Rhoi gwybod i ni am storfa silwair neu slyri newydd neu storfa sydd wedi'i newid

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ddweud wrthym am storfa silwair neu slyri:

  • sy’n newydd
  • sydd wedi cynyddu mewn maint yn sylweddol, neu
  • sydd wedi'i hailadeiladu’n sylweddol

Gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i ddweud wrthym am adeileddau sy’n gysylltiedig â chyllid grant – er enghraifft, storfeydd tail da byw a thoeau.

Gwnewch yn siŵr bod gennych chi’r wybodaeth a'r dogfennau sydd eu hangen arnoch cyn i chi ddechrau.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch:

Eich manylion cyswllt

  • eich enw a'ch cyfeiriad
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn

Manylion y lleoliad

  • cyfeiriad yr adeiledd arfaethedig
  • cyfeirnod grid 10 digid ar gyfer y lleoliad
  • eich cyfeirnod cwsmer (CRN) Llywodraeth Cymru, os oes gennych un
  • eich rhif daliad (CPH), os oes gennych un

Gwybodaeth am yr adeiledd arfaethedig

  • manylion cymwysterau proffesiynol sy'n berthnasol i'r gwaith adeiladu neu ddylunio, os yw'n berthnasol
  • gwybodaeth am unrhyw gyswllt blaenorol â ni ynglŷn â'r adeiledd
  • manylion caniatâd cynllunio a chyfeirnod, os yw'n berthnasol
  • gwybodaeth o ran peirianneg a dyluniad
  • manylion y deunyddiau a'r dulliau adeiladu

Dogfennau ategol

Gallwch hefyd lanlwytho’r canlynol:

  • cynllun i raddfa sy'n dangos lleoliad, dimensiynau a thrawstoriadau’r adeiledd
  • cynllun lleoliad safle
  • canlyniadau profion pridd
  • tystysgrifau neu ddogfennaeth gweithgynhyrchwr ar gyfer rhai tanciau tanddaearol neu rannol danddaearol
  • cynlluniau peirianneg adeileddol

Gwneud cais ar-lein

Diweddarwyd ddiwethaf