Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Beth sydd angen i chi ei wybod

Mae rhai o'n llwybrau'n addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.

Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.

Rydym wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallai rhai o'r llwybrau hyn fod cyn i chi ymweld.

Person anabl sy’n siarad ar bob ffilm wrth deithio ar hyd y llwybr gan ddefnyddio offer personol.

Mae'n dangos arwyneb y llwybr, graddiannau a dringfeydd i fyny ac i lawr yr allt a lle y gallai fod angen help arnoch mewn mannau penodol.

Sylwch:

  • Os nad yw’r ffilmiau ar y dudalen hon yn dangos yn eich porwr, ewch i’n rhestr chwarae ar YouTube i’w gwylio.
  • Nad yw cynnwys llwybr yn un o'r ffilmiau hyn yn awgrymu ei fod yn hygyrch i bob ymwelydd anabl.

Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan, ger Port Talbot

Llwybr Rookie

  • Gradd: Gwyrdd (Hawdd)
  • Pellter: 5.8 km (gyda dolen ddewisol gradd Glas, sef 2.4 cilometr ychwanegol)

Llwybr Blue Scar

  • Gradd: Glas (Cymedrol)
  • Pellter: 7.1 km

Dod i wybod mwy am ymweld â Pharc Coedwig Afan

Coedwig Beddgelert

  • Llwybr Beic Derwen
  • Gradd: Ffordd goedwig neu arwynebau tebyg  
  • Pellter: 10.1 km

Dod i wybod mwy am ymweld â Choedwig Beddgelert

Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau

  • MinorTaur
  • Gradd: Glas (Cymedrol)
  • Pellter: 13 km (yn cynnwys pedair dolen sy'n raddol yn mynd yn fwyfwy heriol)

Dod i wybod mwy am ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin

Coedwig Niwbwrch, Ynys Môn

Her Natur Bikequest (o faes parcio'r Traeth)

  • Gradd: Ffordd goedwig neu arwynebau tebyg
  • Pellter: 7.8 km

Llwybr Beic Corsica (o faes parcio'r Traeth)

  • Gradd: Ffordd goedwig neu arwynebau tebyg
  • Pellter: 9.9 km

Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur a Choedwig Genedlaethol Niwbwrch

Llwybrau eraill ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Yn y dyfodol rydym yn gobeithio cynhyrchu ffilmiau am ein llwybrau eraill sy'n addas ar gyfer defnyddwyr offer addasol.

Cynhyrchwyd y ffilmiau hyn ar ein rhan gan Experience Community.

Mae Experience Community yn Gwmni Budd Cymunedol dielw sy'n darparu gwybodaeth am weithgareddau hamdden i bobl anabl.

I wylio ffilmiau tebyg am lwybrau ar draws Prydain gyfan ewch i wefan Experience Community.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf