Ymweliadau hygyrch
Profiad o’n coetiroedd a’n gwarchodfeydd beth...
Gadewch brysurdeb Betws-y-coed i ganfod llyn tawel a hardd wedi’i amgylchynu gan goed yn floedd o liwiau’r hydref. Dilynwch y llwybr o amgylch y llyn wrth iddo fynd yn ôl ac ymlaen ar hyd ac oddi wrth y dŵr, a mynd heibio cofeb â mainc lle gallwch fwynhau’r olygfa. Mae’r llwybr yn ailymuno â’r prif lwybr a byddwch yn dychwelyd y ffordd y daethoch, yn ôl i Fetws-y-coed.
Byddwch yn barod i fwynhau lliwiau gwefreiddiol y tymor ar hyd y llwybr byr hwn drwy goed ffawydd tal mewn coedwig heddychlon. Mae coed ffawydd yn creu arddangosfa am gyfnod hir dros yr hydref am fod eu dail yn araf droi o felyn golau i oren tywyll. Pan fydd y dail yn disgyn maen nhw’n creu carped dwfn sy’n crensian ar lawr y goedwig, ac sy’n llawer o hwyl cerdded drwyddo. Cyn i chi gychwyn, cymerwch daflen ar gyfer Llwybr Darganfod yr Anifeiliaid yn y maes parcio a rhowch her i’r plant i ddod o hyd i’r anifeiliaid pren sydd wedi'u cuddio ymysg y coed ar hyd y ffordd.
Mentrwch allan ar y llwybr pren yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron i edmygu’r dewis rhyfeddol o liwiau brown, coch a gwin sydd i’w gweld yn y tirlun bendigedig hwn. Mae’r ardal eang hon o wlyptir yn cynnig golygfa ddramatig ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond mae’r lliwiau’n hoelio’r sylw yn yr hydref. Mae lliwiau rhwd y gyforgors, y gwely cyrs a’r glaswelltir yn wrthgyferbyniad trawiadol yn erbyn gwyrddni’r bryniau o gwmpas, ac ar ddechrau’r hydref bydd y grug yn dal yn ei flodau. Dyma le rhagorol i weld byd natur hefyd, ac ar ddyddiau ychydig yn gynhesach mae’n bosib y gwelwch chi was y neidr a’r fursen yn saethu ar draws wyneb y dŵr, neu hyd yn oed fadfall neu wiber yn torheulo ar y llwybr pren, yn gwneud y gorau o heulwen gynnes ola’r flwyddyn.
Mwynhewch y lliwiau tymhorol ysblennydd yn y coetir bach hwn sy’n swatio mewn cornel wledig o Sir Gaerfyrddin. Ceir yma gyfuniad hyfryd o wahanol goed, gan gynnwys ffynidwydd Douglas mawr, sbriws a hen goed ffawydd ar y glannau. Mae'r ffawydd llachar yn gorchuddio llawr y coetir â’u dail yn yr hydref yn barod i chi grensian drwyddynt wrth ddilyn ein llwybr cylchol sydd wedi’i arwyddo.
Mwynhewch y golygfeydd dros afon a cheunant dramatig Gwy drwy’r coed lliwgar o’r tair golygfan ar y llwybr hwn. Mae Dyffryn Gwy wedi bod yn denu ymwelwyr am ganrifoedd ac mae’r hydref yn adeg ragorol i ymweld â’r coetiroedd hyn sydd ymysg y rhai harddaf ym Mhrydain. Mae’r cymysgedd o goed - o goed derw a choed ffawydd urddasol i goed ynn, ceirios a phisgwydd dail bach - yn arddangos amrywiaeth gyfoethog o liwiau hydrefol.
Ewch i wefan Traveline Cymru i gael gwybodaeth am deithio ar fws, coets a thrên yng Nghymru.
Mae’r Cod Cefn Gwlad yn rhoi cyngor defnyddiol i chi ar sut i baratoi eich taith, gofalu eich bod chi ac eraill yn ddiogel a sut i helpu i sicrhau bod cefn gwlad yn parhau i fod yn lle hardd y gall pawb ei fwynhau.
Ewch i’n tudalen Lleoedd i ymweld â hwy.