Ardaloedd Draenio Mewnol - archwiliad
Rhoddir hysbysiad drwy hyn yn dilyn Adrannau 29 a 30 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
Afon Conwy; Afon Ganol; Cors Ardudwy; Cors Borth; Dysynni; Harlech & Maentwrog; Llanfrothen; Cors Malltraeth; Pensyflog Glaslyn; Mawddach & Wnion; Tywyn; Powysland; Ardaloedd Draenio Mewnol Gwent
Rhwng 18 Gorffennaf 2025 a 14 Awst 2025 o ddydd Llun i ddydd Gwener yn gynhwysol rhwng 10:00 am a 4:00 pm gall unrhyw un sydd â diddordeb, drwy wneud cais i pepe.sepulveda@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk Cyfoeth Naturiol Cymru, Welsh Government Offices, Cathays Park, King Edward VII Avenue, Cardiff, CF10 3NQ, archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a holl ddogfennau penodedig yr Ardal a enwyd uchod ar gyfer y blynyddoedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025.
Ar neu ar ôl 15 Awst 2025 bydd yr Archwilydd Penodedig, Wales Audit Office, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BQ, ar gais unrhyw Etholwr Llywodraeth Leol ar gyfer yr ardal y mae’r cyfrifon yn gysylltiedig â hi, yn rhoi cyfle i’r Etholwr neu ei gynrychiolydd ei holi ynglŷn â’r cyfrifon, a gallai’r cyfryw Etholwr neu ei gynrychiolydd ymddangos gerbron yr Ymchwilydd a gwrthwynebu unrhyw un o’r Cyfrifon.
Gellir cysylltu â’r Archwilydd neu Adrian Crompton ar 029 2032 0500. Rhaid datgan unrhyw wrthwynebiad yn ysgrifenedig ac anfon copïau o’r llythyr ymlaen i’r Archwilydd Penodedig a Chyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, CNC.
Dyddiad 24 Mehefin 2025
Ceri Davies, Prif Weithredwr Dros-Dro,