Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol 2016

Darllenwch yr Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol 2020, wedi’u gyhoeddi ym Mis Rhagfyr 2020

Ffordd newydd o weithredu...

Yr Adroddiad hwn ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Mae’r ffordd hon o weithredu yn torri tir newydd. Mae’r adroddiad yn amlinellu sefyllfa adnoddau naturiol Cymru. Mae’n asesu i ba raddau y mae adnoddau naturiol yng Nghymru yn cael eu rheoli’n gynaliadwy, ac yn argymell ffordd ragweithiol o greu cydnerthedd. Ac – am y tro cyntaf – mae’r adroddiad yn creu’r cysylltiad rhwng cydnerthedd adnoddau naturiol Cymru a lles pobl Cymru.

Yn yr adroddiad hwn, rydym yn edrych ar sut mae’r pwysau ar adnoddau naturiol Cymru yn arwain at risgiau a bygythiadau i les cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd tymor hir, fel yr amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym yn edrych ar y materion allweddol, yn ogystal â’r cyfleoedd i ganfod atebion integredig sy’n cynnig manteision amryfal.

Trwy gydol yr adroddiad, rydym yn tynnu sylw at y mannau hynny lle ceir bylchau yn y dystiolaeth. Rydym yn nodi hefyd lefel ein hyder yn y dystiolaeth yr ydym wedi’i defnyddio.

Pan fydd adnoddau naturiol yn ffynnu, bydd cymdeithas a’r economi yn ffynnu hefyd. Gall adnoddau naturiol ac ecosystemau ein cynorthwyo i leihau llifogydd, gwella ansawdd yr aer a darparu deunyddiau ar gyfer adeiladu. Maent hefyd yn darparu cartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt, ac yn rhoi tirweddau eiconig i ni eu mwynhau, sydd hefyd yn hybu’r economi drwy gyfrwng twristiaeth.

Fodd bynnag, mae ein hadnoddau naturiol yn dod dan bwysau cynyddol – gan newid yn yr hinsawdd, poblogaeth sy’n tyfu a’r angen i gynhyrchu ynni. Mae Cymru’n wynebu llu o heriau: diogelu cyflenwad ynni a thanwydd sy’n isel o ran carbon, creu swyddi ac incwm, ymdrin â thlodi ac anghydraddoldeb, llifogydd a sychder, a gwella iechyd pobl.

Mae adnoddau naturiol ac ecosystemau a reolir yn wael yn cynyddu’r risgiau tymor hir i’n lles. Mae gwella rheolaeth Cymru ar adnoddau naturiol yn golygu y byddwn mewn gwell sefyllfa i allu mynd i’r afael â’r heriau hyn.

Mae angen inni oll warchod ein hadnoddau naturiol a’n hecosystemau fel y gallant barhau i roi’r pethau y mae arnom eu hangen inni. Gall unrhyw benderfyniadau a wnawn gael effaith ganlyniadol ar yr amgylchedd yn ei gyfanrwydd, yn awr ac am genedlaethau lawer i ddod.

Manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol…

Mae adnoddau naturiol Cymru yn rhoi llu o fanteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol i ni. Er enghraifft:

  • £385 miliwn o amaethyddiaeth i economi Cymru bob blwyddyn. Mae'r ffigur yn tanategu’r £6.1 biliwn o drosiant blynyddol a £1.55 biliwn o werth ychwanegol gros sydd wedi’i briodoli i’r sector cynhyrchiad ar y fferm a gweithgynhyrchu bwyd
  • 951 miliwn litr o ddŵr yfed bob dydd
  • 1.5 miliwn tunnell o bren heb ei sychu bob blwyddyn, gan wneud adeiladu yn haws ac yn rhatach
  • £499.3 miliwn o'r sector* goedwigaeth i economi Cymru (*yn cynnwys coedwigaeth a thorri coed, gweithgynhyrchu pren a chynhyrchion o bren a chorc, a gweithgynhyrchu papur a chynnyrch papur)
  • 14 miliwn tunnell o agregau bob blwyddyn, ar gyfer adeiladu a defnyddiau eraill
  • 8,919 o oriau giga-watt o ynni o ffynonellau adnewyddadwy, a’r ffigwr ar gynnydd, gan greu diwydiant ynni adnewyddadwy sy’n cyflogi 2,000 o bobl
  • 410 miliwn tunnell o garbon yn cael ei storio mewn pridd i amsugno allyriadau a diogelu rhag newid yn yr hinsawdd
  • £2,870 miliwn mewn twristiaeth i Gymru
  • 28% o oedolion yn cyrraedd y lefel a argymhellir o weithgarwch corfforol drwy weithgareddau awyr-agored
  • £18.2 miliwn mewn manteision iechyd i bobl sy’n cerdded Llwybr Arfordir Cymru
  • £840 miliwn a 30,000 o swyddi o sector yr amgylchedd hanesyddol

Crynodeb o’r adroddiad SoNaRR

Adroddiad llawn, geirfa ac atodiadau

Pennod 1:

Pennod 1 yw’r bennod ragarweiniol i Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR), sy’n disgrifio gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016,  y cysylltiadau â deddfwriaeth arall, beth yw adnoddau naturiol a pham maent yn bwysig, beth yw Rheoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol  (SMNR),  a beth yw gweledigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer SoNaRR a sut wnaethom ati i asesu a yw Cymru yn cyflawni SMNR.

Pennod 2:

Mae pennod 2 yn rhoi trosolwg o ffactorau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a technolegol y newidiadau i adnoddau naturiol ac ecosystemau yng Nghymru. Mae’n crynhoi’r brîf bwysau sy’n effeithio ar newidiadau i’r ecosystemau ac adnoddau naturiol, a’r defnydd ohonynt.

Pennod 3:

Mae pennod 3 yn cyflwyno ein hasesiad o gyflwr adnoddau naturiol yng Nghymru. Rydym yn ystyried maint, cyflwr a thueddiadau ein hadnoddau naturiol ac ecosystemau ar lefel Cymru. Hefyd mae’n trafod tystiolaeth integredig ar hyd y lle - cyflwr tirweddau ac asesu ar lefel ardal

Pennod 4:

Mae gwybodaeth ar gyflwr adnoddau naturiol yn ein caniatáu i ystyried cydnerthedd bioffisegol ym mhennod 4. Ystyrir y cysyniad o cydnerthedd ac rydym yn crynhoi’r asesiad o gydnerthedd ecosystemau yng Nghymru sy’n seiliedig ar briodoleddau cydnerthedd nodwyd yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru). 

Pennod 5:

Ym mhennod 5 disgrifir y manteision gwahanol gawn o’n hecosystemau a’n hadnoddau naturiol. Mae’n adeiladu darlun o’r buddion lles, lle ceir mwy o botensial ar gyfer gwella’r buddion yma, a lle ceir diffygion (effeithiau negyddol). Trwy ddeall  y buddion a’u cyfraniad i les, allwn yna ystyried risgiau  i’r buddion  hynny yn y dyfodol. Os oes yna broblemau gyda chydnerthedd ecosystemau, yna beth all hyn olygu i les? 

Pennod 6:

Mae pennod 6 yn edrych ar sut mae Cymru yn defnyddio a rheoli eu hadnoddau naturiol ac yn nodi rhai o’r risgiau a grëwyd gan ddiffygion yn y system rheoli bresennol. Drwy ganolbwyntio ar feysydd sy’n peri’r fwyaf o risg a thynnu sylw at ble allai fod yna potensial ar gyfer sicrhau buddion gwell, byddwn yn helpu Llywodraeth Cymru a llunwyr polisïau eraill i nodi blaenoriaethau ar gyfer rheoli cynaliadwy.

Pennod 7:

Gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn y penodau blaenorol, mae pennod 7 yn cyflwyno cofrestr risgiau adnoddau naturiol a lles i Gymru. Mae hyn yn dechrau llunio rhai casgliadau ar y canlyniadau posibl ar gyfer lles, ar risgiau posibl os nad yw’n adnoddau naturiol ac ecosystemau yn gydnerth. Yna mae’n ystyried sut awn ati i osod blaenoriaethau a datblygu atebion yn seiliedig ar natur a fydd yn helpu ymdrin â’r risgiau a’u rheoli drwy dechnegau fapio gofodol - i nodi atebion integredig a fydd yn seiliedig ar leoedd.

Pennod 8:

Mae’r bennod derfynol yn crynhoi’r dystiolaeth o fewn yr adroddiad, gan gynnwys ein hasesiad o raddau cyflawniad rheoli cynaliadwy, a’n asesiad bioamrywiaeth gyffredinol. Mae’n defnyddio’r casgliadau o’r adroddiad  i dynnu sylw at rai cyfleoedd lefel-uchel ar gyfer amddiffyn a gwella cydnerthedd ecosystemau a’r manteision y maent yn eu darparu.

Hoffem glywed gennych…

Mae arnom eisiau clywed gennych os oes gennych dystiolaeth am sefyllfa adnoddau naturiol yng Nghymru, cydnerthedd ecosystemau, neu eu cyfraniad at les. Mae arnom hefyd eisiau clywed eich syniadau am sut i wella ein prosesau asesu ac adrodd, a allai ein cynorthwyo I ddatblygu Adroddiadau ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn y dyfodol.

  • Sut gallech ddefnyddio’r dystiolaeth yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol i’ch helpu i gyflawni eich nodau/amcanion?
  • Sut gallech gymhwyso’r dull o ymwneud â chydnerthedd a lles i’ch maes diddordeb penodolchi?
  • Sut mae arnoch angen i ni eich helpu chi?
  • Sut gallwn ddatblygu’r dulliau a gyflwynir yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (megis y Gofrestr Risgiau adnoddau naturiol a lles) i’w wneud yn fwy defnyddiol i chi
  • Beth gallwch chi ei gynnig a fydd yn ein helpu i ddatblygu’r Adroddiad nesaf ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol?

Cysylltwch â ni ar sonarr@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae’r daith yn parhau…

Dim ond dechrau taith ein Hadroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yw hon, er mwyn gwella’r rheolaeth ar adnoddau naturiol. Ni allwn wrthdroi tueddiadau tymor hir dros nos. Dim ond unwaith mewn cenhedlaeth y cawn y cyfle hwn.

Bydd mabwysiadu agwedd gydgysylltiedig at reoli ein hadnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy yn ein helpu i ymdrin â hen broblemau mewn ffyrdd newydd - i ganfod gwell atebion i’r heriau yr ydym yn eu hwynebu – a chreu Cymru sy’n fwy llwyddiannus, yn iachach ac yn fwy cydnerth, yn awr ac yn y dyfodol.

Gyda’n gilydd, gallwn wella sefyllfa adnoddau naturiol Cymru, a darparu hyd yn oed mwy o fanteision i bobl Cymru.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych. 

Cywiriad. Diweddariad 12 Hydref 2016:

  • Yr ystadegyn yn y ddogfen gryno sy'n ymwneud â chanran yr oedolion sy'n gwneud y lefel a argymhellir o weithgarwch corfforol trwy weithgareddau awyr agored yw 28% nid 25%, fel y nodwyd yn flaenorol. Mae hyn wedi cael ei gywiro yn y fersiwn ar-lein o'r ddogfen gryno
  • Mae'r ystadegau yn Adran 3.9 o Bennod 3 (coetir) mewn perthynas â coetir hynafol wedi cael eu diweddaru. Mae'r newidiadau yn ymwneud â'r neges allweddol "Maint" a Thabl 3.8

Cywiriad. Diweddariad 21 Hydref 2016:

  • mae'r ystadeg yn Adran 3.9 o Bennod 3 (coetir) mewn perthynas i'r canran o larwydd sydd wedi'u heintio gan Phytophthora ramorum wedi cael ei ddiweddaru i'r ffigwt cywir. Mae'r newidiad yn ymwneud â'r trydydd neges allweddol "Maint"

Ychwanegwyd testun am eglurhad ar 7 Awst 2017:

  • Pwyntiau bwled Gwerth Ychwanegol Gros Amaethyddiaeth a Choedwigaeth ar y dudalen we a’r crynodeb
  • Gwerth Ychwanegol Gros Coedwigaeth: Pennod 1 Tudalen 14, Pennod 3 adran 3.9, Pennod 5 Tudalen 13 ac Atodiad i Bennod 3 Tudalen 87
Diweddarwyd ddiwethaf