Gwastraff peryglus: darganfod a oes angen i chi gyflwyno ffurflen a phryd

Mae ffurflen traddodai gwastraff peryglus yn hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am wastraff peryglus sydd wedi’i dderbyn, ei symud neu ei waredu ar safle.

Mae’r ffurflen yn rhoi crynodeb manwl o bob llwyth gwastraff ac mae’n ofynnol bob chwarter o dan Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005.

Pwy sydd angen anfon ffurflen

Rydych yn cael eich ystyried yn “draddodai” a rhaid i chi gyflwyno ffurflen traddodai gwastraff peryglus os ydych yn:

  • gweithredu depo gwasanaethau symudol sy'n derbyn gwastraff a gynhyrchir gan staff mewn safleoedd cwsmeriaid
  • symud eich gwastraff peryglus eich hun rhwng safleoedd eich busnes
  • derbyn gwastraff peryglus a ddychwelwyd gan eich cwsmeriaid
  • gweithredu cyfleuster gwastraff esempt neu a ganiateir sy'n derbyn gwastraff peryglus gan eraill
  • gweithredu safle esempt neu a ganiateir sy’n gwrthod gwastraff peryglus (er enghraifft, oherwydd na chaniatawyd i’r safle ei dderbyn)
  • cael gwared ar wastraff peryglus ar y safle lle cafodd ei gynhyrchu

Beth i'w gynnwys yn eich ffurflen

Bydd angen i chi ddilyn y tri cham ar gyfer paratoi, gwirio a chyflwyno eich ffurflen gwastraff peryglus.

Hyd yn oed os na wnaethoch ddelio â gwastraff peryglus mewn cyfnod adrodd, mae'n dal yn rhaid i chi anfon ffurflen.

Mae gennym benderfyniadau rheoleiddiol (rhanddirymiadau) sy'n lleihau'r gofynion adrodd ar gyfer 11 o ffrydiau peryglus. Darganfyddwch fwy ar dudalen “Llai o gofnodi, adrodd a thaliadau i dderbynwyr”.

Pryd i anfon ffurflen traddodai

Rhaid i chi roi gwybod i ni am eich gweithgareddau ar gyfer pob cyfnod o dri mis (chwarter) o fewn un mis i ddiwedd y chwarter hwnnw:

  • Ch1: 1 Ionawr – 31 Mawrth

dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen – 30 Ebrill

  • Ch2: 1 Ebrill – 30 Mehefin 

dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen – 31 Gorffennaf

  • Ch3: 1 Gorffennaf – 30 Medi

dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen – 31 Hydref

  • Ch4: 1 Hydref – 31 Rhagfyr

dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen – 31 Ionawr

Ein taliadau am ffurflen gwastraff peryglus

Taliadau am ffurflen traddodai a gyflwynir ar ffurf electronig neu bapur.

Ffurflen electronig

  • Llwyth gwastraff sengl: £10 y llwyth
  • Llwythi gwastraff lluosog (casgliad sengl yn cwmpasu mwy nag un llwyth): £5 y llwyth
  • Ffurflen wag (dim llwythi am y chwarter): dim tâl

Ffurflen bapur

  • Llwyth gwastraff sengl: £19 y llwyth
  • Llwythi gwastraff lluosog (casgliad sengl yn cwmpasu mwy nag un llwyth): £10 y llwyth
  • Ffurflen wag (dim llwythi am y chwarter): dim tâl
Diweddarwyd ddiwethaf