Asesu gweithgareddau dyframaeth Cymru

Rydym wedi asesu, a mapio sensitifrwydd cynefinoedd a rhywogaethau morol lle bo hynny'n bosibl, i'r pwysau o wyth math o weithgareddau dyframaeth morol.

Mae'r adroddiad methodoleg yn rhoi gwybodaeth am y prosiect a sut y datblygwyd yr adnoddau. 

Adnoddau

Mae pob un o'r wyth adroddiad asesu yn disgrifio gweithgaredd dyframaethu, y pwysau ynghyd â'r hyn a allai ddigwydd oherwydd y gweithgaredd, a sensitifrwydd biotopau a rhywogaethau i'r pwysau hynny.

Mae astudiaeth achos ym mhob adroddiad asesu yn dangos sut, drwy ddefnyddio'r offeryn mapio a'r dangosfwrdd, y gallwch nodi sensitifrwydd biotopau a rhywogaethau i bwysau mewn lleoliad gweithgaredd dyframaeth enghreifftiol.

Crynhoir effeithiau posibl pob un o'r pwysau ar yr amgylchedd morol yn yr adroddiadau asesu, yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o adolygiad systematig o lenyddiaeth.

Dyframaeth pysgod cregyn rhynglanwol yn defnyddio trestlau neu bolion

Dyframaeth pysgod cregyn rhynglanwol a gesglir o wely’r môr

Dyframaeth rhynglanwol plannu gwymon

Dyframaeth gwymon islanwol lle defnyddir rhaffau

Dyframaeth gwymon islanwol lle defnyddir rafftiau

Dyframaeth pysgod cregyn islanwol lle defnyddir rhaffau

Dyframaeth pysgod cregyn islanwol lle defnyddir rafftiau

Dyframaeth pysgod cregyn islanwol a gesglir o wely’r môr

Lawrlwythwch y data sy’n cefnogi’r offeryn mapio a’r dangosfwrdd o MapDataCymru.

Ariannu’r prosiect

Cefnogwyd prosiect Asesu Gweithgareddau Dyframaeth Cymru gan yr UE drwy Weinidogion Cymru ac fe'i hariennir yn llawn gan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop.

Diweddarwyd ddiwethaf