Rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy

Ein hadnoddau naturiol

Mae’r aer, y tir, dŵr, bywyd gwyllt, planhigion a phridd – ein ‘hadnoddau naturiol’ – yn darparu’n hanghenion sylfaenol, yn cynnwys bwyd, ynni, iechyd a mwynhad.

Wrth ofalu amdanynt yn y ffordd iawn, gallant ein helpu i leihau llifogydd, gwella ansawdd yr aer a chyflenwi deunyddiau adeiladu. Maent hefyd yn gartref i fywyd gwyllt prydferth a phrin a thirweddau nodedig y gallwn eu mwynhau ac sy’n hybu’r economi drwy dwristiaeth.

Pwysau cynyddol

Ond mae’n hamgylchedd a’n hadnoddau naturiol yn dod o dan bwysau cynyddol – yn sgil y newid yn yr hinsawdd, poblogaeth sy’n tyfu a’r angen i gynhyrchu ynni.

Bydd ein Adroddiad ar gyflwr Adnoddau Naturiol Cymru yn edrych ar dystiolaeth gyfredol ar gyflwr ein hadnoddau naturiol. 

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar ein hamgylchedd yn y dyfodol, mae’n rhaid i ni i gyd edrych ar ei ôl fel y gall barhau i roi’r pethau sydd eu angen arnom i ni. Gall unrhyw benderfyniadau a wnawn ni gael effaith ganlyniadol ar yr amgylchedd cyfan, yn awr ac i sawl cenhedlaeth i ddod.

Dull cydgysylltiedig

Mae amgylchedd iach yn helpu i gynnal pobl a’r economi. Mae angen i ni ofalu am ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gydgysylltiedig sy’n dwyn buddiannau lluosog i bobl a natur, yn awr ac yn y dyfodol. Rydym i gyd yn hyn gyda’n gilydd, o’r Llywodraeth i’r sector cyhoeddus i fusnesau i unigolion - mae’n rhaid i ni gyd wneud ein rhan.

Mae angen i ni gynllunio a pharatoi am yr heriau sydd o’n blaen – p’un ai bod y rhain yn argyfyngau economaidd byd-eang neu’n newid hinsawdd. Pan fo’n hamgylchedd yn gweithio ar ei orau, gwyddom fod cymdeithas gyfan yn ffynnu.

Y cynnydd hyd yma

Mae degawdau o waith yn deall, gwarchod a gwella’n hamgylchedd wedi mynd â ni yn bell. Mae’n hafonydd a’n traethau yn lanach, mae’r aer yn fwy ffres ac mae’n tirweddau prydferth yn cynnig cyfleoedd hamdden a natur sydd gyda’r gorau yn y byd i bobl Cymru, ac yn denu miliynau o dwristiaid bob blwyddyn.

Er gwaethaf hyn, mae nifer o’n planhigion a’n bywyd gwyllt yn dirywio ac mae gennym lawer o broblemau i’w taclo o hyd sydd wedi bod yn anodd hyd yma. Rydym wedi cyrraedd cyn belled â hyn gyda’n hymdrechion. Mae’r problemau sydd ar ôl yn rhai llawer mwy dyrys.

Cyrraedd y lefel nesaf

Dyna pam rydym angen dull gweithredu gwahanol – un sy’n edrych ar y darlun cyfan yn hytrach na chanolbwyntio ar rannau unigol o’n hamgylchedd. Dull sy’n deall sut y mae amgylchedd iach a gwydn yn cefnogi llewyrch economaidd a chymdeithasol. Bydd yn golygu gweithio ar lefel gymunedol neu dirweddol i uno pethau gyda’i gilydd a datblygu atebion ar y cyd.

Drwy ddeall y perthnasau pwysig rhwng ein hamgylchedd, cymdeithas a’r economi, gallwn fynd i’r afael â’r dirywiad hwn mewn ffordd a fydd o fudd i bawb.

Deddfwriaeth fodern ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) gyda’i gilydd yn creu deddfwriaeth fodern ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru a gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Bydd hyn yn ein helpu ni i ymdrin â’r heriau a wynebwn a chymryd gwell mantais ar y cyfleoedd posibl i Gymru. Mae Deddf yr Amgylchedd yn canolbwyntio ar greu gwytnwch o fewn ein hecosystemau ac adnabod y manteision a ddarparant os ydym yn eu rheoli yn ddoeth.

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf