Cydymffurfio â Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2017: sgrinio, cwmpasu ac asesiad manwl

Mae Rheoliadau Amgylchedd Dŵr (Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017 (Rheoliadau WFDR) yn sefydlu fframwaith cyfreithiol ar gyfer amddiffyn a gwella ansawdd afonydd, llynnoedd, aberoedd, dyfroedd arfordirol a dŵr daear.

Mae angen cymeradwyaeth ar lawer o weithgareddau cyn y gallant fynd yn eu blaen. Os ydych chi'n cynllunio prosiectau a gweithgareddau a allai effeithio ar yr amgylchedd dŵr, rhaid i chi ddarparu Asesiad Cydymffurfiaeth WFDR i gefnogi eich cais i'r corff cyhoeddus sy'n rheoleiddio ac yn rhoi caniatâd ar gyfer eich gweithgaredd.

Gall Asesiad Cydymffurfiaeth WFDR gynnwys hyd at dri cham a bydd angen i chi weithio drwyddynt yn olynol, gan gwblhau pob cam yn dibynnu ar effaith bosibl eich gweithgaredd. Dylech ddechrau gyda Cam 1 - Sgrinio, gan symud ymlaen i Gam 2 - Cwmpasu a Cham 3 - Asesiad Manwl yn ôl yr angen.

Cam 1: sgrinio (Saesneg yn unig)

Cam 2: cwmpasu (Saesneg yn unig)

Cam 3: asesiad manwl (Saesneg yn unig)

Diweddarwyd ddiwethaf