Ymchwil Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol
Llifogydd yw un o’r peryglon naturiol mwyaf sy’n effeithio ar bobl, yr economi, a’r amgylchedd yng Nghymru. Disgwylir i newid hinsawdd gynyddu'r risgiau hyn, gan gynyddu amlder a dwyster digwyddiadau tywydd gan arwain at fwy o lifogydd ac erydu arfordirol.
Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd ar gyfer 2023 i 2029 sy’n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer lleihau’r perygl o lifogydd ac effeithiau llifogydd a’n dulliau o addasu a lliniaru effeithiau newid hinsawdd.
Wrth fwrw ymlaen â’r blaenoriaethau hyn, mae angen inni sicrhau bod ein penderfyniadau, ein gweithrediadau a'r cyngor yr ydym yn ei roi i'r Llywodraeth ac i eraill yn cael eu hategu gan wyddoniaeth a thystiolaeth gadarn o ansawdd sicr.
Byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael i gyfarwyddo ein penderfyniadau, er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i effeithiau llifogydd ac erydu arfordirol nawr ac yn y dyfodol.
Rhaglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Er mwyn helpu i ddiwallu ein hanghenion ymchwil a thystiolaeth, rydym yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Defra ar y rhaglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM).
Mae'r rhaglen yn cwmpasu Cymru a Lloegr a'i nod yw gwasanaethu anghenion yr holl awdurdodau rheoli perygl llifogydd ac arfordirol yng Nghymru a Lloegr. Mae'r rhaglen yn cael ei rheoli a'i darparu gan Asiantaeth yr Amgylchedd a Defra. Mae gan CNC rôl weithredol a phwysig o helpu i lunio’r rhaglen a phrosiectau unigol i ddiwallu ein hanghenion tystiolaeth.
Meysydd o Ddiddordeb i Ymchwil
Rydym wedi gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, Defra a Llywodraeth Cymru i nodi’r meysydd hyn o ddiddordeb ar gyfer y rhaglen ymchwil a datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM). Defnyddir y meysydd hyn o ddiddordeb i ymchwil i ganolbwyntio gweithgareddau ymchwil ac ymgysylltu ar draws y rhaglen i sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chynhyrchu lle mae ei hangen fwyaf.
Mae'r meysydd ymchwil hyn yn
- rhestrau o faterion ymchwil dybryd a chanlyniadau y mae angen i ni eu cyflawni
- ffordd o fynegi i eraill ble rydym am grynhoi ymchwil sydd eisoes yn bodoli mewn rhai pynciau.
Meysydd o ddiddordeb i ymchwil hyd at 2028
Dyma’r meysydd o ddiddordeb o ran ymchwil hyd at 2028, wedi’u grwpio’n wyth pwnc.
- Deall perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn y dyfodol
Mae angen inni ddeall yn well beth yw tebygolrwydd ac effaith llifogydd ac erydu arfordirol heddiw, yfory a hyd at y flwyddyn 2100.
- Gwydnwch ac addasu i lifogydd a newid arfordirol
Mae angen i’n gwaith ymchwil helpu pobl i gynllunio ar gyfer llifogydd, eu diogelu’n well, ymateb yn well i lifogydd ac adfer yn well yn dilyn llifogydd, a newid arfordirol.
- Cyllid a buddsoddiad
Ein nod yw denu ffynonellau ariannu a chyllid arloesol newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru a Lloegr. Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau fod gan ein buddsoddiadau fanteision lluosog a’u bod yn addas ar gyfer y dyfodol.
- Rheoli digwyddiadau llifogydd
Gall ymchwil wella’r ffordd y mae awdurdodau rheoli risg yn paratoi ar gyfer digwyddiadau llifogydd yng Nghymru a Lloegr ac yn ymateb iddynt.
- Rheoli asedau
Gall asedau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol fod yn unrhyw adeiledd neu nodwedd naturiol neu o waith dyn, megis waliau, adeiladau, argloddiau pridd, marianau neu ardaloedd o dir sydd wedi'u codi. Mae angen inni ddeall sut y gellir eu dylunio a'u gweithredu orau.
- Technoleg ddigidol
Gall technolegau digidol newydd sy’n dod i’r amlwg ein helpu i ddeall ac ymateb yn well i lifogydd ac erydu arfordirol a darparu cyfleoedd newydd i reoli llifogydd ac erydu arfordirol.
- Sero net a chynaliadwyedd
Mae rheoli llifogydd ac erydu arfordirol yn cefnogi targedau’r llywodraeth, h.y. bod allyriadau’r DU yn cyrraedd sero net erbyn 2050, lliniaru unrhyw golledion amgylcheddol, a gwella cyfalaf naturiol.
- Canlyniadau integredig
Mae rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn rhyngddisgyblaethol a gall ddarparu canlyniadau lluosog ac integredig i gymdeithas, i’r economi ac i'r amgylchedd.
Ceir rhagor o wybodaeth ar wedudalen y rhaglen ar y cyd.
Os hoffech gysylltu â’r rhaglen i rannu gwybodaeth am sut mae eich gwaith yn berthnasol, neu os hoffech glywed gan dîm y rhaglen pan fydd gweithgaredd ymchwil newydd yn dechrau, defnyddiwch y ffurflen meysydd o ddiddordeb ymchwil.
Os dymunwch wneud cais am gymorth gan y rhaglen ar gyfer partneriaeth ymchwil, dilynwch y cyfarwyddiadau ar sut i wneud cais am gymorth ymchwil.
Cysylltu â Ni
Os hoffech gysylltu â CNC yn uniongyrchol, defnyddiwch y manylion isod.