Gwneud cais am ganiatâd i stocio, tynnu a chyflenwi pysgod

Bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd i wneud y canlynol:

  • tynnu pysgod o'ch pysgodfa heb ddefnyddio gwialen a lein
  • cyflwyno pysgod i'ch pysgodfa (trwydded safle)
  • cyflenwi pysgod i bysgodfeydd, neu symud pysgod rhwng safleoedd (trwydded cyflenwr)

Mae'r trwyddedau hyn yn rhad ac am ddim.

Mae stocio a chnydio pysgod yn offerynnau pwysig i reoli eich pysgodfa. Os na chânt eu gwneud yn iawn gallant roi eich pysgodfa mewn perygl.

Gwneud cais am ganiatâd i dynnu pysgod

Er mwyn defnyddio unrhyw beth ar wahân i wialen neu lein, mae angen i chi gael caniatâd gennym ni.

Cwblhewch y ffurflen gais i dynnu pysgod.

Gwneud cais i gyflwyno a chadw pysgod

Mae'n rhaid i chi gael trwydded safle cyn cyflwyno pysgod i'ch pysgodfa neu gadw pysgod estron penodol.

Mae ceisiadau fel arfer yn cymryd hyd at 10 diwrnod. Gall ceisiadau mwy cymhleth ar gyfer safleoedd gwarchodedig neu bysgod estron gymryd hyd at 20 diwrnod.

Er mwyn gwneud cais ar gyfer trwydded safle ffoniwch 0300 065 3000 neu e-bostiwch enquiries@naturalresourceswales.gov.uk.

Bydd angen:

  • rhif cofrestru eich pysgodfa
  • manylion cyswllt yr unigolyn sy'n gyfrifol am y bysgodfa (enw, ffôn, e-bost)
  • rhestr o'r holl rywogaethau pysgod rydych yn bwriadu eu cadw neu eu cyflwyno

Os ydych yn cyflwyno pysgod heb ganiatâd gallwch gael eich erlyn a chael dirwy hyd at £50,000.

Gwneud cais i gyflenwi pysgod

Bydd angen trwydded cyflenwr arnoch os ydych yn cyflenwi neu'n symud pysgod rhwng safleoedd. Nid yw hyn yn berthnasol i achosion o symud rhwng ffermydd pysgod neu byllau gardd.

Er mwyn gwneud cais am drwydded cyflenwr ffoniwch 0300 065 3000 neu e-bostiwch enquiries@naturalresourceswales.gov.uk.

Ein hysbysu ni o weithrediadau risg uchel i gyflenwi pysgod

Mae'n rhaid i ddeiliaid trwydded cyflenwr ddweud wrthym am y canlynol o leiaf dau ddiwrnod cyn unrhyw weithrediad risg uchel:

  • Cyflenwr
  • Rhif trwydded y cyflenwr
  • Safle mae'r pysgod yn cael eu symud iddo
  • Rhif trwydded y safle
  • Enw'r ffynhonnell ddŵr
  • Dyddiad symud arfaethedig
  • Amser amcangyfrifiedig i gwblhau'r daith
  • Rhywogaethau sydd i'w symud: nifer a phwysau

Cwblhewch y ffurflen symudiadau pysgod byw.

Gwiriadau iechyd pysgod

Mae'n bosibl y bydd rhaid i chi gael gwiriad iechyd pysgod os ydych am stocio pysgod mewn afonydd, camlesi a llynnoedd sydd wedi'u cysylltu â dyfroedd agored. Bydd angen i chi gael gwiriad iechyd pysgod os yw'n amod o'ch trwydded safle neu drwydded cyflenwr.

Mae gan wefan gov.uk. ganllawiau ar wiriadau iechyd pysgod.

Cyn cael trwydded safle mae'n bosibl y bydd angen i chi gofrestru eich pysgodfa gyda’r Arolygiaeth Iechyd Pysgod.

Diweddarwyd ddiwethaf