Amgylchedd naturiol Cymru yw ein hetifeddiaeth fwyaf gwerthfawr, sy'n ganolog i'n hunaniaeth fel cenedl ac, fel sydd wedi dod yn eglur dros y flwyddyn ddiwethaf, yn greiddiol i iechyd a lles ein pobl a'n heconomi.

 

Diogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yw un o heriau mwyaf ein hoes. Wrth i ni edrych tuag at ddilyn llwybr gwyrddach allan o bandemig byd-eang Covid-19, rhaid i ni hefyd fanteisio ar y cyfle i ailddychmygu sut rydym yn defnyddio ein hasedau naturiol i fynd i'r afael â bygythiadau deuol argyfyngau'r hinsawdd a natur.

 

Nod cyhoeddi'r ail Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR2020) yw llywio'r ymdrech honno. Mae'n adeiladu ar y sylfaen dystiolaeth yn y SoNaRR cyntaf, sy'n dangos rhai o'r heriau, blaenoriaethau a chyfleoedd allweddol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

 

Yn ganolog iddo mae'r uchelgais i bontio'r bwlch rhwng ein sefyllfa ar hyn o bryd a ble mae angen i ni fod.

 

Mae Deddf yr Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn darparu'r sylfeini cadarn i Gymru gyflawni ei huchelgais. Fel y dywedodd Nikhil Seth, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol y Cenhedloedd Unedig;

 

"Yfory, bydd y byd yn gwneud yr hyn y mae Cymru'n ei wneud heddiw".

 

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO Manifesto for a healthy recovery from COVID-19) a Llywodraeth Cymru (Ail-greu ar ôl Covid-19: Heriau a Blaenoriaethau)ill dau wedi tynnu sylw at y rôl sylweddol y bydd adnoddau naturiol yn ei chwarae wrth adfer yn sgil y pandemig.

 

Mae cyhoeddi SoNaRR2020 yn dod ar adeg dyngedfennol o her a newid, mewn sawl maes. Yn 2019, datganodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd a gosododd darged i gyrraedd sefyllfa carbon sero net erbyn 2050 (Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel). Rydym wedi gweld plant a phobl ifanc yn llenwi'r strydoedd ledled y byd i wneud safiad dros yr argyfyngau hinsawdd a natur, gan eu gosod yng nghanol yr agenda newyddion byd-eang.

 

Mae pandemig Covid-19 hefyd wedi newid ein ffordd o fyw yn sylfaenol. Mae pwysigrwydd gallu mwynhau ein hamgylchedd naturiol, a'r buddion o ran iechyd a lles a ddaw yn ei sgil, yn amlycach nag erioed wrth i ni i gyd addasu i'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith i reoli'r feirws.

 

Mae ein hymateb ar y cyd i'r pandemig yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ailosod ein gwerthoedd a'n blaenoriaethau, ac i'w hadlinio â'r rhai a fydd yn creu dyfodol mwy cynaliadwy.

 

Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen adferiad gwyrdd, a gomisiynwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ac a gadeiriwyd gan Syr David Henshaw, eisoes wedi nodi cyfleoedd arloesol inni barhau â rôl arweiniol Cymru yn yr agenda werdd. Dyma'r cyfle, yng nghanol y cyfnod heriol hwn yn fyd-eang, i ailffocysu ein sylw tuag at adferiad gwirioneddol wyrdd a chymdeithas sy'n gweithio gyda natur, nid yn ei herbyn.

 

Ni ellir gwadu ein bod mewn cyfnod allweddol yn hanes y ddynoliaeth a'r amgylchedd. Dyma'r amser i weithredu ac adeiladu ar y gwaith da a wnaed ers cyhoeddi ein hadroddiad cyntaf.

 

Mae SoNaRR2020 yn cynnwys y ffocws traddodiadol ar reoli adnoddau naturiol o fewn yr wyth ecosystem eang. Mae hefyd yn cynnig dull trawsnewidiol gan ddefnyddio'r meysydd ecosystem, economaidd a chymdeithasol fel dulliau o ailgynllunio ein cymdeithas a'n heconomi. Mae'n nodi tri maes ar gyfer newid trawsnewidiol: y systemau bwyd , ynni a thrafnidiaeth.

 

Mae'r system fwyd fyd-eang yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Nodir defnydd tir gan adroddiad IPBES y Cenhedloedd Unedig fel un o'r prif ffactorau sy'n gyrru'r argyfwng natur (Adroddiad asesu byd-eang ynghylch gwasanaethau bioamrywiaeth ac ecosystemau). Mae allyriadau llygryddion, prinder adnoddau, colli bioamrywiaeth a dirywiad ecosystemau yn ganlyniadau'r system bresennol yng Nghymru a thu hwnt.

 

Y system ynni fyd-eang yw un o brif sbardunau'r argyfwng hinsawdd. Mae arferion cynhyrchu a defnyddio ynni presennol Cymru yn creu pwysau sylweddol ar ecosystemau ac iechyd y cyhoedd yma ac ar draws y blaned. Mae angen i Gymru gynyddu ei defnydd o ffynonellau ynni adnewyddadwy a chynaliadwy, gan leihau'r ddibyniaeth bresennol ar danwydd ffosil niweidiol.

 

Mae'r system drafnidiaeth yn cael effaith ar ecosystemau ac iechyd. Mae trafnidiaeth drefol yn cyfrannu at allyriadau carbon, llygredd aer a dŵr, llygredd sŵn ac effeithiau cymdeithasol ac economaidd tagfeydd neu ddiffyg cyfleoedd trafnidiaeth.

 

Bydd dull trawsnewidiol yn ein symud tuag at economi atgynhyrchiol. Gan ddefnyddio'r nodau llesiant fel ein canllaw, gall Cymru ganfod llwybr i'r dyfodol. Gyda'r dull cywir, gallwn ragori ar ddisgwyliadau ar gyfer cynaliadwyedd a gwydnwch. Gall Cymru gynnwys ystyriaeth systematig ar gyfer yr amgylchedd a sicrhau cymdeithas fwy cyfartal. Byddai hyn yn gwneud Cymru'n wlad â chyfoeth o adnoddau naturiol a chymunedau ffyniannus; Cymru sy'n cyflawni ei nodau llesiant.

 

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd byd-eang ac o ran gwella'r amgylchedd naturiol. Fodd bynnag, mae llawer i'w wneud o hyd; nid yw Cymru eto'n cyflawni pedwar nod tymor hir rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac mae'n hanfodol bod penderfyniadau polisi yn y dyfodol wedi'u gwreiddio yn y dystiolaeth hon.

 

Mae SoNaRR2020 yn nodi amrywiaeth o gyfleoedd i weithredu i symud tuag at ddyfodol cynaliadwy a gobeithiwn y bydd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer newid cadarnhaol ac adferiad gwyrdd ledled Cymru.

 

Darllenwch nesaf


SoNaRR2020: Cyflwyniad

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig


Dadlwythwch yr adroddiad cryno (PDF)

SoNaRR20: Geirfa (PDF)