Cynnig: beth sy'n mynd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae hyn yn rhan o'r llawlyfr cynnwys a chyhoeddi.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Tachwedd 2022.
Mae'r cynnig hwn yn esbonio pa wybodaeth a gwasanaethau ddylai fynd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dyluniwyd y wefan fel nad oes angen i ddefnyddwyr ddeall strwythurau cymhleth ein sefydliad i gael mynediad at wybodaeth neu gyflawni tasg.
Beth sy'n mynd ar y wefan
Rhaid i'r cynnwys helpu defnyddwyr i wneud un o'r canlynol:
- cwblhau tasg neu drafodiad
- deall yr amgylchedd naturiol
- ystyried yr amgylchedd naturiol yn eu cynlluniau
- cael gwybodaeth at ddiben tryloywder
- gweithio i ni
- dod o hyd i adnoddau addysg
- mwynhau adnoddau naturiol Cymru yn ddiogel ac yn gyfrifol
1. Cwblhau tasg neu drafodiad
Rydym yn cyhoeddi cynnwys sy'n dweud wrth ddefnyddwyr sut i wneud rhywbeth - fel cwblhau tasg neu drafodiad - neu sy'n gyngor y mae'n rhaid i ni ei ddarparu oherwydd mai ni yw'r rheoleiddiwr.
Mae'n mynd ar y wefan oherwydd ei fod yn helpu defnyddwyr i gydymffurfio â'r gyfraith. Er enghraifft:
- dod o hyd i ddeliwr metel sgrap trwyddedig
- gwneud cais am drwydded ddŵr
- gweld fy mherygl llifogydd
- gwybod a oes angen i mi gofrestru awdurdodiad
- gwneud cais am drwydded neu unrhyw awdurdodiad arall
2. Deall yr amgylchedd naturiol
Rydym yn cyhoeddi cynnwys sy'n helpu dinasyddion i ddeall yr amgylchedd naturiol, gan gynnwys yn ystod digwyddiadau amgylcheddol mawr, gan fod angen i ddefnyddwyr gadw'n ddiogel.
3. Ystyried yr amgylchedd naturiol yn eu cynlluniau
Rydym yn cyhoeddi cynnwys sy'n helpu gweithwyr proffesiynol i ystyried yr amgylchedd yn eu cynlluniau. Mae angen i ddefnyddwyr ddangos eu bod wedi ystyried yr amgylchedd wrth wneud penderfyniadau.
4. Cael gwybodaeth at ddiben tryloywder
Rydym yn cyhoeddi cynnwys sy'n ein helpu i gyflawni ein rhwymedigaethau o ran tryloywder gan fod angen i ddefnyddwyr wybod sut mae CNC yn gweithio a dwyn CNC i gyfrif.
5. Gweithio i ni
Rydym yn cyhoeddi'r cynnwys hwn gan fod angen i ddefnyddwyr gael swydd a/neu wybod sut brofiad yw gweithio yn CNC.
6. Dod o hyd i adnoddau addysg
Rydym yn cyhoeddi'r cynnwys hwn gan fod angen i ddefnyddwyr ddefnyddio'r wybodaeth wrth addysgu.
7. Mwynhau adnoddau naturiol Cymru yn ddiogel ac yn gyfrifol
Rydym yn cyhoeddi'r cynnwys hwn gan fod angen i ddefnyddwyr wybod sut i werthfawrogi a gofalu am yr amgylchedd, fel y gall eraill wneud hynny hefyd.
Beth sydd ddim yn mynd ar y wefan
- Gwybodaeth sydd eisoes ar y wefan. Rhaid diweddaru'r cynnwys gwreiddiol er mwyn osgoi dryswch i ddefnyddwyr.
- Gwybodaeth am bolisïau mewnol CNC. Dylai’r wybodaeth hon fynd ar y fewnrwyd.
- Canllawiau ar bolisi Llywodraeth Cymru Mae'n dyblygu cynnwys sydd eisoes ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Cyngor ar sefyllfa benodol. Mae cynnal a chadw cynnwys yn ddrud ac mae'n ddryslyd i ddefnyddwyr mewn gwahanol sefyllfaoedd. Ystyriwch ofyn i'r tîm cyfathrebu am help.
- Cynnwys sy'n dyblygu gwybodaeth sy'n gyfrifoldeb i sefydliadau eraill gan gynnwys:
- awdurdodau lleol
- cynghorau tref a chymuned
- awdurdodau parciau cenedlaethol
- awdurdodau tân ac achub
- byrddau iechyd lleol
- ymddiriedolaethau iechyd
- cynghorau iechyd cymuned
- deiliaid swyddi statudol annibynnol
- Llywodraeth Cymru
- Llywodraeth y DU
neu os yw'n bodoli ar wefan arall lle mae sefydliad anllywodraethol mewn sefyllfa well i ddiwallu anghenion y defnyddiwr.
Nid yw'n mynd ar y wefan oherwydd:
- nid yw yng nghylch gwaith CNC
- mae cynnal a chadw cynnwys yn ddrud
- ceir risg pan fo gwybodaeth yn anghyfredol neu'n anghywir
Gallwn roi dolenni sy’n arwain at y cynnwys hwn yn lle.