Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd

Y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd

Mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn gynllun pum mlynedd ar gyfer adfer mawndiroedd yng Nghymru.

Mae angen gweithredu ar frys ar fawndiroedd Cymru i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd. Mae mawndiroedd yn cynnal amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau, ac maen nhw’n gwneud y canlynol:

  • dal a storio carbon
  • rheoleiddio nwyon tŷ gwydr
  • cynnal bioamrywiaeth
  • rheoleiddio dŵr

Sefydlwyd y rhaglen hon sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru i gydlynu’r gwaith o weithredu i adfer mawndiroedd yng Nghymru.

Gwaith adfer

Mae gan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd chwe blaenoriaeth:

  1. Erydiad mawndir
  2. Draenio mawndir
  3. Rheoli mawndiroedd yr ucheldir yn gynaliadwy
  4. Rheoli mawndiroedd yr iseldir yn gynaliadwy
  5. Adfer mawndiroedd wedi'u coedwigo
  6. Adfer mawndiroedd sydd â'r allyriadau carbon uchaf yn raddol

Mae gweithredu i adfer mwy na 1650 hectar yn ystod y ddwy flynedd gyntaf (2020-22) yn golygu fod y rhaglen wedi rhagori ar ei thargedau adfer gwreiddiol o 600-800 hectar o dir cyhoeddus a phreifat bob blwyddyn.

Bydd y rhaglen hefyd yn diogelu mawndiroedd sydd mewn cyflwr da a chyflwr sy'n gwella.

Grantiau i adfer mawndiroedd

Mae gennym gyllid grant ar gael ar gyfer prosiectau adfer mawndiroedd.

Porth Data Mawndiroedd Cymru

Mae Porth Data Mawndiroedd Cymru yn dangos ymhle mae mawndiroedd a’r ardaloedd sydd angen eu hadfer. Mae’r mapiau rhyngweithiol yn cynnwys:

  • cynefinoedd sy'n cael eu cynnal gan fawn
  • amcangyfrifon o'r carbon sy'n cael ei storio mewn mawndiroedd yng Nghymru
  • amcangyfrifon o allyriadau nwyon tŷ gwydr

Byddwn yn diweddaru'r Porth wrth i fawndiroedd gael eu hadfer. Bydd hyn yn cynnwys yr effeithiau ar gyflwr mawndiroedd, bioamrywiaeth a lliniaru newid hinsawdd.


Dysgwch fwy am haenau Porth Data Mawndiroedd.

Dilyn gwaith y rhaglen

Blog gan un o’r Swyddogion Prosiect am ddarganfod alga anghyffredin - Alga hynod

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol #AdferMawndiroeddCymru

Twitter @NatResWales
Facebook @NatResWales 

Ewch i’n rhestr chwarae ar YouTube i weld ein fideos ar waith adfer mawndiroedd ar draws Cymru

Darllenwch ein hadroddiad trydydd flwyddyn (2022-23) (PDF) (Cymraeg)

Darllenwch ein hadroddiad ail flwyddyn (2021-22) (PDF) (Saesneg yn unig)

Darllenwch ein hadroddiad blwyddyn gyntaf (2020-21) (PDF) (Saesneg yn unig)

Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd 2020-2025 (PDF) (Saesneg yn unig)

Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd – Gweithredoedd Allweddol Blynyddoedd 1-5 (PDF) (Saesneg yn unig)

Adnoddau addysg am fawndiroedd

Fideo am pam fod mawndiroedd yn bwysig a pham ein bod ni’n eu hadfer

Rhaglen Weithredu ar Fawndiroedd Cymru

Mae gan y rhaglen rôl genedlaethol strategol o gefnogi prosiectau lleol Gweithredu ar Fawndiroedd Cymru ledled y wlad. Mae rhai o’r rhain yn cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill gan bartneriaid allanol.

Adfywio Cyforgorsydd Cymru

Prosiect LIFE Corsydd Môn a Llŷn

Prosiect Dalgylch Uwch Conwy

Marches Mosses BogLIFE

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am y rhaglen npap@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf