Arolwg Cenedlaethol Cymru
Bob blwyddyn, bydd sampl cynrychioladol o 10,000 o bobl o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan yn yr Arolwg Cenedlaethol wyneb yn wyneb. Defnyddir y canlyniadau gan Lywodraeth Cymru a chyrff nawdd i helpu i wneud Cymru yn lle gwell i fyw ynddo. Mae’n cynnwys pobl o bob oed a chefndir, sy’n byw yng nghefn gwlad ac yn y trefi.
Mae CNC yn bartner yn yr Arolwg Cenedlaethol, ac yn cyhoeddi a rhyddhau ystadegau yr Arolwg ar Hamdden Awyr Agored (gan ddisodli’r hen Arolwg Hamdden Awyr Agored), ac ar agweddau tuag at, a chanfyddiad o berygl llifogydd, newid hinsawdd a bioamrywiaeth.
Roedd Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru (WORS) yn mesur faint yr oedd oedolion sy’n byw yng Nghymru’n cymryd rhan mewn hamdden awyr agored, gan gynnwys y manteision iechyd ac economaidd cysylltiedig. Roedd hefyd yn cwmpasu agweddau’r cyhoedd at fioamrywiaeth a beth y mae pobl yn ei wneud i ddiogelu’r amgylchedd. Mae’r Arolwg Cenedlaethol Cymru newydd yn cynnwys elfennau a oedd i’w gweld yn flaenorol yn WORS. Gan fod yr Arolwg Cenedlaethol newydd yn un wyneb yn wyneb, hirach, ac yn cynnwys sampl fwy bydd diffyg parhad rhwng y canlyniadau hyn a chanlyniadau WORS. Ni ddylid eu cymharu yn uniongyrchol.
Cynnwys yr Arolwg
Mae adran Hamdden Awyr Agored Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnig gwybodaeth ar gyfranogi mewn ystod eang o weithgareddau awyr agored, o ddringo i bicnics, sy’n cael eu cynnal ym mhob ardal o barciau lleol i fynyddoedd a’r môr.
Mae’r adran arolwg Hamdden Awyr Agored yn rhoi canlyniadau manwl ar:
- lefelau cyffredinol y cyfranogiad mewn hamdden awyr agored anffurfiol
- mannau yr ymwelwyd â hwy ar dir a dŵr
- mathau o weithgareddau
- lefelau o weithgarwch corfforol
- gwariant economaidd
- cymhellion dros ddefnyddio’r awyr agored
- rhwystrau rhag ymweld â’r awyr agored
Bydd yr adran Perygl Llifogydd yn rhoi canlyniadau manwl ar y canlynol:
- lefelau pryder ynghylch llifogydd sy’n effeithio ar gartrefi pobl, ardaloedd lleol a rhannau eraill o Gymru
- â phwy y byddai pobl yng Nghymru yn cysylltu er mwyn cael cyngor am lifogydd
- a yw pobl wedi gwirio, neu’n meddwl y dylent wirio pa un a yw eu heiddo mewn perygl ai peidio
Bydd yr adran Fioamrywiaeth yn edrych ar y canlynol:
- a ganfyddwyd newid mewn bioamrywiaeth
- a ddisgwylir newid pellach
- lefel y pryder ynghylch newidiadau i fioamrywiaeth
Bydd yr adran Newid Hinsawdd yn edrych ar:
- Lefel pryder ynghylch newid hinsawdd
- Cred mewn newid hinsawdd
- Barn a syniadau ynghylch achosion newid hinsawdd
Dyddiadau Allweddol
Cynhelir yr arolwg bob dwy flynedd, gan gychwyn yn 2016. Cynhelir cyfweliadau drwy gydol y flwyddyn.
Cyhoeddwyd canlyniadau cyntaf a thablau data o Arolwg Cenedlaethol 2016 gan Lywodraeth Cymru yn ystod Haf 2017. Cyhoeddwyd bwletin Hamdden Awyr Agored ar 3 Hydref 2017 gan CNC.
Bydd yr adran Ymwybyddiaeth o Berygl Llifogydd yn cael ei chyhoeddi ar 9 Tachwedd 2017, yr adran Canfyddiadau’r Cyhoedd o Newid Hinsawdd ar 5 Rhagfyr 2017, a’r adran Agweddau tuag at Fioamrywiaeth ym mis Ionawr 2018.
Ystadegau Swyddogol
Mae cyfres Arolwg Cenedlaethol, Ffeithiau Allweddol ar gyfer Polisi ac Ymarfer, wedi’i dosbarthu fel Ystadegau Swyddogol (o dan Ddeddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007) a rhaid iddo gydymffurfio â’r Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol. Daw nifer o Egwyddorion a Phrotocolau o dan y Côd, gan gynnwys rhai’n ymwneud â rhyddhau ystadegau.
Wrth gydymffurfio â’r Côd Ymarfer, gellid caniatáu mynediad cynnar i uwch swyddogion a gweinidogion at ddibenion briffio cyn rhyddhau i’r cyhoedd. Rhoddir mynediad cyn rhyddhau i’r adran Hamdden Awyr Agored i ddeiliaid y swyddi a ganlyn:
- Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, CNC
- Pennaeth Tystiolaeth a Gwybodaeth, CNC
Cyhoeddiadau: adroddiadau a data
Hysbysiad ynghylch cywiriad, 9 Ionawr 2018. Ar dudalen 3 y bwletin newid hinsawdd, oherwydd gwall teipio mae’r testun yn nodi ar gam fod 20% o ferched yn ‘bryderus iawn’ neu’n ‘eithaf pryderus’ ynghylch newid hinsawdd. Y ffigwr cywir yw 70%. Mae hyn wedi’i gywiro yn y cyhoeddiad; mae’r fersiwn sydd ar-lein yn awr yn disodli’r fersiwn wreiddiol.
Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016-17 Ffeithiau Allweddol ar gyfer Polisi ac Ymarfer: Agweddau tuag at Fioamrywiaeth (Cymraeg yn dod yn fuan)
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio’r rhain am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored
Adroddiadau a Data Blaenorol
- Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru – Ffeithiau Allweddol ar gyfer Polisi ac Ymarfer (2016) Mae hwn yn rhoi trosolwg o brif ganfyddiadau arolwg 2014/2015, ac yn cynnwys cyfranogiad mewn hamdden awyr agored, buddiannau iechyd ac economaidd, agweddau tuag at fioamrywiaeth ac ymddygiadau o blaid yr amgylchedd
- Prif adroddiad Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru 2014 (Saesneg yn unig) - Y cyhoeddiad hwn yw prif adroddiad Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru 2014 (AHAAC) sy’n canolbwyntio ar ymgysylltiad y cyhoedd â’r amgylchedd naturiol, gan gynnwys cyfranogiad mewn hamdden awyr agored, manteision iechyd ac economaidd, agweddau tuag at fioamrywiaeth ac ymddygiadau sy’n ffafriol i’r amgylchedd ac sy’n dangos gwahaniaethau ystadegol sylweddol rhwng canlyniadau 2008, 2011 ac 2014
- Adroddiad Technegol Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru 2014 (Saesneg yn unig) - Y cyhoeddiad hwn yw Adroddiad Technegol Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru 2014 (AHAAC) a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru
- Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru 2014: Datganiad Cyntaf Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o brif ganlyniadau arolwg 2014
- Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru 2014: Tablau Data Llawn (Saesneg yn unig) Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu’r tablau data llawn ar gyfer arolwg 2014 ar ffurf pdf
- Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru 2014: Tablau Data Cymharu (Saesneg yn unig) Mae’r tablau hyn yn cymharu data arolygon 2014, 2011, a 2008
- Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru – Ffeithiau Allweddol ar gyfer Polisi ac Ymarfer (2013) Mae hwn yn rhoi trosolwg ar brif ddarganfyddiadau’r arolwg, gan gymharu canlyniadau 2008 a 2011, ac yn nodi’r prif sialensau ac argymhellion i gael mwy o bobl i gymryd rhan mewn hamdden awyr agored
- Data Excel Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru 2014: lawrlwytho data crai 2014 ar gyfer defnyddwyr Excel
- Canllaw pwysoliad a newidynnau Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru 2014: mae’n darparu gwybodaeth ar sut i ddadansoddi gan ddefnyddio ffeiliau data crai Excel ac SPSS
Gallwch ddefnyddio ac ail-ddefnyddio’r wybodaeth yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored.
Mae pob un o gyhoeddiadau arolygon 2008 a 2011 (a gomisiynwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru) ar gael i’w lawrlwytho yma. Mae hyn yn cynnwys Adroddiadau Terfynol, tablau data llawn ac adroddiadau ar Iechyd a Gweithgaredd Corfforol.