How we regulate coal extraction

Polisi Llywodraeth Cymru

Amcan polisi echdynnu glo Llywodraeth Cymru yw “osgoi yr echdynnu parhaus a'r defnydd o danwydd ffosil” a “dod â diwedd rheoledig i echdynnu a defnyddio glo”.

I bob pwrpas, mae hyn yn golygu nad yw'n debygol y bydd trwyddedau cloddio glo newydd yr awdurdod neu amrywiadau i drwyddedau presennol yn cael eu rhoi, oni bai mewn amgylchiadau eithriadol, lle bydd pob cais yn cael ei benderfynu yn ôl ei deilyngdod ei hun, ond rhaid iddo ddangos y canlynol yn glir:

  • pam bod angen yr echdynnu i gefnogi defnydd diwydiannol nad yw'n ynni ar gyfer glo
  • pam bod angen echdynnu yng nghyd-destun targedau lleihau allyriadau datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd, neu i sicrhau bod gweithrediadau cloddio neu adfer safle yn cael eu dirwyn i ben yn ddiogel.
  • sut mae'r echdynnu yn cyfrannu at ffyniant Cymru a'n rôl fel Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang

O dan bolisi cyfredol Llywodraeth Cymru, mae rhagdybiaeth yn erbyn caniatáu ceisiadau am weithrediadau echdynnu glo newydd.

Pan roddir caniatâd echdynnu newydd, ni fydd unrhyw ragdybiaeth yn erbyn rhoi caniatâd rheoli gwastraff cloddio.

Ein rôl fel rheolydd

Rydym yn un o reoleiddwyr amgylcheddol y diwydiant glo yng Nghymru. Rydym yn helpu i sicrhau bod gwastraff o echdynnu glo yn cael ei reoli mewn ffordd sy'n amddiffyn pobl a'r amgylchedd.

Er nad ydym yn rhoi caniatâd i echdynnu glo, rydym yn rheoleiddio rheolaeth y gwastraff cloddio a'r effaith y mae echdynnu glo yn ei chael ar allyriadau i ddŵr wyneb, dŵr daear a'i effaith ar adnoddau dŵr.

Ein rôl fel cynghorydd yn y system gynllunio

Mae angen caniatâd cynllunio cyn dechrau unrhyw weithgareddau echdynnu glo. Mae rhifyn 11 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi amcan Llywodraeth Cymru ‘i osgoi echdynnu a defnyddio tanwydd ffosil yn barhaus.’

Bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth gadarn a chredadwy sy'n dangos bod eu cynigion yn cydymffurfio â'r hierarchaeth ynni cynllunio a sut maent yn cyfrannu at ddatgarboneiddio'r system ynni. Nod yr hierarchaeth yw annog pobl i beidio â gwneud cynigion yn ymwneud â mwynau ynni.

Ni ddylid caniatáu cynigion i echdynnu glo ac eithrio mewn “amgylchiadau cwbl eithriadol”. Os cyflwynir cynnig, rhaid iddo arddangos pam bod ei angen yng nghyd-destun targedau lleihau allyriadau newid yn yr hinsawdd ac am resymau diogelwch ynni cenedlaethol.

Os nad yw awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu gwrthod cais am bwll glo newydd neu greu estyniad i bwll glo sy'n bodoli eisoes, rhaid iddynt hysbysu Gweinidogion Cymru. Gall Gweinidogion Cymru ddewis galw'r cais cynllunio i mewn, neu os yw'n briodol gallant gyflwyno cyfarwyddyd na ddylid cymeradwyo'r cais hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo.

Pan ymgynghorir â ni, bydd disgwyl i ni barhau i ddarparu cyngor i ddatblygwyr ac awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer cynlluniau o'r fath lle maent yn effeithio ar ein pynciau ymgynghori ar gynllunio datblygu.

Darllenwch am ein rôl mewn cynllunio a datblygu

Ein rôl fel cynghorydd cadwraeth

Mae gennym hefyd rôl gynghori sylweddol wrth ystyried cynlluniau adfer trwy'r system gynllunio. Pan fydd pwll glo yn cael ei adfer, mae gennym rôl gynghorol o ran cynghori sut i adfer ar gyfer gwelliant ecolegol ac a oes angen ystyried unrhyw gynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig.

Er y gall echdynnu glo gael effaith ddinistriol ar yr amgylchedd naturiol, pan fydd echdynnu glo yn dod i ben ac wrth i'r gwaith adfer ddechrau, gall cyfleusterau echdynnu glo nad ydynt yn cael eu defnyddio ddarparu cynefin ar gyfer amrywiaeth o ffawna a fflora, gan gynnwys rhywogaethau gwarchodedig.

Gall siafftiau pyllau glo nad ydynt yn cael eu defnyddio gael eu cytrefu gan amrywiol rywogaethau o ystlumod, a gall pyllau gwaddodi ddod yn fagwrfa i lyffantod a madfallod. Felly, mae'n bwysig cael cyngor a bod arolygon wedi'u hamseru a'u targedu'n briodol cyn i unrhyw waith adfer ddechrau.

Ein rôl fel rheolwr tir

Rydym yn rheoli darn sylweddol o dir ar ran pobl Cymru. Fel rheolwr tir, rhaid i CNC roi ystyriaeth ddyledus i unrhyw geisiadau am fynediad i dir y mae'n ei reoli, a bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei deilyngdod ei hun. Fodd bynnag, mae polisi cyfredol Llywodraeth Cymru ar echdynnu glo yn rhagdybio yn erbyn caniatáu echdynnu glo. Wrth ystyried ceisiadau mynediad am echdynnu glo ar dir y mae CNC yn ei reoli, mae polisi Llywodraeth Cymru yn ystyriaeth berthnasol.

Er nad yw'n debygol y bydd ceisiadau i gael mynediad i'r tir hwn ar gyfer echdynnu glo yn cael eu cefnogi, mae potensial i geisiadau mynediad ddefnyddio'r tir hwn ar gyfer mynediad/cludiant i gyfleusterau cyfagos ac oddi yno. Mae polisi Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ystyriaeth berthnasol ar gyfer y ceisiadau hyn.

Er nad yw wedi'i chynnwys ym Mholisi Glo Llywodraeth Cymru, mae gan CNC ystyriaeth ychwanegol yn ymwneud â thomenni glo hanesyddol. Mae tir a reolir gan CNC yn gyfagos i domenni glo hanesyddol, yn ogystal â sawl un ar y tir ei hun. Efallai y bydd angen mynediad i ddiogelu unrhyw domenni ar dir a reolir gan CNC a nodwyd fel blaenoriaeth am resymau diogelwch, ac efallai y bydd angen mynediad hefyd i dir cyfagos ar gyfer gwaith diogelwch i domenni. Mae ceisiadau am fynediad o'r fath bron bob amser yn debygol o gael eu caniatáu yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.

Erys ychydig o safleoedd echdynnu glo bychain ar ystâd CNC sy'n cael eu harwain gan drydydd partïon sydd â hawliau hanesyddol. Byddwn yn cefnogi'r gweithredwyr hyn i gau eu cyfleusterau a'u hadfer yn ddiogel.

Efallai y bydd CNC hefyd yn derbyn ceisiadau i gael mynediad i dir y mae'n ei reoli i adfer pyllau glo sydd wedi cau. Mae'n debygol y caniateir mynediad sydd, ar ôl pwyso a mesur, yn gwneud lles amgylcheddol ac yn cyfrannu at les pobl Cymru.

Diweddarwyd ddiwethaf