Strategaethau rheoli tynnu dŵr dalgylchoedd (CAMS)

Ein gwaith

Rydym yn gweithio i sicrhau nad yw cwmnïau dŵr, ffermwyr a diwydiant yn mynd â gormod o ddŵr o’r amgylchedd.

Rydym yn rheoli faint o ddŵr sy’n cael ei gymryd o’r amgylchedd drwy system drwyddedu, drwy reoleiddio trwyddedau cyfredol, a rhoi trwyddedau newydd lle bo’n briodol.

Bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod lefelau dŵr cynaliadwy mewn afonydd, llynnoedd a chorsydd, gan wella cynefinoedd bywyd gwyllt a gwarchod rhywogaethau sydd mewn perygl. Bydd yn sicrhau hefyd y bydd dŵr ar gael ar gyfer ein poblogaeth sy’n tyfu a’n heconomi.

Ers 1 Ionawr 2018, mae’r rhan fwyaf o eithriadau tynnu dŵr (ar gyfer mwy nag 20 o fetrau ciwbig y dydd) wedi’u dileu. Mae hyn yn cynnwys tynnu dŵr mewn ardaloedd a oedd wedi’u heithrio o’r blaen. Yn awr, bydd y rhan fwyaf o dyniadau dŵr angen trwydded i barhau i dynnu dŵr yn gyfreithlon.

Gellir lawrlwytho strategaeth drwyddedu dalgylch Teme o Gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf