Agregau morol 

Mae agregau morol, fel tywod a graean, yn adnodd cyfyngedig y mae'n rhaid ei reoli'n gynaliadwy er mwyn sicrhau y bydd cyflenwad ar gael o hyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gellir defnyddio agregau morol fel deunydd adeiladu, ar gyfer gwaith adfer tir neu ar gyfer ailgyflenwi traethau. Mae'r rhan fwyaf o’r gwaith cloddio'n digwydd ym Môr Hafren, yn Aber Afon Hafren a ger arfordir gogledd Cymru.

Gall gwaith cloddio am agregau morol gael effaith ar yr amgylchedd, gan gynnwys ar ecoleg fenthig a physgod. Mae cynllunio a lleoli safleoedd yn ofalus yn hanfodol er mwyn osgoi a lleihau effeithiau.

Canllawiau, Tystiolaeth a Data

Dewch o hyd i gyngor, data a thystiolaeth ar gyfer eich gwaith codi agregau o’r môr.

Canllawiau ar roi caniatâd ac asesiadau

Dewch o hyd i ddata a thystiolaeth ar gyfer eich gweithgarwch tynnu agregau morol:

Canllawiau ar gyfer derbynyddion

Canllawiau ar ddata ar gyfer asesiadau

Blaenoriaethau, ymchwil ac adroddiadau tystiolaeth CNC

Cysylltwch â ni

Os ydych yn ystyried gwneud gwaith cloddio am agregau morol yn nyfroedd Cymru, cysylltwch â ni yn gynnar yn eich cynlluniau drwy e-bost marine.area.advice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf