Y Cod Cefn Gwlad: cyngor i reolwyr tir

Cyngor i reolwyr tir i helpu ymwelwyr i ddilyn y Cod Cefn Gwlad.

Mae rhai o’r dolenni ar y dudalen hon yn arwain at wybodaeth yn Saesneg.

Gwybod eich hawliau a'ch cyfrifoldebau

Gwybod eich hawliau a'ch cyfrifoldebau ar gyfer y canlynol:

Gwybodaeth am bwy i gysylltu ag ef am ragor o gymorth neu i adrodd am broblemau cynnal a chadw ar eich tir.

Deall hawliau mynediad ymwelwyr ar eich tir

Os oes gennych hawliau mynediad ar eich tir, mae angen i chi wybod y canlynol:

Sicrhau bod hawliau tramwy'n ddefnyddiadwy

Er mwyn cadw hawliau tramwy'n glir, mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • peidiwch â rhwystro hawl dramwy gyhoeddus na dyfrffordd gyhoeddus naill ai'n barhaol neu dros dro
  • torri llystyfiant sydd wedi gordyfu o gatiau, llwybrau, pontydd a chamfeydd – mae hyn yn cynnwys clirio llystyfiant uwchben
  • adfer arwyneb hawl dramwy gyhoeddus os ydych yn cynnal gweithgareddau megis trin y tir

Dylai mynediad i'ch tir fod yn hawdd i ymwelwyr â galluoedd ac anghenion gwahanol. Dylech greu bylchau neu godi  gatiau hygyrch sy'n cau ar eu pennau eu hunain yn lle camfeydd lle mae mynediad cyhoeddus, os yw hynny'n bosibl. Dylech ddilyn y Safon Brydeinig BS5709 ar gyfer bylchau, gatiau a chamfeydd.

Dylech hefyd gadw gatiau a chamfeydd mewn cyflwr diogel ac fel bod modd eu defnyddio. Cyn creu pwyntiau mynediad fel gatiau neu gamfeydd ar:

Mae awdurdodau priffyrdd yn gyfrifol am gynnal a chadw arwyneb yr hawl dramwy a'r arwyddion a marcwyr perthnasol.

Helpu ymwelwyr i ymddwyn yn gyfrifol

Dylech sicrhau bod gatiau'n cael eu cadw ar agor os ydych am i ymwelwyr eu cadw ar agor. Ystyriwch symud y gât os ydych am iddi fod ar agor yn barhaol.

Ystyriwch gatiau sy'n cau eu hunain os ydych am i gatiau fod ar gau'n barhaol, neu defnyddiwch arwyddion i ddweud wrth ymwelwyr am gau'r gatiau ar eu holau.

Sicrhewch nad oes sbwriel fferm ar eich tir, sy'n gallu annog tipio anghyfreithlon.

Os yw ymwelwyr yn tresmasu, gofynnwch iddynt a ydynt ar goll a'u helpu i fynd yn ôl i'r llwybrau neu'r ardaloedd y mae caniatâd iddynt fynd arnynt. Fel arfer, nid yw ymwelwyr yn bwriadu tresmasu.

Dylech reoli ymwelwyr yn briodol os ydynt yn ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol. Dylech adrodd am:

Sicrhau bod arwyddion yn hawdd eu deall

Sicrhewch fod arwyddion yn glir ac yn hawdd eu dilyn. Gall gormod o wybodaeth ddrysu ymwelwyr a pheri iddynt wneud y peth anghywir.

Defnyddiwch iaith gyfeillgar os oes angen i'r arwyddion ddweud wrth ymwelwyr yr hyn y gallant ei wneud a'r hyn na allant ei wneud.

Os yw arwyddion a chyfeirbwyntiau ar hawliau tramwy mewn cyflwr gwael, dylech adrodd am hyn i'ch awdurdod priffyrdd.

Creu amgylchedd diogel

Rhybuddiwch ymwelwyr am beryglon anweladwy ar eich tir, megis:

  • cloddfeydd segur
  • llanwau peryglus neu ddŵr dwfn
  • clogwyni ansefydlog
  • symudiad da byw
  • gwaith cynnal a chadw yn defnyddio peiriannau mawr, megis amaethyddiaeth neu goedwigaeth
  • coredau neu lifddorau

Dylech sicrhau bod unrhyw arwyddion mewn cyflwr da, neu symud arwydd os nad yw'r perygl bellach yn bodoli.  Peidiwch â defnyddio arwyddion sy'n camarwain, megis ‘tarw yn y cae’, os nad yw'n wir.

Dylech lwytho beliau a boncyffion neu silwair wedi'i lapio mewn modd diogel i ffwrdd o fynediad cyhoeddus i leihau'r risg o ddamweiniau. Am gyngor ar atal tân, dilynwch ganllawiau diogelwch tân Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.

Sicrhewch fod cŵn fferm a gwaith dan reolaeth mewn ardaloedd cyhoeddus er mwyn diogelu ymwelwyr a'u cŵn.

Peidiwch â chyfyngu na rhwystro mynediad i groesfan reilffordd ar eich tir. Gallai hyn faglu defnyddiwr ar y groesfan reilffordd a pheryglu ei fywyd.

Dylech adrodd ar groesfannau rheilffordd sydd wedi'u difrodi i Network Rail fel y gall wneud gwaith atgyweirio.

Diogelwch coed

Sicrhewch fod coed a changhennau dros ben yn gwneud y canlynol:

  • yn sefydlog ac yn annhebygol o ddisgyn ar unrhyw un
  • yn peidio â rhwystro cyrsiau dŵr a chreu perygl llifogydd

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu canllawiau ar y canlynol:

Mae Forest Research yn darparu canllawiau ar ddiogelwch ymwelwyr yn ystod gwaith coedwigaeth.

Rheoli a diogelu eich da byw

Ni ddylech gadw anifeiliaid yr ydych chi’n gwybod sy’n beryglus mewn ardaloedd lle ceir mynediad cyhoeddus. Dylech ystyried efallai nad yw ymwelwyr yn gwybod sut mae anifeiliaid yn ymddwyn, yn enwedig os ydynt yn diogelu eu hepil.

Dilynwch gyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar reoli gwartheg a mynediad cyhoeddus.

Gallwch ddefnyddio ffensys weiar a ffensys trydan i gadw da byw neu geffylau oddi wrth ymwelwyr ar hawliau tramwy, ond mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • gadael digon o le i'r ymwelydd ddefnyddio'r llwybr mewn ffordd ddiogel
  • defnyddio arwyddion i rybuddio ymwelwyr bod y ffens yn un trydan
  • peidio â thresmasu ar hyd cyfreithiol yr hawl dramwy

Dylech ddefnyddio weiar blaen os yw'r cyhoedd yn debygol o ddod i gyswllt â ffens, gât neu gamfa.

Os ydych yn gweld ci sy'n ymosod ar dda byw neu'n rhedeg ar eu holau, gallwch wneud y canlynol:

  • gofyn i'r perchennog alw neu ddal ei gi
  • hel y ci ymaith o'r ardal neu ei ddychryn oddi yno
  • dal y ci os yw'n ddiogel gwneud hynny, gwirio os oes tag adnabod, a dychwelyd y ci i'w berchennog a gofyn iddo gadw ei gi dan reolaeth

Adroddwch am y ci i’r awdurdod lleol os nad oes ganddo dag adnabod ac os na allwch weld ei berchennog.

Dylech ystyried saethu'r ci fel opsiwn olaf yn unig. Mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • dweud wrth yr heddlu o fewn 48 awr ar ôl saethu ci
  • cymryd camau i sicrhau nad yw'r anifail yn dioddef, gallai hyn gynnwys dal anifail sydd wedi’i anafu a mynd ag ef at y milfeddyg

Adroddwch am unrhyw ymosodiad i'r heddlu pan fyddwch wedi sicrhau nad yw'ch da byw bellach mewn perygl, hyd yn oed os nad ydych chi wedi saethu'r ci.

Darllenwch gyngor ac arweiniad ynghylch cŵn yn aflonyddu da byw ar hwb troseddau cefn gwlad Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.

Defnyddio cerbydau a pheiriannau mewn modd diogel

Os ydych yn defnyddio cerbyd yn rheolaidd i groesi hawl dramwy gyhoeddus ar eich tir, dylech ei wneud yn glir i ymwelwyr drwy greu man croesi neu wahanu'r ymwelydd rhag unrhyw berygl.

Os ydych yn defnyddio peiriannau lle mae gan ymwelwyr hawl i fod, mae'n rhaid i chi ystyried ffyrdd o'u cadw'n ddiogel. Er enghraifft, creu gwyriad dros dro wedi'i gytuno gyda'r awdurdod priffyrdd.

Darllenwch gyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar ddiogelwch trafnidiaeth yn y gweithle. Efallai na fydd y ddogfen hon yn hygyrch i dechnoleg gynorthwyol.

Defnyddio a storio sylweddau peryglus mewn ffordd gyfrifol

Gallai cemegion a phlaladdwyr a ddefnyddir yng nghefn gwlad fod yn beryglus i ymwelwyr. Ni ddylech byth storio hylifau a chemegion fflamadwy lle mae mynediad cyhoeddus. Dylech gadw plaladdwyr wedi'u cloi bob amser. Dilynwch gyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar sut i storio plaladdwyr.

Byddwch yn ymwybodol o ymwelwyr wrth chwistrellu plaladdwyr ger hawl dramwy gyhoeddus. Dilynwch god ymarfer ar gyfer defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Defnyddio drylliau gyda gofal

Mae'n rhaid i chi gydymffurfio â deddfau drylliau ac ystyried diogelwch ymwelwyr.

Dilynwch yr arfer gorau ar gyfer saethu ger hawliau tramwy a llwybrau troed a ddarperir gan Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain.

Gwybod â phwy i gysylltu ag ef

Yr awdurdod priffyrdd – er mwyn adrodd am rwystr, gwaith cynnal a chadw gwael, neu arwydd sy'n camarwain ar hawl dramwy. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol i'ch ailgyfeirio i'r awdurdod priffyrdd perthnasol.

Yr Awdurdod Parciau Cenedlaethol – i adrodd am rwystr, gwaith cynnal a chadw gwael, neu arwydd camarweiniol ar hawl dramwy o fewn parc cenedlaethol. Mae gan rai o’r parciau cenedlaethol gytundeb gyda’u hawdurdod priffyrdd i wneud gwaith cynnal a chadw. Golyga hynny y gallant ofyn i chi gysylltu gyda’ch cyngor lleol.

Awdurdod mynediad agored perthnasol – ar gyfer ymholiadau ynghylch:

  • tir mynediad agored
  • cyflwyno tir ar gyfer mynediad cyhoeddus
  • cyfyngu ar fynediad ar dir mynediad agored

Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru – cymorth i ffermwyr.

Undeb Amaethwyr Cymru – cymorth i ffermwyr.

Cymdeithas y Ffermwyr Tenant – cymorth i ffermwyr tenant.

Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad Cymru (CLA Cymru) – cyngor i berchnogion tir a busnesau gwledig.

Cytgord Diogelwch y Diwydiant Coedwigaeth – gweithgor tirfeddianwyr ar gyfer coedwigaeth ddiogel. E-bost: info@ukfisa.com

Grŵp Diogelwch Ymwelwyr – dylech ystyried ymuno â'r Grŵp Diogelwch Ymwelwyr i rannu arfer gorau ac astudiaethau achos ar ddiogelwch ymwelwyr.

Grŵp Diogelwch Coed Cenedlaethol – canllawiau ar reoli risgiau coed.

Fforwm Tanau Gwyllt Cymru a Lloegr (EWWF) – gwybodaeth, datblygiadau a chyrsiau am danau gwyllt.

 

Lluniwyd y canllawiau hyn ar y cyd â Natural England, gyda chymorth cyfyngedig gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

 

I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (24 awr).

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf