Asesiadau cyflwr dangosol nodweddion ar gyfer safleoedd morol (EMS)
Cynhyrchwyd asesiadau cyflwr dangosol yn 2018 ar gyfer nodweddion yn safleoedd morol Ewropeaidd Cymru: ardaloedd gwarchodaeth arbennig morol (AGAau) ac ardaloedd cadwraeth arbennig morol (ACAau).
Roeddent yn rhoi syniad o gyflwr cynefinoedd a rhywogaethau dynodedig (a elwir yn ‘nodweddion’) ar lefel safleoedd unigol.
Mae’r adroddiadau isod yn parhau i fod ar gael, ond maent wedi cael eu disodli gan asesiadau cyflwr 2025 ar gyfer ACAau ac AGAau morol Cymru yn unig. Ni ddylid cymharu’r ddwy set yn uniongyrchol, gan eu bod wedi’u cynhyrchu gan ddefnyddio dulliau gwahanol. Mae asesiadau 2025 fwyaf defnyddiol ar gyfer rheoli safleoedd ac asesu gweithgareddau trwyddedig.
Adroddiadau asesu cyflwr nodweddion dangosol 2018
- ACA Aber Afon Dyfrdwy
- ACA y Fenai Strait a Bae Conwy
- ACA Glannau Môn: Cors heli
- ACA Bae Cemlyn Bay
- ACA Pen Llŷn a’r Sarnau
- ACA Bae Ceredigion
- ACA Arfordir Calchfaen De Orllewin Cymru
- ACA Sir Benfro Forol
- ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd
- ACA Cynffig
- ACA Afon Hafren
- Nodweddion morol AGAu Cymru
Mae ACA Aber Afon Dyfrdwy, ACA Afon Hafren a 3 o’n AGAau morol yn safleoedd trawsffiniol, a gaiff eu rheoli ar y cyd gyda Natural England (NE).
Noder os gwelwch yn dda bod yr asesiadau cyflwr dangosol i’r safleoedd hyn yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd ac a ddehonglwyd gan arbenigwyr CNC yn unig, a’u bod felly ond yn cyfleu barn CNC yn unig.