf y cynllun hwnnw. Fel rhan o’r cynllun, rydym yn cael ein monitro’n ffurfiol bob yn ail flwyddyn. Cawsom ein monitro yn 2022/23 ac eto yn 2024/25.
Mae’r gwaith monitro hwn yn cyfrannu at nodi lefel y sicrwydd a’r cydymffurfedd â’n safonau ac yn helpu i dynnu sylw at unrhyw fethiannau neu broblemau posibl. Defnyddir ein hadroddiad blynyddol hefyd i roi sicrwydd i’r comisiynydd ein bod yn cydymffurfio â’n safonau.
Mae’r comisiynydd hefyd yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i rannu gwybodaeth ac arfer da. Mae ein Cynghorydd Polisi’r Gymraeg wedi mynychu’r rhan fwyaf o’r sesiynau hyn, sydd wedi helpu i gefnogi ein gwaith cydymffurfedd.
Mae’r ffordd hon o weithio yn rhoi hyder i Swyddfa’r Comisiynydd, ac i ni ein hunain, yn ein lefel o gydymffurfedd â’r safonau ac yn dangos y cynnydd a wnaed ar ddata a gasglwyd yn flaenorol.
Hunanasesiad o gydymffurfedd â’n safonau
Fel rhan o gynllun monitro, asesu a gweithredu pedair blynedd Comisiynydd y Gymraeg, cwblhawyd holiadur hunanasesu ym mis Medi 2024. Gofynnodd yr holiadur i ni nodi ein lefel o hunanhyder o ran cydymffurfio â’n safonau a darparu sylwadau a thystiolaeth i gefnogi ein hasesiad.
Fe wnaethom fanteisio ar y cyfle hwn i graffu’n fanwl ar ein cydymffurfedd â phob un o’n safonau a llunio cynllun gweithredu dwy flynedd ar feysydd a nodwyd lle roedd angen gwaith i sicrhau cydymffurfedd llawn, neu feysydd yr oedd angen i ni eu hadolygu a’u monitro’n fanylach. Rhannwyd y rhain gyda’r comisiynydd fel rhan o’n hymateb i’r hunanasesiad a’r camau yr oeddem yn bwriadu eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd llawn.
Mae’r ffordd “gyd-reoleiddio” newydd hon o weithio gyda’r comisiynydd yn rhoi hyder inni yn ein cydymffurfedd â’r safonau gyda thystiolaeth i ddangos cynnydd wrth i ni weithio trwy’r cynllun gweithredu a’r camau a gymerwyd i gyflawni cydymffurfedd.
Ym mis Mawrth 2025, cawsom gadarnhad gan y comisiynydd yn dilyn ei gweithgarwch monitro, ein hunanasesiad a thystiolaeth ategol a ddarparwyd bod hyn yn rhoi sicrwydd iddi o gydymffurfedd uchel â’n safonau.
Dyma rai o’r camau gweithredu a gymerwyd gennym yn dilyn ein gwaith hunanasesu i wella ein cydymffurfedd â’r safonau:
- Gan weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a’i chynghori, daeth trwyddedau pysgota digidol (drwy neges e-bost a neges destun) yn ddwyieithog ym mis Medi 2024. Daeth cadarnhad pryniant drwy neges e-bost a neges destun a anfonwyd at gwsmeriaid a oedd wedi dewis derbyn eu trwyddedau drwy’r post yn ddwyieithog yng nghanol mis Medi 2024. Daeth pob hysbysiad dod i ben digidol yn ddwyieithog ym mis Chwefror 2025. Mae’r gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod y gwasanaeth ar .Gov yn cydymffurfio â’n safonau cyflenwi gwasanaeth.
- Canllawiau newydd wedi’u datblygu ar gyfer cydweithwyr sy’n ymwneud ag asesu ceisiadau am grantiau sy’n cynnwys pwyntiau i’w hystyried pan fo amodau’r Gymraeg yn berthnasol i’r grant, er mwyn sicrhau cydymffurfedd llawn â safonau 68a, 69 a 71.
- Mae’r profforma rheoli contractau wedi’i diweddaru a’i ymgorffori yn y broses rheoli contractau ac yn sicrhau bod pob dangosydd perfformiad allweddol mewn perthynas â’r Gymraeg wedi’i nodi ar adroddiad perfformiad rheoli contractau i reolwyr contractau ei gwblhau fel rhan o’u dyletswyddau i sicrhau cydymffurfedd llawn â safonau 72, 73, 74 a 76.
- Mae canllawiau a ffurflen asesiad o’r effaith ar y Gymraeg wedi’u cwblhau a’u lansio i sicrhau bod gofynion cydymffurfio â safonau 84–89 yn cael eu hystyried fel rhan o’n polisïau a’n gweithdrefnau ac mewn perthynas ag ymgynghori ac ymchwil.
- Cwrs hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ar-lein wedi’i ddatblygu’n ddwyieithog a’i lansio ar y system rheoli dysgu i sicrhau cydymffurfedd llawn â safon 128.
Mae’r cynllun gweithredu dwy flynedd a ddatblygwyd o’r hunanasesiad yn ddogfen fyw ac mae’n parhau i gael ei adolygu’n rheolaidd ac ychwanegir ato’n rheolaidd. Mae hyn yn ein helpu i olrhain cynnydd yn y maes gwaith hwn. Mae bwrdd prosiect y Rhaglen Trawsnewid Pobl yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r cynllun gweithredu.
Er i ni dderbyn cadarnhad o gydymffurfedd uchel gan y comisiynydd yn dilyn ein hunanasesiad ar yr achlysur hwn, mae angen i ni barhau i fonitro ein cydymffurfedd, codi ymwybyddiaeth o’r safonau, a sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif ffrydio yn ein prosiectau, polisïau a phrosesau er mwyn cynnal y safon hon.
Risgiau o beidio â chydymffurfio
Mae dau faes lle nad ydym yn cydymffurfio â’n safonau, fel a ganlyn:
- Yr un maes risg y tynnwyd sylw ato yn ein hunanasesiad yw’r gwasanaeth “prynu trwydded pysgota â gwialen”, a weinyddir ar ein rhan gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae’r tudalennau glanio ar .Gov ar gyfer y gwasanaeth yn parhau i fod yn Saesneg yn unig. Mae ein Tîm Cyfieithu wedi darparu’r fersiynau Cymraeg i Asiantaeth yr Amgylchedd, sydd wedi gwneud cais i .Gov ddiweddaru’r tudalennau. Dyma gais sydd ar y gorwel o’r llynedd gyda .Gov ac, unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd yn sicrhau taith defnyddiwr gyflawn yn y Gymraeg i gwsmeriaid a chydymffurfedd llawn â’n safonau cyflenwi gwasanaeth. Mae’r comisiynydd yn ymwybodol o’r mater hwn sydd ar y gweill.
- Yr ail faes risg a nodwyd yn ddiweddar wrth ddrafftio’r adroddiad hwn yw ein gallu i ddarparu ystadegau ar nifer a chanran y cydweithwyr sydd wedi cwblhau cyrsiau a nodir yn safon 124 (recriwtio a chyfweld, rheoli perfformiad, gweithdrefnau cwynion a disgyblu, hyfforddiant sefydlu, a chyrsiau iechyd a diogelwch annhechnegol ar-lein) trwy gyfrwng y Gymraeg, fel sy’n ofynnol yn safon 146.
Mae ein system rheoli dysgu yn caniatáu i gydweithwyr newid iaith ar unrhyw adeg yn ystod y cwrs, sy’n helpu ac yn annog dysgwyr a siaradwyr Cymraeg i gwblhau a deall terminoleg dechnegol a chynnwys y cwrs yn y Gymraeg.Oherwydd y swyddogaeth hon, nid ydym yn gallu darparu ystadegau ar nifer a chanran y cydweithwyr sydd wedi cwblhau cyrsiau yn y Gymraeg. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cydymffurfio â safon 124. Byddwn yn dod â’r mater hwn at sylw Comisiynydd y Gymraeg i’w drafod ymhellach.
Gweithredu a gwella ein gwasanaethau a’n cydymffurfedd
Cymorth a gwasanaethau’r Tîm Cyfieithu
Er mwyn cefnogi anghenion dyddiol y sefydliad wrth gyflawni ein safonau a chyflenwi ein gwasanaethau Cymraeg, mae ein Tîm Cyfieithu yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy a hanfodol a hebddynt byddai canran uchel o’r gwaith y tynnir sylw ato yn yr adroddiad hwn yn anodd ei gyflawni.
Mae’r tîm yn gwneud defnydd da o’r cof cyfieithu Phrase Translate, y maent wedi bod yn ei ddefnyddio ers dwy flynedd. Mae’r tîm wedi llwyddo i ffynnu yn ystod blwyddyn heriol ac ymateb i’r galw cynyddol yng ngoleuni’r achos dros newid a’r holl ddeunyddiau cysylltiedig. Mae’r cof cyfieithu bellach yn cynnwys dros dair miliwn o eiriau – sy’n golygu ei fod wedi dyblu o ran maint dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r tîm bellach yn llwyddo i wneud y rhan fwyaf o’r gwaith yn fewnol – nod a osodwyd pan grëwyd y tîm ar ei ffurf bresennol ryw dair blynedd yn ôl.
Dros y flwyddyn adrodd hon:
- Mae’r tîm wedi cyfieithu 1,702,237 o eiriau yn fewnol
- Mae 981,282 o eiriau wedi cael eu cyfieithu’n allanol
Nid yw’r ystadegau uchod yn cynnwys y nifer fawr o dasgau bach, brawddeg neu ddwy o hyd, a dderbynnir bob dydd, nac unrhyw waith y tu hwnt i gyfieithu, fel prawfddarllen a gwirio testun.
Mae 29 o geisiadau am wasanaeth cyfieithu ar y pryd hefyd wedi’u trefnu fel a ganlyn:
- 15 am y gwasanaeth mewn lleoliad
- Deg ar gyfer y gwasanaeth dros Microsoft Teams
- Pedwar cais hybrid
Roedd rhai o’r ceisiadau uchod yn cynnwys gwaith ymgynghori pwysig, ac roedd hyn hefyd yn ymestyn i sicrhau y gallai’r rhai a oedd yn cyflwyno mewn digwyddiadau wneud hynny yn y Gymraeg. Enghraifft o hyn oedd yn ein Cynhadledd Dystiolaeth, lle darparwyd cyfieithydd am y tro cyntaf, gan alluogi cyflwyniadau yn y Gymraeg. Cafwyd llawer o adborth cadarnhaol o ganlyniad i hyn. Cafwyd adborth cadarnhaol hefyd am y gwasanaeth cyfieithu yn y cyfarfodydd arwyddocaol ynglŷn â’r ddarpariaeth yn ein canolfannau ymwelwyr – digwyddiadau lle’r oedd darpariaeth y Gymraeg yn hanfodol.
Gwaith arall y mae’r tîm wedi bod yn rhan ohono:
- Cefnogi CNC ar brosiectau gyda’r Bwrdd Glo ac Asiantaeth yr Amgylchedd
- Y broses o enwi llwybrau a safleoedd rydyn ni’n eu rheoli
- Prawfddarllen a chymeradwyo arwyddion safle a thaflenni
- Gwaith ysgrifennu mewn parau a thriawdau, e.e. “Prynu trwydded pysgota â gwialen”
- Anghenion cyfieithu o ddydd i ddydd ar gyfer Natur am Byth, gan roi cyngor ac arweiniad ar ffyrdd ymlaen gyda rhai o’u prosiectau creadigol a’r ystyriaethau y mae angen eu rhoi wrth gomisiynu’r math hwn o waith nad yw bob amser yn waith cyfieithu syml
- Ymwneud â phrosiect partneriaeth Gwreiddiau Gwyllt y Mentrau Iaith drwy gyfrannu at safoni terminoleg ym maes yr amgylchedd a byd natur
Mae’r tîm yn parhau i hyrwyddo eu gwasanaeth gwirio ac yn parhau i annog cydweithwyr i ddefnyddio eu Cymraeg a chadw llygad ar yr ystadegyn hwn i weld a oes cynnydd yn y blynyddoedd i ddod.
Er bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i’r tîm, maent wedi rhagori ar ddisgwyliadau, ac wedi ymestyn eu dylanwad i gynorthwyo cydweithwyr, gan helpu i sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth yn holl waith y sefydliad.
Mae rhagor o wybodaeth fanwl am waith ein Tîm Cyfieithu i’w gweld yn Atodiad 1 i’r adroddiad hwn.
Safonau cyflenwi gwasanaeth
Brand
Fel rhan o’n gwaith o ddatblygu a gweithredu ein brand a’n hunaniaeth ddwyieithog gorfforaethol, mae sicrhau ein bod ni i gyd yn cynrychioli’r sefydliad mewn modd proffesiynol wrth gysylltu â phartneriaid allanol, a chyflwyno mewn digwyddiadau a chyda’n gilydd yn fewnol, yn wirioneddol bwysig. I gefnogi’r canllaw brand a gyhoeddwyd y llynedd a’n gweledigaeth yn ein polisi ar gyfer safonau’r Gymraeg i weithio tuag at sefydlu ein hunain fel sefydliad dwyieithog naturiol, rydym wedi gwneud y canlynol:
- Cyflwyno cefndiroedd Teams i hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg ar bob lefel sgiliau yn y Gymraeg
- Parhau i ddatblygu ein canllaw brand dwyieithog
- Datblygu ac atgyfnerthu’r defnydd o dempledi dwyieithog
- Hwyluso ein sesiynau ymwybyddiaeth brand, gan gynnwys sut y gallwn ddefnyddio ein Cymraeg yn fwy bob dydd
- Gweminarau
Dros y flwyddyn nesaf, bydd ein Rheolwr Brand yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Sesiwn ymwybyddiaeth brand wedi’i hymgorffori yn y broses sefydlu i ennyn diddordeb pob dechreuwr newydd
- Defnyddio arbedwyr sgrin i godi ymwybyddiaeth o ymgyrchoedd a negeseuon allweddol a fydd yn cyrraedd pob cydweithiwr sydd â gliniadur
- Defnyddio cefndiroedd bwrdd gwaith i godi ymwybyddiaeth o ymgyrchoedd a negeseuon allweddol
Logos Cymraeg
Fel rhan o’n dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ym mis Mawrth 2025, fe wnaethom ddiweddaru ac adnewyddu delweddau ar ein cefndiroedd ar gyfer Microsoft Teams, ac rydym wedi ychwanegu tri logo Cymraeg i ddathlu a hyrwyddo’r Gymraeg. Mae defnyddio’r rhain yn ein cyfarfodydd yn ffordd wych o ysbrydoli pawb i ddefnyddio eu Cymraeg yn amlach, ac mae wir yn cefnogi dysgwyr i ddefnyddio eu sgiliau iaith at ddibenion gwaith.
Mae’r tri logo hefyd yn rhan o’n llofnodion corfforaethol, sydd ar gael yn awtomatig yn ein llofnodion e-bost. Dyma’r logos:
‘DW I’N DYSGU CYMRAEG’ – ar gyfer dysgwyr Cymraeg sy’n hyderus i ddefnyddio ac ymarfer eu sgiliau Cymraeg mewn cyfarfodydd.
‘CYMRAEG’ – ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl fel y gall eraill gydnabod eu bod yn siarad Cymraeg.
‘HAPUS I SIARAD CYMRAEG’ – er mwyn i siaradwyr Cymraeg rhugl roi gwybod i ddysgwyr eu bod yn hapus i sgwrsio â nhw’n anffurfiol yn y Gymraeg i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau iaith. Rydym yn gweithio gyda’r adran TGCh i gael y logo newydd hwn fel opsiwn awgrymiadau post yn ein rhaglen e-bost Outlook. Bydd hyn yn helpu ein dysgwyr i ddefnyddio eu Cymraeg ysgrifenedig gyda chydweithwyr yn fewnol.
Bydd mwy o waith yn cael ei wneud dros y flwyddyn nesaf i hyrwyddo defnydd o’r logos hyn a chefndiroedd Microsoft Teams, a fydd yn sicrhau ein bod yn portreadu delwedd gorfforaethol broffesiynol fel sefydliad yn ein cyfarfodydd ar-lein gydag eraill.
System cofnodi asesiadau cydymffurfedd
Mae canllawiau newydd wedi’u datblygu a’r tudalennau mewnrwyd wedi’u diweddaru ar gyfer ein cydweithwyr rheoleiddio sy’n defnyddio ein system cofnodi asesiadau cydymffurfedd i sicrhau’r canlynol:
- Sefydlir dewis iaith ar gyfer pob cwsmer newydd a phob cwsmer cyfredol sydd heb gadarnhau eu dewis iaith eto, gan roi dewis i’r cwsmer dderbyn y ddogfen yn y Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog
- Mae maes newydd wedi’i ychwanegu at y set ddogfennau ar gyfer y drwydded i gofnodi’r dewis iaith
- Canllaw cam wrth gam newydd i roi mwy o eglurder ar sut i gwblhau dogfen cofnodi asesiad cydymffurfedd yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog
Mae hyfforddiant yn cael ei drefnu ar gyfer cydweithwyr sy’n defnyddio’r system cofnodi asesiadau cydymffurfedd a bydd gofynion y Gymraeg yn rhan o’r gwaith hwn. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pob cwsmer sy’n derbyn ffurflen system cofnodi asesiadau cydymffurfedd yn gwneud hynny yn ei iaith ddewisol.
Digwyddiadau hyfforddiant addysg
Yn ddiweddar, mae llawer o’r adnoddau addysg ddwyieithog wedi cael eu hadolygu a’u prynu yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru, gydag adrannau newydd ar hyrwyddo bioamrywiaeth ar diroedd ysgolion, pridd, a thwristiaeth gynaliadwy wedi’u cyhoeddi.
Fodd bynnag, mae rhaglen achos dros newid CNC, sydd wedi gweld ffocws newydd ar feysydd allweddol a chyfrifoldebau craidd, wedi golygu na fyddwn bellach yn darparu ein rhaglen hyfforddi addysgwyr dwyieithog genedlaethol, yn cefnogi rhwydweithiau dysgu, yn darparu ein hymgyrchoedd dysgu dwyieithog nac yn cyhoeddi ein cylchlythyr misol, ac rydym yn cydnabod bod hyn yn cynrychioli colled sylweddol o ran dylanwad ac eiriolaeth dros y sector addysg.
Dros y blynyddoedd, rydym wedi bod yn falch o adrodd am allbynnau a chanlyniadau sylweddol o’n gwaith addysg a sgiliau strategol sydd wedi cefnogi cyflawni safonau’r Gymraeg.
Byddwn yn parhau i gefnogi ein partneriaid a’n rhanddeiliaid yn y maes hwn ac yn cynnig lleoliadau dwyieithog i gefnogi ein gweithlu yn y dyfodol.
Gwasanaeth gwybodaeth newydd ar gyfer rhybuddion am lifogydd
Fel rhan o’n hymdrechion parhaus i ddarparu gwasanaeth gwell i bobl Cymru, lansiwyd ein gwasanaethau gwybodaeth newydd i Gymru ar gyfer rhybuddion am lifogydd ar 17 Gorffennaf 2024, gydag ymgyrch #BarodAmLifogydd wythnos o hyd ym mis Hydref. Yn erbyn cefndir o hinsawdd sy’n newid a digwyddiadau tywydd eithafol amlach, mae’r gwasanaeth yn chwarae rhan allweddol wrth gynyddu gwydnwch cymunedol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae gwybodaeth am y gwasanaethau rhybuddio am lifogydd rydyn ni’n eu darparu a sut y gall pobl gofrestru ar eu cyfer ar gael ar ein gwefan.
Gall cwsmeriaid addasu’r gwasanaeth drwy ddewis pa negeseuon gwasanaeth llifogydd i’w derbyn, p’un a ydyn nhw am gael y gwasanaethau yn y Gymraeg neu’r Saesneg, a’r dull cysylltu gorau, ynghyd ag ychwanegu lleoliadau eraill o ddiddordeb. Gall cwsmeriaid dderbyn negeseuon ysgrifenedig a llafar. Fel ymatebydd Categori 1, mewn argyfwng rydym yn cynnwys gwybodaeth benodol i’r sefyllfa yn Saesneg yn unig ar ein gwefan ac yn ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd.
Nod yr ymgyrch #BarodAmLifogydd oedd annog mwy o bobl i gofrestru i dderbyn rhybuddion am lifogydd. Elfen arall o’r gweithgaredd hwn oedd canolbwyntio ar dynnu sylw at y ffaith bod y gwasanaeth ar gael yn Gymraeg ac annog mwy o bobl i ddefnyddio ein gwasanaethau Cymraeg. Mae’r gwasanaeth newydd hwn yn rhoi’r dewis i gwsmeriaid dderbyn negeseuon ysgrifenedig a llafar yn y naill iaith neu’r llall.
Yn ystod ein hymgyrch #BarodAmLifogydd, fe wnaethom fanteisio ar gysylltiadau yn y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol, a chyda phartneriaid, i gyfeirio at y gwasanaeth fel cam hanfodol y gall pobl ei gymryd i sicrhau eu bod yn fwy gwydn yn erbyn bygythiadau llifogydd. Roedd ein holl waith hyrwyddo mewn perthynas â’r gwasanaeth yn cynnwys yn benodol fod y gwasanaeth ar gael yn Gymraeg.
Gellir gweld ystadegau ar nifer y cyfrifon a grëwyd yn yr adran isod, “Data ar ddefnydd ein gwasanaethau Cymraeg”. Arweiniodd yr ymgyrch at greu 206 yn fwy o gyfrifon nag yn 2023, gyda chynnydd yn nifer y cwsmeriaid sy’n dewis derbyn gwybodaeth yn Gymraeg. Yn flaenorol, dim ond 23 oedd yn gofyn am wybodaeth yn Gymraeg. Drwy gynnig mwy o ddewis yn y gwasanaethau a ddarparwn, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ynghyd â bod yn rhagweithiol wrth hyrwyddo argaeledd y Gymraeg, rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer sydd wedi llofnodi i dderbyn gwybodaeth yn Gymraeg.
Byddwn yn parhau i hyrwyddo’r gwasanaeth a’i argaeledd yn Gymraeg.
Data ar ddefnydd ein gwasanaethau Cymraeg
Isod mae ystadegau mewn perthynas â defnydd ein gwasanaethau Cymraeg. Wrth i’n gwasanaethau esblygu dros y blynyddoedd nesaf, gan gael eu hawtomeiddio’n fwy gan y defnydd o dechnoleg, byddwn yn gallu casglu a dadansoddi mwy o ddata ar y defnydd o’n gwasanaethau drwy’r Gymraeg. Bydd hyn yn ein helpu i nodi pa ymyriadau y gallwn eu gwneud i hyrwyddo, annog a chynyddu defnydd o’n gwasanaethau Cymraeg.
Hwb cwsmeriaid
Mae’r hwb cwsmeriaid yn delio â phob galwad sy’n dod i mewn ar gyfer ein sefydliad ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9am tan 5pm.
Yn ystod y flwyddyn adrodd hon:
- Ymdriniwyd â chyfanswm o 15,977 o alwadau gan yr hwb
- Deliwyd â 916 (5.7%) o alwadau yn Gymraeg
- Deliwyd â 15,061 (94.3%) o alwadau yn Saesneg
- Roedd gostyngiad o -86 (0.4%) yn nifer y galwadau Cymraeg a dderbyniwyd o’i gymharu â’r flwyddyn adrodd ddiwethaf
Rydym yn parhau i hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg trwy ei darparu fel yr opsiwn cyntaf i gwsmeriaid sy’n cysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae ein hatebwyr ffôn craidd yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Er gwaethaf cynnig iaith rhagweithiol, mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn dal i ddewis ein gwasanaeth Saesneg i ddechrau, ond bydd yr alwad yn aml yn newid i alwad Gymraeg pan ddeellir bod y sawl sy’n trin yr alwad yn siaradwr Cymraeg. Fodd bynnag, gan fod y cwsmer wedi dewis y gwasanaeth Saesneg i ddechrau, mae’r galwadau hyn wedi’u cofrestru fel galwadau cyfrwng Saesneg ar ein system, er gwaethaf y ffaith eu bod yn cael eu trin yn y Gymraeg yn y pen draw.
Mae’r gwasanaeth Cymraeg y mae’r hwb yn ei ddarparu yn cael ei hyrwyddo ar ein gwefan.
Canolfan Cyfathrebu Digwyddiadau
Mae ein Canolfan Cyfathrebu Digwyddiadau yn wasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd i roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol ac mae ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae’r Canolfan Cyfathrebu Digwyddiadau yn rhoi dewis iaith rhagweithiol i bob galwr.
Yn ystod y flwyddyn adrodd hon:
- Ymdriniwyd â chyfanswm o 14,785 o alwadau gan y ganolfan
- Deliwyd â 415 (2.8%) o alwadau yn Gymraeg
- Deliwyd â 14,370 (97.2%) o alwadau yn Saesneg
Nid ydym yn gallu rhoi ffigur cymhariaeth ar gyfer y llynedd oherwydd bod system newydd wedi cael ei gosod ym mis Chwefror 2024. Bydd ein hadroddiad ar gyfer y flwyddyn nesaf yn rhoi cymhariaeth.
Mae’r ganolfan hefyd yn darparu’r gwasanaeth Cymraeg ar gyfer Floodline UK, a drosglwyddwyd i ni yn 2024. Deliwyd â 134 o alwadau ar y llinell hon.
Cafodd rhai, ond nid llawer, o alwadau a gofnodwyd fel galwadau cyfrwng Cymraeg eu trin yn Saesneg gan nad oedd y galwyr yn siaradwyr Cymraeg ar ôl dewis yr opsiwn Cymraeg.
Mae’r gwasanaeth Cymraeg y mae’r ganolfan yn ei ddarparu yn cael ei hyrwyddo ar ein gwefan.
Gwefan
Mae ein hystadegau’n dangos bod 120,044 (5.25%) o ymweliadau tudalen ar ein tudalennau Cymraeg dros y flwyddyn, sef gostyngiad o 57,409 o ymweliadau o’i gymharu â’r llynedd. Cafwyd 2,659,677 (95.6%) o ymweliadau â’r tudalennau Saesneg.Y dudalen a gafodd y mwyaf o ymweliadau yn Gymraeg oedd ein tudalen llifogydd, a gafodd 1,900 o ymweliadau.
Dim ond gan ddefnyddio data Google Analytics y gallwn roi amcangyfrif o ymweliadau â’r wefan, yn hytrach na data cywir. Mae hyn oherwydd:
- dim ond pan fyddant yn ymweld â’r wefan y gallwn olrhain defnyddwyr sy’n cytuno i gwcis marchnata
- mae Google Analytics wedi dechrau cynnwys ‘data defnyddwyr amcangyfrifedig’ i lenwi data a allai fod ar goll oherwydd nad yw defnyddiwr wedi cytuno i gwcis marchnata, ond ni allwn fod yn siŵr o’i gywirdeb
- ni allwn fod yn sicr bod y niferoedd yn eithrio ein cydweithwyr mewnol
Gwasanaeth gwybodaeth ar gyfer rhybuddion am lifogydd
- Crëwyd 3,177 o gyfrifon rhybuddion llifogydd rhwng 17 Gorffennaf 2024 a 14 Ebrill 2025
- Roedd 59 wedi cofrestru i dderbyn negeseuon ysgrifenedig a llafar yn Gymraeg
- Roedd 21 wedi cofrestru i dderbyn negeseuon ysgrifenedig yn Saesneg a negeseuon llafar yn Gymraeg
- Roedd saith wedi cofrestru i dderbyn negeseuon ysgrifenedig yn Gymraeg a negeseuon llafar yn Saesneg
- Crëwyd 206 yn fwy o gyfrifon nag ar gyfer y gwasanaeth blaenorol yn 2023, pan oedd 23 yn gofyn am wybodaeth yn Gymraeg
- Cofrestrodd mwy o bobl yn ystod y ddwy ymgyrch #BarodAmLifogydd, gyda chynnydd pan oedd llifogydd ar fin digwydd
Safonau llunio polisïau
Asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb
Mae’r Gymraeg yn parhau i fod yn rhan o’n hasesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, a phan fo’n debygol y bydd mwy o effaith ar y Gymraeg neu fod angen ymgynghori ar ein gwaith yna cwblheir asesiad o’r effaith ar y Gymraeg ar wahân. Mae hyn yn sicrhau bod yr iaith yn cael ystyriaeth ddyledus yn ein holl bolisïau a gweithdrefnau.
- Aseswyd 33 o asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, a oedd yn cynnwys ystyriaethau o ran y Gymraeg, yn ystod y flwyddyn adrodd hon.
Asesiadau o’r effaith ar y Gymraeg
Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, cyflwynwyd canllawiau a phroses mewn perthynas â chwblhau asesiadau o’r effaith ar y Gymraeg, gan drafod a cheisio cyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ystod y broses ddrafftio.
Mae’r canllawiau’n helpu cydweithwyr i ddeall yr ystyriaethau y mae angen eu rhoi i rifau 84–89 ein safonau’r Gymraeg mewn perthynas â phenderfyniadau llunio polisi, wrth gynnal ymchwil i gefnogi’r penderfyniad, a phan fyddant yn cynnal ymgynghoriadau.
Mae safonau’r Gymraeg yn diffinio “penderfyniad polisi” fel unrhyw benderfyniad y mae sefydliad yn ei wneud ynghylch y canlynol:
- Arfer ei swyddogaethau
- Cynnal ei fusnes neu ymgymeriad arall
Mae’r broses hon yn helpu i sicrhau bod yr iaith yn cael ei chynnwys ym mhrif ffrwd ein ffyrdd o weithio a’n cyfrifoldebau fel sefydliad cyhoeddus.
- Mae dau asesiad o’r effaith ar y Gymraeg wedi cael eu drafftio yn ystod y flwyddyn adrodd hon, sy’n parhau i gael eu hadolygu fel rhan o’r broses: un dros yr achos dros newid a’r llall dros ddynodi Parc Cenedlaethol newydd.
Safonau gweithredol
Adolygu polisïau mewnol
Polisïau disgyblu, datrys, bwlio ac aflonyddu
Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, mae ein polisïau disgyblu, datrys, a bwlio ac aflonyddu wedi cael eu hadolygu. Fel rhan o’r adolygiad hwn, rydym wedi ychwanegu adran ar y Gymraeg sy’n nodi’n glir bod gan gydweithwyr yr hawl i gynnal yr holl brosesau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gan reolwyr gyfrifoldeb i wneud cyflogeion yn ymwybodol o hyn ar ddechrau’r broses.Mae cyflogeion yn gyfrifol am gadarnhau eu dewis iaith cyn gynted â phosibl.
Cod ymddygiad a pholisi defnyddio cyfryngau cymdeithasol
Mae’r cod ymddygiad a’r polisi defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn atgyfnerthu gwerthoedd CNC ac yn nodi’r egwyddorion y mae’n rhaid i bob cydweithiwr gydymffurfio â nhw, a’r safonau ymddygiad gofynnol a ddisgwylir gan bob cydweithiwr ac CNC fel eu cyflogwr.
Mae adran newydd ar y Gymraeg wedi’i hychwanegu at y ddau, sy’n cynnwys ein dyletswydd i gadw at ein dyletswyddau cyfreithiol o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, gan atgyfnerthu gwerthoedd CNC, ac mae’n nodi’r egwyddorion y mae’n rhaid i bob cydweithiwr gydymffurfio â nhw, gan barchu dewis iaith cydweithwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid.
Bydd hyn yn cefnogi ymgorffori ein polisi ar gyfer safonau’r Gymraeg ymhellach wrth sicrhau y bydd pob cydweithiwr yn ymwybodol o’r polisi a’r gweithdrefnau fel rhan o’u gwaith o ddydd i ddydd a phwysigrwydd yr iaith i’n gwaith fel sefydliad dwyieithog.
System rheoli dysgu
Lansio system rheoli dysgu a Hwb Gwybodaeth CNC
Fel rhan o’r Rhaglen Trawsnewid Pobl, ym mis Gorffennaf 2024 fe wnaethom lansio’r system rheoli dysgu a’r “Hwb Gwybodaeth” i fynd i’r afael ag anghenion hyfforddi, er mwyn cefnogi’r sefydliad a chydweithwyr i ddatblygu a thyfu.
Mae’r system rheoli dysgu hon ar gael yn ddwyieithog, a gall cydweithwyr ddewis ei llywio yn y Gymraeg neu’r Saesneg.Ar hyn o bryd, mae gennym 160 o gyrsiau ar gael yn y ddwy iaith. Mae’r system yn caniatáu i gydweithwyr newid iaith ar unrhyw adeg yn ystod y cwrs, sy’n helpu ac yn annog dysgwyr a siaradwyr Cymraeg i gwblhau a deall terminoleg dechnegol a chynnwys y cwrs yn Gymraeg.Oherwydd y swyddogaeth hon, nid ydym yn gallu darparu ystadegau ar nifer y cydweithwyr sydd wedi cwblhau’r cyrsiau yn Gymraeg. Cyn cyflwyno’r system rheoli dysgu, nid oedd cydweithwyr yn gallu cwblhau eu hyfforddiant ar-lein yn y Gymraeg.
Mae’r system rheoli dysgu hefyd yn caniatáu inni greu, rheoli a rhedeg ein cyrsiau hyfforddi ein hunain.Rydym yn gallu darparu cyrsiau e-ddysgu a grëwyd gan CNC yn ddwyieithog a gallwn ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer y troslais Cymraeg neu recordio’r Gymraeg ymlaen llaw. Rydym hefyd yn gallu ymestyn hyn i gatalog o gyrsiau allanol a ddarperir gan ddarparwr y system rheoli dysgu a rhedeg adroddiadau cywir ar yr anghenion a’r cyfraddau cwblhau o fewn y system. Gall rheolwyr weld yn hawdd pa hyfforddiant y mae eu timau wedi’i gwblhau a beth sydd angen iddynt ei gwblhau.
Mae ‘Hwb Gwybodaeth CNC’ wedi’i alinio â’n gwerthoedd a’n hymddygiadau. Mae hwn ar gael yn y Gymraeg ac mae’n cyflwyno 12 ymddygiad craidd newydd sydd wedi’u cydgynhyrchu a’u datblygu gyda’n cydweithwyr.
Sgwrs - perfformiad
Mae’r system rheoli dysgu wedi’i gwella i gynnwys modiwl ychwanegol i gefnogi Sgwrs – ein cyfarfodydd rheolaidd gyda rheolwyr neu arweinwyr tîm i drafod lles a datblygiad personol a sut mae cydweithwyr yn perfformio yn erbyn gofynion eu rôl. Daeth y modiwl newydd hwn, o’r enw “Perform”, yn fyw ar 1 Ebrill 2025. Mae hwn yn darparu dull un ffenestr ar gyfer perfformiad, dysgu a datblygiad personol yn y sefydliad y gall cydweithwyr ei defnyddio a lle gallant gwblhau gwybodaeth yn Gymraeg.
Mae’r holl bethau uchod yn cynnig cyfleoedd i gydweithwyr sy’n rhugl yn y Gymraeg a’r rhai sy’n datblygu eu sgiliau iaith allu defnyddio eu sgiliau yn ein gweithle, gan gefnogi ein huchelgais fel sefydliad i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn fewnol.
Porth TGCh – Hornbill
Mae ein hwb cymorth a chefnogaeth hunanwasanaeth TGCh ar gael i gydweithwyr ei ddefnyddio yn Gymraeg neu Saesneg ac mae gennym ardal bwrpasol o fewn yr hwb, ac sydd wedi’i diweddaru yn ystod y flwyddyn adrodd hon, sy’n rhestru’r holl systemau sydd ar gael i gydweithwyr eu defnyddio yn y Gymraeg yn ein gweithle:
Systemau
- MYNRW
- MS Office
- MS Outlook
- MS Windows
- Microsoft 365
- MS Teams
- Mewnrwyd
- System rheoli dysgu
Offer Cymraeg
- Cysill
- Cysgeir
- To Bach
- Canfyddwr Pobl – yn rhestru galluoedd Cymraeg cydweithwyr
Rhaglen hyfforddiant Cymraeg
Eleni, mae 143 o gydweithwyr wedi cofrestru i ddatblygu eu sgiliau iaith ar wahanol lefelau. Mae'r ffigur hwn i lawr 79 o’i gymharu â’r llynedd (cyfanswm o 222 o ddysgwyr yn 2023/24). Mae hyn yn ddealladwy oherwydd y rhaglen “achos dros newid”.
Mae cydweithwyr yn datblygu eu sgiliau iaith fel a ganlyn:
- 48 (34%) ar lefel mynediad
- 42 (29%) ar lefel sylfaen
- 29 (20%) ar lefel ganolradd
- 23 (16%) ar lefel uwch
- 1 (1%) ar lefel hyfedredd
Mae’n debyg y bydd y 24 sy’n datblygu eu sgiliau iaith ar lefelau uwch a hyfedredd yn siaradwyr Cymraeg rhugl yn y ddwy flynedd nesaf os byddant yn parhau i ddatblygu eu sgiliau.
Mae ein dysgwyr wedi’u lleoli ledled Cymru gyda’r mwyafrif yn dysgu fel a ganlyn:
- 35 (24%) – Ceredigion/Powys
- 33 (23%) – Gogledd-orllewin Cymru
- 33 (23%) – Gwent
- 15 (10%) – Gogledd-ddwyrain Cymru
Mae Nant Gwrtheyrn yn darparu cyrsiau preswyl dwys ar bob lefel ac yn parhau i fod yn boblogaidd iawn, gyda 21 o gydweithwyr yn mynychu dros y flwyddyn adrodd hon. Cafodd 15 o’r rhain eu hariannu’n llawn drwy’r cynllun Cymraeg Gwaith a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae cydweithwyr yn parhau i roi adborth cadarnhaol iawn ar y cyrsiau hyn, gyda diddordeb eisoes yn cael ei ddangos ar gyfer y garfan nesaf rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2025.
Mae rhagor o wybodaeth am ein rhaglen hyfforddiant yn y Gymraeg ar gael yn Atodiad 2 i’r adroddiad hwn.
Hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r Gymraeg
Fe wnaethon ni ddatblygu ein cwrs ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ein hunain, sydd bellach ar gael ar ein system rheoli dysgu ac sy’n ein galluogi i adrodd yn gywir ar nifer y cydweithwyr sydd wedi cwblhau'r hyfforddiant. Amcanion yr hyfforddiant yw codi ymwybyddiaeth o’r canlynol:
- yr iaith, ei hanes, a’i rôl yn niwylliant Cymru
- ein dyletswydd fel sefydliad cyhoeddus i weithredu ein polisi safonau’r Gymraeg a’r rheswm drosto
- sut y gallwn ddefnyddio’r iaith yn ein gweithle
Rydym wedi recordio’r troslais ar gyfer yr hyfforddiant yn Gymraeg ac yn Saesneg yn hytrach na defnyddio gallu deallusrwydd artiffisial y feddalwedd, ac mae cydweithwyr yn cael dewis iaith i gwblhau’r hyfforddiant ar y dechrau mewn modd rhagweithiol. Cymerodd yn hirach nag a ddisgwyliwyd i ddatblygu sleidiau a oedd yn cydweddu â swyddogaeth y system.
Cymeradwyodd ein Tîm Gweithredol hwn fel hyfforddiant gorfodol i bob cydweithiwr ei gwblhau, a fydd yn cymryd amser dros y misoedd nesaf i’w gyflawni. Fel hyfforddiant gorfodol, bydd yn ymddangos ym mhob cyfrif system rheoli dysgu i’w gwblhau gan bob cydweithiwr, a byddant yn derbyn awgrymiadau e-bost yn awtomatig o’r system nes bod yr hyfforddiant wedi’i gwblhau. Mae’r hyfforddiant wedi cael ei hyrwyddo i reolwyr a gofynnwyd iddynt sicrhau bod eu holl dîm yn ei gwblhau. Bydd nodiadau atgoffa yn cael eu hanfon yn rheolaidd dros y misoedd nesaf at reolwyr llinell yn ogystal â negeseuon pellach i hyrwyddo’r cwrs.
Hyd yn hyn, mae’r rhan fwyaf o’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn gan y rhai sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant, gyda 483 wedi gwneud hyn ar y system rheoli dysgu, ac mae 36 arall wedi derbyn hyfforddiant fel rhan o’u sesiwn sefydlu yn ystod y flwyddyn. Rydym yn disgwyl i bob cydweithiwr fod wedi cwblhau’r hyfforddiant hwn o fewn y chwe mis nesaf.
Datblygu hyfforddiant safonau’r Gymraeg
Er mwyn helpu cydweithwyr i ddeall yn well pa wasanaethau y mae’n rhaid i ni eu darparu yn Gymraeg a sut, mae hyfforddiant newydd ar safonau’r Gymraeg wedi’i ddatblygu ar ein system rheoli dysgu, a fydd yn cael ei lansio ar ein system rheoli dysgu yn ystod gwanwyn 2025. Mae’r hyfforddiant yn darparu canllawiau, gydag enghreifftiau gweledol o dempledi papur pennawd, ffurflenni, agendâu ac ati yn cael eu rhannu ar y sgrin yn ogystal ag arferion da wrth weithio’n ddwyieithog. Mae’r hyfforddiant hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd gennym ar waith i helpu pawb i weithio’n ddwyieithog, gwasanaethau ein Tîm Cyfieithu a’n rhaglen hyfforddiant yn y Gymraeg.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn orfodol i gydweithwyr sy’n ymwneud â’r cyhoedd fel rhan o’u rôl. Dyma adnodd ychwanegol a mwy cynhwysol a gweledol i gefnogi cydweithwyr ynghyd â’r wybodaeth a’r canllawiau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi ar dudalennau Cymraeg y fewnrwyd.
Safonau cofnodi
Safonau cadw cofnodion
Mae ein safonau yn mynnu ein bod yn cadw cofnodion fel a ganlyn:
Nifer y cyflogeion sydd â sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw ar sail y cofnodion a gedwir yn unol â safon 145
Dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae nifer ein haelodau staff wedi gostwng 92, sydd hefyd wedi arwain at ostyngiad yn y niferoedd ar bob lefel o sgiliau Cymraeg. Er gwaethaf y gostyngiad yn y niferoedd, mae’r data diweddaraf yn dangos bod canran y siaradwyr Cymraeg rhugl ar lefelau 4 a 5 wedi aros yn 24%, ac mae’r ganran hefyd wedi aros yr un fath ar gyfer pob lefel arall.
Mae’r ganran uchaf o’n siaradwyr Cymraeg yn parhau i fod yn rhugl mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar ar Lefel 5 (15%). Mae’r rhan fwyaf o’n siaradwyr Cymraeg rhugl (307) yn ein Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau. At ei gilydd, gall 748 (32%) o’n cydweithwyr drafod materion yn y Gymraeg ar lefelau 3, 4 a 5, gyda 94% o’n cydweithwyr yn gallu dangos cwrteisi ieithyddol wrth gyfarfod ag eraill a’u cyfarch.
Gofynnir i gydweithwyr hunanasesu eu sgiliau iaith a’u cofnodi yn MyNRW. Gellir gweld sgiliau iaith Gymraeg ein cydweithwyr ym mis Mawrth 2025 isod:
- Lefel 5 = 345 (15%)
- Lefel 4 = 211 (9%)
- Lefel 3 = 192 (8%)
- Lefel 2 = 478 (20%)
- Lefel 1 = 979 (42%)
- Dim sgiliau = 88 (4%)
Mae 63 (2%) heb hunanasesu eu sgiliau iaith hyd yma.
Anfonir nodyn atgoffa at y cydweithwyr hynny sydd heb asesu eu sgiliau iaith eto, a’u rheolwyr, unwaith y bydd yr achos dros newid wedi’i gwblhau ac mae pob cydweithiwr yn y swydd.
Mae dadansoddiad o’n siaradwyr Cymraeg rhugl yn dangos y canlynol:
- Mae’r mwyafrif rhwng 36 a 45 oed (161)
- Mae 138 rhwng 46 a 55 oed
- Mae 114 yn 55+ oed
- Mae 309 yn wrywod a 247 yn fenywod
- Mae 93 yn gweithio’n rhan-amser
- Mae’r niferoedd uchaf yng ngraddau 5 a 6 (261), gyda’r niferoedd isaf (25) yn ein graddau uwch o 9 ac uwch
- Mae un dechreuwr newydd yn rhugl mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig
- Mae 14 o siaradwyr Cymraeg rhugl wedi gadael y sefydliad yn ystod y flwyddyn adrodd hon
- Mae 23 oedd yn rhugl mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig wedi gadael y sefydliad yn ystod y flwyddyn adrodd hon
Atgoffwyd ein cydweithwyr sydd wedi cael cymorth i ddatblygu eu sgiliau iaith ac sydd wedi llwyddo i symud i lefel iaith uwch yn ystod y flwyddyn adrodd i ddiweddaru eu cofnod sgiliau iaith Cymraeg yn MyNRW. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu ffigurau mwy cywir ar lefelau iaith yn y sefydliad wrth adrodd.
Mae rhagor o wybodaeth am sgiliau Cymraeg cydweithwyr i’w gweld yn Atodiad 3 i’r adroddiad hwn.
Nifer y staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd drwy’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn, ar sail y cofnodion a gedwir yn unol â safon 146.Os cynigiwyd fersiwn Gymraeg o gwrs yn ystod y flwyddyn, canran cyfanswm y staff a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg, ar sail y cofnodion a gedwir yn unol â safon 124
Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, yn dilyn gweithredu ein system rheoli dysgu, mae ein holl gyrsiau ar-lein, yn unol â safon 124, ar gael i gydweithwyr eu cwblhau yn y Gymraeg:
- recriwtio a chyfweld – mae pum unigolyn wedi cwblhau’r cwrs hwn
- rheoli perfformiad – mae 16 o unigolion wedi cwblhau’r cwrs hwn
- gweithdrefnau cwyno a disgyblu – ni chynhaliwyd unrhyw gyrsiau
- sefydlu – ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams, cwblhaodd pedwar unigolyn un elfen o’r cwrs yn y Gymraeg a 46 yn Saesneg (wyneb yn wyneb dros Teams)
- ymwneud â’r cyhoedd – ni chynhaliwyd unrhyw gyrsiau
- iechyd a diogelwch – mae 81 o unigolion wedi cwblhau cwrs iechyd a diogelwch ar-lein
Mae mwyafrif ein cyrsiau iechyd a diogelwch yn gyrsiau technegol ac yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ac yn Saesneg. Rydym yn hysbysebu bod ein cwrs cymorth cyntaf wyneb yn wyneb ar gael yn y Gymraeg; hyd yn hyn, nid ydym wedi derbyn archeb ar gyfer y cwrs cyfrwng Cymraeg.
Oherwydd ymarferoldeb y system rheoli dysgu, sy’n caniatáu i gydweithwyr newid iaith ar unrhyw adeg o fewn cwrs, nid ydym yn gallu darparu ystadegau ar nifer y cydweithwyr sydd wedi cwblhau’r cyrsiau yn Gymraeg, sy’n golygu nad ydym yn cydymffurfio â safon 146.
Nifer y swyddi newydd a gwag a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn aailgategoreiddiwyd gennym o ran y sgiliau Cymraeg sy’n ofynnol – boed yn hanfodol, dymunol, y mae angen eu dysgu ar ôl penodi i’r swydd, neu ddim yn angenrheidiol – ar sail y cofnodion a gedwir yn unol â safon 148
Dros y flwyddyn adrodd hon, bu recriwtio cyfyngedig iawn yn digwydd, gyda 40 o swyddi gwag yn cael eu hysbysebu oherwydd rhewi’r broses recriwtio.
Mae rhai swyddi gwag yn cael eu hysbysebu’n fewnol ac yn allanol ar yr un pryd: penodwyd 24 o ymgeiswyr mewnol, 16 o ymgeiswyr allanol – 40 i gyd. Hyd yn hyn, mae naw o’r ymgeiswyr allanol sydd wedi sicrhau rolau gyda ni wedi dechrau gweithio gyda ni yn ystod y flwyddyn adrodd hon.
Mae pob swydd yn cael ei hysbysebu yn gofyn am o leiaf Lefel 1 yn yr iaith. Rhoddir hyfforddiant i gydweithwyr sydd angen cyrraedd y lefel hon o ddealltwriaeth i ddangos cwrteisi ieithyddol.
Dyma nifer y swyddi a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn adrodd hon:
Lefel ieithyddol | Hanfodol | Dymunol | Angen dysgu Cymraeg |
---|---|---|---|
Lefel 5 – Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig | 0 | 0 | 0 |
Lefel 4 – Rhugl yn y Gymraeg ar lafar | 1 | 0 | 0 |
Lefel 3 – Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith | 0 | 0 | 0 |
Lefel 1 – Y gallu i ynganu enwau, ymadroddion a chyfarchion Cymraeg sylfaenol | 39 | 0 | 0 |
Dyma ddadansoddiad o’r ystadegau a galluoedd iaith uchod ar gyfer cydweithwyr sydd wedi sicrhau rolau drwy ein proses recriwtio, yn fewnol ac yn allanol, yn ystod y flwyddyn adrodd hon:
- Mae wyth unigolyn (20%) yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 5
- Mae pedwar unigolyn (10%) yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 4
- Mae tri unigolyn (7.5%) yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 3
- Mae deg unigolyn (25%) yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 2
- Mae 13 o unigolion (32.5%) yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 1
- Nid oedd gan ddau unigolyn (5%) unrhyw sgiliau iaith Gymraeg
Disgwylir i’r ddau unigolyn nad ydynt yn cyrraedd y lefel iaith ofynnol (Lefel 1) gwblhau’r cwrs ar-lein deg awr a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd angen cwblhau’r cwrs hwn o fewn y cyfnod prawf i helpu i gyflawni’r lefel hon.
Nifer y cwynion a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn a oedd mewn perthynas â chydymffurfio â safonau 152, 156, 162 a 164, sef safonau y mae gennym ddyletswydd i gydymffurfio â nhw
Derbyniwyd tair cwyn a ddaeth yn uniongyrchol atom ni ac un a aeth at Gomisiynydd y Gymraeg, fel a ganlyn:
Cwyn 1: Gorffennaf 2024
Cawsom gŵyn gan aelod o’r cyhoedd ynghylch arwydd dwyieithog a oedd yn nodi bod maes parcio traeth Niwbwrch yn hytrach na thraeth Llanddwyn yn llawn. Mae trydydd parti yn rheoli traffig y maes parcio ar ein rhan ac roedd y contract yn nodi bod angen i bob arwydd fod yn ddwyieithog, ond nid oedd yn nodi’n benodol bod y parti yn defnyddio’r enwau swyddogol ar gyfer y traeth.
Fe wnaethom egluro i’r achwynydd fod enw swyddogol y traeth, sy’n fwy adnabyddus fel Llanddwyn, yn cynnwys tri thraeth – Penrhos, Ro Fawr a Ro Fach. Diolchwyd i’r achwynydd am dynnu hyn i’n sylw ac fe’i sicrhawyd y byddai’r mater yn cael ei gywiro ac y byddem yn darparu canllawiau clir i’r trydydd parti.
Cwyn 2: Gorffennaf 2024
Cwynodd aelod o’r cyhoedd fod sefydliad chwaraeon moduro a oedd wedi cael caniatâd gennym ni i gynnal y digwyddiad wedi arddangos arwyddion yn Saesneg yn unig, ac eglurodd yr achwynydd nad oedd hyn yn cydymffurfio â’n polisi ar gyfer safonau’r Gymraeg. Nododd yr achwynydd ei fod yn falch bod sefydliad rali lleol a oedd hefyd â chaniatâd wedi defnyddio arwyddion dwyieithog.
Ar ôl trafod y mater hwn gyda’n tîm cyfreithiol, esboniwyd i’r achwynydd fod gan y sefydliad ganiatâd i ddefnyddio ein tir at y diben a nodwyd yn ei ganiatâd. Nid oedd yn darparu gwasanaethau ar ein rhan drwy gytundeb o’r fath, felly ni fyddai’n ddarostyngedig i'n safonau.
Yn dilyn y mater hwn, rydym wedi trafod gyda’n tîm cyfreithiol ynghylch cynnwys geiriau yn ein dogfennaeth caniatâd i godi ymwybyddiaeth ac annog defnyddio’r iaith fel rhan o hyrwyddo a chynnal digwyddiadau a gynhelir ar y tir yr ydym yn ei reoli, gyda dolen wedi’i darparu i’n polisi.
Cwyn 3: Ionawr 2025
Cawsom gŵyn gan aelod o’r cyhoedd ynglŷn â defnyddio Snowdonia National Park yn lle Eryri ar ein mapiau, ac adborth ar y wefan yn gyffredinol.
Fe wnaethon ni ymateb ein bod ni’n ymwybodol o’r mater hwn ac yn gweithio gyda’n darparwyr mapiau i ddiweddaru’r mapiau, gyda gwaith ar y gweill i sicrhau bod gennym ni fapiau cyson dibynadwy, sy’n hygyrch ac sy’n defnyddio’r enwau Cymraeg safonol yn gywir, ar y mapiau rydyn ni’n eu defnyddio ar ein gwefan.
Fe wnaethom hefyd sicrhau’r achwynydd fod gwaith ar y gweill i ddiweddaru’r defnydd o Snowdonia a defnyddio Eryri yn unig ar ein gwefan yn dilyn y penderfyniad a wnaed gan y Parc Cenedlaethol, a dilyn eu hesiampl o gyflwyno Eryri yn raddol, ond rydym wedi dod i'r casgliad ei bod yn amserol ein bod yn defnyddio Eryri yn unig o hyn ymlaen.
Cwyn a dderbyniwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg – Llwybr Arfordir Cymru, Gorffennaf 2024
Derbyniodd Comisiynydd y Gymraeg gŵyn gan aelod o’r cyhoedd yn honni bod cynnwys tudalennau Facebook, X ac Instagram Llwybr Arfordir Cymru yn Saesneg yn unig.
Fe wnaethon ni egluro i’r comisiynydd fod postiadau ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru wedi cael eu cyhoeddi yn y ddwy iaith yn hanesyddol. O fis Mai 2024, mae asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus wedi dechrau cyhoeddi ein postiadau cyfryngau cymdeithasol ar ein rhan o dan gontract newydd i’r sianeli hyn gyhoeddi yn y ddwy iaith.
Ar ôl ymchwilio i’r mater, eglurodd yr asiantaeth fod y negeseuon i bob golwg yn Saesneg yn unig er gwaethaf cael eu postio i’w cyhoeddi yn y ddwy iaith. Roedd hyn oherwydd cyfyngiad yn nifer y llythrennau yr oedd y feddalwedd a ddefnyddir ganddynt yn caniatáu ar gyfer pob postiad, felly mae’r postiadau Cymraeg wedi’u byrhau oherwydd hyn. Nid oedd yr asiantaeth na thîm y llwybr arfordir yn ymwybodol o’r cyfyngiadau cyn i’r mater gael ei dynnu i’n sylw. Cadarnhaodd y trydydd parti hefyd ei fod wedi cyhoeddi’r postiad Saesneg uwchben yr un Cymraeg yn hytrach na’r un Cymraeg yn gyntaf fel y cytunwyd.
Cynhaliwyd cyfarfod gyda’r asiantaeth i drafod gofynion y contract a safonau’r Gymraeg.
O fis Awst ymlaen, cyhoeddir ein postiadau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer llwybr yr arfordir fel a ganlyn:
- Cyhoeddir pob neges ar wahân yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda’r neges Gymraeg yn cael ei chyhoeddi fel yr un sy’n debygol o gael ei gweld yn gyntaf.
- Cyhoeddir y neges Gymraeg yn gyntaf.
- Os yw’r neges yn fyr iawn, e.e. 40–60 o lythrennau, yna bydd un neges yn cael ei chyhoeddi yn y ddwy iaith, gyda’r Gymraeg yn cael ei chyflwyno yn gyntaf.
- Cynhelir cyfarfodydd misol i fonitro’r contract gyda’r asiantaeth.
Roedd y comisiynydd yn fodlon ar y camau a gymerwyd gennym i unioni a monitro’r sefyllfa ar gyfer y dyfodol a phenderfynodd beidio ag ymchwilio ymhellach.
Hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg
Digwyddiadau
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi dathlu a hyrwyddo nifer o ddigwyddiadau Cymraeg yn rhithwir. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’n Tîm Cyfathrebu i hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru yn fewnol ac yn allanol. Dyma restr o ddigwyddiadau rydyn ni wedi’u dathlu eleni:
- 3–10 Awst 2024 – Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd
- 16 Medi 2024 – Diwrnod Owain Glyndŵr – Erthyglau ymgysylltu dros y fewnrwyd a Viva
- 15 Hydref 2024 – Diwrnod Shwmae Su’mae – Erthygl Su’mae ar ein mewnrwyd a rhannu posteri a gynhyrchwyd gan Dysgu Cymraeg a Mentrau Iaith ar ein sianeli Viva Engage
- 25 Tachwedd i 9 Rhagfyr 2024 – Ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg (ymgyrch Comisiynydd y Gymraeg i hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg) – Yr wythnos gyntaf fe wnaethon ni rannu’r wybodaeth hyrwyddo a ddarparwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Yn yr ail wythnos, fe wnaethon ni rannu mwy o wybodaeth am y gwasanaethau y mae CNC yn eu darparu yn y Gymraeg a’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael gennym. Fe wnaethon ni gyfweld â dysgwr i weld sut mae’n elwa o’r hyfforddiant Cymraeg a gynigir gan CNC.
- 25 Ionawr 2025 – Diwrnod Santes Dwynwen – Erthygl ar y fewnrwyd a sianeli Viva Engage
- 3 Chwefror 2025 – Dydd Miwsig Cymraeg – Sgwrs ar Viva Engage am gerddoriaeth a bandiau Cymreig
- 10 Chwefror 2025 – Hyfforddiant cadeirio’n ddwyieithog a chynnal digwyddiadau dwyieithog ar gyfer aelodau ein Bwrdd a’n Tîm Gweithredol
- 1 Mawrth 2025 – Dydd Gŵyl Dewi – Cynhaliwyd dwy weminar, un yn Gymraeg ac un yn Saesneg, i hyrwyddo’r hyn sydd gennym ar waith i gefnogi cydweithwyr i weithio’n ddwyieithog. Rhoddwyd cyflwyniadau gan y tîm TGCh a chyfathrebu ar frandio a defnyddio ein cefndiroedd Microsoft Teams corfforaethol, yr hyfforddiant Cymraeg sydd ar gael, a gwasanaethau ein tîm cyfieithu, a oedd yn cynnwys sut i ddefnyddio Cysgeir.
Sianeli Viva Engage
Mae ein Cydlynydd Hyfforddiant Cymraeg yn diweddaru ein tudalennau Cymraeg yn rheolaidd ar ein sianeli mewnol Viva Engage, gan rannu awgrymiadau, argymhellion hyfforddi a chyrsiau i gydweithwyr yn ogystal ag unrhyw erthygl ddiddorol mewn perthynas â’r iaith. Dyma ffordd wych o gyfathrebu’n anffurfiol â chydweithwyr, sy’n ymatebol iawn drwy’r math hwn o gyfathrebu.
Rheolwyr Misol
Rydym yn defnyddio cylchlythyr Rheolwyr Misol i godi ymwybyddiaeth o ganllawiau, prosesau a gweithdrefnau newydd mewn perthynas â’r Gymraeg. Dros y flwyddyn adrodd hon, rydym wedi hyrwyddo:
- Pecyn cymorth i reolwyr i helpu rheolwyr i fod yn gyfarwydd â gofynion ein polisi o ran safonau’r Gymraeg a’u cyfrifoldeb fel rheolwyr i sicrhau bod eu holl dîm yn cyflawni eu dyletswyddau o ddydd i ddydd yn unol â’r polisi
- Canllawiau a ffurflen ar gyfer asesiad o’r effaith ar y Gymraeg
- Gweminar Dydd Gŵyl Dewi
- Nodyn Canllaw Gweithredol 124 – Enwi safleoedd a lleoedd ac ymgynghori â’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol
- Ystyriaethau’r Gymraeg mewn canllawiau ar y broses gaffael
- Hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r Gymraeg
Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol – adroddiad gweithgarwch 2024 i 2025
Mae gennym ddyletswydd statudol i ymgynghori ar y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol ac ychwanegu ati. Fe wnaethon ni weithio ochr yn ochr â Phanel Safoni Enwau Lleoedd Cymru Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ddatblygu canllawiau mewnol Nodyn Cyfarwyddyd Gweithredol 124 yn ymwneud â’n dyletswyddau statudol.
Rydym yn cysylltu’n rheolaidd â Phanel Safoni Enwau Lleoedd Cymru Comisiynydd y Gymraeg i gael cyngor am y rhesymau canlynol:
- gweithgareddau enwi, e.e. coetiroedd, safleoedd dynodedig, enwau lleoedd ardaloedd, ardaloedd cymeriad
- defnyddio’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol er gwybodaeth
- caffael enwau lleoedd nad ydynt efallai ar y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol, e.e. prynu tir newydd ag enwau caeau hanesyddol
Dros y flwyddyn adrodd hon, rydym wedi gwneud y canlynol:
Cofnodi penderfyniadau ar enwau lleoedd
- Coed Abermarlais neu Goed Brownhill
- Coed Tynymynydd
- Coed Bryn Crugog
- Chwarel Maelwg
- Ynys Sgomer
- Enwau Sgomer (enwau lleoedd ar Ynys Sgomer)
- Coedwig Penlle’r-gaer
- Coed Pantperthog
- Coed Cwm Cadian
- Pont Ty’n-y-groes
- Pont Cae’n-y-coed
- Comin Treteio
- Dalar-wen
- Gweunydd Nant y Twyn
- Mynyddoedd Llangynidr a Llangatwg, Cefn yr Ystrad a Chomin Merthyr
- Coedwig Dyfi
Gwaith pellach sy’n gysylltiedig ag enwau lleoedd
Fe wnaethom hefyd ymgynghori â Phanel Safoni Enwau Lleoedd Cymru Comisiynydd y Gymraeg i gael cyngor ar enw’r Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig.
Cynigiwyd dau enw yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn hydref 2024, gan ofyn am adborth:
- Parc Cenedlaethol Bryniau Clwyd a’r Berwyn National Park
- Parc Cenedlaethol Glyndŵr National Park
Gallai ymatebwyr hefyd gyflwyno eu hopsiwn eu hunain.
Enwau ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig newydd
- Dynodwyd un safle ar 16 Ionawr 2025 gan ddefnyddio’r enw a argymhellwyd – Gweunydd Nant y Twyn.
Rhwydweithio a gwaith prosiect
Rhwydwaith Dysgu a Datblygu’r Gymraeg
Cawsom ein gwahodd gan Lywodraeth Cymru i ymuno â’r rhwydwaith newydd hwn, a ddechreuodd gyfarfod ym mis Ionawr 2025. Mae’r rhwydwaith ar agor i bob sefydliad cyhoeddus ac mae’n canolbwyntio ar gefnogi cyfleoedd dysgu a datblygu trwy gyfrwng y Gymraeg i’w gweithlu. Mae hyn hefyd yn cynnwys cefnogi datblygiad sgiliau a galluoedd yn y Gymraeg.
Datblygwyd y rhwydwaith i rannu arferion da a syniadau, trafod materion, a dod o hyd i ffyrdd o gefnogi ein gilydd gyda’r nod o gyflawni uchelgeisiau strategaeth Cymraeg 2050 a chefnogi’r gwaith o gyflawni safonau’r Gymraeg o ran yr hyfforddiant a ddarperir.
Prosiectau Comisiynydd y Gymraeg
Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill ar ddau brosiect fel a ganlyn:
- Prosiect dwy flynedd yn edrych ar ffyrdd o gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn fewnol mewn sefydliadau cyhoeddus. Mae’r prosiect yn cynnwys gweithio ar y cyd a rhannu arfer da a dysgu gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Bydd canfyddiadau’r prosiect hwn yn ein helpu i ddatblygu model mewnol i gyd-fynd â’n gweledigaeth o ran datblygu ein hunain yn sefydliad dwyieithog a byw ein gwerthoedd. Mae cynhadledd wedi’i threfnu gan Gomisiynydd y Gymraeg a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ym mis Gorffennaf 2025 i rannu gwybodaeth a phrofiadau o’r gwaith prosiect hwn.
- Prosiect i annog sefydliadau i wella sut i ddylunio a hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg er mwyn cynyddu eu defnydd. Fe wnaethom nodi ein gwasanaethau rhybuddio rhag llifogydd fel gwasanaeth i’w hyrwyddo’n weithredol fel rhan o’r prosiect, gan ddefnyddio ein rhwydweithiau a’n cyfryngau cymdeithasol ein hunain i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth Cymraeg a ddarperir. Mae gwybodaeth am sut rydym wedi hyrwyddo’r gwasanaeth hwn ar gael ar dudalen 10 o’r adroddiad hwn. Mae’r comisiynydd yn bwriadu ysgrifennu adroddiad ar ganfyddiadau’r prosiect a rhannu arferion da a ddysgwyd.
Rhagolwg
Strategaeth Llywodraeth Cymru – Cymraeg 2050 – Miliwn o siaradwyr Uchelgais y strategaeth yw gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 lle mae pobl yn siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau. Un o’r tair thema yn y strategaeth yw “Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg”, gyda’r ffocws ar gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, mewn gwasanaethau ac mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.
Er mwyn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru, mae Cynllun Strategol Comisiynydd y Gymraeg 2025–30 yn canolbwyntio ar sicrhau y gall pobl gynnal a datblygu sgiliau iaith Gymraeg a bod cyfleoedd yn cael eu rhoi i bobl ddefnyddio a siarad yr iaith ym mhob agwedd ar eu bywydau.
Mae un o’r tair thema yn y strategaeth yn ymwneud â’r gweithle a sicrhau y gall siaradwyr Cymraeg ddefnyddio eu sgiliau iaith yn y gweithle o ddydd i ddydd. Bydd ffocws y comisiynydd ar gefnogi sefydliadau i ddarparu mwy o gyfleoedd a gweld cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg yn fewnol mewn sefydliadau cyhoeddus ledled Cymru.
Er mwyn cefnogi uchelgais Cymraeg 2050, nod Cyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) (15 Gorffennaf 2024) | LLYW.CYMRU yw sicrhau bod yr holl ddisgyblion sy’n gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg yn hyderus.Bydd y Bil hefyd yn darparu targedau mewn perthynas â defnyddio’r iaith, gan gynnwys yn y gweithle ac yn gymdeithasol, er mwyn helpu i gyflawni uchelgais Cymraeg 2050.
Mae’r Bil hefyd yn anelu at greu cysondeb a fformat safonol ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg yn seiliedig ar lefelau’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd (CEFR).
Datblygu gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn CNC
Yn dilyn papur trafod a gyflwynwyd i’n Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid ym mis Medi 2023 i ofyn am farn ar ein huchelgais a’n gweledigaeth ar gyfer yr iaith fel sefydliad, gwnaethom ymrwymiad yn ein Hadroddiad Blynyddol ar y Gymraeg ar gyfer 2023-2024 y byddai grŵp gorchwyl a gorffen yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn. Oherwydd yr achos dros newid, gohiriwyd y gwaith hwn eleni.
Bydd y grŵp yn cael y dasg o ddatblygu uchelgais a gweledigaeth CNC ei hun ar gyfer yr iaith a’i defnydd yn fewnol, yn ogystal â chyflawni ein hymrwymiadau statudol mewn perthynas â safonau’r Gymraeg. Bydd y grŵp yn edrych ar yr arferion gorau sydd eisoes wedi’u sefydlu gan sefydliadau eraill i gynyddu cyfleoedd i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg allu defnyddio’r iaith yn fewnol yn eu gwaith o ddydd i ddydd a rhoi dewis i gydweithwyr weithio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, gan brif ffrydio defnydd o’r Gymraeg fel ffordd naturiol o weithio ym mhob un o’n gweithleoedd.
Er bod gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen wedi’i ohirio, rydym wedi canolbwyntio dros y flwyddyn adrodd hon ar ein safonau gweithredu mewnol ac ar fod yn rhagweithiol wrth hyrwyddo’r gefnogaeth a’r systemau sydd ar gael i gydweithwyr eu defnyddio yn Gymraeg. Bu nifer o fentrau eraill hefyd, fel yr eglurir yn yr adroddiad hwn, i ddarparu mwy o gyfleoedd i gydweithwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol.
Byddwn yn parhau â’r gwaith hwn yn ystod y flwyddyn nesaf a thrwy ein prosiectau gyda’r comisiynydd.
Casgliad
Er bod y flwyddyn adrodd hon wedi bod yn gyfnod o newid i’r sefydliad, rydym yn falch o’r cynnydd rydym wedi parhau i’w wneud wrth weithredu safonau’r Gymraeg.
Roeddem yn falch iawn o dderbyn sicrwydd gan Gomisiynydd y Gymraeg o gydymffurfedd uchel â’n safonau yn dilyn eu hymarfer monitro ohonom fel sefydliad ar yr achlysur hwn. Bydd angen i ni barhau i fod yn rhagweithiol wrth fonitro ein cydymffurfedd, hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r iaith, a sicrhau ei bod yn parhau i gael ei phrif ffrydio yn ein holl waith i gynnal y safon hon.
Mae nifer ein staff wedi lleihau, ynghyd â nifer y siaradwyr Cymraeg, ond rydym yn falch o fod wedi gallu cynnal yr un ganran o siaradwyr Cymraeg ar bob lefel, gyda 748 (32%) o’n cydweithwyr yn gallu trafod materion yn Gymraeg ar lefelau 3, 4 a 5, a 94% o’n cydweithwyr yn gallu dangos cwrteisi ieithyddol wrth gyfarfod ag eraill a’u cyfarch.
Mae’r nifer sy’n datblygu eu sgiliau iaith wedi gostwng, a hynny’n bennaf oherwydd y newidiadau sy’n digwydd yn fewnol. Byddwn yn hyrwyddo ein rhaglen hyfforddi dros y misoedd nesaf ac yn anelu at gynyddu nifer y bobl sy’n dymuno datblygu eu sgiliau iaith. Byddwn hefyd yn edrych ar ffyrdd mwy creadigol o gefnogi ein dysgwyr i allu ymarfer a defnyddio eu sgiliau iaith yn y gweithle.
Rydym wedi gweld cwynion a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn adrodd hon ond rydym yn falch ein bod wedi gallu mynd i’r afael â’r materion a godwyd a sicrhau bod ein cydweithwyr, cwsmeriaid a phartneriaid yn derbyn y gwasanaeth yr oeddent yn ei ddisgwyl gennym.
Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau â’n gwaith o wella ein gwasanaethau Cymraeg ac yn chwilio am ffyrdd o gynyddu eu defnydd drwy ein cydweithrediad ar ein prosiect gyda Chomisiynydd y Gymraeg a’r Ganolfan Gwasanaethau Digidol Cyhoeddus, sy’n canolbwyntio ar y maes hwn.
Er bod ein gwaith o ddatblygu gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg i’r sefydliad wedi’i ohirio yn ystod y flwyddyn, rydym yn deall pwysigrwydd y gwaith hwn os ydym am gadw a denu siaradwyr Cymraeg i’r sefydliad. I wneud hynny, mae angen i’r iaith fod yn rhan o’n diwylliant a’n ffyrdd naturiol o weithio, gan gefnogi ein gwerthoedd a’r ymrwymiad a wnaed yn ein cynllun corfforaethol, yn ogystal â chefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith erbyn 2050.
Atodiad 1
Cymorth a gwasanaethau’r Tîm Cyfieithu
Mae’r Tîm Cyfieithu yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy a hanfodol i’r sefydliad a hebddyn nhw byddai canran uchel o’r gwaith a amlygwyd uchod yn anodd ei gyflawni.
Mae’r Tîm Cyfieithu wedi bod yn brysur eto eleni yn cefnogi’r sefydliad o ddydd i ddydd gyda’i anghenion Cymraeg, gan gydweithio ar brosiectau a chyfathrebu a chydlynu’n gyson ar draws CNC i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan bwysig o waith y sefydliad.
Mae’r tîm ychydig yn llai na’r flwyddyn flaenorol, gyda dau aelod yn lleihau eu horiau o un diwrnod yr wythnos. Mae’r ddau ddiwrnod gwag hyn, felly, yn ymuno â’r hanner swydd a oedd eisoes yn wag – sy’n golygu bod y tîm bellach bron un swydd yn brin o’r model gwreiddiol a osodwyd ar gyfer y gwasanaeth. Mae’r tîm nawr fel a ganlyn:
- Arweinydd Tîm – amser llawn
- Uwch-gyfieithydd – 0.8 swydd lawn
- Cyfieithydd – amser llawn
- Cyfieithydd – 0.8 swydd lawn
- Cyfieithydd – 0.5 swydd lawn
- Swyddog Gweinyddol – amser llawn
Serch hynny, gan barhau i wneud defnydd da o’n cof cyfieithu, Phrase Translate, sydd gennym ers tua dwy flynedd bellach, mae’r tîm wedi llwyddo i ffynnu yn ystod blwyddyn heriol ac ymateb i’r galw cynyddol yng ngoleuni’r achos dros newid a’r holl ddeunyddiau cysylltiedig. Mae ein cof cyfieithu bellach yn cynnwys dros dair miliwn o eiriau – sy’n golygu ei fod wedi dyblu o ran maint dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r feddalwedd yn caniatáu inni gyflawni tasgau a fyddai wedi bod yn amhosibl yn y gorffennol – e.e. ymdopi â’r llif o ddeunyddiau a ddaeth gyda’r achos dros newid, gan alluogi cyhoeddi popeth yn ddwyieithog; cyfieithu 55,000 o eiriau o gyflwyniadau PowerPoint mewn dim ond tair wythnos ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru; neu gyfieithu’r llif cyson a chyflym o geisiadau o’r adran recriwtio yn y misoedd yn dilyn y gwaith ailstrwythuro. Rhaid nodi na fyddai rhywfaint o’r gwaith hwn wedi’i wneud yn y gorffennol oherwydd diffyg capasiti – yn fewnol neu’n allanol – gan arwain at lawer mwy o ddeunydd ar gael yn y Gymraeg. Mae llawer o’r gwaith hwn hefyd wedi’i wneud o fewn terfynau amser na fyddai wedi bod yn bosibl yn y gorffennol – er nad yw hynny’n rhywbeth y mae’r tîm yn rhy awyddus i barhau i’w wneud yn gyson yn y dyfodol!
Mae’r tîm bellach yn llwyddo i wneud y rhan fwyaf o’r gwaith sy’n dod atom yn fewnol – nod a osodwyd i ni pan grëwyd y tîm ar ei ffurf bresennol ryw dair blynedd yn ôl.
*Geiriau wedi’u cyfieithu’n fewnol / yn allanol 2024-25
Cyfieithwyd cyfanswm o 1,702,237 o eiriau yn fewnol a 981,282 yn allanol – ac nid yw hyn yn cynnwys y doreth o dasgau bach, brawddeg neu ddwy o hyd, a dderbynnir yn ddyddiol, nac, yn amlwg, unrhyw waith y tu hwnt i gyfieithu, fel prawfddarllen a gwirio testun.
*Cyfanswm y geiriau a gyfieithwyd yn fewnol / yn allanol yn ôl mis 2024/25
Byddwn yn parhau i hyrwyddo ein gwasanaeth gwirio ac yn parhau i annog cydweithwyr i ddefnyddio eu Cymraeg a chadw llygad ar yr ystadegyn hwn i weld a oes cynnydd yn y blynyddoedd i ddod.
Mae’r tîm wedi parhau i wasanaethu cyrff allanol eto eleni hefyd, er budd Cyfoeth Naturiol Cymru. Er enghraifft, mae gwaith yn cael ei wneud ar brosiectau penodol ar gyfer y Bwrdd Glo ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr.
Y tu hwnt i’n gwaith cyfieithu y gellir ei fesur yn ystadegol, rydym wedi parhau i gyfrannu at lu o waith arall, gan gynnwys y broses o enwi llwybrau a safleoedd, a’r broses o brawfddarllen a chymeradwyo arwyddion a thaflenni safleoedd – rydym yn gwneud hyn ar wahanol lwyfannau digidol er hwylustod ein cwsmeriaid, gan sicrhau gwasanaeth sydd mor gyfleus â phosibl. Mae’r tîm hefyd yn cyfrannu trwy ysgrifennu mewn parau neu driawdau – mae gwaith trwyddedau pysgota a gwaith i’r tîm digidol wedi manteisio ar y dull cydweithredol hwn.
Yn yr un modd, drwy gydweithio â chydweithwyr ar draws y sefydliad, mae’r tîm wedi parhau i fanteisio ar bob cyfle i weithio gyda thimau gwahanol i greu testunau Cymraeg gwreiddiol, a chynghori cydweithwyr ar bosibiliadau a dewisiadau amgen o ran cynnwys y Gymraeg fel rhan annatod o brosiectau – mae hyn wedi arwain at bodlediadau, blogiau, fideos, barddoniaeth a rhyddiaith gan dimau ar draws y sefydliad.
Enghraifft dda o hyn yw ein cydweithrediad â Natur am Byth – rydym yn darparu ar gyfer eu hanghenion cyfieithu o ddydd i ddydd, ac eleni cafwyd trafodaethau am y ffordd orau ymlaen gyda rhai o’u prosiectau creadigol. Fe wnaethon ni bwysleisio pwysigrwydd ystyried y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf, egluro nad cyfieithu yw’r ateb i bob sefyllfa, a gweithio gyda nhw i ddod o hyd i ateb.
Arweiniodd hyn at weithdrefn newydd ar gyfer ystyried y Gymraeg wrth gomisiynu gwaith creadigol, ac ar gyfer comisiynu cyfieithiadau creadigol, sy’n golygu bod y cyfieithiad yn parchu’r gwaith creadigol gwreiddiol ac yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â’r Saesneg. Dyma enghraifft o’r Tîm Cyfieithu yn gwybod pryd i gynghori yn hytrach na chytuno i'r Gymraeg fod yn gyfieithiad ar ddiwedd y broses bob amser. Fe wnaethon ni gynghori mewn ffordd debyg ar brosiect Llwybr Arfordir Cymru i gyfieithu a chyhoeddi llyfr teithio cyfan yn Gymraeg.
Rhan arall o’n gwaith yw cyfrannu at safoni terminoleg ym maes yr amgylchedd a’r byd naturiol. I’r perwyl hwn, mae arweinydd y tîm wedi ymuno â phrosiect Gwreiddiau Gwyllt y Mentrau Iaith. Bydd yn cydlynu gwaith y Panel Safoni Termau, gan gyfrannu at barhau â gwaith ysgolheigion i safoni termau ar gyfer y Porth Termau a’r Bywiadur. Credwn ei bod yn briodol i CNC gyfrannu’n amlwg at waith fel hyn.
Yn olaf, gair am ein gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Gwnaed 29 o geisiadau am wasanaeth cyfieithu ar y pryd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda sawl cais am ddigwyddiadau lluosog. Yn fras, roedd yr ystadegau fel a ganlyn: 15 cais am gyfieithu ar y pryd ar y safle, deg cais am gyfieithu ar y pryd dros Teams, a phedwar cais hybrid. Unwaith eto, roedd llawer o’r gwaith hwn yn cynnwys ymgynghori pwysig i sicrhau bod cyfieithydd yn cael ei drefnu pan fo angen un – mae hyn yn cynnwys ceisio ymestyn y gwasanaeth i sicrhau nad oes rhaid i swyddogion gyflwyno yn Saesneg os nad ydyn nhw eisiau gwneud hynny. Enghraifft o hyn oedd y Gynhadledd Dystiolaeth – EvCon – lle darparwyd cyfieithydd am y tro cyntaf, gan alluogi cyflwyniadau yn Gymraeg. Cafwyd llawer o adborth cadarnhaol o ganlyniad i hyn. Cafwyd adborth cadarnhaol hefyd am y gwasanaeth cyfieithu yn y cyfarfodydd arwyddocaol ynglŷn â’r ddarpariaeth yn ein canolfannau ymwelwyr – digwyddiadau lle’r oedd darpariaeth y Gymraeg yn hanfodol.
Felly, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol yn wir – ond gallaf ddweud yn hyderus bod y Tîm Cyfieithu wedi rhagori ar yr hyn a ddisgwyliwyd ganddo, gan ymestyn ei ddylanwad i gynorthwyo cydweithwyr a helpu i sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ym mhob elfen o waith y sefydliad. Rydym yn deall bod yr adborth am ein gwasanaeth yn yr Adolygiad Gwasanaethau Galluogi yn cefnogi hyn yn fawr.
Atodiad 2
Hyfforddiant y Gymraeg 2024-2025
Rhanbarth | Dysgwyr 2024/25 | Canran |
---|---|---|
Caerdydd |
6 |
4% |
Sir Gaerfyrddin |
3 |
3% |
Ceredigion/Powys |
35 |
24% |
Morgannwg |
0 |
0% |
Gwent |
33 |
23% |
Gogledd-ddwyrain |
15 |
10% |
Gogledd-orllewin |
33 |
23% |
Sir Benfro |
4 |
3% |
Bae Abertawe |
7 |
5% |
Y Fro |
6 |
4% |
Cymraeg Gwaith (opsiwn hunanddysgedig) |
1 |
1% |
Cyfanswm | 143 | 100% |
Nant Gwrtheyrn
Mae 21 o gydweithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynychu cyrsiau preswyl dwys a ddarparwyd gan Nant Gwrtheyrn eleni. Nid yw’r rhain wedi’u cynnwys yn y ffigurau uchod.
Mae Nant Gwrtheyrn yn cynnig cyrsiau dwys ar gyfer pob gallu ac mae rhai o’r rhain wedi’u hariannu’n llawn drwy’r cynllun Cymraeg Gwaith. Manteisiodd 15 o’n cydweithwyr ar y cynllun hwn a chafwyd adborth gwych.
Mae Nant Gwrtheyrn wedi rhyddhau rhai dyddiadau pellach yn ddiweddar ar gyfer cyrsiau Cymraeg Gwaith rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2025 ac mae llawer o bobl eisoes wedi dangos diddordeb yn y rhain!
Fe wnaeth Mark Bond o’n tîm cyfathrebu flogio ar fideo am ei gyfnod yn Nant Gwrtheyrn ac mae hyn bellach wedi’i gynnwys ar wefan Dysgu Cymraeg.
Say Something in Welsh
Mae Say Something in Welsh (SSiW) yn danysgrifiad rydyn ni’n ei gynnig i’n holl gydweithwyr, boed ar gontractau parhaol neu dymor byr. Mae hefyd yn ddull dysgu a anogir gan Dysgu Cymraeg. Rydym hefyd yn cynnig hyn fel dewis dros dro i gydweithwyr sy’n aros i gofrestru ar gyfer cwrs Dysgu Cymraeg.
Oherwydd hyn, nid yw ffigurau SSiW wedi’u cynnwys yn yr ystadegau uchod gan fod rhai dysgwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer cyrsiau mynediad hefyd wedi cofrestru ar gyfer SSiW.
Ar hyn o bryd, mae gennym 11 o ddysgwyr wedi cofrestru ar Say Something in Welsh.
Cynllun mentora
Rydym wedi ail-frandio ein cynllun mentora eleni i ‘Clwb Clonc’. Ar hyn o bryd, mae gennym 19 o ddysgwyr yn cael eu mentora ond rydym wedi canfod, dros yr ychydig fisoedd diwethaf, fod yr achos dros newid wedi cael effaith ar hyn gan nad oes gan gydweithwyr amser i ymroi i hyn. Rydym yn ei chael hi’n anodd recriwtio siaradwyr Cymraeg rhugl i fentora; fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gwella unwaith y bydd goblygiadau’r achos dros newid yn gwbl hysbys.
Mae CNC hefyd wedi cyflwyno menter newydd sy’n caniatáu i siaradwyr Cymraeg (dysgwyr rhugl neu hyderus) helpu trwy ddewis ‘Hapus i Siarad Cymraeg’, a fydd yn caniatáu i bobl wybod bod pwy bynnag sydd â’r logo hwnnw ar gefndir eu MS Teams yn hapus i siarad Cymraeg. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog mentora anffurfiol ac yn hyrwyddo siarad Cymraeg pryd bynnag y bo modd.
Atodiad 3
Hunanasesiad cydweithwyr o’u sgiliau Cymraeg ym mis Mawrth 2025
Dyddiad | Dim datganiad wedi’i gwblhau | Dim sgiliau iaith | Gallu ynganu ymadroddion a chyfarchion sylfaenol | Gallu llunio brawddegau sylfaenol | Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus | Siaradwr Cymraeg rhugl | Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Mawrth 2025 | 63 (2%) | 88 (4%) | 979 (42%) | 478 (20%) | 198 (8%) | 211 (9%) | 345 (15%) |
Mawrth 2024 | 46 (2%) | 97 (4%) | 1034 (42%) | 487 (20%) | 204 (8%) | 225 (9%) | 355 (15%) |
Mawrth 2023 | 49 (2.1%) | 98 (4.2%) | 980 (41.8%) | 469 (20%) | 179 (7.6%) | 223 (9.5%) | 348 (14.8%) |
Mawrth 2022 | 43 (2%) | 88 (3.9%) | 942 (41.7%) | 456 (20%) | 175 (7.8%) | 221 (9.8%) | 334 (14.8%) |
Chwefror 2021 | 109 (4.9%) | 87(3.9%) | 915 (40.9%) | 438 (19.6%) | 153 (6.8%) | 225 (10%) | 310 (13.9%) |
Mawrth 2020 | 134 (6.5%) | 63 (3.1%) | 820 (40.0%) | 412 (20.1%) | 136 (6.6%) | 211 (10.3%) | 275 (13.4%) |
Nifer y staff ym mis Mawrth 2024 = 2,356 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg rhugl ym mis Mawrth 2025 = 556 (24%)
Nifer y staff ym mis Mawrth 2024 = 2,448 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg rhugl ym mis Mawrth 2024 = 580 (24%)
Nifer y staff ym mis Mawrth 2023 = 2,346 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg rhugl ym mis Mawrth 2023 = 571 (24.3%)
Nifer y staff ym mis Mawrth 2022 = 2,259 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg rhugl ym mis Mawrth 2022 = 555 (24.6%)
Nifer y staff ym mis Chwefror 2021 = 2,237 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg rhugl ym mis Chwefror 2021 = 535 (24%)
Nifer y staff ym mis Mawrth 2020 = 2,051 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg rhugl ym mis Mawrth 2020 = 486 (23.7%)
Sgiliau Cymraeg yn ôl cyfarwyddiaeth – Mawrth 2025
Cyfarwyddiaeth | Dim datganiad wedi’i gwblhau | Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg | Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol | Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol | Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus | Rhuglder mewn Cymraeg llafar | Rhuglder mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol | 16 (8%) | 6 (6%) | 56 (28%) | 33 (16%) | 15 (7%) | 17 (8%) | 53 (27%) | 196 |
Strategaeth a Datblygu Corfforaethol | 3 | 1 | 14 | 26 | 4 | 8 | 16 | 72 |
Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu | 7 | 20 | 297 | 153 | 60 | 46 | 74 | 657 |
Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol | 3 | 16 | 82 | 35 | 15 | 14 | 21 | 186 |
Gweithrediadau | 34 | 45 | 530 | 231 | 98 | 126 | 181 | 1245 |
CYFANSWM | 63 | 88 | 979 | 478 | 192 | 211 | 345 | 2356 |
Sgiliau Cymraeg yn ôl proffil oedran Mawrth 2025
Oedran | Dim datganiad wedi’i gwblhau | Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg | Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol | Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol | Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus | Rhuglder mewn Cymraeg llafar | Rhuglder mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
<25 | 1 | 1 | 8 | 3 | 3 | 1 | 6 | 23 |
26-35 | 11 | 19 | 148 | 56 | 26 | 34 | 102 | 396 |
36-45 | 13 | 24 | 243 | 145 | 57 | 66 | 95 | 643 |
46-55 | 15 | 19 | 326 | 163 | 55 | 66 | 72 | 716 |
156-65 | 17 | 24 | 236 | 102 | 45 | 36 | 60 | 520 |
65+ | 6 | 1 | 18 | 9 | 6 | 8 | 10 | 58 |
Cyfanswm | 63 | 88 | 979 | 478 | 192 | 211 | 345 | 2356 |
Sgiliau Cymraeg yn ôl rhywedd - gweithwyr llawn-amser/rhan-amser, Mawrth 2025
Rhywedd | Dim datganiad wedi’i gwblhau | Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg | Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol | Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol | Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus | Rhuglder mewn Cymraeg llafar | Rhuglder mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Benyw | 28 | 43 | 438 | 251 | 93 | 89 | 158 | 1100 |
Amser llawn | 23 | 32 | 339 | 182 | 71 | 63 | 118 | 828 |
Rhan amser | 5 | 11 | 99 | 69 | 22 | 26 | 40 | 272 |
Gwryw | 35 | 45 | 541 | 227 | 99 | 122 | 187 | 1256 |
Amser llawn | 29 | 41 | 494 | 210 | 92 | 105 | 177 | 1148 |
Rhan amser | 6 | 4 | 47 | 17 | 7 | 17 | 10 | 108 |
Cyfanswm | 63 | 88 | 979 | 478 | 192 | 211 | 345 | 2356 |
Sgiliau Cymraeg fesul gradd, Mawrth 2025
Gradd | Dim datganiad wedi’i gwblhau | Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg | Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol | Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol | Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus | Rhuglder mewn Cymraeg llafar | Rhuglder mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
APP | - | - | 4 | - | - | 2 | - | 6 |
G1 | 1 | - | - | 1 | 1 | 1 | 1 | 5 |
G2 | 5 | 8 | 26 | 11 | 6 | 6 | 14 | 76 |
G3 | 3 | 5 | 44 | 14 | 4 | 12 | 28 | 110 |
G4 | 11 | 8 | 139 | 51 | 15 | 43 | 65 | 332 |
G5 | 12 | 27 | 255 | 100 | 55 | 55 | 89 | 593 |
G6 | 8 | 21 | 237 | 160 | 49 | 49 | 68 | 592 |
G7 | 2 | 10 | 147 | 85 | 40 | 26 | 39 | 349 |
G8 | 2 | 2 | 79 | 36 | 13 | 11 | 22 | 165 |
G9 | 3 | 2 | 33 | 15 | 7 | 6 | 8 | 74 |
G10 | - | - | 1 | - | - | - | 1 | 2 |
G11 | 1 | 3 | 11 | 3 | - | 1 | 7 | 26 |
SPOT | 4 | 2 | 2 | 2 | 1 | 1 | 1 | 13 |
CX | - | - | - | - | 1 | - | - | 1 |
NED | 11 | - | - | - | - | - | - | 11 |
Cyfanswm | 63 | 88 | 979 | 478 | 292 | 213 | 343 | 2356 |
Sgiliau Cymraeg dechreuwyr newydd ac ymadawyr, Mawrth 2025
Dim datganiad wedi’i gwblhau | Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg | Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol | Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol | Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus | Rhuglder mewn Cymraeg llafar | Rhuglder mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig | Cyfanswm | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Staff newydd | 0 | 2 | 5 | 1 | 0 | 0 | 1 | 9 |
Staff sy’n gadael | 4 | 10 | 67 | 18 | 12 | 14 | 23 | 148 |