Cryodeb

Mae aer glân yn adnodd naturiol hanfodol ac mae'n hanfodol i ddiogelu iechyd pobl ac amgylchedd naturiol Cymru.

Er bod llygredd aer o ddiwydiant, cynhyrchu ynni a thrafnidiaeth wedi lleihau yn ystod y degawdau diwethaf, mae crynodiadau o amonia ac oson yn parhau i gynyddu'n gyson gan achosi niwed ac effeithio ar gydbwysedd naturiol ein hecosystemau.

Yng Nghymru mae effaith nitrogen, yn enwedig llygredd amonia, yn sylweddol gydag 88% o gynefinoedd sensitif wedi'u difrodi. Mae tystiolaeth yn dangos mai amaethyddiaeth yw'r ffynhonnell fwyaf o lygredd amonia yn yr awyr ac mae crynodiadau'n debygol o gynyddu oni bai fod mesurau i reoli allyriadau amaethyddol yn cael eu gweithredu.

Mae llygryddion aer eraill sy'n peri pryder yn gysylltiedig â ffynonellau sydd hefyd yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Mae llawer o gyfleoedd i leihau'r allyriadau hyn ac mae camau eisoes yn cael eu cymryd. Mae gwaith parhaus eisoes wedi gweld diwydiannau mawr yn dechrau datgarboneiddio. Mae newidiadau o fewn cymdeithas oherwydd mwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol hefyd yn gwneud gwahaniaeth.

Ein hasesiad 

Lawrlwytho SoNaRR2020: Pennod ansawdd aer (Saesneg PDF)

Mae'r bennod yn tynnu sylw at effaith llygredd aer ar wahanol ecosystemau a gwasanaethau ecosystemau. Nodir uchelgais pellach hefyd yng Nghynllun Aer Glân Llywodraeth Cymru ei hun a gyhoeddwyd yn 2020.

Mae'r pwysau, yr effeithiau a'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu a nodir gan y bennod ar ansawdd aer i'w gweld yn y cofrestrau adnoddau naturiol ar gyfer yr ecosystemau.

Mae anghenion tystiolaeth y bennod ar ansawdd aer wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf