Golygfan y Bannau, ger Trefynwy

Beth sydd yma

Croeso

Maes parcio Golygfan y Bannau yw'r man cychwyn ar gyfer dwy daith gerdded trwy goetir heddychlon Beacon Hill.

Mae'r ddwy daith yn arwain trwy ardaloedd o rostir sy’n ail-adfer - cafodd y mannau agored hyn eu clirio o goed pinwydd er mwyn i'r grug ddychwelyd.

Mae gwylfannau ar hyd y ffordd lle gallwch fwynhau golygfeydd eang dros Ddyffryn Gwy a Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Llwybrau cerdded 

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Ban

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1½ milltir/2.3 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae hwn yn llwybr gwastad yn bennaf sydd â sawl giât. Mae'n cychwyn ar lwybr llydan drwy goetir ac yn mynd drwy giât i gyrraedd llwybr graean rhydd drwy'r rhostir. Mae'n dychwelyd drwy rodfa o goed ffawydd â llethr raddol am i lawr. Mae mainc bicnic ger y maes parcio a mainc bicnic yn yr olygfan (250 metr o'r maes parcio).

Ceir dychweliad tirwedd hynafol ar y daith gerdded hamddenol hon i ardaloedd rhostir sy’n cael eu hadfer.

Mwynhewch y golygfeydd o Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn yr olygfan.

Taith Grwydr Duchess Ride

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 3 milltir/4.8 cilomedr
  • Amser: 1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae hwn yn llwybr gwastad yn bennaf sydd â sawl giât. Mae'n cychwyn ar lwybr llydan drwy goetir ac yn mynd drwy giât i gyrraedd llwybr graean rhydd drwy'r rhostir. Mae'n dilyn llwybrau a thraciau drwy'r coetir cyn dychwelyd drwy rodfa o goed ffawydd â llethr raddol am i lawr. Mae mainc bicnic ger y maes parcio, mainc bicnic yng ngolygfan Llwybr Ban (250 metr o'r maes parcio), a mainc yng ngolygfan Duchess Ride.

Mwynhewch goetir a rhostir ar y daith gerdded gylchol hon, sy’n llwybr gwastad yn bennaf.

Mae'n mynd heibio'r olygfan ar Lwybr Ban ac yna'n dilyn rhan o Lwybr Dyffryn Gwy drwy rodfa o goed pinwydd yr Alban enfawr i olygfan Duchess Ride. 

Llwybr Dyffryn Gwy

Mae Llwybr Dyffryn Gwy yn mynd drwy goetir Beacon Hill.

Aiff y llwybr cerdded 136 milltir hir hwn ar hyd afon Gwy rhwng Cas-gwent a Choedwig Hafren.

Gallwch ymuno â'r llwybr o Daith Grwydr Duchess Ride - cadwch olwg am yr arwyddion.

Am fwy o wybodaeth am Lwybr Dyffryn Gwy ewch i wefan Lwybr Dyffryn Gwy.

Coetiroedd Dyffryn Gwy

Mae coetiroedd rhannau isaf Dyffryn Gwy yn rhai o'r coetiroedd harddaf ym Mhrydain.

Mae’r golygfeydd naturiol ysblennydd yma wedi swyno ymwelwyr ers canrifoedd, gan gynnwys arlunwyr a beirdd o Turner i Wordsworth.

Mae golygfannau hanesyddol yn cynnig golygfeydd trawiadol dros geunant ac afon Gwy, tuag at Fôr Hafren a Phontydd Hafren.

Daw pob tymor â rhywbeth arbennig i’w ganlyn: clychau'r gog yn y gwanwyn, dail iraidd yr haf, lliwiau llachar yr hydref, a harddwch silwetau’r coed yn y gaeaf.

Mae yna lwybrau cerdded mewn tair o'n coetiroedd Dyffryn Gwy eraill - Coed Manor, Coed Wyndcliff a Whitestone.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy

Lleolir y Coetiroedd Dyffryn Gwy yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Dyffryn Gwy.

Mae'r AHNE yn dirwedd warchodedig rhyngwladol bwysig sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Mae'n cwmpasu darn 58 milltir o Afon Gwy a gydnabyddir am ei golygfeydd trawiadol o’r ceunant, coetiroedd yr hafnau a thir fferm.

Dysgwch fwy am Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coetiroedd Dyffryn Gwy yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Mae maes parcio Golygfan y Bannaul 6 milltir i'r de o Drefynwy.

Cod post

Y cod post yw NP25 4PS.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio. 

Cyfarwyddiadau

Dilynwch ffordd A466 o Gas-gwent i gyfeiriad Tyndyrn.

Dilynwch yr arwyddion am Catbrook ar y cyffordd ger Gwesty’r Wye Valley, Tyndyrn.

Ar ôl 2½ milltir, trowch i'r chwith ar y cyffordd T gyferbyn â maes parcio Whitestone.

Cymerwch y trydydd tro ar y dde, gyferbyn â Beacon Lodge, ac mae maes parcio Golygfan y Bannau ar y dde ar ôl ¼ milltir.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SO 510 053 (Explorer Map OL 14).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Cas-gwent.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf