Arolwg o Wastraff Adeiladu a Dymchwel 2012

Cafodd yr arolwg o wastraff adeiladu a dymchwel (A & D) a gynhyrchwyd yng Nghymru yn ystod blwyddyn galendr 2012 ei gynnal gan RSK Environment Ltd mewn partneriaeth ag Urban Mines, a’i reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a oedd yn ariannu’r prosiect. Cafodd cymorth ei ddarparu hefyd gan Ainsworth & Parkinson, Groundwork Cymru a WRc.

Cafodd data ei gasglu gan 457 o safleoedd busnes mewn gwahanol sectorau ac o wahanol faint ar hyd a lled Cymru rhwng mis Gorffennaf 2013 a mis Ionawr 2014. Cafodd y data ei grosio i fyny i lefel ranbarthol a chenedlaethol yng Nghymru drwy ddefnyddio data poblogaeth.

Prif ganfyddiadau

  • Amcangyfrifir bod sectorau adeiladu a dymchwel Cymru wedi cynhyrchu 3.4 miliwn tunnell o wastraff
  • Y sectorau Peirianneg Sifil (47%) ac Adeiladu (41%) a gynhyrchodd y mwyafrif o’r gwastraff hwn, gyda chyfran lai wedi’i chynhyrchu gan y sectorau Adeiladu Cyffredinol (7%) a Dymchwel (4%)
  • Roedd y gyfradd paratoi i ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer deunyddiau fel arall o ran gwastraff Adeiladu a Dymchwel a gynhyrchwyd yng Nghymru yn 87% yn 2012

Math o wastraff

Y math mwyaf arwyddocaol o wastraff A&D a gynhyrchwyd oedd pridd, 46 y cant, yna agregau, 37 y cant, gwastraff safle cyffredinol cymysg, 10 y cant a gwastraff pren, 3 y cant.

Rheoli gwastraff

I fanylu ar sut y cafodd y gwastraff ei reoli:

  • paratowyd 1.5 miliwn tunnell, 44 y cant, i’w ailddefnyddio
  • cafodd 1.1 miliwn tunnell, 31 y cant, ei ailgylchu
  • gwaredwyd 639 mil tunnell, 19 y cant, drwy dirlenwi
  • anfonwyd 130 mil tunnell, 4 y cant, i ôl-lenwi

Gwastraff peryglus

O’r holl wastraff a gynhyrchwyd gan adeiladu a dymchwel yn 2012, sef 3.4 miliwn tunnell, amcangyfrifwyd bod 38 mil tunnell o wastraff peryglus wedi cael ei gynhyrchu (1%). Y prif fathau o wastraff peryglus a gynhyrchwyd oedd priddoedd halogedig (41%), cymysgeddau bitwminaidd (34%), gwastraff asbestos (9%) a thoddyddion cemegol (7%).

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Construction and Demolition Waste Wales data 2012 (Saesneg yn unig) PDF [17.0 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf