Rôl Cyfoeth Naturiol Cymru mewn asesiad amgylcheddol
1. Ymgynghorai ar Geisiadau Allanol - rydym yn ymateb i ymgynghoriadau AAS / EIA / HRA ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth i lywio cynlluniau sy'n dod i'r amlwg a phrosiectau arfaethedig gan gyrff allanol (ee awdurdodau lleol, datblygwyr, ac ati)
2. Awdurdod Cymwys /Cyfrifol - rydym yn rhoi caniatâd i rai cynlluniau a phrosiectau penodol, yn fewnol ac yn allanol, sydd angen AEA (SEA) / AAS (EIA) / ARhC (HRA)
3. Cynhyrchydd AEA (SEA) / AAS (EIA) / ARhC (HRA) - rydym yn ymgymryd ag AEA (SEA) / AAS (EIA) / ARhC (HRA) i lywio ein cynlluniau, rhaglenni a phrosiectau ein hunain - neu lle rydym yn gweithio gydag eraill i ddatblygu cynlluniau a phrosiectau sydd angen AEA (SEA) / AAS (EIA) / ARhC (HRA)
4. Ymgynghorai ar Geisiadau Mewnol - rydym yn ymateb i ymgynghoriadau AEA (SEA) / AAS (EIA) / ARhC (HRA) a cheisiadau am gyngor ar y cynlluniau, rhaglenni a phrosiectau hynny a ddatblygwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru
Pwy yw pwy o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru?
1. Ymgynghorai ar Geisiadau Allanol
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gorff ymgynghorol o dan lawer o reoliadau asesiadau amgylcheddol gan gynnwys:
- Rheoliadau AAS (SEA)
- Rheoliadau Cynefinoedd
- Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (AEA (EIA))
- Rheoliadau Gwaith Piblinellau Cludo Nwy (EIA)
- Rheoliadau EIA (Amaethyddiaeth)
Er enghraifft pan fydd prosiect arfaethedig angen caniatâd cynllunio, cysylltir â ni gan yr awdurdod sy'n penderfynu (ee yr awdurdod cynllunio lleol) i ofyn ein barn ac i gael cyngor am yr effeithiau amgylcheddol posibl. Mae'r awdurdod sy'n penderfynu yn cymryd ein cyngor i ystyriaeth wrth wneud ei benderfyniad.
Mae ein Tîm Cynllunio ar y cyfan yn derbyn ac yn delio ag ymgynghoriadau, gan ymgynghori ag arbenigwyr technegol perthnasol neu gydweithwyr eraill lle bo angen.
2. Awdurdod Cymwys / Cyfrifol
Mae ar rai mathau o waith a gynigir gan gyrff allanol angen caniatâd gan Gyfoeth Naturiol Cymru cyn y gallant ddechrau, er enghraifft tynnu dŵr. Pan ydym ni yn awdurdod cymwys/cyfrifol, ni sydd yn penderfynu a ddylai gwaith o'r fath fod yn destun AEA (EIA)/ARhC (HRA) ai peidio. Pan fyddant, rydym yn rhoi ystyriaeth i ganfyddiadau'r AEA (EIA)/ARhC (HRA) wrth benderfynu a ddylid caniatau'r datblygiadau arfaethedig ai peidio. Gallai gwaith o'r fath hefyd fod yn ddarostyngedig i'r gofynion a gynhwysir yn y Rheoliadau Gwella Draenio Tir (AEA (EIA)), y Rheoliadau AEA/EIA (Coedwigaeth) a'r Rheoliadau Gwaith Morol (AEA (EIA)).
Ymdrinnir â'r rhan fwyaf o'r gwaith hwn gan y Tîm Trwyddedu, er bod gwahanol dimau yn ymdrin â gwahanol feysydd gwaith. I gael mwy o wybodaeth am ardaloedd penodol, gweler ee Cynllunio, Gwneud cais am drwydded, Torri coed a rheoliadau eraill, neu Trwyddedu Morol.
3. Cynhyrchwr AEA (SEA) / AAS (EIA) / ARhC (HRA)
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynhyrchu ystod eang o gynlluniau, rhaglenni, strategaethau a phrosiectau ei hun, er enghraifft, Cynlluniau Adnoddau Coedwig a Chynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd.
Mae'r Tîm Asesu Amgylcheddol yn rhoi cyngor a chefnogaeth i'n gwneuthurwyr cynlluniau a phrosiectau ni ein hunain mewn perthynas ag asesiad amgylcheddol.
4. Ymgynghorai ar Geisiadau Mewnol
Pan fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynhyrchu AAS (SEAs) ac ARhC (HRAs) ar gyfer ei gynlluniau a'i raglenni ei hun, mae trefn arbennig ar gyfer cam Ymgynghorai Statudol y broses. Mae'r trefniadau hyn yn cyflawni'r gofyniad cyfreithiol na ddylai'r un rhan o'r sefydliad gynhyrchu cynllun ac AAS (SEA) neu ARhC (HRA) cysylltiedig ac wedyn maent yn ymgynghori eu hunain ynghylch eu cynllun neu eu rhaglen eu hunain a'r asesiad cysylltiedig.
Mae'r Tîm Asesiad Strategol yn darparu'r swyddogaeth ymgynghorai corff gwarchod natur statudol sy'n 'swyddogaethol ar wahân' ar gyfer pob AAS (SEAs) ac yn cynllunio ARhC (HRAs) a wneir i gefnogi cynlluniau, rhaglenni a strategaethau Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun , neu'r rhai a gynhyrchir mewn partneriaeth.
Ble i gyflwyno ymgynghoriadau
Dylai'r holl ymgynghoriadau a'r ymholiadau ynghylch pob AAS (SEA) ac ARhC (HRA) cynlluniau gael eu cyflwyno i Gyfoeth Naturiol Cymru drwy flwch post yr Asesiad Strategol.
Dylai ymgynghoriadau ac ymholiadau am AEA (EIA) ac ARhC (HRA) ar lefel prosiect gael eu cyflwyno drwy'r blwch post Cynllunio.
Ar gyfer unrhyw beth arall, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru trwy'r Ganolfan Gofal y Cwsmer ar 0300 065 3000 neu drwy e-bost.