Ail gam y gwaith modelu manwl ar allyriadau o amonia GN 036
Cam 2 Pan fo'r rhagfynegiadau o Gam 1, heb gynnwys y ffigur dyddodi amonia, yn dangos bod lefel yr amonia yn rhagori ar y lefel gritigol, bydd angen dethol y cyflymderau dyddodi sy'n ddibynnol ar grynodiad priodol, sy'n cwmpasu'r amrediad o grynodiadau a ragfynegir (gan gynnwys y lefel gefndirol), o'r ffigurau isod.
Gellir wedyn cynnwys y rhain yn y model, er enghraifft gan ddefnyddio'r gosodiad yn y feddalwedd ADMS (meddalwedd modelu llygredd aer), sy'n ei gwneud yn bosibl cynnwys dyddodi sy'n amrywio'n ofodol (gweler y llawlyfr i ddefnyddwyr ADMS am fanylion), a gadael i'r model ail-gyfrifo. Mae'r ffigurau isod yn cynrychioli crynodeb o'r cydberthynas, sy'n seiliedig ar wybodaeth am nifer o astudiaethau, rhwng cyflymder dyddodi sych amonia a'r crynodiad hirdymor ar lefel y ddaear.
Cyfanswm crynodiad amonia o 10 microgram fesul metr ciwbig neu lai
Mewn achosion lle mae cyfanswm y crynodiad o amonia, a fydd yn cynnwys amonia o'ch datblygiad chi ac o ddatblygiadau eraill, ynghyd â'r lefel gefndirol o amonia, yn 10 microgram fesul metr ciwbig neu lai, yna'r cyflymder dyddodi ar gyfer llystyfiant byr yw 0.02 metr fesul eiliad, ac, ar gyfer llystyfiant tal, 0.03 metr fesul eiliad ydyw.
Cyfanswm crynodiad amonia sydd rhwng 10 ac 20 microgram fesul metr ciwbig
Mewn achosion lle mae cyfanswm y crynodiad o amonia, a fydd yn cynnwys amonia o'ch datblygiad chi ac o ddatblygiadau eraill, ynghyd â'r lefel gefndirol o amonia, rhwng 10 ac 20 microgram fesul metr ciwbig, yna'r cyflymder dyddodi ar gyfer pob math o lystyfiant yw 0.015 metr fesul eiliad.
Cyfanswm crynodiad amonia sydd rhwng 20 a 30 microgram fesul metr ciwbig
Mewn achosion lle mae cyfanswm y crynodiad o amonia, a fydd yn cynnwys amonia o'ch datblygiad chi ac o ddatblygiadau eraill, ynghyd â'r lefel gefndirol o amonia, rhwng 20 a 30 microgram fesul metr ciwbig, yna'r cyflymder dyddodi ar gyfer pob math o lystyfiant yw 0.01 metr fesul eiliad.
Cyfanswm crynodiad amonia sydd rhwng 30 ac 80 microgram fesul metr ciwbig
Mewn achosion lle mae cyfanswm y crynodiad o amonia, a fydd yn cynnwys amonia o'ch datblygiad chi ac o ddatblygiadau eraill, ynghyd â'r lefel gefndirol o amonia, rhwng 30 ac 80 microgram fesul metr ciwbig, yna'r cyflymder dyddodi ar gyfer pob math o lystyfiant yw 0.005 metr fesul eiliad.
Cyfanswm crynodiad amonia sy'n uwch nag 80 microgram fesul metr ciwbig
Mewn achosion lle mae cyfanswm y crynodiad o amonia, a fydd yn cynnwys amonia o'ch datblygiad chi ac o ddatblygiadau eraill, ynghyd â'r lefel gefndirol o amonia, yn uwch nag 80 microgram fesul metr ciwbig, yna'r cyflymder dyddodi ar gyfer pob math o lystyfiant yw 0.0035 metr fesul eiliad.
Dyddodi gwlyb amonia
Nid yw dyddodi gwlyb amonia yn sylweddol, yn agos i'r tarddle, o'i gymharu â dyddodi sych. Argymhellir peidio â chynnwys ystyriaeth o ddyddodi gwlyb ar gyfer amonia a allyrrir ar safle'r datblygiad yn yr asesiad. Gall ymgynghorwyr fabwysiadu dull gwahanol o amcangyfrif lefelau crynodiad a dyddodi amonia i'r hyn a argymhellir uchod, ond bydd angen cyfiawnhau hyn yn briodol yn adroddiad y gwaith modelu.
Ansicrwydd o fewn y dull a argymhellir
Gall sawl ffactor gwahanol beri ansicrwydd yn y gwaith modelu, fel a ganlyn:
- aflonyddwch atmosfferig
- y model ei hun, sy'n disgrifio sut mae llygryddion yn cael eu cludo trwy'r atmosffer
- y data a fewnbynnir, fel data meteorolegol, garwedd yr arwyneb, ac yn enwedig amcangyfrifon o gyfraddau allyrru
Bydd yr ansicrwydd cyffredinol sydd ynghlwm wrth ragfynegi crynodiad aer sy'n seiliedig ar fodel yn dibynnu'n fawr ar y sefyllfa a fodelir ac ar y model a gymhwysir, ond mae fel arfer o fewn 50% o'r gwerthoedd a fesurir ar gyfer y crynodiad cyfartalog blynyddol. Ceir ansicrwydd ychwanegol sylweddol pellach o ganlyniad i amcangyfrif lefel dyddodi amonia.
Mae Cam 1 o'r dull a argymhellir yn debygol o arwain at ffigur crynodiad neu ffigur fflwcs dyddodi ceidwadol oherwydd ni roddir ystyriaeth i'r broses ddisbyddu. Mae'r cyflymderau dyddodi a argymhellir a nodir yn y ffigurau uchod yn seiliedig ar y data cyfyngedig sydd ar gael.
Mae gwybodaeth annigonol ar gael ar hyn o bryd i gynnal dadansoddiad o ansicrwydd, ond mae'r dull empirig arfaethedig yn ei gwneud yn bosibl ystyried dibyniaeth y crynodiad ar y cyflymder dyddodi ynghyd â lefel ddisbyddu'r amonia yn y ffrwd. Mae defnyddio'r ffigur crynodiad cyfartalog hirdymor hefyd yn golygu y gellir osgoi'r cymhlethdod sydd ynghlwm wrth waith modelu tymor byr (h.y. fesul awr). Nid yw'r dull a argymhellir yn ystyried dyddodi gwlyb amonia o fferm, er ystyrir yn gyffredinol bod hyn yn digwydd ar lefel isel.