Canllawiau ar gyfer perchenogion a gweithredwyr carafanau a safleoedd gwersylla
Eich cyfrifoldebau fel perchennog safle
Fel perchennog parc gwyliau, parc preswyl, carafán neu faes gwersylla, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i sicrhau bod unrhyw un ar eich safle yn gwybod beth i'w wneud os bydd llifogydd.
Bydd deall perygl llifogydd eich safle, a pharatoi ar ei gyfer nawr, yn helpu i gynnal diogelwch y cyhoedd a lleihau'r perygl i fywyd. Byddwch hefyd yn gallu adfer yn gyflymach o'r amhariad anochel ar eich busnes.
Hyd yn oed os nad yw eich safle erioed wedi dioddef llifogydd o'r blaen, dylech wybod pa ragofalon i'w cymryd a bod yn barod, yn union fel yr ydych eisoes wedi'i wneud i leihau'r risg o dân. Gall llifogydd ddigwydd unrhyw adeg o'r flwyddyn. Peidiwch â chymryd yn ganiataol na fydd eich safle yn gorlifo yn ystod misoedd yr haf.
Deddf Atebolrwydd Meddianwyr 1957: mae gennych ddyletswydd gofal o dan ddarpariaethau Deddf Atebolrwydd Meddianwyr 1957. Mae hyn yn cynnwys gwneud unrhyw un ar eich safle - ymwelwyr, tenantiaid neu berchenogion tai - yn ymwybodol o'r perygl o lifogydd.
Eich trwydded safle awdurdod lleol: bydd hyn yn debygol o fod ag amodau sy'n ymwneud yn benodol â pherygl llifogydd. Mae'r rhan fwyaf o drwyddedau yn gofyn i chi arddangos arwydd rhybudd llifogydd. Edrychwch o dan adran hysbysiadau eich trwydded i weld a oes angen i chi gael un. Gall eich awdurdod lleol, sef adran Iechyd yr Amgylchedd fel arfer, roi cyngor pellach ar sut i fodloni amodau eich trwydded.
Caniatâd cynllunio: os oes gennych ganiatâd cynllunio ar eich safle neu os ydych yn gwneud cais ar gyfer hynny, bydd yr awdurdod lleol fel arfer yn gosod amodau sy'n ymwneud â pherygl llifogydd. Bydd angen i chi fodloni'r rhain er mwyn cael caniatâd cynllunio a bydd angen i chi sicrhau eich bod yn parhau i gydymffurfio. Efallai y gofynnir i chi gael cynllun gwacáu mewn llifogydd, neu arddangos hysbysiadau gwybodaeth rhybudd llifogydd o amgylch y safle.
Yn ogystal â'r rhwymedigaethau cyfreithiol hyn, dylech wneud eich ymchwil eich hun i sicrhau eich bod wedi paratoi'n dda.
Cymerwch amser i ddarganfod a fu llifogydd yn yr ardal o'r blaen. Siaradwch â phobl leol, gwiriwch fapiau perygl llifogydd, eich Bwrdd Draenio Mewnol lleol (os oes un yn eich ardal), perchnogion neu reolwyr safle blaenorol a gweithredwyr lleol eraill.
Cysylltwch â'r awdurdod lleol a'r gwasanaethau brys (yr heddlu a'r gwasanaeth tân) ynghylch eu cynlluniau rheoli argyfwng eu hunain - er enghraifft, a ydynt wedi nodi risgiau eraill ac wedi ystyried y rhai yr ydych wedi'u cydnabod?
Deall llifogydd a sut i gael rhybuddion llifogydd
Rydym yn cynnig gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim gan Wasanaeth Uniongyrchol Llinell Rybuddion Llifogydd (FWD), mewn sawl ardal sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd a'r môr. Mae FWD yn rhoi rhybudd ymlaen llaw i chi ar gyfer eich ardal dros y ffôn, ffôn symudol, ffacs, neges destun neu e-bost. Y cyfan sydd arnoch ei angen er mwyn cofrestru yw rhif ffôn neu ffacs lle gallwch dderbyn rhybuddion llifogydd ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.
Gallwch ddarganfod a allwch chi gael rhybuddion llifogydd drwy ffonio Floodline ar: 0345 988 1188 neu cofrestrwch ar-lein am ddim.
I gael gwybod a oes rhybuddion llifogydd cyfredol mewn grym:
- Cymerwch olwg ar ein map llifogydd byw.
- Ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188. Gallant ddarparu rhif ardal i chi sy'n rhoi mynediad uniongyrchol i chi i unrhyw rybuddion llifogydd a gofnodwyd ar gyfer eich ardal leol.
- Gwrandewch ar radio a theledu lleol am wybodaeth am y tywydd.
Os nad oes rhybuddion llifogydd ar gael
Nid yw rhybuddion llifogydd ar gael ym mhobman.
Os na allwch gael rhybuddion llifogydd ar gyfer eich safle, mae'n bosibl y byddwch yn dal i allu cofrestru ar gyfer rhybudd llifogydd. Mae rhybudd llifogydd yn cwmpasu ardal ddaearyddol ehangach a gall roi rhybudd ymlaen llaw i chi o'r posibilrwydd o lifogydd fel y gallwch ddechrau monitro'r sefyllfa.
Os nad oes rhybudd llifogydd ar gael o'n safle ni, mae angen i chi roi eich system eich hun ar waith i weld a yw eich safle mewn perygl o lifogydd ar fin digwydd:
- Defnyddiwch wybodaeth ac arsylwadau lleol. Er enghraifft, bydd eich gwybodaeth a'ch profiad o'r ardal yn eich helpu i asesu a yw'r afon yn ymateb yn gyflym i lawiad trwm ai peidio.
- Ystyriwch roi marciwr dyfnder ger yr afon i'ch helpu i fonitro pa mor uchel y mae'n codi, neu cadwch lygad ar uchder y llanw ar hyd yr arfordir. Fel arall, defnyddiwch strwythur sy'n bodoli eisoes megis pont neu gyfeirbwynt lleol arall sy'n dangos i chi pan fydd yr afon neu'r môr yn cyrraedd lefelau peryglus.
- Efallai y byddwch am ystyried rhoi rhybudd rhagofalus cynharach ar gyfer llifogydd posibl os yw'n debygol o ddigwydd gyda’r hwyr neu yn ystod y nos, gan mai dyma pryd mae ymwelwyr a phreswylwyr yn debygol o fod yn y gwely neu wedi bod yn yfed alcohol. Bydd hyn yn eu galluogi i symud ceir a charafanau teithiol yn ystod oriau golau dydd.
Os oes angen help arnoch gyda threfniadau rhybuddio am lifogydd ar gyfer eich safle, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i helpu.
Deall y mathau gwahanol o lifogydd a chodau llifogydd
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ac yn deall pa fathau o lifogydd sy'n effeithio ar eich safle. Yn aml, nid yw ffynhonnell llifogydd yn amlwg ar unwaith. Gallai fod yn:
- Llanw - llifogydd o'r môr.
- Afonol - llifogydd o'r afon.
- Dŵr wyneb - llifogydd o ffyrdd, ffosydd a chaeau.
- Dŵr daear - dŵr o'r ddaear yn codi uwchben yr wyneb a'i orlifo.
- Cronfeydd dŵr - methiant neu orlifo o gronfa ddŵr gyfagos.
Mae llawer o ardaloedd ar hyd yr arfordir mewn perygl o lifogydd o'r môr. Gallai hyn fod o lefelau'r llanw neu o effaith y tonnau yn ystod stormydd difrifol.
Adnabod y codau rhybuddio ar gyfer llifogydd
Os byddwch yn cofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd, mae'n bwysig eich bod yn gwybod y codau rhybuddion llifogydd ac yn deall yr hyn y maent yn ei olygu:
Llifogydd
Byddwch yn Barod. Mae llifogydd yn bosibl.
- Byddwch yn barod i weithredu eich cynllun llifogydd
- Paratowch becyn llifogydd o eitemau hanfodol
- Monitrwch lefelau dŵr lleol a’r rhagolwg llifogydd ar ein gwefan
Rhybudd llifogydd
Disgwyl llifogydd. Mae angen gweithredu ar unwaith.
- Symudwch deulu, anifeiliaid anwes ac eitemau gwerthfawr i fan diogel
- Diffoddwch gyflenwadau nwy, trydan a dŵr os yw’n ddiogel i wneud hynny
- Rhowch offer diogelu rhag llifogydd yn eu lle
Rhybudd Llifogydd Difrifol
Llifogydd difrifol. Perygl i fywyd.
- Arhoswch mewn man diogel a sicrhewch fod gennych chi fodd o ddianc
- Byddwch yn barod i adael eich cartref
- Cydweithredwch â’r gwasanaethau brys
- Ffoniwch 999 os ydych mewn perygl enbyd
Beth i'w wneud cyn llifogydd
Gosod arwyddion gwybodaeth rhybudd llifogydd
Dylech osod arwyddion rhybudd llifogydd o amgylch y safle i roi gwybod i'ch preswylwyr a'ch ymwelwyr os disgwylir llifogydd.
Dylech gynnwys map o'r safle sy'n amlygu gwybodaeth am lifogydd, fel llwybrau mynediad a mannau ymgynnull.
Meddyliwch am unrhyw anghenion arbennig sydd gan bobl ar eich safle wrth wneud eich arwyddion. A oes angen i'r arwyddion fod mewn ieithoedd eraill, bod mewn print bras, neu ar uchderau gwahanol?
Dylid rhoi arwyddion mewn mannau amlwg o amgylch y safle. Er enghraifft:
- yn y dderbynfa
- ar fyrddau gwybodaeth neu hysbysu sy'n bodoli eisoes
- ar neu wrth bwyntiau casglu sbwriel neu finiau ailgylchu
- yn agos at neu ar arwyddbyst cyfeiriad
- mewn ac o gwmpas pwyntiau dŵr
- ar gefn drysau carafán neu gabanau gwyliau
- wrth y blociau toiled neu'r blociau cawod
Arwyddion rhybuddio a gweithredu eraill
Ystyriwch roi arwyddion eraill o amgylch y safle, er enghraifft:
- arwydd 'Man Ymgynnull'
- marcwyr ar hyd glan yr afon i ddangos lle mae'r afon yn llifo fel arfer (gallai hyn atal pobl rhag cerdded i mewn i ddŵr dwfn pan fydd yr afon yn gorlifo)
- llwybrau gwacáu diogel
Hysbysiadau tywydd dyddiol
Mae'r tywydd yn bwysig iawn i ymwelwyr fel arfer. Rhowch ragolygon y tywydd ar hysbysfyrddau a'u diweddaru bob dydd.
Os yw pobl yn disgwyl gwybodaeth newydd byddant yn mynd i'r arfer o wirio'r byrddau.
Os yw eich safle mewn lleoliad arfordirol neu lanw, rhowch amserau llanw uchel hefyd.
Os ydych yn gallu cael rhybuddion llifogydd, arddangoswch y statws rhybudd llifogydd presennol. Dylech gynnwys y rhif Floodline a chod y rhif ardal ar gyfer eich ardal er mwyn i ymwelwyr allu gwirio eu hunain.
Llunio cynllun llifogydd
Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, dylech gael cynllun y gellir ei ddefnyddio os oes llifogydd, yn union fel y byddai gennych ar gyfer tân neu berygl posibl arall.
Mae cynllun llifogydd yn egluro sut y bydd eich safle yn ymateb i lifogydd.
Nod cyffredinol y cynllun yw lleihau'r risg i fywyd a chynnal diogelwch y cyhoedd. Mae'n ei gwneud yn haws i gael gafael ar wybodaeth yn ystod llifogydd ac yn haws cyfleu i staff pa gamau y mae angen eu cymryd. Bydd cael cynllun llifogydd yn golygu y bydd eich busnes yn gallu adfer yn gynt ar ôl lifogydd, gan ganiatáu parhad busnes. Mae hefyd yn dangos gofal da i gwsmeriaid.
Lawrlwythwch dempled cynllun llifogydd neu defnyddiwch y rhestr wirio hon i ysgrifennu eich un eich hun.
Pethau i’w hystyried cyn i chi ddechrau
- Pwy fydd yn gyfrifol am weithredu eich cynllun llifogydd? Gall hyn fod yn rhywun heblaw amdanoch chi - er enghraifft, warden safle neu rywun sy'n cyflenwi ar eich cyfer tra byddwch i ffwrdd.
- Ble mae'r llwybrau gwacáu diogel? Osgowch lwybrau llif posibl a sicrhewch fod digon o arwyddbyst.
- Sut y byddwch yn sicrhau bod eich staff, eich preswylwyr a'ch ymwelwyr yn ymwybodol o'r peryglon a beth i'w wneud mewn sefyllfa o lifogydd?
- Pa sbardun fyddwch chi'n ei ddefnyddio i weithredu eich cynllun llifogydd? Gallai fod yn rhybudd gan Cyfoeth Naturiol Cymru neu un sy'n seiliedig ar arsylwadau lleol.
- Sut a phryd y byddwch yn trefnu ymarferion rheolaidd gyda staff i brofi'r cynllun llifogydd?
- Ble fyddwch chi'n cadw copi cyfredol o'r cynllun? Mae angen iddo fod mewn man amlwg lle mae'r staff i gyd, gan gynnwys staff nos, yn gwybod ble i fynd ato.
Cynnwys cynllun o'ch safle
Cadwch gopi o'ch cynllun safle yn yr un lle â'ch cynllun llifogydd.
Dylai'r cynllun safle hefyd gynnwys manylion ynghylch:
- pwyntiau ynysu ar gyfer gwasanaethau, fel nwy a thrydan, fel y gallwch eu diffodd
- llwybrau gwacáu a chynlluniau rheoli traffig
- mannau ymgynnull, gan gynnwys 'canolfan argyfwng' a all fod mewn lleoliad oddi ar y safle
- lleoliad offer achub bywyd mewn mannau strategol yn agos i'r gorlifdir
Bydd eich cynllun safle yn ddefnyddiol i'r gwasanaethau brys, felly cadwch ef yn gyfredol ac ar gael yn rhwydd.
Iechyd a diogelwch
Nod cyffredinol unrhyw gynllun llifogydd yw lleihau'r perygl i fywyd a chynnal diogelwch y cyhoedd.
Y tîm rheoli safle sy'n bennaf gyfrifol am sicrhau iechyd a diogelwch yr holl ymwelwyr, preswylwyr a staff bob amser ar y safle.
Os bydd llifogydd, dylai pob unigolyn ar y safle asesu ei sefyllfa ei hun a gofyn am help os oes angen. Cofiwch, nid yw eich tîm yn aelodau hyfforddedig o'r gwasanaethau brys. Ni ddylid gofyn i aelod o staff wneud unrhyw beth a allai roi eu bywyd mewn perygl ar unrhyw adeg.
Mae siacedi llachar yn syniad da i helpu staff i gael eu gweld. Mae hefyd yn helpu i'w hadnabod nhw a'u rôl yn ystod llifogydd.
Pobl sy’n agored i niwed
Efallai y bydd angen i chi roi help i bobl oedrannus neu'r rhai sydd ag anghenion ychwanegol. Efallai y bydd angen amser ychwanegol arnynt hefyd i ymgilio, a dylid ystyried hynny.
Dylech nodi anghenion unigolion a gwneud staff yn ymwybodol ohonynt oherwydd efallai y bydd angen cymorth arnynt yn ystod llifogydd.
Rhestrau cyswllt
Cadwch restri cyfredol o gysylltiadau defnyddiol a sicrhewch eich bod yn cynnwys enwau staff sydd ar gael i gynorthwyo, cysylltiadau yn y gwasanaethau brys, eich cwmni yswiriant a rhif Floodline.
Adnoddau cyfyngedig sydd gan y sefydliadau sy'n ymateb, er enghraifft, y gwasanaeth ambiwlans, y gwasanaeth tân a'r heddlu, ac efallai na fyddant yn gallu darparu cymorth o dan bob amgylchiad. Dyma pam ei bod yn bwysig cael eich cynllun eich hun yn ei le.
Gweithredu eich cynllun llifogydd
Peidiwch â gosod y sbardun ar gyfer eich cynllun llifogydd yn rhy uchel pan fydd y safle ar fin gorlifo. Gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser i weithredu eich cynllun, a gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y wybodaeth hon yn eich cynllun.
Monitro'r sefyllfa
- Gwiriwch amodau'r tywydd, lefelau'r afonydd a lefelau'r llanw lle bo'n berthnasol i benderfynu pryd y gallai fod angen i chi weithredu'ch cynllun.
- Gwiriwch ragolygon y tywydd bob dydd ar gyfer glaw trwm. Gallwch ddarllen rhagolygon llifogydd ar-lein.
- Gwrandewch ar ragolygon y tywydd ar y radio a'r teledu am rybuddion tywydd garw.
- Gallwch weld y sefyllfa ddiweddaraf o ran y tywydd ar wefan y Swyddfa Dywydd.
- Gallwch ymweld â rybuddion llifogydd cyfredol mewn grym.
- Gwiriwch amseroedd pob llanw uchel os ydych mewn perygl o lifogydd arfordirol.
Seinio rhybudd
Dylai offer larwm, megis cloch, seiren, neu fegaffonau, fod ar gael.
Dylai cyfarwyddiadau ar sut i weithredu’r offer fod ar gael ac yn hysbys i'r staff. Rhaid sicrhau bod yr holl offer yn gweithio a'u bod yn cael eu harchwilio'n rheolaidd.
Cynlluniau llifogydd - cyfrifoldebau staff
Hyfforddwch eich staff. Dylai'r holl staff wybod am y cynllun a chael eu hyfforddi yn yr hyn y dylid ei wneud yn ystod llifogydd.
Dylech sefydlu a chyfathrebu:
- cyfrifoldebau staff (unigol a chyffredinol) mewn llifogydd. Dylai rhywun (neu dîm) fod yn gyfrifol am reoli argyfwng gan gynnwys:
- rhywun a fydd yn gwneud penderfyniadau
- rhywun sy'n gwybod beth yw cynllun y safle
- rhywun sy'n gyfrifol am gyfathrebu â phreswylwyr ac ymwelwyr
- ffordd o wneud eich staff yn hawdd eu hadnabod - er enghraifft, gwisg unffurf neu siaced lachar
- ffordd i staff gyfathrebu yn ystod argyfyngau - er enghraifft, radios, ffonau symudol
Cynhaliwch ymarferion ymarferol gyda staff, gan gynnwys fel rhan o'u hymsefydlu pan fyddant yn dechrau gweithio i chi, fel eu bod yn deall eu swyddogaethau a'u cyfrifoldebau mewn sefyllfa o lifogydd. Dylai hyfforddiant gynnwys:
- sbardunau i weithredu'r cynllun llifogydd
- sut i seinio rhybudd
- gweithdrefnau gwacáu
- lle i ganfod, a sut i ddefnyddio, unrhyw gyfarpar y gallai fod ei angen
- lle mae'r llwybrau gwacáu a sut i'w defnyddio
- â phwy i gysylltu am gymorth
Bydd angen hyfforddiant mwy manwl ar aelodau o staff sydd â chyfrifoldeb rheoli dros argyfyngau.
Yn ogystal â'r uchod, mae'n bwysig bod eu hyfforddiant yn cwmpasu meysydd megis cyswllt awdurdodau cyhoeddus a rheoli aelodau eraill o staff mewn sefyllfa o argyfwng.
Tîm rheoli'r safle
Yn gyfrifol am:
- iechyd a diogelwch staff, preswylwyr ac ymwelwyr
- rhestr gyfredol o staff, preswylwyr ac ymwelwyr
- hyfforddiant ac ymwybyddiaeth staff
- ymwybyddiaeth ymwelwyr
- rhestr rhifau cyswllt mewn argyfwng
- cynlluniau safle cyfredol gan gynnwys ble i ddiffodd nwy a thrydan
- rhannu cynllun gwacáu gyda staff, preswylwyr ac ymwelwyr
Aelodau tîm y safle
Yn gyfrifol am:
- gwybod am rolau a dyletswyddau yn ystod llifogydd
- helpu preswylwyr ac ymwelwyr i ymgilio yn ddiogel, yn enwedig y rhai sy'n fwy agored i niwed
Ni ddylai staff wneud unrhyw dasg a allai roi eu bywyd mewn perygl ar unrhyw adeg.
Sicrhau y bydd eich cynllun llifogydd yn gweithio
Profi gweithdrefnau staff
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cynllun llifogydd, y cam nesaf yw ei brofi gyda'r staff.
Cynhaliwch ddigwyddiad llifogydd ffug. Bydd hyn yn profi a yw cysylltiadau cyfathrebu wedi eu sefydlu a bod rhifau ffôn yn gywir. Gallech gynnal y prawf hwn pan fydd y safle ar gau i ymwelwyr. Os nad yw hyn yn bosibl a bod yn rhaid i'ch safle aros yn agored, nid oes angen i chi roi gwybod i ymwelwyr eich bod yn gwneud y prawf.
Dylech ddogfennu pob ymarfer a sesiwn hyfforddi staff.
Defnyddiwch y sesiynau hyn i gasglu adborth gan staff ynghylch a ddylid newid neu ddiweddaru'r cynllun llifogydd.
Dweud wrth bobl am eich cynllun llifogydd
Sicrhewch fod pawb ar y safle yn ymwybodol o'ch cynllun llifogydd.
Er enghraifft, gallech gynnwys nodyn yn y wybodaeth am y safle y bydd ymwelwyr yn ei derbyn pan fyddant yn cyrraedd y dderbynfa, neu ei gynnwys yn eich cais blynyddol am ffioedd y llain.
Dangoswch iddynt ble mae'r mannau ymgynnull a'r arwyddion gwybodaeth rhybuddion llifogydd wedi'u lleoli.
Gellid darparu gwybodaeth i ymwelwyr naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig. Bydd ymwelwyr yn teimlo'n dawelach eu meddwl bod y safle'n gweithredu’n gyfrifol ac wedi ystyried eu diogelwch.
Cadwch gopi cyfredol o'ch cynllun mewn man amlwg lle gall yr holl staff gyrraedd ato. Ystyriwch ddosbarthu copi i bob aelod o staff er mwyn cyfeirio ato, ond cofiwch roi diweddariadau iddynt pan fydd y cynllun yn cael ei ddiwygio.
Diweddarwch eich cynllun
Dyluniwyd a datblygwyd eich cynllun gennych chi a'ch staff. Mae'n perthyn i chi ac nid Cyfoeth Naturiol Cymru na'r awdurdod lleol.
Er mwyn i'ch cynllun lwyddo, mae angen i chi sicrhau bod y manylion ynddo yn cael eu gwirio a'u diweddaru'n rheolaidd. Rhaid i bopeth barhau i fod yn gyfredol, gyda gwybodaeth a rhifau cyswllt cyfredol.
Os cewch lifogydd, adolygwch eich cynllun llifogydd ar ôl y digwyddiad a'i ddiwygio yn ôl yr angen.
Rhestr wirio
Mae'r rhestr wirio fer hon yn amlinellu'r pethau allweddol i'w hystyried ar gyfer eich cynllun llifogydd. Ewch drwy'r rhestr wirio nawr a sicrhewch fod eich cynllun llifogydd yn ei le cyn y llifogydd nesaf.
- Gwirio fy nhrwydded safle a’r caniatâd cynllunio i weld a oes unrhyw amodau'n ymwneud â pherygl llifogydd.
- Ysgrifennu fy nghynllun llifogydd, neu edrych i weld a yw un sy'n bodoli eisoes yn ymdrin â'r holl ffactorau uchod.
- Sicrhau bod pob aelod o staff yn ymwybodol bod fy nghynllun llifogydd yn bodoli, yn gwybod beth yw eu rôl yn y cynllun a lle mae wedi'i leoli.
- Trefnu ymarferion i brofi'r cynllun llifogydd.
- Gosod arwyddion gwybodaeth rhybudd llifogydd o amgylch y safle a threfnu ffordd o seinio rhybudd.
- Sicrhau bod system monitro a rhybuddio am lifogydd ar waith.
- Sefydlu ffyrdd ymarferol o leihau perygl llifogydd.
- Gwirio bod fy yswiriant yn cwmpasu fy musnes ar gyfer difrod llifogydd, ymyrraeth ar fusnes a refeniw a gollir.
Ffyrdd ymarferol o leihau effeithiau llifogydd
Carafanau sefydlog
Mae Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain (BH&HPA) a'r Cyngor Carafanau Cenedlaethol (NCC) wedi cyhoeddi 'Canllawiau arfer da ar gyfer cludo, symud, lleoli, dadleoli a chomisiynu cartrefi gwyliau carafán un uned'.
Mae'r canllawiau'n rhoi cyngor hanfodol i berchnogion carafanau a chartrefi gwyliau er mwyn helpu i leihau difrod.
Gallwch e-bostio info@thencc.org.uk i gael copi o'r canllaw. Fodd bynnag, nid yw'r cyngor a ddarperir yn y ddogfen yn hollgynhwysol.
Mae pob perchennog safle yn gyfrifol yn y pen draw am gymryd camau priodol i ddiogelu iechyd a diogelwch a chydymffurfio â chyfreithiau perthnasol.
Codi carafanau
Gan ddefnyddio'r standiau echel, gallwch godi'r carafanau oddi ar lefel y ddaear wrth tua 0.5 metr i leihau'r risg o lifddwr yn cyrraedd ochr isaf y llawr.
Os yw llifddwr yn cyrraedd lefel y llawr neu'n uwch, ni fydd llawer o gwmnïau yswiriant yn caniatáu i'r garafán gael ei hadfeddiannu a bydd angen ei newid am un arall.
Angori neu glymu
Oherwydd eu hadeiledd, gall rhai carafanau arnofio i ffwrdd mewn dim ond dwy droedfedd o ddŵr.
Mae sawl ffordd y gallwch eu hangori.
Dyfeisiau arnofio
Gall fod yn ymarferol i osod dyfeisiau arnofio ar garafanau sefydlog. Mae'r dyfeisiau wedi'u hatodi i waelod y carafanau ac, ar ôl eu chwyddo, maent yn caniatáu i'r garafán gael ei chodi yn ystod llifogydd a'i gostwng wrth i ddyfroedd llifogydd suddo.
Carafanau teithiol a phebyll
Gellir symud carafanau teithiol a phebyll o'r safle os rhoddwyd rhybudd digonol ac nad yw lefelau'r afon yn codi'n gyflym.
Dylai'r ffordd y caiff hyn ei wneud gael ei ysgrifennu yn eich cynllun llifogydd. Efallai y byddai'n ddoeth ceisio rhoi rhybuddion rhagofalus ymlaen llaw am lifogydd posibl fel y gall ymwelwyr benderfynu symud eu carafanau/ceir yn gynnar.
Yswiriant
Ym mhob achos mae'n bwysig trafod pob cynllun a mesur arfaethedig gyda'ch cwmni yswiriant, er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'u hamodau polisi.
Cynllun y parc neu’r safle
Dylech ystyried sut y gallai'r perygl o lifogydd effeithio ar gynllun eich safle.
Efallai y bydd angen i chi ystyried llwybrau gwacáu drwy ardaloedd lle nad oes perygl llifogydd, a llwybrau mynediad i bobl ag anableddau. Un ffordd o reoli perygl llifogydd yw symud carafanau sefydlog i dir uwch a rhoi carafanau teithiol a phebyll mewn ardaloedd is.
Rhwystrau dros dro a chynhyrchion amddiffyn rhag llifogydd
Gall y rhain fod yn gyflym ac yn hawdd eu defnyddio. Gellir eu cydosod, eu datgymalu, eu storio neu eu hailgydosod yn rhwydd. Mae'n cymryd tua chwech i wyth o bobl i godi 100m o amddiffynfeydd datodadwy mewn awr.
Cadw allan o dymor a storio diogel
Meddyliwch am sut mae eich carafanau'n cael eu cadw allan o dymor.
Cadwch garafanau cyn belled ag sy’n bosibl o’r mannau is ar eich safle. Gallech eu clymu at ei gilydd a'u hangori.
Edrychwch ar sut rydych yn storio eich silindrau nwy a llygryddion, fel paent a chemegau. Dylech eu diogelu neu eu symud o'r ardal lle mae perygl o lifogydd.
Draenio
Gosodwch falfiau unffordd ar bob draen a mewnbibell ddŵr i atal dŵr rhag mynd i mewn i eiddo drwyddynt.
Swyddfa’r safle
Gwiriwch a yw swyddfa eich safle mewn ardal lle mae perygl o lifogydd.
Os ydyw, dylech gopïo cofnodion pwysig a'u cadw mewn lle diogel, uwchben lefelau llifogydd. Mae hyn yn cynnwys cofnodion ariannol ac yswiriant, rhestrau cynnyrch, cronfeydd data staff, cwsmeriaid a chyflenwyr a ffeiliau staff - a'ch cynllun ymgilio rhag llifogydd.
Yswiriant
Darganfyddwch a yw eich polisi yswiriant busnes yn talu ar gyfer difrod llifogydd, amharu ar fusnes a refeniw a gollir.
Nid yw pob cwmni yswiriant yn talu am lifogydd, felly mae'n bwysig gwirio.
Mae'n bwysig trafod pob cynllun a mesur arfaethedig gyda'ch cwmni yswiriant, er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'u hamodau polisi.
Os bydd llifogydd ar eich safle, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael tystiolaeth ffotograffig neu fideo o'r difrod cyn dechrau ar y gwaith glanhau. Gallai hyn fod o gymorth wrth i chi siarad â'ch cwmni yswiriant.
Pwy sy'n gwneud beth yn ystod llifogydd?
Mae hwn yn rhestru prif gamau gweithredu pob sefydliad. Efallai na fydd bob amser yn bosibl cyflawni’r holl gamau gweithredu yn ystod achos o lifogydd.
Adnoddau cyfyngedig sydd gan y gwasanaethau brys felly efallai na fyddant yn gallu darparu cymorth o dan bob amgylchiad. Mewn achosion o'r fath, mae angen i berchnogion fod yn ymwybodol y dylent wneud eu trefniadau eu hunain i amddiffyn eu safle rhag llifogydd. Dylid nodi hyn yn glir yn y cynllun llifogydd.
Cyfoeth Naturiol Cymru:
- rhagweld llifogydd a chyhoeddi rhybuddion llifogydd
- derbyn a chofnodi manylion digwyddiadau llifogydd
- monitro'r sefyllfa a chynghori sefydliadau eraill
- ymdrin ag atgyweiriadau brys a dadflocio ar brif afonydd a’r strwythurau sy’n eiddo iddo
- ymateb i achosion o lygredd
Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) - y Cyngor Sir a'r Awdurdod Unedol:
- cydlynu trefniadau argyfwng
- cynnal amodau diogel ar y ffyrdd
- rhoi rhybuddion llifogydd ar briffyrdd
- clirio systemau draenio priffyrdd wedi blocio
- gall weithredu i amddiffyn eiddo rhag llifogydd gan ddŵr o'r briffordd lle mae system ddraenio'r briffordd wedi methu
- arwain y gwaith o gydlynu rheolaeth perygl llifogydd yn eu hardaloedd
- datblygu strategaethau rheoli perygl llifogydd lleol ar gyfer ffynonellau llifogydd lleol
- rheoli'r perygl o lifogydd dŵr wyneb a dŵr daear
- cadw cofrestr o strwythurau neu nodweddion sy'n cael effaith sylweddol ar y perygl o lifogydd yn eu hardal
- clirio cyrsiau dŵr sydd wedi'u blocio (pwerau’r Ddeddf Draenio Tir)
- delio â materion iechyd amgylcheddol, gan gynnwys llygredd
Yr Heddlu:
- rôl gydlynu gyffredinol yn ystod digwyddiad
Gwasanaeth Tân ac Achub:
- ymateb i bob digwyddiad brys yn ôl y gofyn
- cynorthwyo'r cyhoedd lle bo angen a lle mae angen defnyddio personél a chyfarpar y Gwasanaeth Tân
Cwmnïau Dŵr - clirio carthffosydd cyhoeddus sydd wedi blocio
- gall gymryd camau i amddiffyn eiddo rhag llifogydd gan ddŵr o'r prif gyflenwad dŵr cyhoeddus neu arllwysiadau o'r systemau carthffosiaeth cyhoeddus
Cwmnïau trydan, nwy a thelathrebu - ymdrin ag argyfyngau sy'n ymwneud â'u gwasanaeth mewn eiddo lle mae bywyd mewn perygl o ganlyniad i lifogydd
- ymdrin ag argyfyngau llifogydd yn eu gosodiadau eu hunain
Ar ôl y llifogydd
Pan fydd llifddwr wedi cilio, bydd peryglon o hyd y dylech fod yn ymwybodol ohonynt.
Mae'n bosibl bod dŵr llifogydd wedi difrodi strwythurau ac adeiladau, ac mae'n bosibl y gallai nwy a thrydan nad yw wedi'i ddiffodd achosi perygl i fywyd.
Gall dŵr llifogydd hefyd halogi popeth y daw i gysylltiad ag ef.
Dyma rai mesurau rhagofalus defnyddiol i chi eu hystyried:
- Chwiliwch am ddifrod strwythurol cyn mynd i mewn i adeilad neu garafán. Diffoddwch unrhyw offer nwy a thrydan a throi'r pŵer i ffwrdd mewn mannau ynysu nes eich bod yn siŵr ei fod yn ddiogel i'w droi'n ôl ymlaen. Trefnwch i drydanwr neu dechnegydd nwy cymwys wirio.
- Defnyddiwch dortsh batri. Peidiwch â defnyddio ffynhonnell olau fflam agored - gall nwy gael ei ddal mewn gofod caeedig fel carafanau.
- Gwnewch yn siŵr nad yw dŵr yfed wedi'i halogi - trefnwch i’r dŵr gael ei brofi.
- Gwnewch yn siŵr bod carafanau a chartrefi wedi'u hawyru'n dda i helpu gyda sychu. Glanhewch yr holl arwynebau gyda diheintydd.
- Gwisgwch ddillad amddiffynnol os ydych yn delio ag arwynebau halogedig. Os ydych yn poeni am unrhyw halogiad, siaradwch ag Uned Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol. Os bydd rhywun yn mynd yn sâl ar ôl dod i gysylltiad â dŵr y llifogydd, dylent ymweld â'u meddyg.
- Peidiwch â gadael unrhyw un yn ôl ar y safle nes bod yr holl wiriadau iechyd a diogelwch wedi'u cwblhau.
- Cysylltwch â thîm Gofal Cymdeithasol eich awdurdod lleol am help gyda phobl agored i niwed sy'n dychwelyd i eiddo sydd wedi dioddef llifogydd.
Ffoniwch eich cwmni yswiriant cyn gynted â phosibl.
Bydd cwmnïau yswiriant am gael manylion llawn am unrhyw ddifrod rydych am hawlio ar ei gyfer. Mae'n well cael cymaint o dystiolaeth ffotograffig neu fideo â phosibl. Peidiwch â chael gwared ag unrhyw beth hyd nes y byddwch wedi gwirio gyda'ch cwmni yswiriant yn gyntaf.
Mwy o gyngor ar beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.
Meddyliwch am yr hyn y gallech ei ddysgu o'ch profiadau o'r sefyllfa a newidiwch unrhyw ddiffygion yn eich cynlluniau llifogydd a gwacáu. Bydd yn bwysig gwerthuso eich cynllun llifogydd unwaith iddo gael ei brofi go iawn. Gwnewch ddiwygiadau a chywiriadau lle bo angen.
Mwy o gymorth a chyngor
Floodline
- Darganfyddwch pa wasanaeth rhybuddio rhag llifogydd sydd ar gael lle rydych chi'n byw.
- Ceisiwch gyngor ymarferol ar beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.
- Gofynnwch am eich rhif ardal er mwyn cael mynediad hawdd i rybuddion lleol.
0345 988 1188 (24 awr)
Bwrdd Draenio Mewnol
Holwch Gymdeithas yr Awdurdodau Draenio i weld a oes gan eich ardal Fwrdd Draenio Mewnol a gofynnwch am gyngor ganddynt.
Yswiriant
Ymholiadau yswiriant cyffredinol: Cymdeithas Yswirwyr Prydain ney ffoniwch ar 0207 600 3333
Cynhyrchion a gwasanaethau llifogydd
- Y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (Tudalennau Glas)
- Elusen genedlaethol sy'n ymgyrchu ar ran cymunedau sydd mewn perygl o gael llifogydd.
- Dysgwch sut i yswirio'ch eiddo ar gyfer llifogydd.
- Ceisiwch gyngor annibynnol am gynhyrchion a gwasanaethau amddiffyn rhag llifogydd.
- Darganfyddwch sut i adfer eich eiddo os bydd llifogydd yn digwydd.