Cyngor i awdurdodau cynllunio ar gyfer ceisiadau cynllunio sy'n effeithio ar afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sy’n sensitif i ffosfforws

Ein cyngor

Y cyngor hwn i awdurdodau cynllunio yw barn Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â chadwraeth natur, ac effeithiau datblygiadau arfaethedig sydd angen caniatâd cynllunio, ar afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAs) sy’n sensitif i ffosfforws.

At ddibenion Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (y cyfeirir atynt yn y cyngor hwn fel y Rheoliadau Cynefinoedd), mae’r awdurdod cynllunio yn awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd o oblygiadau cynllun neu brosiect ar ACA. Fel y cyfryw, mater i'r awdurdod cynllunio yw penderfynu p’un a yw cynllun neu brosiect yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar ACA ar ôl ystyried y cyngor hwn. Rhaid ymgynghori gyda CNC at ddibenion yr

asesiad priodol, fel y corff cadwraeth natur priodol, lle byddwn yn cynghori ar oblygiadau datblygiadau arfaethedig ar amcanion cadwraeth y safle. Yn y pen draw, cyfrifoldeb yr awdurdod cymwys fydd sicrhau bod gofynion y rheoliadau yn cael eu bodloni cyn rhoi caniatâd. At y diben hwn, dylai awdurdodau cynllunio gael eu cyngor annibynnol eu hunain lle bo angen.

O ystyried amrywiaeth y cynigion datblygu a dderbynnir gan awdurdodau cynllunio, rydym yn cynghori bod yr egwyddorion a nodir isod yn cael eu hystyried a'u cymhwyso fesul achos – bydd eithriadau yn berthnasol a bydd hyn yn fater o farn i awdurdodau cynllunio.

Beth yw'r broblem?

Mae naw afon yng Nghymru sydd wedi’u dynodi’n ACA o dan gyfraith y DU o’r enw Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y'i diwygiwyd). Yr afonydd hyn yw afon Cleddau, afon Eden, afon Gwyrfai, afon Teifi, afon Tywi, afon Glaslyn, afon Dyfrdwy, afon Wysg ac afon Gwy. Mae ecosystemau’r afonydd hyn yn cynnal rhai o fywyd gwyllt prinnaf a phwysicaf Cymru, gan gynnwys yr eog, misglen berlog yr afon, cimwch yr afon, a llyriad-y-dŵr arnofiol.

Mae'r targedau amgylcheddol y dylai'r afonydd hyn eu cyrraedd i fod mewn cyflwr ffafriol wedi'u nodi fel amcanion cadwraeth yng nghynlluniau rheoli craidd safleoedd. Mae gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd statudol i gyrraedd y targedau hyn ac amddiffyn yr afonydd sy’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig trwy reoleiddio gweithgareddau y maent yn gyfrifol amdanynt.

Ym mis Ionawr 2021, fe wnaethom gyhoeddi adroddiad lle cyflwynwyd ein hasesiad o faint o ffosfforws sydd mewn afonydd ACA wedi'i fesur yn erbyn targedau ansawdd dŵr diwygiedig. Dangosodd yr adolygiad tystiolaeth fod dros 60% o’r cyrff dŵr a aseswyd mewn dalgylchoedd afonydd mewn ACA yn methu â bodloni'r targedau ansawdd dŵr diwygiedig ar gyfer ffosfforws.

Darllenwch yr adroddiad Asesiad Cydymffurfiaeth ACA Afonydd Cymru yn Erbyn Targedau Ffosfforws

Mae ffosfforws yn bresennol yn naturiol mewn amgylcheddau afonydd ond ar lefelau isel iawn. Mae gweithgareddau dynol fel amaethyddiaeth a gollwng dŵr gwastraff wedi'i drin yn codi lefelau ffosfforws yn llif yr afon. Mae crynodiadau uchel o ffosfforws yn arwain at y broses o orfaethu, a elwir hefyd yn ewtroffeiddio, a gall newid cydbwysedd rhywogaethau planhigion yn ein hafonydd, gan achosi difrod ecolegol sylweddol.

At ddibenion y cyngor hwn, mae dalgylch afon ACA yn disgrifio'r dalgylch hydrolegol ar gyfer afon ACA ddynodedig. Mae hyn yn cynnwys dalgylchoedd llednentydd heb eu dynodi sy'n draenio i'r ACA. O dan Reoliadau Amgylchedd Dŵr (Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, rhennir nodweddion hydrolegol yn ffurfiol yn unedau a elwir yn gyrff dŵr, gyda phob un yn cael cyfeirnod adnabod unigryw. Mae cyrff dŵr yn cynrychioli darn o afon neu aber, llyn, neu nodwedd artiffisial neu nodwedd sydd wedi'i haddasu'n helaeth fel camlas. Mae dalgylchoedd cyrff dŵr yn ddalgylchoedd hydrolegol sy'n gysylltiedig â chorff dŵr penodol.

Sut mae hyn yn effeithio ar gynllunio datblygiadau?

Gall rhai datblygiadau newydd megis tai neu fentrau amaethyddol arwain at fwy o ffosfforws yn mynd i mewn i amgylchedd yr afon o ddŵr gwastraff ychwanegol neu o reolaeth wael o dail a slyri. O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, rhaid i awdurdodau cynllunio ystyried effaith ffosfforws datblygiadau arfaethedig ar ansawdd dŵr o fewn dalgylchoedd afon sy’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

Dylai awdurdodau cynllunio ystyried cyfraith achos wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a allai effeithio ar ACA sy’n afonydd. Rhoddir mwy o fanylion am gyfraith achos ar ddiwedd y cyngor hwn.

Mewn dalgylchoedd ACA nad ydynt yn bodloni targedau ffosfforws, mae’n bosibl y gellir awdurdodi datblygiadau newydd os gellir dangos na fyddant yn arwain at ddirywiad pellach yn ansawdd dŵr yn y cyrff dŵr ACA nad ydynt yn bodloni targedau ansawdd dŵr ac na fyddant yn tanseilio’r gallu i'r ACA fodloni ei hamcanion cadwraeth.

Gellir cyflawni hyn os yw'r canlynol yn wir:

  • nid yw datblygiadau yn ffynhonnell ffosfforws neu
  • mae datblygiadau yn ffynhonnell ffosfforws ond nid oes ffordd iddo fynd i mewn i amgylchedd afon ACA neu
  • mae mesurau sy'n gysylltiedig â datblygiad penodol yn cael eu rhoi ar waith fel y gellir cyflawni niwtraliaeth o ran maethynnau ac ni fydd y datblygiad yn arwain at gynnydd net yn y ffosfforws sy’n mynd i mewn i amgylchedd afon ACA.

Mewn dalgylchoedd ACA sy'n bodloni targedau ffosfforws, mae'n bosibl y gellir awdurdodi datblygiadau newydd os gellir dangos na fyddant yn arwain at effaith andwyol ar integredd y safle (h.y. ni fyddant yn tanseilio gallu'r ACA i gyflawni ei hamcanion cadwraeth).

Mae'r adrannau canlynol yn cynnig cyngor i awdurdodau cynllunio ei ystyried wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a allai effeithio ar afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

Beth yw Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd?

Mae angen i gynigion datblygu o fewn dalgylch afon ACA gael Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd i bennu eu heffaith ar y safle dynodedig a'i nodweddion. Dau brif gam Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yw:

  • Prawf yr Effaith Arwyddocaol Debygol – asesiad sgrinio yw hwn i benderfynu p’un a oes gan ddatblygiad y potensial i effeithio ar ACA. Lle gellir diystyru effaith arwyddocaol debygol, nid oes angen asesiad pellach o dan y Rheoliadau Cynefinoedd.
  • Asesiad priodol – pan ystyrir bod datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith arwyddocaol, neu na ellir diystyru effaith o’r fath, mae angen asesiad manylach o’r effeithiau posibl. Diben yr asesiad priodol yw penderfynu p’un a yw'n bosibl na fydd cynnig datblygu yn cael unrhyw effaith andwyol ar integredd yr afon yn yr ACA.

Pa gynigion datblygu sy'n annhebygol o gynyddu lefelau ffosfforws o fewn afon mewn ACA?

Dylai pob datblygiad gael ei ystyried gan awdurdodau cynllunio fesul achos.

Dylai proses sgrinio Prawf yr Effaith Arwyddocaol Debygol fod yn berthnasol i ddatblygiadau o fewn dalgylchoedd afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Gellir dod o hyd i ffiniau dalgylchoedd ar wefan MapDataCymru.

Gellir dod o hyd i ffiniau dalgylchoedd ar DataMapWales.

Gellir sgrinio’r datblygiadau canlynol allan fel rhai nad ydynt yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar afon mewn ACA mewn perthynas â mewnbynnau ffosfforws, gan ei bod yn annhebygol y bydd ffynhonnell ffosfforws ychwanegol neu lwybr ar gyfer effeithiau:

  • unrhyw ddatblygiad nad yw'n cynyddu cyfaint a chrynodiad ffosfforws dŵr gwastraff
  • unrhyw ddatblygiad sy’n gwella ansawdd dŵr gollyngiadau presennol drwy leihau crynodiad ffosfforws dŵr gwastraff heb gynyddu ei gyfaint neu leihau cyfaint y dŵr gwastraff a gynhyrchir a heb gynyddu crynodiad y ffosfforws
  • datblygiadau y bwriedir iddynt ddarparu gwasanaethau, cyfleusterau, safleoedd masnachol neu fannau cyflogaeth (e.e. adeiladau cymunedol, ysgolion ac ati) ar gyfer poblogaeth leol sydd eisoes yn cael ei gwasanaethu gan gysylltiadau preswyl â charthffosydd cyhoeddus neu breifat presennol sy’n gollwng o fewn dalgylch afon ACA
  • unrhyw ddatblygiad sy’n lleihau amlder, neu gyfaint, gollyngiadau ffosfforws afreolaidd o fewn dalgylch afon ACA, megis codi adeileddau amaethyddol a chynlluniau draenio i wahanu dŵr glaw oddi wrth dail a slyri trwy orchuddio iardiau a storfeydd tail/slyri presennol. Sylwer na ddylai unrhyw ddatblygiad o'r fath fod yn gysylltiedig â chynnydd yn niferoedd da byw neu'r gallu i gynyddu niferoedd da byw trwy ddarparu seilwaith ychwanegol
  • systemau trin carthffosiaeth preifat sy'n gollwng dŵr gwastraff domestig i'r ddaear ac wedi'u hadeiladu i'r Safon Brydeinig berthnasol (BS 6297:2007 A1:2008) gydag uchafswm arllwysiad dyddiol o lai na 2 fetr ciwbig (m3) a'r cae draenio wedi'i leoli mwy na 40m oddi wrth unrhyw nodwedd dŵr wyneb megis afon, nant, ffos neu ddraen ac sydd wedi'i leoli mwy na 50m o ffin ACA ac o leiaf 200m o unrhyw arllwysiad hysbys arall i'r ddaear.

Gweler lleoliadau eithriadau ansawdd dŵr cofrestredig ar wefan Lle

Er y gallai rhai cynigion datblygu sy'n gysylltiedig â gweithgareddau presennol o wasgaru neu ollwng i dir neu ddŵr ddangos niwtraliaeth o ran ffosfforws, gallant barhau ag arferion amhriodol o ddodi/gollwng lefelau uchel neu ormodol o ddeunyddiau llawn maethynnau. Gall y gweithgareddau hyn gyfrannu at groniad hirdymor o ormodedd o ffosfforws yn yr amgylchedd tir a dŵr. Gallai arferion o'r fath amharu ar waith adfer i'r ACA, neu'r potensial ar gyfer gwaith adfer yn y dyfodol, os ydynt yn tanseilio amcanion cadwraeth y safle. Mewn amgylchiadau o'r fath, dylai awdurdodau cynllunio ystyried p’un a ellir sicrhau mesurau trwy gydsyniad cynllunio i reoli maethynnau yn y ffordd orau neu gyfyngu ar ollyngiadau maethynnau i gyrsiau dŵr. Gallai mesurau gynnwys, er enghraifft, ofyniad am gynlluniau rheoli maethynnau (neu gynlluniau rheoli priodol eraill) a sicrhawyd o dan amodau cynllunio a/neu ymyriadau ar sail natur, megis sefydlu clustogfeydd integredig ar hyd coridorau afonydd, i darfu ar lwybr dŵr ffo i nentydd ac afonydd. Dylai'r awdurdod cynllunio lleol ystyried hefyd p’un a ellid defnyddio rhwymedigaethau cynllunio at y diben hwn.

Pa fathau o ddatblygiadau dibreswyl sy'n arwain at gynnydd mewn gollyngiadau ffosfforws?

Mae'r rhain yn cynnwys datblygiadau y disgwylir iddynt wasanaethu poblogaeth o'r tu allan i ddalgylch ACA nad yw eisoes yn cael ei gwasanaethu gan gysylltiadau preswyl â charthffosydd cyhoeddus neu breifat sy'n gollwng o fewn dalgylch afon yr ACA. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, lety hunanwasanaeth a llety â gwasanaeth i dwristiaid fel gwestai, tai llety, gwely a brecwast, cyfleusterau gwyliau llety hunanddarpar, a meysydd gwersylla a charafannau. Efallai y bydd achosion lle gallai ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau masnachol neu ddiwydiannol newydd, megis cyfleusterau cynadledda, safleoedd manwerthu mawr neu atyniadau mawr i dwristiaid, arwain at ryddhau ffosfforws ychwanegol i’r system afonydd.

Yn ogystal, mae gan ddatblygiadau newydd sy'n ymwneud â chynhyrchu, storio, rheoli a thaenu tail a slyri organig o fewn dalgylch afon yr ACA y potensial i gyfrannu at faint o ffosfforws sy'n mynd i mewn i'r safle dynodedig.

Mewn achosion o'r fath, mae'n debygol y bydd angen asesiad pellach i benderfynu a fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar integredd yr afon yn yr ACA.

Beth mae hyn yn ei olygu i estyniadau domestig?

Gall estyniadau domestig ddarparu mwy o le byw o fewn eiddo presennol. Efallai na fyddant yn arwain at newid yn nifer y preswylwyr ac, yn ein barn ni, byddai'n ymddangos yn rhesymol i estyniadau domestig gael eu sgrinio allan at ddiben Prawf yr Effaith Arwyddocaol Debygol. Ein barn ni yw oni bai y byddai’r cynnig yn arwain at greu llety byw annibynnol, uned gynllunio ar wahân a/neu newid defnydd, lle na ellir dweud mwyach ei fod yn atodol i’r brif breswylfa, mae datblygiadau o’r fath yn annhebygol o arwain at effeithiau arwyddocaol ar ACA trwy newidiadau i ollyngiadau dŵr gwastraff. Fodd bynnag, gallai cynigion sy’n arwain at greu llety byw’n annibynnol fel uned gynllunio ar wahân arwain at gynnydd mewn deiliadaeth gan drigolion o’r tu allan i ddalgylch afon ACA, ac, yn yr achosion hyn, mae angen asesu cynigion ymhellach.

Beth mae hyn yn ei olygu i gynigion datblygu sy'n ymwneud â chysylltu â gweithfeydd trin dŵr gwastraff cyhoeddus?

Cyn cadarnhau’r gallu ar gyfer cysylltiadau newydd â charthffos gyhoeddus, dylai awdurdodau cynllunio benderfynu p’un a yw’r drwydded amgylcheddol ar gyfer y gwaith trin dŵr gwastraff cysylltiedig wedi’i hasesu yn erbyn y targedau ffosfforws diwygiedig a nodir yn yr amcanion cadwraeth ar gyfer ACA yr afon.

Bydd CNC yn cynnal adolygiad o drwyddedau presennol (gyda gollyngiad o >20m3/diwrnod) yn erbyn targedau ffosfforws diwygiedig. Gall awdurdodau cynllunio gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru i gael gwybodaeth am drwyddedau

Ebost: sacriversenquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lle mae trwydded gwaith trin dŵr gwastraff wedi'i hadolygu yn erbyn targedau ffosfforws diwygiedig ac, mewn rhai achosion, wedi cael ei hamrywio yn unol â hynny, dylai datblygiadau newydd sy'n cysylltu â'r garthffos gyhoeddus gysylltiedig barhau i fod yn destun Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd gan yr awdurdod cynllunio. Mae'n bosibl y caiff yr asesiad ei lywio gan adolygiad CNC ar gyfer trwydded benodol. Efallai y bydd angen i gwmpas yr asesiad fod yn ehangach na chwmpas adolygiad technegol y drwydded ac ystyried nodweddion eraill y safle, gwybodaeth newydd neu newidiadau mewn amgylchiadau. Er y dylid ystyried effeithiau ffosfforws cysylltiadau newydd fesul achos, mae’n debygol y gellir dod i gasgliad na fydd unrhyw effaith andwyol ar integredd y safle yn y rhan fwyaf o achosion yng nghyd-destun effeithiau ansawdd dŵr lle mae’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae'r drwydded amgylcheddol ar gyfer y gwaith trin dŵr gwastraff cysylltiedig wedi'i hadolygu yn erbyn amcanion cadwraeth diwygiedig ar gyfer ansawdd dŵr
  • mae’r gallu’n bodoli i gynnwys y dŵr gwastraff ychwanegol yn unol â therfynau’r drwydded ddiwygiedig

Ar gyfer cynigion datblygu o’r fath, rydym yn cynghori’r awdurdod cynllunio i ofyn am y wybodaeth ganlynol i gefnogi cais cynllunio:

  • cadarnhad o sut bydd draenio dŵr budr yn cael ei reoli
  • cynlluniau graddfa yn dangos lleoliad y garthffos gyhoeddus agosaf a'r pwynt cysylltu arfaethedig

Dylai’r awdurdod cynllunio ymgynghori â’r ymgymerwr carthffosiaeth, fel ymgynghorai statudol, ar y potensial i ddatblygiad gysylltu â charthffos gyhoeddus, a derbyn copi o’i ymateb ffurfiol yn cadarnhau naill ai:

  • bod gallu i drin dŵr gwastraff ychwanegol o’r datblygiad arfaethedig o fewn terfynau trwydded amgylcheddol ddiwygiedig, neu
  • bydd y gallu angenrheidiol i drin dŵr gwastraff o fewn terfynau’r drwydded amgylcheddol ddiwygiedig yn cael ei gyflawni o fewn y Cynllun Rheoli Asedau y cytunwyd arno a, phan gaiff ei weithredu, bydd y gallu i drin dŵr gwastraff yn sicrhau y bydd dŵr gwastraff ychwanegol a gynhyrchir o ganlyniad i ddatblygiad arfaethedig yn aros o fewn terfynau’r drwydded ddiwygiedig

Lle mae angen gwelliannau yn y dyfodol i alluogi gwaith trin i fodloni terfynau trwydded a adolygwyd, dim ond os yw'r gwelliannau hynny yn y Cynllun Rheoli Asedau yn sicr ar adeg yr asesiad priodol y gellir dod i gasgliad na fydd unrhyw effaith andwyol ar integredd y safle. Pan fo'n briodol, cynghorir awdurdodau cynllunio i osod amodau ar amseriad y datblygiad i gyd-fynd â chyflawni gwelliannau yn y dyfodol mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff a drefnwyd o dan y Cynllun Rheoli Asedau.

Pan nad yw trwydded ar gyfer gwaith trin dŵr gwastraff wedi’i hadolygu yn erbyn y targedau ffosfforws diwygiedig, rydym yn cynghori, hyd yn oed lle gallai gollyngiadau uwch aros o fewn terfynau'r drwydded bresennol ar gyfer ffosfforws, na ddylid dibynnu ar ganfyddiadau'r asesiad priodol presennol ar gyfer y drwydded i ddod i'r casgliad na fydd unrhyw effaith andwyol ar integredd y safle, oherwydd efallai y bydd angen newidiadau i derfynau'r drwydded yn dilyn yr adolygiad technegol cyfredol. Yn lle hynny, a chyn cwblhau adolygiad o drwyddedau CNC (ar gyfer gollyngiadau o >20m3/diwrnod), dylai awdurdod cynllunio ystyried p’un a oes angen iddo gynnal ei asesiad priodol ei hun o gysylltiadau newydd â charthffos gyhoeddus, gan ystyried y targedau ffosfforws diwygiedig ar gyfer afon yr ACA ac amodau'r drwydded sy'n bodoli.

Mae rhagdybiaeth ar gyfer pob datblygiad bod dŵr glaw yn cael ei gadw ar wahân i ddŵr gwastraff budr a'i ollwng yn unol â chanllawiau cynllunio ar waredu dŵr glaw.

Darllenwch fwy am ddraenio ar ein tudalen Systemau Draenio Cynaliadwy.

A ellir defnyddio rhagdriniaeth gemegol i alluogi cysylltiad â charthffos gyhoeddus lle mae cyfyngiadau ffosfforws yn berthnasol?

Gallai rhagdriniaeth gemegol i leihau ffosfforws mewn dŵr gwastraff sy'n gollwng i garthffos gyhoeddus effeithio'n andwyol ar berfformiad hydrolig a biolegol y system garthffos ehangach a'r gweithfeydd trin. Yn y lle cyntaf, dylai awdurdodau cynllunio / datblygwyr geisio cyngor gan y cwmni dŵr ar gyfer unrhyw gynigion o'r fath.

Beth mae hyn yn ei olygu i gynigion datblygu sy'n ymwneud â systemau trin carthion preifat?

Rhaid i’r rhagdybiaeth gyntaf wrth lunio cynigion carthffosiaeth ar gyfer unrhyw ddatblygiad fod bob amser i ddarparu system draenio dŵr budr sy’n gollwng i garthffos gyhoeddus gweler Polisi Cynllunio Cymru a Chylchlythyr Llywodraeth Cymru 008/2018, Gofynion cynllunio mewn perthynas â defnyddio systemau carthffosiaeth preifat mewn datblygiadau newydd, gan gynnwys tanciau carthion a gweithfeydd bach trin carthion.

Os, o ystyried y gost a/neu ymarferoldeb, y gellir dangos i foddhad yr awdurdod cynllunio nad yw cysylltu â charthffos gyhoeddus yn ymarferol, gellir ystyried system trin carthion breifat yn cynnwys cyfleuster parod i drin carthion. Dim ond os gall y datblygwr ddangos yn glir nad yw'r cysylltiad â’r garthffos, neu’r defnydd o gyfleuster parod preifat i drin carthion, yn ymarferol, y dylid ystyried system tanc carthion.

O ran ymarferoldeb, safbwynt CNC yw nad yw cyfyngiadau cysylltu sy’n gysylltiedig â pherfformiad amgylcheddol gwaith trin dŵr gwastraff, a/neu allu dalgylch yr ACA i dderbyn mwy o ollyngiadau ffosfforws a chyflawni targedau ansawdd dŵr, yn rheswm dilys i gyfiawnhau'r defnydd o system trin carthion breifat mewn ardal â charthffosiaeth. Mae systemau trin carthion preifat yn debygol o fod angen trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithgaredd gollwng oni bai eu bod yn bodloni'r meini prawf i gofrestru esemptiad. Rydym yn annhebygol o roi trwydded ar gyfer systemau o'r fath os yw'r cynnig o fewn ardal â charthffosiaeth.

Lle gellir cyfiawnhau systemau trin carthion preifat yn briodol, ffefrir gollyngiadau bach i'r ddaear (<2m3/dydd) trwy gae draenio addas, a adeiledir yn unol â’r meini prawf a nodir yn y cyngor hwn, yn hytrach na gollyngiadau uniongyrchol i gyrsiau dŵr oherwydd ystyrir eu bod yn annhebygol o fod â llwybr i ffosfforws fynd i mewn i amgylchedd yr afon ac yn annhebygol o gael effaith arwyddocaol ar ACA. Bydd angen i ollyngiadau mwy i'r ddaear fod yn destun asesiad priodol ynghyd â mathau eraill o ddatblygiad sy'n ymwneud â systemau trin carthion preifat nad ydynt yn cael sylw uchod.

I gael cyngor ar garthbyllau, cyfeiriwch at yr adran ar waredu slwtsh.

O ran trwyddedau amgylcheddol, mae canllawiau ychwanegol ar ddefnyddio systemau trin carthion preifat mewn ardal sydd â charthffos gyhoeddus ar gael ar ein tudalen we Trin carthion yn breifat mewn ardal sydd â charthffos gyhoeddus. Rydym yn annog datblygwyr i ddefnyddio ein gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio am drwydded amgylcheddol wrth ystyried systemau trin carthion preifat i nodi unrhyw gyfyngiadau a allai fod yn berthnasol.

Rydym yn cynghori awdurdodau cynllunio i ofyn am y wybodaeth ganlynol i gefnogi cais cynllunio neu Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer cynllun sy’n cynnwys system trin carthion breifat:

  • cadarnhad o sut bydd dŵr gwastraff budr yn cael ei reoli
  • cynlluniau ar raddfa glir yn dangos lleoliad y system trin carthion breifat arfaethedig a lleoliad y gollyngiadau
  • lle cynigir system trin carthion breifat o fewn ardal â charthffosiaeth, tystiolaeth i gyfiawnhau pam nad yw cysylltiad â charthffos gyhoeddus yn ymarferol yn unol â Chylchlythyr 008/2018 a Pholisi Cynllunio Cymru. Ar gyfer pob system trin carthion breifat arall, tystiolaeth bod Cylchlythyr 008/2018 wedi'i ddilyn
  • lle cynigir gollyngiadau i'r ddaear, dylai datblygwyr ddarparu canlyniadau profion ymdreiddiad gyda chyfrifiadau i ddangos bod maint a dyluniad y cae draenio yn briodol ar gyfer maint y gollyngiad arfaethedig ac yn dilyn y Safon Brydeinig berthnasol

Dylai’r awdurdod cynllunio hefyd sicrhau, lle bo ar gael, fod copïau o unrhyw drwydded amgylcheddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru neu esemptiadau cofrestredig i ollwng i’r ddaear neu i gwrs dŵr ar gael. Dylid nodi nad yw cofrestru gollyngiad esempt yn golygu y gellir rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad gyda system ddraenio breifat newydd ac, o’r herwydd, bydd angen ei asesu gan yr awdurdod cynllunio wrth ystyried y cais cynllunio.

Lle cynigir cae draenio newydd yn agos at gaeau draenio presennol ac arfaethedig eraill, mae perygl y bydd effeithiolrwydd y caeau draenio yn cael ei beryglu. Nid yw llawer o systemau draenio preifat sy’n gymwys ar gyfer esemptiad rhag trwydded amgylcheddol wedi’u cofrestru gydag CNC ac felly mae’n bosibl y bydd data cyfyngedig ar gael ar leoliad caeau draenio presennol. Yn absenoldeb data cyflawn, cynghorir awdurdodau cynllunio i ddefnyddio mapiau / ffotograffau o'r awyr i asesu pa mor agos yw eiddo presennol sy'n debygol o fod â system ddraenio breifat ac ystyried p’un a oes angen ymchwilio ymhellach i'r safle. Gall gweithrediad gwael caeau draenio arwain at fwy o ollyngiadau ffosfforws i systemau afonydd mewn ACA. Rydym felly yn cynghori awdurdodau cynllunio i ystyried amodau safle (fel agosrwydd at gaeau draenio cyfagos, math o bridd, dyfnder i ddŵr daear, pellter at nodweddion dŵr wyneb a ffin yr ACA ac ati) i benderfynu â sicrwydd y bydd caeau draenio presennol ac arfaethedig yn gweithredu’n effeithiol yn y dyfodol ac atal unrhyw ffosfforws rhag mynd i mewn i afon mewn ACA. Efallai y bydd awdurdodau cynllunio am gyfeirio at gyngor ar asesiadau risg dŵr daear i lywio unrhyw asesiadau technegol.

Asesiad risg dŵr daear ar gyfer eich trwydded amgylcheddol

A ellir gollwng dŵr gwastraff ychwanegol i systemau trin carthion preifat presennol?

Nid yw cynigion datblygu sy’n arwain at ollwng dŵr gwastraff ychwanegol i system trin carthion breifat bresennol yn debygol o gael effaith arwyddocaol:

  • os yw'r gollyngiad presennol i'r ddaear ac
  • os yw’r cae draenio wedi’i leoli fwy na 40m o unrhyw nodwedd dŵr wyneb megis afon, nant, ffos neu ddraen ac wedi’i leoli fwy na 50m o ffin ACA ac
  • os oes gan ddyluniad y system garthffosiaeth breifat bresennol (gan gynnwys y cae draenio) y gallu i drin a gollwng y dŵr gwastraff ychwanegol yn effeithiol, ac
  • os gellir cynyddu gollyngiadau elifiant i'r ddaear pan fo'r gollyngiad yn parhau'n gymwys ar gyfer esemptiad presennol o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol neu'n gallu gweithredu yn unol ag amodau trwydded amgylcheddol sy'n bodoli.

Lle mae cynnydd mewn dŵr gwastraff i system trin carthion breifat yn cael ei gynnig mewn cysylltiad â datblygiad, cynghorir awdurdodau cynllunio i gael dyluniad manwl o’r system ddraenio breifat (gan gynnwys asesiad o gyflwr y ddaear yn y cae draenio) i ddangos ei bod yn gallu ymdopi â llif cynyddol a pharhau i weithredu'n effeithiol.

A fydd toiledau compost yn cynyddu gollyngiadau ffosfforws i afonydd mewn ACA?

Mae toiledau compost yn annhebygol o arwain at gynnydd mewn gollyngiadau ffosfforws i amgylchedd afon ACA. Gall toiledau compost sydd wedi'u cynllunio a'u cynnal yn dda leihau'r defnydd o ddŵr a darparu deunydd sy'n addas i'w ddefnyddio fel gwrtaith. Dylai dyluniad toiledau compost sydd wedi'u lleoli'n barhaol a rhai cludadwy wahanu'r gwastraff wrin a glanweithiol oddi wrth y solidau.

Ystyrir bod unrhyw doiled compost nad yw'n gwahanu solidau a hylifau yn garthbwll a dylai cludwr gwastraff cofrestredig gasglu'r gwastraff canlyniadol i'w waredu ar safle a ganiateir yn briodol ac ni ddylid ei roi ar dir.

A ellir defnyddio technoleg lleihau ffosfforws mewn systemau trin carthion preifat?

Mae technolegau i leihau ffosfforws mewn gollyngiadau elifiant o systemau trin carthion preifat fel arfer yn seiliedig ar dechnoleg dosio cemegol. Mae risgiau’n gysylltiedig â defnyddio systemau dosio cemegol mewn systemau trin carthion bach a phreifat o ran eu gallu i leihau ffosfforws yn y tymor hir. Mae angen safonau uchel o waith cynnal a chadw ar systemau o'r fath er mwyn iddynt allu gweithredu'n effeithiol, gan gynnwys rheoli'r cemegau a'r system ddosio, yn ogystal â chael gwared ar slwtsh yn rheolaidd lle mae dosio yn cynyddu faint o slwtsh sy'n cael ei ddyddodi. Nid yw llawer o systemau trin carthion bach a phreifat yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda a gall methu â chynnal system breifat gyda system dosio cemegol arwain at halogiad cemegol mewn dŵr afon, dirywiad yn ansawdd yr elifiant, a chynnydd mewn gollyngiadau ffosfforws dros amser. Gall eu defnyddio hefyd arwain at dorri amodau trwydded yn ogystal â bod yn risg i ddiogelwch personol ac amgylcheddol lle mae trin a storio sylweddau cemegol dan sylw. Mae systemau dosio cemegol yn fwy addas i'w gweithredu mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff cyhoeddus ar raddfa fawr.

Os cynigir technolegau lleihau ffosfforws ar gyfer system breifat, dylai datblygwyr sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio ddarparu digon o wybodaeth gyda’u cais i awdurdodau cynllunio gael sicrwydd y gellir gosod a gweithredu’r system arfaethedig yn effeithiol yn unol â manylebau’r gwneuthurwr ar gyfer oes y datblygiad. Dylai gwybodaeth ategol gynnwys:

  • ardystiad perfformiad prawf wedi'i gyhoeddi gan gorff cydnabyddedig sy'n dangos safonau ffosfforws yr elifiant y gellir eu cyflawni gan y system driniaeth arfaethedig
  • datganiad dull yn manylu sut y bydd y gwaith trin carthion a thechnoleg lleihau ffosfforws yn cael eu gweithredu a'u cynnal

Sylwch fod yr wybodaeth hon yn ychwanegol at ddarparu manylebau gwneuthurwyr, gwybodaeth ddylunio a chynlluniau draenio ac ati a ddylai gyd-fynd ag unrhyw gais.

Nid yw lleihau ffosfforws mewn systemau preifat yn cael gwared ar yr holl faethynnau o elifiant. Felly, bydd angen i ddatblygwyr ac awdurdodau cynllunio ystyried effaith ffosfforws gweddilliol mewn elifiant ar afon mewn ACA, gan fod llwybr ar gyfer effeithiau yn parhau pan nad yw gollyngiadau i gyrsiau dŵr neu ollyngiadau i'r ddaear yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y cyngor hwn. Rhoddir canllawiau ar slwtsh systemau preifat isod.

Dylai datblygwyr gael trwydded amgylcheddol neu gofrestru esemptiad ar gyfer unrhyw ollyngiadau i ddŵr daear neu ddŵr wyneb. Rydym yn argymell bod datblygwyr sy’n cynnig triniaeth ychwanegol i leihau ffosfforws yn gwneud defnydd o'n gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio cyn gwneud cais am drwydded amgylcheddol. Codir tâl am y gwasanaeth hwn. Ar ôl ei adeiladu, dylai'r gwaith trin carthion preifat gael ei gynnal gan gontractiwr â chymwysterau addas yn unol â gofynion y gwneuthurwr a chydymffurfio ag amodau trwydded amgylcheddol.

Sut y dylid ystyried gwaredu slwtsh o systemau trin dŵr gwastraff preifat mewn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd?

Yn ein barn ni, gyda’r fframwaith rheoleiddio presennol sy’n llywodraethu cludo, trin a gwaredu slwtsh systemau preifat ar waith, gall awdurdodau cynllunio ddod i’r casgliad rhesymol bod gwaredu slwtsh o systemau trin carthion newydd a phreifat yn annhebygol o gael effaith arwyddocaol ar afon mewn ACA.

Bydd datblygiadau sy'n cysylltu â systemau draenio preifat yn arwain at gronni slwtsh yn yr uned drin a bydd angen cael gwared ar y slwtsh yn rheolaidd i sicrhau y bydd yn gweithredu'n effeithiol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y gwastraff a dynnir o danc system trin breifat yn cynnwys cyfuniad o'r ffracsiwn hylifol, gwastraff wedi'i drin a charthion heb eu trin. At ddibenion y cyngor hwn, bydd y gwastraff cyfun yn dwyn y term generig o 'slwtsh' system breifat. Dylid mynd â slwtsh trwy gludwr gwastraff cofrestredig i waith dŵr gwastraff cyhoeddus priodol i'w drin ymhellach. Ar

ôl cael ei ddyddodi yn y gwaith dŵr gwastraff cyhoeddus, mae slwtsh carthion wedi'i drin yng Nghymru yn dilyn llwybr gyda deunydd canlyniadol yn cael ei ledaenu ar dir. Mae’r broses o drin yn y gwaith cyhoeddus, treulio anaerobig a lledaenu ar dir yn cael ei llywodraethu gan ystod o reoliadau amgylcheddol, cynllun sicrwydd, a chodau ymarfer. Mae rheolaethau wedi'u nodi yn y fframwaith llywodraethu hwn i leihau'r risg o faethynnau, gan gynnwys ffosfforws, yn mynd i mewn i amgylchedd yr afon lle cyflawnir gweithrediadau taenu ar dir sy'n cydymffurfio.

Ar gyfer systemau draenio preifat, h.y. tanciau carthion a chyfleusterau parod i drin carthion heb dechnolegau lleihau ffosfforws, y ffosfforws mewn elifiant sy'n peri'r risg fwyaf i amgylchedd yr afon. Rydym yn cynghori mewn adrannau cynharach o’r canllaw hwn sut y dylid ystyried effeithiau gollyngiadau elifiant i ddŵr daear a chyrsiau dŵr mewn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Dim ond cyfran fach o gyfanswm y ffosfforws y mae'r slwtsh yn ei chadw.

Lle gosodir technoleg lleihau ffosfforws mewn systemau trin carthion preifat, mae'n newid y cydbwysedd o ran dosbarthiad y ffosfforws rhwng elifiant a slwtsh, gyda chrynodiad cynyddol o slwtsh a'r mwyafrif o’r ffosfforws yn cael ei gadw yn y tanc yn y deunydd hwn. Rydym yn nodi mewn adrannau cynharach o’r canllaw hwn y risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio technoleg lleihau ffosfforws mewn systemau preifat. O ganlyniad i'r newid yn y cydbwysedd o ran dosbarthiad y ffosfforws rhwng elifiant a slwtsh, bydd systemau o'r fath yn arwain at gynnydd mewn slwtsh sy’n llawn ffosfforws yn cael ei gludo i weithfeydd cyhoeddus i'w drin. Fodd bynnag, mae gan seilwaith allweddol cwmnïau dŵr y gallu ar hyn o bryd i dderbyn y deunydd hwn o fewn y fframwaith rheoleiddio presennol.

Nid yw carthbyllau wedi'u selio yn ddatrysiad draenio cynaliadwy a dylid rheoli'r defnydd ohonynt yn unol â Chylchlythyr Llywodraeth Cymru 008/2018. Cynghorir awdurdodau cynllunio i gynnal asesiad priodol ar gyfer unrhyw gynigion sy’n ymwneud â defnyddio carthbyllau wedi’u selio oherwydd na ellir diystyru effaith arwyddocaol debygol o waredu a thrin gwastraff o’r systemau hyn oherwydd eu bod yn cadw'r holl wastraff dŵr o ddatblygiad.

Mesurau osgoi a lliniaru

O ganlyniad i'r dyfarniad 'People over Wind' (achos C-323/17), ni ddylid ystyried mesurau lliniaru y bwriedir iddynt osgoi neu leihau effeithiau niweidiol cynllun neu brosiect ar ACA yn y cam sgrinio ar gyfer effaith arwyddocaol debygol.

Dylid sefydlu effeithiolrwydd a dibynadwyedd unrhyw fesurau lliniaru trwy'r asesiad priodol.

Dylai awdurdodau cynllunio ofyn am dystiolaeth gan ddatblygwyr sy’n cynnig mesurau i osgoi neu liniaru effeithiau ffosfforws posibl, gan ddangos bod y mesurau hynny’n warantedig, yn effeithiol, yn ddibynadwy ac yn amserol, ac y byddant yn cael eu cynnal dros oes y datblygiad.

Rydym hefyd yn cynghori awdurdodau cynllunio i ofyn am gadarnhad y gellir gorfodi'r mesurau arfaethedig yn gyfreithiol.

Ar gyfer pob mesur, rydym yn cynghori awdurdodau cynllunio i gael gwybodaeth sy’n gwneud y canlynol:

  • nodi sut y byddai’r mesur(au) yn osgoi neu’n lleihau effeithiau andwyol ar yr ACA (gan ystyried hyd disgwyliedig yr effeithiau)
  • dangos sut y byddai'r mesur(au) yn cyflawni niwtraliaeth o ran maethynnau
  • cadarnhau sut y caiff y mesur neu fesurau eu gweithredu, a chan bwy
  • nodi sut y bydd y mesur yn cael ei gynnal a phwy fydd yn gyfrifol am waith cynnal a chadw
  • dangos sut y bydd y mesur yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod yn effeithiol

Cyngor ar gyfer adolygu Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl)

Dylid sgrinio pob CDLl i benderfynu p’un a yw unrhyw bolisïau yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar afon mewn ACA.

Gellir sgrinio polisïau allan fel rhai nad ydynt yn debygol o gael effaith arwyddocaol mewn perthynas â mwy o lwyth ffosfforws os nad yw'r datblygiadau neu weithgareddau cysylltiedig yn ffynhonnell ffosfforws neu os nad oes llwybrau i ffosfforws ychwanegol fynd i mewn i amgylchedd yr afon.

Dylai unrhyw bolisïau CDLl sy’n ymwneud â chynlluniau ar gyfer systemau trin carthion preifat sicrhau nad oes unrhyw effeithiau andwyol ar integredd unrhyw afon mewn ACA lle:

  • mae gollyngiadau'n uniongyrchol i ddyfroedd wyneb; neu
  • mae gollyngiadau i'r ddaear ac nid ydynt yn bodloni'r meini prawf sgrinio a nodir yn y cyngor hwn.

Dylid asesu dyraniadau ar gyfer datblygiadau y bwriedir eu cysylltu â gwaith trin dŵr gwastraff prif gyflenwad, ac sydd â’r potensial i gynyddu’r llwyth ffosfforws, yn unol â’r cyngor a nodir yn gynharach yn y ddogfen hon.

Dyraniadau lle mae capasiti ar gyfer dŵr gwastraff ychwanegol wedi'i gynllunio

Pan nad oes gan y gwaith trin y gallu ar hyn o bryd i drin dŵr gwastraff ychwanegol o gysylltiadau newydd, ond mae gwelliannau wedi'u cynllunio o dan y Cynllun Rheoli Asedau, dylai'r awdurdod cynllunio gynnal asesiad priodol. Dylai'r asesiad ystyried yr adolygiad technegol o drwyddedau amgylcheddol sy'n bodoli yn erbyn y targedau ffosfforws diwygiedig lle maent ar gael, i fod yn sicr na fydd unrhyw effaith andwyol ar integredd y safle. Dim ond pan fydd gwelliannau yn y Cynllun Rheoli Asedau yn y dyfodol yn sicr ar adeg yr asesiad priodol a byddant yn eu lle ac yn weithredol pan

fydd y datblygiad arfaethedig yn dod yn weithredol y gellir dod i gasgliad na fydd unrhyw effaith andwyol ar integredd y safle o ganlyniad i effeithiau ansawdd dŵr.

Dyraniadau lle nad oes capasiti ar gyfer dŵr gwastraff ychwanegol

Pan gynigir datblygiad gyda chysylltiad â charthffos gyhoeddus ond nad oes gan y gwaith trin dŵr gwastraff cysylltiedig ddigon o gapasiti i ymdopi â ffosfforws ychwanegol o gysylltiadau newydd neu os nad oes unrhyw welliannau i gynyddu’r gallu i drin ffosfforws wedi’u cynllunio o fewn rhaglen y Cynllun Rheoli Asedau, dylai’r awdurdod cynllunio ymgymryd ag asesiad priodol o'r cynigion. Dylai'r asesiad priodol ystyried unrhyw fesurau lliniaru, niwtraliaeth o ran maethynnau neu fesurau osgoi eraill.

Datblygu a ganiateir

Mae'r Rheoliadau Cynefinoedd yn gosod amod ar gynigion datblygu sy'n cynnwys datblygu a ganiateir o dan orchymyn datblygu cyffredinol, sy'n golygu na ddylai gwaith ar ddatblygiad sy'n debygol o gael effaith arwyddocaol ar ACA ddechrau nes bod yr awdurdod cynllunio wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig.

Ar gyfer cynigion o’r fath, gall datblygwyr geisio barn CNC yn gyntaf ynghylch p’un a ydynt yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar ACA. Os deuir i gasgliad na fydd unrhyw effaith arwyddocaol debygol, yna gellir ystyried bod barn CNC ar y mater yn derfynol. Oni bai fod CNC yn diystyru y bydd effaith arwyddocaol debygol, yna mae’n rhaid i ddatblygwyr gael caniatâd ymlaen llaw i fwrw ymlaen â’r datblygiad hwnnw gan yr awdurdod cynllunio, sy’n gorfod cynnal asesiad priodol ac ymgynghori ymhellach ag CNC.

Bydd defnyddio tir ar gyfer carafanau fel safle ardystiedig yn ddatblygiad a ganiateir o dan Orchymyn (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 ac felly’n cael ei ddal gan ddarpariaethau perthnasol y Rheoliadau Cynefinoedd. Mae CNC o’r farn na fydd unrhyw effaith arwyddocaol debygol lle mae trefniadau draenio dŵr budr yn eu lle fel na fyddai deiliadaeth y carafanau/pebyll yn cynyddu faint o ffosfforws sy’n cael ei ollwng o’r safle, er y bydd cynigion o’r fath yn cael eu hasesu fesul achos.

Cyfraith achosion

O ganlyniad i “achos nitrogen yr Iseldiroedd” Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd (Joined Cases C-293/17 and C-294/17), mae’r cwmpas ar gyfer awdurdodi datblygu newydd a fydd yn arwain at lwyth ffosfforws ychwanegol o reidrwydd yn gyfyngedig lle mae statws cadwraeth yr ACA yn anffafriol gan fod lefelau ffosfforws yn uwch na’r safonau.

Dylai awdurdodau cynllunio hefyd fod yn ymwybodol o’r penderfyniad domestig yn achos Compton (Compton Parish Council and others v Guildford Borough Council and another [2019] EWHC 3242 (Admin)). Roedd yr achos hwn yn egluro’r dull i’w ddefnyddio wrth asesu llwythi critigol wrth ystyried a fyddai datblygiad arfaethedig yn effeithio’n andwyol ar integredd ACA sydd eisoes yn destun gormodedd o faethynnau, yn rhinwedd y datblygiad dan sylw yn arwain at ddyddodi maethynnau pellach.

Yn ogystal, gwnaeth achos Wyatt (R (Brook Avenue RAD) v Fareham BC) egluro nad yw’r ddyletswydd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd i gymryd camau priodol i osgoi dirywiad ACA yn atal agwedd niwtraliaeth o ran maethynnau at ganiatáu datblygiad a fyddai fel arall yn arwain at lwyth maethynnau pellach mewn safleoedd Ewropeaidd sydd eisoes mewn cyflwr anffafriol.

Roedd achosion yr Iseldiroedd, Compton a Wyatt yn ymwneud â nitrogen, ond mae'r egwyddorion yn berthnasol i faethynnau eraill, gan gynnwys ffosfforws.

Er y bydd natur y datblygiad y gellir ei ganiatáu yn dibynnu ar ffeithiau pob achos, dylai awdurdodau cynllunio roi sylw i’r egwyddorion a amlinellir mewn cyfraith achosion, gan gynnwys y gyfraith achosion uchod, wrth asesu effeithiau ffosfforws datblygiadau arfaethedig fel rhan o broses yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf