Rhif. 5 o 2024: Cyflymder Diogel mewn Sianeli Cul
Cyflymder Diogel mewn Sianeli Cul
RHIF RHYBUDD LLEOL: Rhif 7 - 2024
YN DDILYS O: 1 Hydref 2024
YN DOD I BEN AR: -
Atgoffir cychod sy'n teithio o fewn terfynau harbwr y Bwrdd Gwarchod, yn enwedig yn sianeli cul Mostyn a Salisbury, o'r rheidrwydd i gynnal gwyliadwriaeth fordwyo ddiogel a symud ymlaen ar gyflymder diogel sy'n addas ar gyfer amgylchiadau ac amodau lleol.
Wrth asesu cyflymder diogel, mae rhaid ystyried llywio cyn lleied ag sydd bosibl a hefyd creu cyn lleied o effaith ôl llong ag sydd bosibl fesul achos. Er na osodir terfyn cyflymder penodol, dylai cychod anelu at gadw cyflymder o dan 12 not dan amodau arferol.
Dylai pob cwch sy’n teithio ar hyd y sianeli dynesu cul sicrhau eu bod yn cadw cyflymder diogel fel elfen allweddol o gynlluniau meistr teithiau’r cychod, gan roi sylw dyledus i ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol:
- Hysbysiad Lleol i Forwyr Porthladd Mostyn 03/2019
- MGN 315 Cadw Gwyliadwraeth Fordwyo Ddiogel
- MGN 379 (diwygiad 1) Defnyddio Cymhorthion Mordwyo Electronig
- Rheoliadau Rhyngwladol ar gyfer Atal Gwrthdrawiadau ar y Môr (IRPCS) 1972 (fel y'i diwygiwyd). Rheol 6 Cyflymder Diogel
Capten G PROCTOR
Harbwrfeistr
1 Hydref 2024
d/o Strategic Marine Services Ltd.
12 Chapel Court, Wervin Road, Wervin, Caer. CH2 4BT
Ffôn: +44 (0) 1244 371428
E-bost: harbourmaster@deeconservancy.org