Datblygu system rheoli amgylcheddol am drwydded i waredu dip defaid gwastraff ar y tir
Os oes gennych drwydded i waredu dip defaid gwastraff ar y tir, gallwch ddefnyddio ein strwythur awgrymedig ar gyfer eich system reoli. Fe’i cynlluniwyd i’ch helpu i fodloni gofynion amodau eich trwydded.
Bydd angen ei addasu i weddu’ch safle gan na fydd rhai rhannu’n berthnasol i’ch gweithrediadau ac efallai y bydd angen i chi wneud rhai ychwanegiadau.
Cofnodi pob gwarediad o ddip defaid gwastraff ar y tir
Rhaid i’ch system reoli gynnwys cofnodion o bob tro mae dip defaid gwastraff yn cael ei daenu ar y tir. Pob tro y byddwch yn gwaredu dip defaid gwastraff, rhaid cofnodi:
- dyddiad y gwarediad
- lleoliad y gwarediad. Nodwch rif y cau neu’r cyfeirnod grid cenedlaethol yn ogystal â’r lleoliad yn y cae. Neu gallwch groesgyfeirio ar fap atodedig sy’n dangos y lleoliad. Dim ond ar ardaloedd penodol o fewn yr ardal waredu fel y nodir ar eich trwydded y cewch waredu.
- offer gwasgaru a ddefnyddir
- enw brand trwyddedig neu gyfansoddiad cemegol y dip
- yr hyn (os unrhyw beth) y defnyddir i wanhau’r dip gwastraff (er enghraifft, slyri neu ddŵr)
- cyfaint gollwng mewn metrau ciwbig, sy’n cynnwys cyfaint y dip defaid nas defnyddir / gwastraff, cyfaint y dŵr neu’r slyri sydd wedi’i ychwanegu at y dip, a chyfanswm y cyfaint a waredir
- arwynebedd y tir a ddefnyddiwyd i waredu mewn hectarau
- cyfradd cymhwyso dip defaid i dir (metrau ciwbig fesul hectar)
Paratoi eich cynllun safle
Rhaid i’ch system reoli gynnwys cynllun o’ch safle wedi’i luniadu wrth raddfa. Dylid dangos ble mae’r canlynol:
- ardal(oedd) a ganiateir ar gyfer gwaredu dip defaid
- mynedfeydd ac allanfeydd safleoedd sydd ar gael i’r gwasanaethau brys a chontractwyr cynnal a chadw
- yr adeiladau a phrif adeiladweithiau eraill, gan gynnwys y cafn trochi defaid
- eitemau ymateb i ddamweiniau ac achosion brys – er enghraifft, pecynnau gorlif, bagiau tywod, pecyn cymorth cyntaf
- derbynyddion bregus – y pethau ar y safle neu gerllaw y gallai gweithrediadau safle effeithio arnynt, er enghraifft cyrsiau dŵr, ffynhonnau, tyllau turio, safleoedd ecolegol sensitif, eiddo preswyl
Gofynion hyfforddi
Rhaid i’ch system reoli esbonio pwy sy’n gyfrifol am ba weithdrefnau a phwy sy’n dechnegol gymwys.
Mae'r Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol (VMR) yn ei gwneud yn ofynnol i chi feddu ar dystysgrif cymhwysedd defnydd diogel o ddip defaid os ydych am brynu dip defaid. Rhaid i’r gwaith trochi gael ei wneud hefyd gan rywun sydd naill ai’n meddu ar dystysgrif cymhwysedd defnydd diogel o ddip defaid neu o dan oruchwyliaeth ac ym mhresenoldeb rhywun sydd naill ai’n meddu ar dystysgrif cymhwysedd defnydd diogel o ddip defaid neu ddyfarniad Lefel 2 yn y defnydd diogel o ddip defaid.
Cofnod cwynion
Rhaid cael gweithdrefn sy’n cofnodi:
- unrhyw gwynion rydych yn eu derbyn mewn perthynas â gweithgareddau a gwmpesir gan eich trwydded, er enghraifft cwynion gan gymdogion am sŵn, aroglau neu lwch o’ch safle
- sut yr ydych yn ymchwilio i’r cwynion hynny
- unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad i gwynion
Gellir ei defnyddio fel tystiolaeth eich bod wedi cymryd camau priodol i unioni unrhyw faterion os yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn cwynion am eich safle.
Cynllun rheoli damweiniau
Mae angen cynllun i ddelio ag unrhyw ddigwyddiadau a allai arwain at lygredd. Rhaid i’r cynllun nodi damweiniau posibl, er enghraifft offer yn torri i lawr neu unrhyw ddigwyddiad arall sy’n achosi newid annisgwyl i weithrediadau arferol, megis tywydd gwael.
Mae hefyd yn syniad da ystyried damweiniau fu bron â digwydd a’r hyn y gallech ei wneud i’w hatal rhag digwydd eto fel eich bod yn lleihau’r risg o bethau’n mynd o chwith.
Ar gyfer pob digwyddiad posibl, rhaid nodi:
- tebygolrwydd y bydd y ddamwain yn digwydd
- goblygiadau’r ddamwain
- mesurau y byddwch yn eu cymryd i osgoi’r ddamwain rhag digwydd
- mesurau y byddwch yn eu cymryd i leihau’r effaith os bydd y ddamwain yn digwydd
Rhaid i’ch cynllun damweiniau nodi hefyd sut y byddwch yn cofnodi, archwilio ac ymateb i ddamweiniau neu achosion o dorri amodau’ch trwydded.
Yn ogystal, rhaid i’ch cynllun damweiniau gynnwys y canlynol:
- y dyddiad y cafodd ei adolygu
- pryd y bydd yn cael ei adolygu nesaf
- rhestr o gysylltiadau brys a sut i gysylltu â nhw
- ffurflenni i gofnodi damweiniau
Ystyriwch gymryd y camau canlynol os ydych yn meddwl eu bod yn berthnasol i’r gweithrediadau a gyflawnir ar eich safle:
- rhoi gwybod i’r gwasanaethau brys am eich gweithgareddau
- trefnu yswiriant i dalu am gost glanhau yn dilyn damwain
- gwirio a ydych mewn ardal lle mae perygl llifogydd a chofrestrwch ar gyfer rhybuddion llifogydd
- datblygu system i ganiatáu mynediad i wybodaeth bwysig i ffwrdd o’ch safle
Yn olaf, sicrhewch fod pawb ar y safle yn gwybod am y cynllun, ble i ddod o hyd iddo, a’r hyn y mae’n ei gynnwys. Mae’n bwysig eu bod yn gwybod sut i atal damweiniau a beth i’w wneud os yw damwain yn digwydd.
Atal damweiniau a beth i’w wneud os byddant yn digwydd
Gweler isod am bethau a allai mynd o chwith a niweidio’r amgylchedd a beth i’w wneud os byddant yn digwydd. Dylech wirio a allwch nodi unrhyw beth arall yn benodol i’ch safle a allai achosi problem. Os gallwch wneud hynny, gallwch ei ychwanegu at y rhestr.
Mae taenu dip ar dir wedi’i rewi, sy’n ddwrlawn neu sydd wedi cracio yn achosi llygredd
Ataliad:
- Dim ond ar dir sydd mewn cyflwr priodol i’w dderbyn y dylid taenu dip.
Camau adfer:
- Os bydd amodau taenu anaddas, cadwch y dip yn ddiogel mewn cynhwysydd priodol nes y gall taenu ddigwydd.
Gollyngiad wrth drosglwyddo’r dip defaid i’r fferm neu yn ystod y cyfnod storio cyn ei ddefnyddio
Ataliad:
- Sicrhewch fod dip a chemegion eraill yn cael eu cludo mewn hambwrdd diferu neu gynhwysydd tebyg sydd wedi’i gau’n ddiogel ac sy’n ddigon mawr i osgoi gollyngiadau.
- Sicrhewch fod man storio'r crynodiad dip defaid wedi’i adeiladu’n gadarn, wedi’i gynnal a’i gadw’n dda, ac wedi’i leoli lle nad yw’n debygol o gael ei ddifrodi gan gerbydau.
- Sicrhewch fod dip yn cael ei storio i ffwrdd o ddraeniau ac mewn hambwrdd diogel neu fwnd i reoli unrhyw ollyngiad. Storiwch grynodiad dip mewn storfa gemegol fferm sydd wedi’i hadeiladu’n briodol neu gabinet dur cymeradwy yn unol â thaflen wybodaeth amaethyddol A/S16 yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Camau adfer:
- Os bydd gollyngiadau’n digwydd, dylech eu socian â deunydd amsugnol a’u gwaredu drwy gludwr gwastraff cofrestredig.
- Dilynwch y weithdrefn ymateb i ollyngiadau. Mae’n disgrifio beth i’w wneud pan fydd gollyngiad a lle mae’r pecyn gorlif yn cael ei gadw.
- Rhaid rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru am lygredd amgylcheddol.
Gollyngiadau o dip defaid wrth drosglwyddo i dancer slyri neu dancer gwactod cyn taenu
Ataliad:
- Sicrhewch fod y tancer wedi’i lenwi â naill ai dŵr neu slyri cyn ychwanegu’r gwastraff neu’r dip defaid gwastraff.
- Sicrhewch eich bod yn gwybod cynhwysedd y tancer a gwiriwch hefyd nad yw’r pibellau a ddefnyddir i drosglwyddo’r dip o’r cafn i’r tancer yn gollwng.
Camau adfer:
- Os bydd gollyngiadau’n digwydd, dylech eu socian â deunydd amsugnol a’u gwaredu drwy gludwr gwastraff cofrestredig.
- Dilynwch y weithdrefn ymateb i ollyngiadau. Mae’n disgrifio beth i’w wneud pan fydd gollyngiad a lle mae’r pecyn gorlif yn cael ei gadw.
Rhaid rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru am lygredd amgylcheddol.
Gollyngiadau oherwydd pibellau diffygiol, tyllau yn y cafn trochi defaid ac yn y blaen
Ataliad:
- Archwiliad o’r cafn trochi, y pibellau, y tancer gwactod a’r tancer slyri cyn eu defnyddio.
- Profi’r cafn trochi a’r pibellau drwy redeg dŵr trwyddyn nhw cyn trochi defaid a chwblhau’r rhestr wirio arolygu.
- Cyfundrefn cynnal a chadw ataliol.
Camau adfer:
- Os bydd gollyngiadau’n digwydd, dylech eu socian â deunydd amsugnol a’u gwaredu drwy gludwr gwastraff cofrestredig.
- Dilynwch y weithdrefn ymateb i ollyngiadau. Mae’n disgrifio beth i’w wneud pan fydd gollyngiad a lle mae’r pecyn gorlif yn cael ei gadw.
Rhaid rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru am lygredd amgylcheddol.