Asesiad o ansawdd dŵr yng Nghymru 2024
Rydym wedi cyhoeddi diweddariadau i ddata ansawdd dŵr ledled Cymru y gellir eu lawrlwytho ar ffurf dogfen Microsoft Excel a’u gweld fel mapiau.
Edrychwch ar y data ar Arsylwi Dyfroedd Cymru
Edrychwch ar y mapiau ar Borth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru
Lawrlwythwch y mapiau o Fap Data Cymru
Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
Mae dosbarthiad dros dro 2024 wedi aros yn gyson gyda 40% o gyrff dŵr â statws cyffredinol da neu well. Mae hyn yr un fath â’r dosbarthiad blaenorol yn 2021 ond yn welliant o 3% ers 2015 a 5% ers 2019.
O dan y rheoliadau rydym yn rhannu’r amgylchedd dŵr yn gyrff dŵr. Mae’r rhain yn cynnwys llynnoedd, afonydd, dŵr daear, dyfroedd aberol (aberoedd) a dyfroedd arfordirol. Mae cyfanswm o 933 o gyrff dŵr yng Nghymru.
Rydym yn monitro cyrff dŵr am wahanol bethau yr ydym yn eu galw’n elfennau. Mae hyn yn cynnwys elfennau cemegol, ffisegol, a biolegol. Yna byddwn yn cymhwyso set o reolau i ddosbarthu pob corff dŵr yn un o bum dosbarth statws (uchel, da, cymedrol, gwael neu ddrwg) yn seiliedig ar y gwaethaf o’i statws ecolegol neu gemegol.
Mae’r rheoliadau’n defnyddio dull ‘un yn methu, pob un yn methu’ ar gyfer yr asesiad statws cyffredinol, sy’n golygu os bydd un elfen a aseswyd yn methu, bydd y corff dŵr cyfan yn methu’n gyffredinol. Os edrychwn ar bob elfen unigol ar wahân, gwelwn fod 93% o gyrff dŵr yn cyrraedd statws da neu well.
Dangosir dadansoddiad ar gyfer nifer y cyrff dŵr ar gyfer pob dosbarth statws ym mhob math o gorff dŵr isod yn ogystal â’r ganran sy’n dda neu’n well. Sylwer bod y categori afonydd hefyd yn cynnwys camlesi a throsglwyddo dŵr wyneb.
Math o gorff dŵr |
Uchel |
Da |
Cymedrol |
Gwael |
Drwg |
% da neu well |
---|---|---|---|---|---|---|
Dŵr daear |
0 |
21 |
0 |
17 |
0 |
55 |
Afonydd |
0 |
311 |
323 |
78 |
14 |
43 |
Llynnoedd |
1 |
27 |
69 |
15 |
2 |
25 |
Aberoedd a dyfroedd arfordirol |
1 |
11 |
42 |
1 |
0 |
22 |
Cyfanswm |
2 |
370 |
435 |
110 |
16 |
40 |
Dosbarthiad dros dro yw data 2024, a fydd yn ein galluogi i adolygu cynnydd a llywio’r ymgynghoriad ar gyfer y cynllun rheoli basn afon nesaf (2027-2033) gan gynnwys gosod amcanion.
Asesiad ansawdd dŵr afonydd mewn ardaloedd cadwraeth arbennig (ACA)
Yn gyfan gwbl, mae gan 122 o’r 127 o gyrff dŵr ddigon o ddata i’w hasesu ar gyfer ffosfforws, ac o’r rheini mae 50% yn bodloni eu targedau. Mae hyn yn welliant o 11% o gymharu â’r asesiad blaenorol.
Mae methiannau o ran ardaloedd cadwraeth arbennig afon Gwyrfai, afon Eden, afon Teifi, afon Dyfrdwy, afon Cleddau, afon Wysg ac afon Gwy. Mae methiannau ardaloedd cadwraeth arbennig afon Gwyrfai ac afon Eden yn newydd yn 2024 gydag un corff dŵr ym mhob dalgylch yn methu. Mae methiant afon Eden o ganlyniad i un sampl uchel.
Ar lefel ACA unigol, ni fu unrhyw newid yng nghanran y cyrff dŵr sy’n pasio ar gyfer dwy ACA (afon Tywi ac afon Glaslyn, rhan o ACA Coedydd Derw Meirionnydd), bu dirywiad mewn pedair ACA (afon Eden, afon Gwyrfai, afon Dyfrdwy ac afon Cleddau) a gwelliant mewn tair ACA (afon Wysg, afon Gwy ac afon Teifi).
Rydym wedi asesu wyth corff dŵr arall o gymharu â’r asesiad blaenorol. Os byddwn ond yn cymharu’r cyrff dŵr a aseswyd yn 2021 a 2024, mae pump wedi dirywio o radd basio i radd fethu (yn ACA afon Gwyrfai, afon Eden, afon Dyfrdwy ac afon Gwy) ac mae 17 wedi gwella o radd fethu i radd basio (yn ACA afon Teifi, afon Wysg ac afon Gwy).
Ar gyfer amonia, sydd hefyd yn faetholyn, mae 98% o’r cyrff dŵr a aseswyd yn bodloni cyfanswm y targedau amonia, a 100% y targed amonia heb ei ïoneiddio, sy’n welliant ar yr asesiad blaenorol.
Mae ocsigen tawdd (96%) a’r galw biocemegol am ocsigen (77%) wedi gwella, ond mae pH (98%), y gallu i niwtralu asidau, (95%) a mynegai diatomau troffig (45%) wedi dirywio.
Mae’r tabl isod yn crynhoi canran y cyrff dŵr a aseswyd sy’n pasio ar gyfer priodoleddau ansawdd dŵr afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig.
ACA afon |
Ffosfforws |
Mynegai diatomau troffig |
Ocsigen tawdd |
Y galw biocemegol am ocsigen |
Cyfanswm amonia |
Amonia heb ei ïoneiddio |
pH |
Y gallu i niwtralu asidau |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd |
75 |
0 |
100 |
100 |
100 |
100 |
100 |
100 |
Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn |
50 |
- |
100 |
100 |
100 |
100 |
50 |
50 |
Afon Teifi |
75 |
0 |
88 |
100 |
100 |
100 |
100 |
100 |
Afon Tywi |
100 |
100 |
100 |
100 |
100 |
100 |
100 |
100 |
Afonydd Cleddau |
28 |
8 |
94 |
47 |
89 |
100 |
100 |
100 |
Coedydd Derw a safleoedd ystlumod Meirionnydd (afon Glaslyn) |
100 |
0 |
100 |
100 |
100 |
100 |
100 |
100 |
Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid (Cymru) |
38 |
0 |
88 |
100 |
100 |
100 |
100 |
100 |
Afon Wysg |
54 |
89 |
100 |
92 |
100 |
100 |
100 |
100 |
Afon Gwy (Cymru) |
42 |
43 |
98 |
66 |
98 |
100 |
96 |
91 |
Ar gyfer yr asesiad mae data monitro ansawdd dŵr afonydd ar gyfer y 127 o gyrff dŵr yn y naw afon ACA wedi’u hasesu yn erbyn y targedau a gyhoeddwyd yn yr amcanion cadwraeth.
Gellir dod o hyd i’r amcanion cadwraeth yn y Cynlluniau Rheoli Craidd
Cynhelir asesiadau cyflwr ar gyfer y nodweddion a nodir yn yr amcanion cadwraeth. Bydd yr asesiad cydymffurfio ansawdd dŵr hwn yn rhan o’r asesiad cyflwr ochr yn ochr â phriodoleddau eraill megis llif, morffoleg ac, ar gyfer rhywogaethau, poblogaeth. Lle mae’r targedau ansawdd dŵr yn berthnasol, adroddir bod y rhain wedi pasio, methu neu heb eu hasesu. Ar gyfer safleoedd sydd bob ochr i’r ffin â Lloegr mae’r asesiadau ar gyfer y rhannau o’r afon sydd yng Nghymru yn unig.
Data ansawdd dŵr wedi’u cyfuno ledled Cymru
O dan reoliadau’r Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr mae deddfwriaeth arall sy’n bwysig ar gyfer diogelu dŵr, megis y Rheoliadau Cynefinoedd, hefyd yn cael ei hystyried wrth edrych ar yr hyn y mae angen ei gyflawni. Yn gyffredinol gall targedau ar gyfer afonydd yr ACA fod yn llymach. Mae gorgyffwrdd ar gyfer ffosfforws, cyfanswm amonia, ocsigen tawdd, y gallu i niwtralu asidau a mynegai diatomau troffig, a gallwn gyfuno i ddangos a ydyw’r safon lymaf wedi’i bodloni.
Mae’r wybodaeth hon ar gael fel taenlen ar Arsylwi Dyfroedd Cymru.