Cam cyntaf y gwaith modelu manwl ar allyriadau o amonia, GN 036
Cam 1
Defnyddiwch fodel gwasgaru priodol i ragweld y crynodiad cyfartalog blynyddol o amonia yn yr aer, a hynny gan sicrhau bod y modiwl dyddodi wedi'i ddiffodd. Lle bo angen, dylid hefyd ystyried effeithiau'r dirwedd ac ôl-wynt adeiladau.
Unwaith y bydd rhediad y gwaith modelu wedi'i gwblhau, proseswch y maes crynodiad gan ddefnyddio'r hafaliad canlynol i gyfrifo fflwcs dyddodi sych amonia:
F = Vd x C
Ble: C yw cymedr y crynodiad blynyddol o amonia a ragfynegir, mewn microgramau fesul metr ciwbig (µg/m3).
Vd yw cyflymder dyddodi sych amonia (Vd = 0.02 metr yr eiliad ar gyfer glaswelltir a 0.03 metr yr eiliad ar gyfer coedwigoedd a choetir).
F yw'r fflwcs dyddodi (microgramau o amonia fesul metr sgwâr fesul eiliad, sef µg NH3
m-2s-1), y gellir ei drosi'n uned cilogramau o nitrogen fesul hectar fesul blwyddyn (kg N
ha-1y-1), trwy ei luosi â ffactor o 259.7.
Os nad oes adnoddau cyfrifiadura digonol ar gael i brosesu'r maes crynodiad cyfan, fel y disgrifir uchod, gellir defnyddio'r model gwasgaru i gael gwerthoedd crynodiad ar leoliadau penodol ar draws y safle sensitif (gan gynnwys y pwynt lle ceir uchafswm y crynodiad ar lefel y ddaear) ac amcangyfrif o'r fflwcs dyddodi ar y pwyntiau hyn.
Enghraifft
O'r data monitro/modelu ar ymyl cors ombrotroffig, ceir crynodiad o 0.8 microgram o amonia fesul metr ciwbig (µg NH3m-3). Y cyflymder dyddodi priodol ar gyfer y math hwn o gynefin yw 0.02 metr fesul eiliad (m s-1).
- 0.8 microgram fesul metr ciwbig x 0.02 metr fesul eiliad = 0.016 microgram fesul metr sgwâr fesul eiliad, neu 0.8 µg m-3 x 0.02 m s-1 = 0.0160 µg m-2s-1
- 0.016 microgram fesul metr sgwâr fesul eiliad x 31,536,000 eiliad x 10,000 metr sgwâr = 5,045,760,320 microgram fesul hectar fesul blwyddyn,
neu 0.0160 µg m-2s-1 x 31,536,000 s x 10,000 m2 = 5,045,760,320 µg ha-1y-1 - Rhennwch y ffigur hwn gan ddeg i'r nawfed radd er mwyn cyfrifo'r ffigur mewn cilogramau fesul hectar = 5.05 cilogram o amonia fesul hectar fesul blwyddyn
- Cywirwch NH3 (amonia) i gael y ffigur ar gyfer N (nitrogen): 5.05 cilogram o amonia fesul hectar x 0.82 = 4.16 cilogram o nitrogen fesul hectar fesul blwyddyn,
neu 5.05 kg NH3 ha-1 x 0.82 = 4.16 kg N ha-1y-1.
Ni fydd angen gweithredu ymhellach, os yw'r rhagfynegiadau o Gam 1 yn dangos nad yw lefel yr amonia yn rhagori ar y lefel gritigol.
Os yw'r rhagfynegiadau o Gam 1 yn dangos bod lefel yr amonia uwchlaw'r lefel gritigol yna ewch i Gam 2.