Mae’r cynlluniau’n trafod y pwysau sydd ar amgylchedd dŵr Cymru. Mae ein hafonydd, llynnoedd, gwlypdiroedd, dyfroedd daear, aberoedd a’n dyfroedd arfordirol, yn cynnwys y rhai mewn ardaloedd gwarchodedig i gyd yn dod o dan y cynlluniau hyn. Caiff y rhain eu diweddaru bob chwe blynedd a’u paratoi mewn ymgynghoriad ag ystod eang o sefydliadau ac unigolion.

Mae cynlluniau cymeradwy a’r dogfennau ategol i’w gweld ar ein gwefan.

1) Dogfen Cyfeirio Cynllun Rheoli Basn Afon
2) Crynodeb o Gynllun Rheoli Basn Afon Gorllewin Cymru
3) Crynodeb o Gynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy
4) Adroddiad Cynnydd Cymru 2009-2015
5) Atodiad Trosolwg Cynllunio Rheoli Basn Afon
6) Crynodeb o Atodiad Trosolwg Cynllunio Rheoli Basn Afon
7) Datganiad o Fanylion ar gyfer Cynllun Rheoli Basn Afon Gorllewin Cymru- Mae dogfennau’r Asesiad Amgylcheddol Strategol llawn ar gael ar gais drwy gysylltu ag  wfdwales@cyfoethnaturiol.cymru
8) Datganiad o Fanylion ar gyfer Cynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy - Mae dogfennau’r Asesiad Amgylcheddol Strategol llawn ar gael ar gais drwy gysylltu ag  wfdwales@cyfoethnaturiol.cymru
9) Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd o Gynlluniau Rheoli Basn Afon Dyfrdwy a Gorllewin Cymru – am gopi o’r atodiadau cysylltwch â wfdwales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
10) Cofrestr Ardaloedd Gwarchodedig
11) Rhestr Allyriadau
12) Cefndir y Cyfarwyddyd Fframwaith Ddŵr

Rydym wedi datblygu Ffeithlun - 'Caru dŵr Cymru' - er mwyn hyrwyddo’r cynllun rheoli basn afon. Os hoffech gael fersiwn poster A4, anfonwch e-bost atom wfdwales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Rydym hefyd wedi datblygu ffeithlun ar gyfer Ardal Basn Afon Dyfrdwy. 

management plan infographic

Mae’r crynodebau dalgylchoedd wedi’u diweddaru

Diben y crynodebau yw bod yn ganllaw  ymarferol i gynorthwyo gyda chyflawni’r camau gweithredu a phartneriaethau lleol penodol.

Crynodeb dalgylch Caerfyrddin
Crynodeb dalgylch Clwyd
Crynodeb dalgylch Conwy
Crynodeb dalgylch Lleyn ac Eryri
Crynodeb dalgylch Meirionydd
Crynodeb dalgylch Sir Benfro
Crynodeb dalgylch Tawe
Crynodeb dalgylch Chymoedd y De-ddwyrain
Crynodeb dalgylch Teifi
Crynodeb dalgylch Wysg
Crynodeb dalgylch Ynys Mon

Mae Arsylwi Dyfroedd Cymru yn rhoi gwybodaeth leol am ddosbarthiad, prosiectau a mesurau.

Arweinir Cynllun Rheoli Basn Afon Hafren gan yr Environment Agency ac fe’i cyhoeddir ar ei gwefan. 

Mae Cynlluniau Rheoli Basn Afon yn fesur cyfredol o dan Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol sy’n cyfrannu at wella cyflwr amgylcheddau morol ac arfordirol y DU. Nod y Gyfarwyddeb yw sicrhau bod gan ddyfroedd y DU Statws Amgylcheddol Da erbyn 2020. Mae Rhaglen lawn y Mesurau sy’n ffurfio Rhan Tair Strategaeth Forol y DU wedi’i chyhoeddi ac ar wefan Llywodraeth Cymru .

 

Cyhoeddi Dosbarthiad Cylch 3 Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) 2021 ar statws cyrff dŵr wyneb a dŵr daear WFD yng Nghymru

Y statws cyffredinol ar draws Cymru ddaearyddol yw bod gan 40% o'r 933 o gyrff dŵr wyneb a dŵr daear statws da neu well. Mae hyn yn cynrychioli gwelliant o 3% o'r hyn a adroddwyd yn 2015 ac yn welliant o 8% ers 2009.

Mae CNC bellach yn diweddaru'r dosbarthiad bob 3 blynedd. Rhyddhawyd dosbarthiad diwethaf yr holl gyrff dŵr yn 2015 a dosbarthiad interim ar gyfer cyrff dŵr wyneb yn 2018.  Mae hyn yn ddiweddariad ar gyfer pob corff dŵr. 

Mae’r dosbarthiad ar gael ar Water Watch Wales ynghyd â dogfen ‘Cwestiynau Cyffredin’.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Asesiad risg arfordirol EXCEL [16.9 KB]
Asesiad risg dŵr daear EXCEL [14.1 KB]
Asesiad risg llynnoedd EXCEL [40.5 KB]
Asesiad risg afonydd EXCEL [1.2 MB]
Asesiad risg cyfnod pontio EXCEL [20.8 KB]

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf