Pa fath o gysylltiad sydd gennych â natur?
Cewch wybod drwy ddefnyddio ein camau cynnydd naturiol
Mae tystiolaeth o bob cwr o'r byd yn dangos bod bod mewn natur yn dda i'n hiechyd a'n hapusrwydd.
Gall annog gweithgarwch corfforol trwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau sy'n cyffroi plant a phobl ifanc o bob oedran, lefel ffitrwydd a rhywedd.
Mae dysgu yn yr awyr agored yn hyrwyddo cyrhaeddiad academaidd trwy ddysgu ymarferol, dysgu drwy brofiad a thrwy wella prosesau gwybyddol ac emosiynol sy'n bwysig ar gyfer dysgu.
Mae chwarae ym myd natur yn cyfrannu at ddatblygiad corfforol, cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol, gan greu cysylltiad cryf â natur a helpu i sefydlu ymddygiadau gydol oes sydd o fudd i iechyd ac o blaid yr amgylchedd.
Rydym wedi cynhyrchu set o bosteri i ddangos manteision lluosog dysgu yn yr awyr agored: