Gwaredu biffenylau polyclorinedig (PCBs)
Rhaid i chi gael gwared ar PCBs a deunyddiau sy'n cynnwys PCBs gan eu bod yn llygrydd organig parhaus ac yn wastraff peryglus.
Mae hynny'n golygu y gallwch chi naill ai:
- gael gwared ar y PCBs neu offer mewn ffordd sy'n dinistrio'r cynnwys PCB
- gwneud cais i storio'r offer yn barhaol o dan y ddaear os na allwch ddinistrio'r cynnwys PCB
Rhaid i chi gadw cofnodion i ddangos eich bod wedi cael gwared ar y PCBs drwy un o'r ddau ddull hyn.
Gwaredu a dihalogi trawsnewidyddion
Gallwch barhau i ddal trawsnewidyddion sy'n cynnwys hylifau sy'n cynnwys mwy na 0.005% o PCBs o ran eu pwysau ond dim mwy na 0.05%, a chyfanswm cyfaint o fwy na 0.05dm3 o PCBs tan 31 Rhagfyr 2025.
Ar ôl y dyddiad hwn, rhaid rhoi’r gorau i’w defnyddio a chael gwared arnynt, neu eu dihalogi cyn gynted â phosibl.
Dywedwch wrthym am eich cynlluniau i fodloni'r terfyn amser hwn a sut y byddwch yn dangos eich bod wedi ei roi ar waith yn llwyddiannus.
Dysgwch sut i adnabod a gwaredu gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus (GOV.UK).
E-bostiwch PCB-Registrations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk os oes angen i chi drafod sut i wneud hyn.