Rhoddodd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ddyletswydd statudol ar bob awdurdod priffyrdd (awdurdodau unedol yng Nghymru) ac awdurdod Parc Cenedlaethol i sefydlu a chynnal fforwm mynediad lleol yn ei ardal. O 2026 mae tri ar hugain o fforymau mynediad lleol wedi’u sefydlu yng Nghymru i gynnig cyngor i awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch datblygiadau mynediad hamdden, gan gynnwys materion penodedig sy’n ymwneud â thir mynediad agored o dan y Ddeddf. Gall staff Cyfoeth Naturiol Cymru fynychu cyfarfodydd o’r Fforymau fel arsylwyr.

Materion rheoli tir

Wrth ddarparu eu cyngor ar fynediad, mae Fforymau Mynediad Lleol hefyd yn ystyried materion pwysig sy’n gysylltiedig â rheoli tir a’r angen i warchod harddwch naturiol eu hardal.

O dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, rhaid i fforwm gynnwys aelodau sy’n cynrychioli:

  • defnyddwyr tir lleol sy’n dir mynediad agored o dan y Ddeddf a defnyddwyr hawliau tramwy lleol
  • perchnogion a meddianwyr tir mynediad agored a thir ble mae hawliau tramwy
  • diddordebau eraill sy’n arbennig o berthnasol i’r ardal

Cyfarfodydd Fforymau Mynediad Lleol

Ar y cyfan, caiff cyfarfodydd y Fforymau eu hysbysebu ar wefan yr awdurdod perthnasol.

Mae’r rhan fwyaf o’r Fforymau yn cyfarfod sawl gwaith y flwyddyn. Mae gan rai Fforymau grwpiau pwnc hefyd sy’n cyfarfod yn rheolaidd.

Gall aelodau’r cyhoedd fynychu cyfarfodydd fel arsylwr, ond dim ond aelodau’r Fforwm gaiff gymryd rhan yn y trafodaethau. Mae’n bosibl y bydd cyfle ar ôl y cyfarfodydd i’r rhai nad ydynt yn aelodau ofyn cwestiynau.

Cynrychiolaeth genedlaethol

Mae’r Fforymau Mynediad Lleol yng Nghymru yn cadw cysylltiad â’i gilydd drwy gyfarfodydd Cadeiryddion y Fforymau – naill ai ar-lein neu wyneb-yn-wyneb. Maent hefyd yn ethol Cynrychiolydd Cenedlaethol a Dirprwy Gynrychiolydd Cenedlaethol, a’u rolau hwy yw cynrychioli’r Fforymau Mynediad Lleol mewn digwyddiadau, fforymau a chyfarfodydd priodol, er enghraifft Fforwm Mynediad Cenedlaethol Cymru.

Rhagor o wybodaeth (dolen i’r wefan, neu gyswllt e-bost, ar gyfer Fforymau unigol)

Abertawe
Bannau Brycheiniog
Bro Morgannwg
Caerdydd
Caerffili
Sir Gaerfyrddin
Casnewydd
Castell-nedd Port Talbot
Ceredigion
Dwyrain Conwy a Sir Ddinbych
Cymoedd y Dwyrain (Blaenau Gwent a Thorfaen)
Parc Cenedlaethol Eryri (Gogledd a De)
Sir y Fflint
Sir Fynwy
Gwynedd
Merthyr Tudful
Sir Benfro
Pen-y-bont ar Ogwr
Powys
Rhondda Cynon Taf
Wrecsam 
Ynys Môn

Diweddarwyd ddiwethaf