Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am drwydded cwympo coed

Cyn dechrau

Bydd angen i chi roi'r wybodaeth ganlynol i ni:

  • enw llawn, cyfeiriad a manylion cyswllt perchnogion y tir neu ddeiliaid y brydles
  • enw'r coetir, y dref neu'r pentref agosaf, y sir, a’r cyfeirnod grid
  • manylion am unrhyw goed llarwydd ar y safle lle’r ydych yn bwriadu cwympo’r coed
  • manylion am y gwaith cwympo, teneuo, neu ailstocio
  • mapiau yn dangos yr ardaloedd lle’r ydych yn bwriadu cynnal gwaith cwympo, teneuo neu ailstocio

Os ydych yn gwneud cais fel asiant, bydd angen i chi hefyd nodi:

  • enw eich sefydliad
  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad
  • eich manylion cyswllt

Cwympo coed ar eich safle

Os ydych yn cwympo coed ar eich safle, bydd angen i chi hefyd nodi:

  • sut byddwch yn rheoli eich gwaith cwympo (rhaid i hyn fod yn unol â Safon Coedwigaeth y DU)
  • oedran y coed
  • cyfanswm y coed ydych yn bwriadu eu cwympo
  • amcangyfrif o gyfaint y coed gan ddefnyddio'r Cyfrifydd Cyfaint Pren
  • dyddiad dechrau a gorffen y gwaith cwympo
  • y math o waith cwympo (e.e. llwyrgwympo)

Teneuo eich safle

Os ydych chi'n teneuo coed ar eich safle (i agor mwy o le i’r coed sy'n weddill dyfu), bydd angen i chi hefyd nodi:

  • y dyddiad y teneuwyd y safle ddiwethaf

Ailstocio eich safle

Os ydych yn ailstocio (yn ailblannu coed newydd yn yr ardal lle’r ydych am gwympo coed), bydd angen i chi hefyd nodi:

  • sut byddwch yn rheoli’r gwaith ailstocio (rhaid i hyn fod yn unol â Safon Coedwigaeth y DU)
  • yr ardal ydych yn bwriadu ei hailstocio â choed
  • yr ardal ydych yn bwriadu ei chadw fel tir agored
  • nifer y coed ydych yn eu plannu
  • enw a chanran pob rhywogaeth o goed
  • y dull ailstocio (er enghraifft, plannu)
  • cyfansoddiad eich coetir os nad ydych yn dilyn Safon Coedwigaeth y DU

Dogfennau i'w uwchlwytho

Bydd angen i chi uwchlwytho rhai neu bob un o'r dogfennau canlynol gyda’ch cais:

Creu map o'ch safle

Mae gan y Comisiwn Coedwigaeth offeryn rhad ac am ddim sy'n defnyddio map sylfaen yr Arolwg Ordnans. 

Os bydd angen i chi anfon map atom, rhaid iddo:  

  • dylid defnyddio graddfa heb fod yn fwy na 1:10,000
  • dangos y raddfa ar y map
  • cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf
  • dangos yr holl ddata sylfaenol
  • dangos y pwynt mynediad i'r ardal lle caiff y coed eu cwympo, gan gynnwys y cyfeirnod grid
  • dangos yr ardal gwympo, teneuo neu ailstocio yn glir, gan gynnwys y cyfeirnod grid

Gwneud cais am drwydded cwympo coed

Amserlenni

Byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich cais o fewn tri diwrnod gwaith.

Byddwn yn trefnu ymweliad safle o fewn tair wythnos, os bydd angen.

Bydd manylion eich cais yn cael eu rhoi ar y gofrestr o drwyddedau cwympo coed am bedair wythnos.

Ni allwn roi trwydded cwympo coed i chi nes bod y cyfnod hwn o bedair wythnos ar y gofrestr wedi dod i ben.

Os yw eich cais ar gyfer teneuo yn unig neu os yw eich safle yn cynnwys coed llarwydd, ni fyddwn yn rhoi’r manylion ar y gofrestr gyhoeddus.

Efallai y byddwn yn ymgynghori ag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill ynglŷn â’ch cais.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn 13 wythnos os yw eich trwydded am gwympo coed wedi bod yn llwyddiannus.

Diweddarwyd ddiwethaf