Echdynnu olew a nwy ar y lan

Olew a nwy confensiynol ac anghonfensiynol

Gwahaniaethau

Y gwahaniaeth rhwng olew a nwy naturiol confensiynol anghonfensiynol yw eu bod i’w canfod mewn gwahanol fathau o greigiau a'u bod yn cael eu hechdynnu drwy ddulliau gwahanol. Yn gyffredinol, mae olew a nwy confensiynol i’w canfod mewn creigiau y gall yr olew neu’r nwy dreiddio trwyddyn nhw’n gymharol hawdd i gyrraedd ffynnon gynhyrchu.   Ar y llaw arall, mae olew a nwy anghonfensiynol wedi’u cloi mewn creigiau megis siâl neu lo sy’n ei gwneud yn anos eu hechdynnu.

Tebygrwydd

Mae gwaith profi, ymchwilio i ffurfiannau tanddaearol a drilio yn gyfnodau sy'n gyffredin i bob math o ddatblygiadau olew a nwy.   Waeth sut y maen nhw’n cael eu hechdynnu o'r creigiau, does dim gwahaniaeth, mewn gwirionedd rhwng olew a nwy anghonfensiynol ag olew a nwy confensiynol.

Mae’r drefn reoleiddio yr un fath ar gyfer olew a nwy confensiynol ac anghonfensiynol.  Cliciwch yma i ganfod rhagor ynghylch ein swyddogaeth ni ac am reoleiddio olew a nwy ar y lan yng Nghymru.

Nwy anghonfensiynol a’i echdynnu

Gall cronfeydd o nwy anghonfensiynol fod ar sawl ffurf.Gellir eu crynhoi fel a ganlyn:

Nwy Siâl

Ystyr nwy siâl yw nwy sydd i'w gael mewn holltau a mannau gwag neu nwy sydd mewn deunydd organig (gweddillion organebau megis planhigion ac anifeiliaid) mewn creigiau siâl. Mae’n cael ei echdynnu drwy hollti’r creigiau gyda thechnegau ffracio hydrolig.

Techneg yw ffracio hydrolig sy'n golygu pwmpio hylif, dŵr fel arfer, ar bwysedd mawr i graig i greu holltau cul sy'n ffurfio llwybrau i'r nwy lifo i ffynnon gynhyrchu ac yna i'r wyneb. Unwaith y bydd yr holltau wedi'u ffurfio, bydd gronynnau bychan, tywod fel arfer, yn cael eu pwmpio iddyn nhw i'w cadw ar agor.  Fel arfer, bydd y dŵr a ddefnyddir i ffracio’n cynnwys ychydig iawn o sylweddau amheryglus i wella effeithiolrwydd y broses, er enghraifft, defnyddir lleihawyr ffrithiant i leihau’r ffithiant ar offer y gwaith. Mae’n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru gymeradwyo’r holl sylweddau hyn.

Mae rhagor o fanylion canllawiau ynglŷn â nwy siâl a hollti hydrolig (ffracio) yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd.

Methan gwelyau glo

Methan gwelyau glo yw'r nwy naturiol sy’n cael ei dynnu o wythiennau glo sydd heb eu mwyngloddio. Mae’n cael ei echdynnu drwy ddrilio cyfres o ffynhonnau fertigol neu lorweddol yn uniongyrchol i’r gweithiennau glo ac yna pwmpio dŵr allan i leihau’r pwysau mewn proses a elwir yn ‘ddad-ddyfrio'’ Drwy leihau’r pwysedd mewn gweithiennau glo, gall methan lifo i ffynhonnau cynhyrchu ac yna i’r wyneb.

Nwyeiddio glo dan ddaear

Proses yw nwyeiddio glo dan ddaear o losgi, yn rhannol, lo o dan ddaear i gynhyrchu nwy sy’n cynnwys hydrogen, carbon monocsid a methan (a elwir yn 'syngas'). Fel arfer, mae'r broses yn golygu drilio dwy ffynnon i'r glo, un ffynnon ar gyfer chwistrellu ocsidyddion i hwyluso'r tanio (cymysgedd o ddŵr ac aer neu ddŵr ac ocsigen) a'r ffynnon arall, gryn bellter i ffwrdd, i ddod â'r nwy i'r wyneb.

Sut y defnyddir nwy anghonfensiynol

Hyd yma, nid yw nwy anghonfensiynol yn cyfrannu at yr ynni a ddefnyddir yng ngwledydd Prydain. Diben y dechnoleg y defnyddir ychydig ohoni yw ceisio canfod faint o adnoddau sydd ar gael.

Cyfnodau datblygu olew a nwy

Fel arfer, mae yna bedwar cyfnod i chwilio am olew a nwy (ond nid yw pob un yn berthnasol i nwyeiddio glo o dan ddaear). Amlinellir y pedwar cyfnod isod.

  1. Chwilio – sy’n debyg o olygu drilio twll i asesu ffurfiant y creigiau ac i gael syniad o faint o adnoddau a allai fod ar gael ar safle benodol
  2. Asesu – sy’n debyg o olygu drilio rhagor o dyllau ac echdynnu ychydig o olew neu nwy er mwyn asesu dichonoldeb technegol a chostau echdynnu olew neu nwy ar safle benodol
  3. Cynhyrchu – sef echdynnu ar raddfa fasnachol, fawr. Mae hyn yn debyg o olygu drilio rhagor o dyllau a hefyd waith ar yr wyneb (er enghraifft, i gadw nwy ac adnoddau prosesu)
  4. Adfer safle  a’i gadael - sef cael gwared ar y ffynhonnau a'r seilwaith yn barhaol

Caniatadau a thrwyddedau

Bydd yn rhaid i'r datblygwr gael caniatâd cynllunio, trwyddedau amgylcheddol a thrwyddedau eraill yn unigol ar gyfer pob un o'r tri chyfnod cyntaf (chwilio asesu a chynhyrchu). Bydd y broses o symud o chwilio i gynhyrchu’n debyg o gymryd nifer o flynyddoedd.  Efallai y bydd yn rhaid cael caniatâd ychwanegol hefyd os bydd datblygwr yn dymuno newid y gwaith yn arwyddocaol e.e. drilio’n ddyfnach nag a ganiatawyd yn wreiddiol.

Effeithiau amgylcheddol cronnol

Bydd effeithiau amgylcheddol gweithgareddau olew a nwy’n cael eu hystyried yn gronnol ar gyfer bob cyfnod o’r datblygiad (hy chwilio, asesu a chynhyrchu).  Felly, pe byddai datblygwr yn derbyn caniatad a thrwyddedau ar gyfer y cyfnod chwilio, bydd effeithiau cronnol y gwaith hwnnw’n cael eu hystyried wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatad a thrwyddedau ar gyfer y cyfnodau asesu neu gynhyrchu.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y cwestiynau a ofynnir yn aml neu cysylltwch â ni drwy e-bost ar nrwonshoreoilandgas@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf